Minecraft
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Minecraft', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Minecraft yn gweithio
Gêm fideo ar-lein y telir amdani yw Minecraft. Gall chwaraewyr chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill trwy’r modd aml-chwaraewr ar-lein. Mae’r gêm ar gael ar bron pob dyfais gemau, gan gynnwys Xbox, PlayStation, PC, iOS ac Android.
Mae Hwb yn darparu fersiwn o Minecraft a ariennir yn ganolog ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Yr enw ar y fersiwn hon yw Minecraft Education Edition. Mae wedi’i theilwra at ddefnydd addysgol ac mae’n cynnig offer ac adnoddau i wella dysgu. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y brif gêm Minecraft, nid y fersiwn addysgol.
Mae Minecraft yn canolbwyntio ar adeiladu ac archwilio mewn byd wedi’i wneud o flociau. Gall chwaraewyr greu strwythurau fel adeiladau, celfyddyd picsel a hyd yn oed planedau cyfan. Mae nifer o wahanol foddau gêm ar gael.
Dyma’r rhai mwyaf poblogaidd:
- modd goroesi, lle mae’n rhaid i chwaraewyr gasglu adnoddau ac ymladd gelynion i oroesi
- modd creadigol, lle gall chwaraewyr adeiladu beth bynnag y dymunan nhw heb gyfyngiadau
Mae Minecraft yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc oherwydd bod y gêm yn annog creadigrwydd, datrys problemau a chymdeithasu.
Oedran isaf gofynnol
Mae gan Minecraft ddosbarthiad PEGI 7, sy’n golygu ei bod yn addas i blant 7 oed a hŷn. Bydd rheolaethau rhieni’n cael eu cymhwyso’n awtomatig i unrhyw gyfrif sy’n perthyn i chwaraewr iau nag 16 oed. Mae hyn wedi’i seilio ar y dyddiad geni a roddir wrth greu cyfrif.
Dylech greu’r cyfrif gyda’ch gilydd i sicrhau bod eich plentyn yn rhoi’r dyddiad geni iawn ac yn cael y buddion sy’n gysylltiedig â chyfrif plentyn. Nid oes gan Minecraft broses i wirio oedran.
Nodweddion
Achievements
Gall chwaraewyr ennill cyflawniadau trwy gwblhau tasgau ym Minecraft. Mae hyn yn ffordd o gyflwyno chwaraewyr newydd i’r gêm a rhoi heriau iddyn nhw.
Adventure mode
Modd gêm sy’n caniatáu i chwaraewyr ymweld â bydoedd chwaraewyr eraill, heb allu dinistrio unrhyw strwythurau.
Biomes
Y gwahanol diroedd ym mydoedd Minecraft. Mae 64 o wahanol amgylcheddau, gan gynnwys anialwch, jyngl a’r môr.
Blocks
Y deunydd a ddefnyddir i adeiladu a chreu.
Chat
Y system negeseua yn y gêm sy’n caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â’i gilydd neu weithredu gorchmynion fel galluogi mantais.
Commands
Mae gorchmynion yn nodweddion sy’n cael eu galluogi trwy deipio testun yn y blwch sgwrsio. Er enghraifft, mae ‘/tp’ yn caniatáu i ddefnyddwyr delegludo.
Creative mode
Modd gêm sy’n caniatáu i chwaraewyr adeiladu a chreu byd heb orfod casglu adnoddau nac ymladd gelynion. Argymhellir hyn ar gyfer chwaraewyr iau.
Creeper
Gelyn-gymeriad na ellir ei chwarae sy’n gallu difrodi’r byd a’r chwaraewr trwy ffrwydro.
Emotes
Symudiadau y gall eich cymeriad eu cyflawni. Gellir defnyddio’r rhain wrth gymdeithasu â chwaraewyr eraill.
Equipment
Yr eitemau a’r cyfarpar a ddefnyddir i gasglu deunyddiau, adeiladu a hela. Mae’r rhain yn cynnwys ceibiau, rhawiau a chleddyfau.
Minecoins
Arian cyfred yn y gêm a ddefnyddir i brynu cynnwys fel gwisgoedd cymeriadau a bydoedd o’r farchnad. Prynir Minecoins gydag arian go iawn.
Minecraft Marketplace
Y Farchnad, neu’r Siop ar PlayStation, yw’r man lle gall chwaraewyr brynu cynnwys a grëwyd gan Minecraft a phartneriaid swyddogol Minecraft.
Mobs
Mae hyn yn fyr am ‘mobile entity’ (‘endid symudol’). Cymeriadau deallusrwydd artiffisial na ellir eu chwarae yw’r rhain sy’n gallu ymosod ar gymeriad y chwaraewr neu ryngweithio ag ef.
Realm
Tanysgrifiad sy’n caniatáu i chwaraewyr greu a rheoli eu gweinyddion preifat eu hunain. Mae’r gweinyddion hyn trwy wahoddiad yn unig. Mae nifer y gwahoddiadau a ganiateir yn seiliedig ar haen danysgrifio.
Server
Y bydoedd Minecraft y gall chwaraewyr chwarae ynddyn nhw. Gall y rhain gael eu creu gan Minecraft, chwaraewyr neu bartneriaid swyddogol Minecraft.
Survival mode
Mae chwaraewyr yn casglu adnoddau ac yn adeiladu strwythurau, ar yr un pryd â gorfod ymladd gelynion a dod o hyd i fwyd i oroesi.
Zombie
Gelyn-gymeriadau sy’n ymosod ar y chwaraewr yn y nos.
Termau
Creu gofid (‘Griefing’)
Term ar gyfer niweidio chwaraewyr eraill yn y gêm neu ddinistrio eu hadeiladau’n fwriadol er difyrrwch. Mae hyn yn erbyn canllawiau cymunedol llawer o weinyddion.
Ogofa (‘Spelunking’)
Pan fydd chwaraewyr yn archwilio ogofâu i gasglu adnoddau.
Yr hyn y mae Minecraft yn ei gynnig
Cyfle i fod yn greadigol
Mae Minecraft yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc greu eu hadeiladau a’u celfyddyd picsel eu hunain, gyda chyfleoedd adeiladu diderfyn bron pan fyddan nhw’n chwarae yn y modd Creadigol. Mae hyn yn meithrin creadigrwydd, mewn ffordd debyg i greu pethau o flociau adeiladu.
Gwaith tîm a chymdeithasu
Mae Minecraft yn cynnwys modd aml-chwaraewr ar-lein, sy’n caniatáu i bobl ifanc chwarae gyda’u ffrindiau a rhyngweithio â nhw hyd yn oed pan nad ydynt yn yr un lle. Gall chwaraewyr adeiladu strwythurau gyda’i gilydd sy’n gallu cryfhau eu cyfeillgarwch a datblygu eu sgiliau gwaith tîm.
Rheoli risgiau
Cynnwys amhriodol
Fe allai chwaraewyr eraill greu cynnwys amhriodol ac anfon negeseuon amhriodol yn y swyddogaeth sgwrsio. Caiff chwaraewyr eu rhybuddio cyn chwarae efallai na fydd cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn addas i bob oed.
Gellir cymryd camau i wneud eich plentyn yn llai tebygol o weld cynnwys amhriodol.
Adrodd am gynnwys
Adroddwch am unrhyw fydoedd sydd â chynnwys amhriodol ac sy’n torri canllawiau cymunedol Minecraft. Bydd hyn yn helpu i gael gwared â chynnwys niweidiol.
Addasu rheolaethau rhieni
Defnyddiwch reolaethau rhieni i alluogi hidlyddion yn y swyddogaeth sgwrsio i rwystro geiriau sarhaus, cyfyngu ar y sgwrs fel y gellir negesu ffrindiau yn unig, neu ddiffodd sgwrsio’n llwyr.
Chwarae ar weinyddion dibynadwy
Bydd chwarae mewn gweinyddion preifat ar ei ben ei hun neu gyda ffrindiau y mae’n ymddiried ynddyn nhw’n unig yn atal eich plentyn rhag rhyngweithio â phobl ddieithr, ac felly bydd yn llai tebygol o weld cynnwys amhriodol.
Adolygu mods
Gall mods y mae eich plentyn yn eu lawrlwytho gynnwys pethau nad ydyn nhw ar gael yn y gêm sylfaenol. Nid yw’r cynnwys hwn wedi’i raddio ac fe allai fod yn anaddas i bobl ifanc. Adolygwch unrhyw mods y mae eich plentyn yn eu lawrlwytho i sicrhau eu bod yn briodol iddo.
Gormod o amser sgrin
Mae Minecraft yn rhoi rhyddid diderfyn bron i chwaraewyr, a’r gallu i adeiladu beth bynnag y dymunan nhw. Yn wahanol i lawer o gemau, nid oes stori na lefelau, felly nid oes diwedd naturiol. Oherwydd hyn, fe allai chwaraewyr fynd yn gaeth i’r gêm a threulio gormod o amser ar eu dyfais.
Gall y camau hyn helpu i atal eich plentyn rhag treulio gormod o amser yn chwarae’r gêm.
Gosod terfynau amser sgrin
Yng ngosodiadau’r rhan fwyaf o ddyfeisiau, fe allwch osod terfynau amser sy’n rheoli pa mor hir y gall eich plentyn ddefnyddio dyfais neu gêm benodol bob dydd. Gall gosod terfynau amser ar ddyfais eich plentyn ei atal rhag treulio gormod o amser ar Minecraft.
Cytuno ar ffiniau
Gall gosod ffiniau gyda’ch plentyn ynglŷn â ble a phryd y gall chwarae Minecraft helpu i gadw ei amser sgrin yn gytbwys.
Siarad â’ch plentyn
Siaradwch â’ch plentyn am amser sgrin ac anogwch ef i fod yn ymwybodol o ba mor hir y mae’n chwarae’r gêm a sut mae’n gwneud iddo deimlo.
Cyswllt â chwaraewyr eraill
Mae gan Minecraft weinyddion cyhoeddus, sy’n caniatáu i chwaraewyr ryngweithio â phobl ddieithr o amgylch y byd.
Fe all hyn ddod â risgiau fel:
- bwlio
- rhannu cynnwys amhriodol
- gofyn iddyn nhwryngweithio ar blatfformau eraill
I gadw’ch plentyn yn ddiogel rhag chwaraewyr eraill, ystyriwch y camau canlynol.
Newid gosodiadau rhieni
Gan ddefnyddio gosodiadau rhieni Minecraft, fe allwch gyfyngu ar nodweddion sgwrsio fel bod eich plentyn yn gallu negesu ei ffrindiau yn unig neu neb o gwbl. Bydd hyn yn atal cyswllt â phobl ddieithr.
Monitro’r rhestr ffrindiau
Bydd cadw llygad ar restr ffrindiau eich plentyn, gan sicrhau bod eich plentyn yn eu hadnabod nhw i gyd ac yn ymddiried ynddyn nhw yn y byd go iawn, yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd rhywun dieithr yn rhyngweithio ag ef.
Dewis gweinyddion diogel
Bydd chwarae ar weinyddion preifat neu weinyddion a fwriadwyd ar gyfer plant yn unig yn lleihau’r risg y bydd pobl ddieithr yn cysylltu â’ch plentyn trwy’r gêm. Ar gyfer plant iau, fe allech ganiatáu iddynt chwarae ar eu pen eu hunain yn unig.
Siarad â’ch plentyn
Bydd siarad â’ch plentyn yn rheolaidd am ei fywyd digidol yn eich helpu i wybod pwy mae’n rhyngweithio ag ef. Bydd hyn yn eich galluogi i weithredu os yw’n cyfathrebu â phobl ddieithr.
Dysgu’ch plentyn sut i flocio a riportio
Bydd dangos i’ch plentyn sut i ddefnyddio’r offer blocio a riportio ar Minecraft yn ei rymuso i atal cyswllt ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus ar y platfform.
Gorwario
Gall chwaraewyr brynu arian cyfred y gêm, sef ‘Minecoins’, gan ddefnyddio arian go iawn. Fe allai eich plentyn deimlo bod angen iddo wario arian ar Minecoins i brynu cynnwys newydd ac eitemau cosmetig i gael yr un pethau â’i ffrindiau neu chwaraewyr eraill.
Gall y camau hyn helpu i gadw gwariant eich plentyn dan reolaeth.
Gosod rheolaethau prynu
Gan ddefnyddio gosodiadau teulu, fe allwch sefydlu rheolaethau talu fel y bydd angen i’ch plentyn gael eich caniatâd cyn prynu eitemau yn y gêm.
Siarad am wario
Siaradwch â’ch plentyn am wario. Helpwch ef i sylweddoli gwerth arian trwy gymharu’r arian mae’n ei wario ar Minecraft ag eitemau y gallai eu prynu mewn bywyd go iawn am yr un swm. Cytunwch ar faint y gall ei wario ar y gêm bob mis.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Os yw’ch plentyn eisiau chwarae Minecraft, fe all y gosodiadau canlynol wneud ei brofiad ar y gêm yn fwy diogel.
Sefydlu Microsoft Family Safety
Bydd arnoch angen eich cyfrif Microsoft eich hun i sefydlu Microsoft Family Safety.
Mae gan Minecraft amrywiaeth o osodiadau diogelwch, sydd ar gael trwy Microsoft Family Safety. I osod rheolaethau ar gyfrif eich plentyn, yn gyntaf bydd rhaid i chi gysylltu’r cyfrif Microsoft y mae’n ei ddefnyddio ar gyfer Minecraft â’ch cyfrif Microsoft chi.
I wneud hyn:
- Lawrlwythwch ac agorwch yr ap Microsoft Family Safety.
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif Microsoft chi.
- Dewiswch ‘Create a family group’.
- Gwahoddwch eich plentyn gan ddefnyddio ei gyfrif Microsoft ef.
- Derbyniwch y gwahoddiad a anfonwyd at ei gyfrif Microsoft ef.
- Gallwch bellach osod rheolaethau gan gynnwys:
- galluogi neu analluogi aml-chwaraewr
- pwy sy’n gallu cyfathrebu â’ch plentyn
- pwy sy’n gallu gweld cyfrif eich plentyn
Hidlo sgwrsio
Mae hidlyddion testun yn cael eu cymhwyso’n ddiofyn i gyfrifon sy’n perthyn i bobl ifanc iau nag 16 oed. Fodd bynnag, os ydych eisiau hidlo iaith anweddus neu atal pobl ddieithr rhag anfon negeseuon at eich plentyn 16 oed neu hŷn, fe allwch wneud hyn trwy osodiadau sgwrsio Minecraft.
I hidlo sgwrsio:
- Agorwch Minecraft ac ewch i’r brif ddewislen.
- Dewiswch ‘Settings’.
- Dewiswch ‘Chat Settings’ i:
- ddiffodd sgwrsio
- hidlo iaith anweddus
- caniatáu negeseuon gan ffrindiau yn unig
Adolygu offer riportio a blocio
Gallwch ddysgu’ch plentyn sut i riportio neu flocio chwaraewyr eraill sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
Riportio chwaraewr
- Tra byddwch yn chwarae, ewch i’r rhestr chwaraewyr ar ochr dde’r sgrin.
- Dewiswch y chwaraewr rydych eisiau ei riportio.
- Ar broffil y chwaraewr, dewiswch y botwm ‘Report’.
- Dilynwch y promptiau.
Blocio chwaraewr
- Ewch i’r rhestr chwaraewyr ar ochr dde’r sgrin neu teipiwch enw’r chwaraewr yn y cyfleuster chwilio yn y brif ddewislen.
- Ar ei broffil, newidiwch ‘Block’ i ‘On’.
Dolenni defnyddiol
- Canllaw gam wrth gam Internet Matters ynglŷn â rheolaethau rhieni (Saesneg yn unig)