English

Mae Instagram yn ap cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir i rannu lluniau a fideos yn bennaf, er bod nodweddion eraill yn cynnwys negeseua, ffrydio byw a sgyrsiau fideo. Gellir defnyddio hidlyddion ac offer gwella lluniau eraill i addasu delwedd cyn ei rhannu, ac mae defnyddio hashnodau’n galluogi defnyddwyr i wneud cysylltiadau â'r 1.452 biliwn o ddefnyddwyr eraill ledled y byd. Mae cyfrifon Instagram yn cael eu curadu i raddau helaeth yn aml, gyda delweddau a fideos wedi'u golygu'n helaeth, a defnyddir cyfrifon â nifer mawr o ddilynwyr i ddylanwadu ar ddefnyddwyr eraill trwy farchnata a chymeradwyo cynnyrch.

Erbyn hyn, mae Instagram yn gweithredu ochr yn ochr â Facebook, WhatsApp a Messenger o dan y rhiant gwmni Meta. Mae Meta yn disodli Facebook fel y prif gwmni/brand yn y grwp hwn, ac mae'n debygol y bydd brandio Meta yn dod yn fwyfwy gweladwy ar yr holl apiau hyn.  

Rhaid i ddefnyddwyr Instagram fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith.

Bydd pob defnyddiwr dan 16 oed yn cael cyfrif preifat yn ddiofyn. Dim ond os yw defnyddwyr wedi darparu eu dyddiad geni cywir y bydd y gosodiad diofyn hwn yn cael ei gynnig, gan ddangos eu bod o dan 16 oed. Bydd pob cyfrif arall yn gyfrif cyhoeddus yn ddiofyn.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.

Mae Instagram yn ap cymdeithasol poblogaidd sy'n seiliedig ar rannu lluniau a fideos, sy'n caniatáu i bobl ifanc gysylltu â'u ffrindiau a'u teulu, yn ogystal â dilyn eu hoff enwogion, arweinwyr a dylanwadwyr. Mae'n apelio’n fawr at bobl ifanc, gan fod nifer y bobl sy’n eu hoffi a’u dilyn nhw’n gallu rhoi ymdeimlad o gymeradwyaeth, poblogrwydd a chael eu derbyn. Yn y bôn, mae 'Ffrydiau' Instagram yn gweithredu fel rîl uchafbwyntiau sy'n amlygu'r da ac yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu'r fersiynau gorau a mwyaf deniadol ohonyn nhw eu hunain. Er y gallai hyn fod yn niweidiol i'w lles a'u hiechyd meddwl, gall rhyngweithio'n gadarnhaol â'r ap a'r bobl maen nhw'n eu hadnabod trwy ei nodweddion amrywiol fod yn hwyl a rhoi boddhad mawr i bobl ifanc.

Un feirniadaeth gyffredin iawn o Instagram yw ei fod yn rhy seiliedig ar ddelwedd. Mae'n fan lle mae llawer o ddefnyddwyr yn treulio amser yn defnyddio effeithiau a hidlyddion i olygu eu lluniau a'u fideos cyn eu rhannu, gan gyfleu delwedd o berffeithrwydd i'r byd. Gall y fath bwyslais ar ddelwedd a statws gael effaith negyddol ar les defnyddwyr, gan arwain at ddiffyg hunan-barch. Hefyd, gall gormod o gysylltiad â chynnwys sydd wedi'i olygu i raddau mawr gael effaith negyddol ar ddelwedd y corff, a gall sgrolio cyson drwy luniau a fideos o bobl eraill sy'n edrych yn wych ac yn cael hwyl fod yn niweidiol i iechyd meddwl. Gall sylwadau negyddol ar luniau a fideos defnyddwyr effeithio ymhellach ar les, gan fod pobl ifanc yn aml yn rhannu eu delweddau i geisio cael cymeradwyaeth defnyddwyr eraill ar y platfform ac yn dileu'r rhai nad ydynt yn cael eu 'Hoffi' rhyw lawer.

Siaradwch â'ch plentyn am faint o broffiliau Instagram sydd wedi'u curadu i ymddangos yn berffaith, ond nad ydyn nhw’n adlewyrchiad gwir o'r unigolion na'u bywydau, ac na ddylid ystyried cymeradwyaeth neu ddiffyg cymeradwyaeth drwy ymatebion 'Hoffi' a dilynwyr yn arwydd realistig o harddwch a gwerth fel person.

Mae Instagram yn cynnig adnodd ‘Sensitive content control' sy'n caniatáu i ddefnyddwyr reoli faint o gynnwys sensitif maen nhw'n ei weld yn yr ap. Mae cynnwys sensitif yn cael ei ddiffinio fel cynnwys sy'n mynd yn groes i’r canllawiau a argymhellir gan Instagram, a gall gynnwys cynnwys treisgar neu’n gynnwys o natur rywiol, yn ogystal â chynnwys sy'n hyrwyddo cynhyrchion neu weithdrefnau a all fod wedi’u rheoleiddio. 'Standard' yw gosodiad diofyn y rheolydd hwn, felly argymhellir cynyddu hyn ar gyfer defnyddwyr iau.

Dylai defnyddwyr gofio mai sgwrsfot AI tebyg i ChatGPT neu My AI Snapchat yw Meta AI. Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn i Meta AI a bydd yn ceisio darparu ateb. Fodd bynnag, fel ‘Model Iaith Mawr’ (LLM), gall Meta AI gynhyrchu camwybodaeth neu ymatebion â rhagfarn weithiau. Mae hyn yn digwydd gan fod sgwrsfotiaid LLM yn cynhyrchu atebion sy’n seiliedig ar y tebygolrwydd y bydd geiriau’n ymddangos gyda’i gilydd, heb ddilysu cywirdeb ffynonellau. Dylech annog eich plentyn i wirio ffeithiau unrhyw ddatganiadau sy’n cael eu gwneud gan Meta AI er mwyn sicrhau bod yr atebion maen nhw’n eu derbyn yn wir ac yn ffeithiol.

Mae Meta AI yn gallu cynhyrchu lluniau ar gais hefyd. Mae gan Meta AI sawl elfen ddiogelu i atal creu lluniau anaddas ac mae’n dyfrnodi unrhyw luniau mae’n eu creu, sy’n ei gwneud hi’n haws i weld ai Meta AI greodd y llun dan sylw. Fodd bynnag, mae posibilrwydd y gall Meta AI gamddehongli awgrym a chreu llun a all beri gofid neu ddryswch i’ch plentyn. Mae’n bwysig annog eich plentyn i siarad â chi os yw Meta AI yn cynhyrchu llun anaddas neu ofidus.

Gan fod Instagram yn blatfform mor boblogaidd, gyda dros biliwn o ddefnyddwyr ledled y byd, mae'n bosib bod eich plentyn yn gwneud cysylltiadau â phobl y mae'n eu hadnabod, ond hefyd pobl nad yw'n eu hadnabod. Yn yr un modd â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, mae'n bosib i ddefnyddwyr sefydlu cyfrifon ffug, gan esgus bod yn rhywun arall. Anogwch eich plentyn i gwestiynu a yw’n adnabod y person y tu ôl i broffil Instagram mewn gwirionedd cyn cysylltu.

Er mwyn amddiffyn pobl ifanc rhag cyswllt digroeso gan oedolion, mae gan Instagram nodwedd sy'n atal oedolion rhag anfon negeseuon uniongyrchol at bobl dan 18 oed sydd ddim yn eu dilyn nhw.  Ni fydd cyfrifon plant o dan 16 oed yn ymddangos yn ‘Explore’, ‘Reels’ neu ‘Accounts suggested for you’ i oedolion sy’n hysbys i Instagram fel pobl sydd wedi arddangos ymddygiad amheus o bosibl.  Siaradwch â'ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar broffil neu mewn sgyrsiau. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych a ofynnwyd cwestiynau mwy personol neu i sgwrsio'n breifat gan ddefnyddio ap gwahanol.

Mae rhieni a gofalwyr yn gallu defnyddio adnodd goruchwyliaeth rheini pwrpasol Instagram i helpu i ddiogelu eu plentyn ar Instagram. Mae’r adnodd rheolaeth rhieni’n caniatáu i rieni a gofalwyr weld pwy mae eu plentyn yn ei ddilyn ar Instagram, a phwy sy’n dilyn eu plentyn. Dylech siarad â’ch plentyn am ychwanegu elfen goruchwyliaeth rhieni at ei gyfrif. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall mai rhywbeth i helpu i’w gadw’n saff yw hyn, yn hytrach na ffordd o darfu ar ei breifatrwydd. I gael cyfarwyddiadau ar osod goruchwyliaeth rhieni, gweler adran ‘Rheoli cyfrifon pobl ifanc’ y canllawiau hyn.

Mae’r nodwedd ‘Add Yours’ yn caniatáu i grewyr gymell ffans a dilynwyr i gyflwyno riliau. Er mai’r nod yw ennyn rhagor o ymgysylltu rhwng y crëwr a’i ffans, mae’n bosib i rai ei ddefnyddio fel ffordd o gymell codi cywilydd. Gall crewyr nodi pa fath o bethau maen nhw’n chwilio amdanynt, sy’n gallu bod yn dipyn o hwyl neu bechu rhywun. Gan fod ril sy’n cael ei dewis gan grëwr yn cael ei chyhoeddi ac yn gallu cael ei gweld gan ei holl ddilynwyr, gallai cynulleidfa ehangach o lawer weld cynnwys eich plentyn a allai arwain at fwlio ar-lein i rai defnyddwyr, yn dibynnu ar gyd-destun ‘Add Yours’. Dylech siarad â’ch plentyn a’i helpu i osgoi cael ei gymell gan grewyr neu ddylanwadwyr negyddol, oherwydd efallai nad oes ganddynt fwriadau da gyda chyflwyniadau eu dilynwyr.

Mae’r nodwedd ‘Nicknames’ ar Instagram yn caniatáu i ddefnyddwyr roi llysenw i’w gilydd mewn sgyrsiau grŵp a sgyrsiau personol. Bwriedir i lysenwau fod yn hwyl a galluogi defnyddwyr i roi enwau mwy personol i’w gilydd mewn sgyrsiau. Er hynny, gall llysenwau gael eu defnyddio i ddifrïo a brifo teimladau rhywun, yn enwedig mewn sgyrsiau grŵp. Dylech sicrhau bod eich plentyn yn ymwybodol o hyn os ydyn nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr eraill roi llysenw iddyn nhw. Am gyfarwyddiadau ar reoli llysenwau, ewch i adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllaw hwn.

Mae'r proffil Instagram sy'n cael ei greu gan bobl ifanc i ddangos i'r byd pwy ydyn nhw’n gallu bod yn rhan annatod o'u hymdeimlad o hunaniaeth. Gall defnyddwyr gael eu targedu gyda sylwadau negyddol a gall eu cynnwys gael ei rannu mewn ffyrdd a allai eu bychanu. Gall hyn gael effaith wirioneddol ar iechyd meddwl a lles. Er bod gan Instagram ganllawiau cymunedol ar waith i gyfyngu ar gyswllt niweidiol, nid yw bwlio a throlio ar y platfform yn anghyffredin. Er mwyn cyfyngu ar gysylltiad â sylwadau a chynnwys niweidiol, archwiliwch y gosodiadau preifatrwydd a 'Limits' ar yr ap. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw'n dioddef bwlio drwy'r platfform, gan sicrhau ei fod yn gwybod sut i flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy'n ymddwyn yn amhriodol. Ar bob postiad unigol, gall defnyddwyr guddio'r 'Like count' a diffodd y sylwadau er mwyn atal eraill rhag gwneud sylwadau negyddol, a lleihau'r pwysau i gael nifer uchel o bobl yn hoffi. Gellir galluogi'r nodweddion hyn yn y gosodiadau uwch ar Instagram.

Hefyd, mae'r platfform wedi lansio nodwedd ‘Safety notices', sy'n annog pobl ifanc i fod yn ofalus wrth sgwrsio ag oedolion maen nhw eisoes wedi'u cysylltu â nhw. Bydd y nodwedd hon yn hysbysu pobl ifanc pan fydd oedolyn sydd wedi bod yn ymddwyn yn amheus o bosib yn rhyngweithio â nhw mewn negeseuon uniongyrchol (DMs) gan roi'r cyfle iddyn nhw ei flocio neu gwyno amdano.

Prif risg fasnachol Instagram yw’r defnydd o ddylanwadwyr i hyrwyddo nwyddau neu frandiau. Er bod rhaid i ddylanwadwyr ddatgelu pan fyddan nhw’n cael eu talu i hysbysebu eitem, mae'n bosib y bydd pobl ifanc yn awyddus i'w hefelychu. Gall hyn fod yn berthnasol iawn pan fydd enwogion neu ddylanwadwyr enwog y mae eich plant eisoes yn eu hedmygu, eu gwerthfawrogi a'u dilyn yn perswadio eu dilynwyr i brynu eitem benodol. Mae tagio cynhyrchion mewn ffilmiau neu ‘reels’ hefyd yn golygu bod gwylwyr yn gallu prynu’r cynnyrch sy’n cael ei hyrwyddo trwy glicio ar y tag, a all arwain at brynu mwy o bethau drwy’r platfform. Siaradwch â'ch plentyn am rôl dylanwadwyr a'u hatgoffa nad ydyn nhw wedi prynu'r holl nwyddau maen nhw’n eu hyrwyddo.

Mae Meta wedi diweddaru ei bolisi hysbysebion a dargedir ar Facebook, sy’n golygu mai dim ond ar sail eu hoed a’u lleoliad, ac nid ar sail eu rhywedd, eu diddordebau na’u gweithgarwch, y gall hysbysebion gael eu targedu at ddefnyddwyr o dan 18 oed. Hefyd, mae defnyddwyr yn gallu rheoli pynciau eu hysbysebion yn ‘Ad preferences’ yn y ddewislen gosodiadau.

Mae Meta yn lansio ‘Meta Verified’ ar gyfer Instagram a Facebook, sef gwasanaeth tanysgrifio sy’n darparu bathodyn glas i ddefnyddwyr i brofi eu dilysrwydd. Efallai y bydd pobl ifanc yn cael eu denu gan fathodyn glas gan ei fod yn gysylltiedig â phoblogrwydd fel arfer. Mae Meta Verified ar gyfer Instagram yn costio £11.99 ar naill ai iOS neu Android. Dylech drafod penderfyniadau ariannol gyda’ch plentyn a’i atgoffa mai ffordd o wneud arian i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol yw tanysgrifiadau, heb gynnig fawr o fanteision i ddefnyddwyr.

Dylai defnyddwyr gofio bod cyflwyno'r 'Meta Accounts Centre' wedi cyflwyno elfen trawsbostio sydd i bob pwrpas yn golygu rhannu negeseuon unigol ar draws Instagram a Facebook. Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr bellach yn gallu postio ar y ddau gyfrif cyfryngau cymdeithasol ar unwaith. Mae defnyddwyr sydd wedi defnyddio'r un e-bost ar gyfer y ddau gyfrif wedi canfod bod trawsrannu wedi'i alluogi o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn argymell defnyddwyr i ddatgysylltu eu cyfrifon trwy'r ddewislen gosodiadau. Mae cyngor ar sut i wneud hyn o dan adran 'Rheoli preifatrwydd' y canllaw hwn.

Mae’r nodwedd ’Read receipts’ ar Instagram yn caniatáu i ddefnyddwyr wybod pan mae defnyddiwr arall wedi gweld neu ddarllen eu neges. Er y gall defnyddwyr fwynhau gallu gweld a yw defnyddiwr arall wedi gweld eu neges, mae ‘read receipts’ yn gallu rhoi pwysau ar ddefnyddwyr i ymateb yn gyflym. Gall hyn wneud defnyddwyr yn bryderus hefyd os ydyn nhw’n gweld bod rhywun wedi darllen ond heb ymateb i’w neges. Dylech helpu’ch plentyn i ddiffodd ‘read receipts’ fel y gall barhau i anfon negeseuon at ei ffrindiau wrth ei bwysau a heb deimlo dan bwysau neu bod rhywun yn ei wylio. Mae camau’n egluro sut i wneud hyn yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllaw hwn.

Mae Instagram yn blatfform poblogaidd, a phan gaiff ei ddefnyddio'n gyfrifol, gall fod yn hwyl. Atgoffwch eich plentyn fod y rhan fwyaf o'r cynnwys sy'n cael ei bostio’n cael ei newid i edrych yn dda ac nad yw'n adlewyrchu bywyd go iawn.

Mae Meta wedi creu canolfan preifatrwydd i'r arddegau bwrpasol er mwyn helpu defnyddwyr yn eu harddegau i reoli eu preifatrwydd ar bob blatfform Meta.

Mae Meta wedi cyhoeddi Canllaw ar Instagram ar gyfer rhieni sy'n darparu gwybodaeth am yr offer diogelwch a'r gosodiadau preifatrwydd diweddaraf.

Mae gan Instagram Ganolfan i Deuluoedd bwrpasol i helpu teuluoedd i lywio profiadau ar-lein gyda’i gilydd.

Mae Instagram wedi cyflwyno sawl nodwedd newydd sydd â’r nod o amddiffyn pobl ifanc rhag blacmel rhywiol, math o flacmel ar-lein sy’n cynnwys anfon lluniau noeth neu led-noeth. Mae’r nodweddion newydd hyn yn ddiofyn ar gyfer unrhyw gyfrifon sy’n eiddo i blant a phobl ifanc dan 18 oed.