English

Platfform cyfryngau cymdeithasol yw Pinterest, sy’n galluogi defnyddwyr i greu eu pinfyrddau rhithwir cyhoeddus a phreifat eu hunain sy’n ymwneud yn benodol â’u diddordebau. Mae ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim ac ar gael drwy borwyr gwe, ar Android ac ar iOS.

Gyda Pinterest, gall defnyddwyr:

  • ‘Binio’ (cadw) lluniau neu fideos ysbrydoledig ar eu gwahanol ‘Fyrddau’, sydd wedi’u trefnu gan thema
  • ‘Dilyn’ y byrddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw
  • chwilio drwy’r platfform am syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer eu gwahanol brosiectau neu ddiddordebau
  • cael mynediad at borthiant personol o gynnwys yn yr adran ‘Browse’

Oedran isaf gofynnol

Yr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Pinterest yw 13. Caiff proffiliau preifat eu rhoi i ddefnyddwyr dan 16 oed yn awtomatig, sy’n cyfyngu ar eu gallu i ryngweithio â defnyddwyr anhysbys a chynnwys amhriodol. Fodd bynnag, nid yw oedran yn cael ei wirio wrth gofrestru, felly gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn rhoi’r dyddiad geni cywir.

Os bydd defnyddiwr sydd wedi cofrestru fel ‘dan 18 oed’ yn ceisio newid ei oedran, bydd angen dogfen a gyhoeddwyd gan y llywodraeth arno sy’n dangos ei oedran.

Board

Gall defnyddwyr greu eu byrddau eu hunain y gallant ychwanegu ‘Pins’ (delweddau wedi’u cadw) atynt. Gall defnyddwyr fod â byrddau gwahanol ar gyfer eu gwahanol ddiddordebau neu brosiectau. Gall byrddau fod yn gyhoeddus neu’n breifat a gellir eu rhannu ac ychwanegu atynt gyda ffrindiau, hefyd.

Claiming a social account

Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu eu cyfrif Instagram â’u cyfrif Pinterest. Gall defnyddwyr sy’n gwneud hyn bostio ar y ddau blatfform ar yr un pryd.

Create

Dyma ble gall defnyddwyr bostio eu ‘Pin’ eu hunain trwy dynnu eu lluniau eu hunain neu greu ‘Board’.

Follow

Gall defnyddwyr ddilyn defnyddwyr neu fyrddau eraill ac yna bydd eu ‘Pins’ yn ymddangos yn eu porthiant.

Home feed

Dyma ble bydd defnyddwyr yn gweld ‘Pins’, pobl a busnesau y mae’r platfform yn credu y byddan nhw’n eu hoffi neu a fyddai o ddiddordeb iddyn nhw. Ar y porthiant hwn, bydd defnyddwyr hefyd yn gweld ‘Pins’ gan y bobl a’r byrddau y maen nhw’n eu dilyn.

Messages

Mae’r nodwedd hon yn galluogi defnyddwyr i anfon negeseuon uniongyrchol at ddefnyddwyr eraill ar y platfform.

Pinning

Yr weithred o gadw ‘Pins’ ar fyrddau. 

Pins

Dyma luniau y mae defnyddwyr wedi’u ‘Pinio’ (cadw) ar eu bwrdd.

Product Pins

Dyma ble mae defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at wefannau allanol i brynu eitemau sy’n debyg i’r ‘Pins’ y maen nhw wedi chwilio amdanyn nhw.

Secret boards

Un o nodweddion Pinterest sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wneud eu byrddau’n breifat fel mai dim ond nhw ac unrhyw ddefnyddwyr y maen nhw wedi dewis eu gwahodd sy’n gallu eu gweld. Mae’r byrddau hyn yn ymddangos ar broffil defnyddiwr ag eicon clo yng nghornel chwith uchaf y ddelwedd clawr.

Try on

Nodwedd sy’n defnyddio realiti estynedig i alluogi dysgwyr i ‘roi cynnig’ ar gynhyrchion penodol gan frandiau dethol. Mae’n rhaid cael mynediad at gamera’r ddyfais sy’n cael ei defnyddio.

Creadigrwydd a hunanfynegiant

Mae Pinterest yn annog defnyddwyr i ddarganfod syniadau newydd a dod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eu prosiectau eu hunain. Gall defnyddwyr rannu eu delweddau eu hunain hefyd, gan eu galluogi i fynegi eu steil a chael adborth ar yr hyn maen nhw’n ei greu.

Darganfod hobïau a chymuned

Gall defnyddwyr ddilyn byrddau a defnyddwyr eraill sy’n cyd-fynd â’u diddordebau. Mae hyn yn eu galluogi i ryngweithio yn y sylwadau â phobl sy’n rhannu eu hobïau a dod o hyd i ymdeimlad o gymuned.

Cynnwys amhriodol

Gyda chymaint o gynnwys ar gael at y platfform, mae’n bosibl y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys sy’n amhriodol iddo. Er nad yw’r platfform yn caniatáu rhai mathau penodol o gynnwys, fel noethni neu drais, efallai y bydd rhai defnyddwyr yn cam-labelu eu cynnwys. Gallai cynnwys amhriodol gael ei anfon at ddefnyddwyr trwy eu negeseuon, hefyd.

Gall y camau canlynol helpu i atal eich plentyn rhag gweld cynnwys amhriodol.

Rheoli’r algorithm

Bydd dewis ‘See fewer like this’ ar unrhyw bostiadau sydd â chynnwys amhriodol yn golygu y bydd eich plentyn yn gweld llai o bostiadau â chynnwys tebyg yn y dyfodol.

Riportio cynnwys

Bydd riportio unrhyw bostiadau sy’n torri rheolau Pinterest yn helpu i gael gwared ar gynnwys niweidiol.

Addasu’r gosodiadau

Yng ngosodiadau Pinterest, gallwch olygu pwy sy’n gallu anfon negeseuon at eich plentyn a hidlo sylwadau. Mae hyn yn lleihau’r risg y bydd defnyddwyr eraill yn anfon cynnwys amhriodol at eich plentyn.

Siarad am yr hyn y mae’ch plentyn yn ei weld

Os bydd eich plentyn yn gweld rhywbeth ar Pinterest sy’n peri gofid iddo neu’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus, mae’n bwysig ei fod yn gwybod y gall ddod atoch chi am gymorth.

Cysylltiad â defnyddwyr eraill

Er ei fod yn gweithredu’n wahanol i fathau eraill o gyfryngau cymdeithasol, mae Pinterest yn blatfform cyfryngau cymdeithasol o hyd ac felly’n cynnwys cyfathrebu â phobl ddieithr. Gall defnyddwyr eraill anfon negeseuon at eich plentyn yn breifat, ymateb i’w sylwadau a rhoi sylwadau ar eu postiadau.

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau’r risg y mae defnyddwyr eraill yn ei pheri i’ch plentyn.

Addasu’r gosodiadau

Yng ngosodiadau Pinterest gallwch:

  • wneud proffil eich plentyn yn breifat, sy’n golygu mai dim ond defnyddwyr cymeradwy sy’n gallu gweld y proffil
  • cuddio cyfrif eich plentyn rhag peiriannau chwilio
  • cyfyngu ar negeseuon preifat neu eu hanalluogi, gan ganiatáu negeseuon gan ffrindiau yn unig neu ddiffodd y nodwedd yn gyfan gwbl

Defnyddio byrddau cyfrinachol

Os ydych chi’n poeni am ddefnyddwyr eraill yn cysylltu â’ch plentyn, dylech ei annog i ddefnyddio byrddau cyfrinachol. Dim ond eich plentyn ac unrhyw ddefnyddwyr ma’n eu gwahodd sy’n gallu gweld y byrddau hyn.

Siarad am fywyd eich plentyn ar-lein

Gall siarad â’ch plentyn yn rheolaidd am bwy mae’n rhyngweithio â nhw a’r hyn y mae’n ei rannu ar-lein eich helpu i gael gwybod a yw rhywun anniogel yn cysylltu ag ef.

Addysgwch eich plentyn beth sy’n briodol i’w rannu ar-lein a’i annog i ddod atoch chi am gymorth os bydd unrhyw beth yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Archwilio’r offer blocio a riportio

Edrychwch ar offer blocio a riportio Pinterest gyda’ch plentyn. Bydd hyn yn ei addysgu sut i ddod â chysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus i ben ac yn cadw’r platfform yn ddiogel i bawb.

Cynnwys yr heddlu os oes angen

Os ydych chi’n amau bod rhywun dieithr yn cysylltu â’ch plentyn i’w niweidio, dylech roi gwybod i’r heddlu.

Gormod o amser o flaen sgrin

Mae gan Pinterest ddyluniad sgrolio diddiwedd, sy’n golygu y gall defnyddwyr barhau i lwytho cynnwys newydd heb iddo ddod i ben.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i atal eich plentyn rhag treulio gormod o amser ar Pinterest.

Gosod terfynau amser o flaen sgrin

Yng ngosodiadau dyfais iPhone neu Android eich plentyn, gosodwch derfynau amser ar ap Pinterest. Gall hyn helpu i atal eich plentyn rhag ei ddefnyddio gormod.

Cytuno ar derfynau

Dewch i gytundeb â’ch plentyn ynghylch pa bryd y gall ddefnyddio Pinterest. Gall gosod terfynau o ran pryd y gall ei ddefnyddio ei atal rhag cael effaith negyddol ar agweddau eraill ar ei fywyd.

Hybu ymwybyddiaeth ofalgar

Anogwch eich plentyn i dreulio amser yn ystyried sut mae’n defnyddio’r ap a sut mae’n gwneud iddo deimlo. Gall hyn ei helpu i gydnabod pryd y mae angen iddo gymryd seibiant.

Gosod cod cyfrin rhieni

Mae gosod cod cyfrin rhieni yn caniatáu i chi addasu gosodiadau Pinterest eich plentyn a’u diogelu â chod cyfrin. Rhaid nodi’r cod cyfrin cyn y gellir newid gosodiadau yn y dyfodol.

Os yw’ch plentyn yn defnyddio Pinterest, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n ddiogel ar yr ap.

Gosod cod cyfrin rhieni

Bydd gosod cod cyfrin rhieni yn golygu bod rhaid rhoi cod cyfrin 4 digid cyn gallu newid y gosodiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn atal eich plentyn rhag golygu’r gosodiadau diogelwch rydych chi’n eu rhoi ar eu cyfrif.

Gosod cod cyfrin rhieni (gwe)

  • Mewngofnodwch i gyfrif Pinterest eich plentyn.
  • Dewiswch eicon y gêr yng nghornel chwith isaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch Account management’.
  • Dilynwch yr anogwyr i greu cod cyfrin ac ychwanegu eich cyfeiriad e-bost.
  • Gwiriwch eich cyfrif e-bost am e-bost cadarnhau.
  • Dewiswch y ddolen yn y neges e-bost i ddilysu eich cyfrif.

Gosod cod cyfrin rhieni (Android ac iOS)

  • Agorwch ap Pinterest a mewngofnodwch i gyfrif eich plentyn.
  • Dewiswch lun y proffil yng nghornel dde isaf y sgrin.
  • Dewiswch lun y proffil yng nghornel chwith uchaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Account management’.
  • Dewiswch ‘Parental passcode’.
  • Dilynwch yr anogwyr i greu cod cyfrin ac ychwanegu eich cyfeiriad e-bost.
  • Gwiriwch eich cyfrif e-bost am e-bost cadarnhau.
  • Dewiswch y ddolen yn y neges e-bost i ddilysu eich cyfrif.

Gosod y cyfrif yn breifat

Nid yw’n bosibl dod o hyd i gyfrifon preifat ar Pinterest trwy ganlyniadau chwilio ac mae eu byrddau a’u pinnau wedi’u cuddio rhag defnyddwyr heb eu cymeradwyo. Mae hyn yn rhoi mwy o ddiogelwch i gyfrif eich plentyn ac yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd pobl ddieithr yn cysylltu ag ef. Bydd cyfrif defnyddwyr dan 16 oed wedi’i osod yn breifat yn ddiofyn.

Gwneud proffil yn breifat (gwe)

  • Mewngofnodwch i’r cyfrif Pinterest.
  • Dewiswch eicon y gêr yng nghornel chwith isaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Profile visibility’.
  • Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Private profile’.
  • Dewiswch ‘Save’.

Gwneud proffil yn breifat (Android ac iOS)

  • Agorwch ap Pinterest.
  • Dewiswch lun y proffil yng nghornel dde isaf y sgrin.
  • Dewiswch lun y proffil yng nghornel chwith uchaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Profile visibility’.
  • Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Private profile’.

Rheoli rhyngweithiadau cymdeithasol

Yn yr adran ‘Social permissions’ yng ngosodiadau Pinterest, gallwch addasu pwy sy’n gallu anfon negeseuon at eich plentyn, hidlo neu analluogi sylwadau a rheoli cyfrifon sydd wedi’u blocio.

Rheoli caniatâd cymdeithasol (gwe)

  • O’r hafan, dewiswch eicon y gêr yng nghornel chwith isaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Social permissions’.
  • Addaswch y gosodiadau, yna dewiswch ‘Save’.

Rheoli caniatâd cymdeithasol (Android ac iOS)

  • Agorwch ap Pinterest.
  • Dewiswch lun y proffil yng nghornel dde isaf y sgrin.
  • Dewiswch lun y proffil yng nghornel chwith uchaf y sgrin.
  • Dewiswch ‘Social permissions’.
  • Dechreuwch addasu’r gosodiadau.

Adolygu’r nodweddion blocio a riportio

Blocio neu riportio cyfrif

  • Ewch i broffil yr unigolyn yr hoffech ei flocio.
  • Dewiswch y 3 smotyn.
  • Dewiswch ‘Block’ neu ‘Report’.
  • Os ydych chi’n riportio, dewiswch reswm dros wneud hynny.

Riportio pin

  • Dewiswch y 3 smotyn ar y pin yr hoffech ei riportio.
  • Dewiswch ‘Report Pin’.
  • Dewiswch y rhesymau am wneud hynny.
  • Dewiswch ‘Report’ i’w gyflwyno.