English

Mae Discord yn ap cyfryngau cymdeithasol a sgwrsio am ddim sy'n boblogaidd gyda chwaraewyr gemau, sy'n defnyddio'r platfform i gyfathrebu wrth chwarae gemau. Mae llawer o ddefnyddwyr yn mwynhau sgwrsio â chwaraewyr eraill a'u gwylio’n chwarae a defnyddio'r ap i gyfnewid awgrymiadau a rhannu technegau. Gall sgyrsiau fod naill ai’n un i un neu mewn grwp neu 'weinydd' gêm-benodol (grwpiau cymuned neu ffrindiau). Mae gan gemau ar-lein poblogaidd, fel Fortnite eu sianeli Discord swyddogol eu hunain, lle gall cefnogwyr wylio ei gilydd yn chwarae a siarad am y gêm.

Gyda dros 150 miliwn o ddefnyddwyr mewn mwy nag 80 o wledydd, mae Discord wedi dod yn llwyfan poblogaidd i chwaraewyr gemau ledled y byd ddod at ei gilydd. Er bod Discord yn gysylltiedig yn bennaf â chwaraewyr gemau, mae'r platfform yn cael ei ddefnyddio gan eraill hefyd i sgwrsio a rhyngweithio ar bob math o bynciau eraill, yn amrywio o ffasiwn i chwaraeon, gyda miloedd o sianeli ar gael. Mae Discord ar gael ar ddyfeisiau Apple ac Android, yn ogystal â chyfrifiaduron.

Yr isafswm oedran a argymhellir ar gyfer Discord yw 13. Fodd bynnag, nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl.

Diweddarodd Discord ei sgôr oedran i 17+ yn yr Apple App Store ar gais Apple. Dywedodd Apple fod y radd oedran uwch yn angenrheidiol i adlewyrchu'r defnydd o iaith dramgwyddus a thrais realistig sydd i’w weld mewn rhai gemau a ddefnyddir ar y platfform. Fodd bynnag, mae Google Play yn dal i raddio'r cynnwys ar Discord fel 'Teen'. Er gwaethaf y radd 17+ yn yr Apple App Store, mae telerau gwasanaeth Discord yn caniatáu i ddefnyddwyr gofrestru ar gyfer yr ap os ydynt dros 13 oed.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.

Mae Discord yn gwerthu ei hun fel “a place that makes it easy to talk every day and hang out more often”. Mae'n cefnogi sawl math o gyfathrebu, gan gynnwys galwadau fideo, sgwrsio llais a thestun fel bod gan ddefnyddwyr nifer o ffyrdd o gysylltu. Mae'n arbennig o boblogaidd ymhlith pobl ifanc sy'n ei ddefnyddio i gysylltu â ffrindiau a rhannu eu profiadau o'u hoff gemau. Mae cymuned Discord yn gwneud chwarae gêm yn fwy rhyngweithiol a chymdeithasol i bobl ifanc, yn enwedig i'r rheini sy'n tueddu i chwarae gemau chwaraewr sengl neu os nad oes ganddyn nhw ffrindiau i chwarae gyda nhw wyneb yn wyneb.

  • Dyma ofod y defnyddiwr i gymdeithasu gyda ffrindiau. Mae'n ystafell rithwir ddynodedig ar eu cyfer nhw ac unrhyw un maen nhw’n eu gwahodd. Gall defnyddwyr ddewis sefydlu gweinyddwyr ar gyfer grwpiau preifat 'For me and my friends' neu ar gyfer cynulleidfaoedd ehangach 'For a club or community'.

  • Gallwch ychwanegu ffrindiau trwy eich cysylltiadau ffôn, gan ddefnyddio enw defnyddiwr a thag Discord neu trwy sgan cyfagos gan ddefnyddio Bluetooth a WiFi eich ffôn symudol i ddod o hyd i ffrindiau cyfagos.

  • Gall defnyddwyr gyfeirio neges at ei gilydd mewn neges breifat. Gall defnyddwyr wneud galwad fideo trwy eu negeseuon uniongyrchol (DMs) hefyd neu sianeli llais y gweinydd.

  • Sgwrs grwp sy'n gofyn am wahoddiad i gael mynediad i'r grwp.

  • Cyfle i ddefnyddwyr ryngweithio â'i gilydd trwy sgwrsio neu fideo.

  • Mae hyn yn golygu 'Not Safe For Work.' Defnyddir hyn i gyfeirio at gynnwys addas i oedolion ar y platfform. Mae Discord wedi ychwanegu opsiwn i ddefnyddwyr 18+ labelu eu cynnwys fel NSFW, sy'n golygu y bydd neges rybuddio i ddefnyddwyr i’w gweld cyn edrych ar y cynnwys.

  • Mae'r nodwedd hon yn golygu y gall defnyddwyr ddod o hyd i sgyrsiau sain byw sy'n digwydd ar y platfform yn hawdd.

  • Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu eu sgrin gyda defnyddwyr eraill trwy neges uniongyrchol neu weinydd. Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr wylio defnyddiwr arall yn chwarae gêm mewn amser real.

  • Gwasanaeth tanysgrifio premiwm sy'n cynnig nodweddion arbennig i ddefnyddwyr megis tagiau Discord wedi'u teilwra, y gallu i ddefnyddio eu emotes eu hunain (emojis statig ac animeiddiedig y mae defnyddwyr yn eu dylunio eu hunain) ym mhob gweinydd, terfyn lanlwytho ffeiliau uwch a ‘server boost’ am bris gostyngol.

  • Gall defnyddwyr yn yr un gymuned weinydd weithio gyda'i gilydd i brynu 'Server boost', sy'n cynnig nodweddion cyfunol ac uwchraddiadau i'r defnyddwyr hynny.

  • Maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr sy'n fyfyrwyr ddilysu eu cyfrif gyda'u cyfeiriad e-bost ysgol i ddatgloi canolfan unigryw i fyfyrwyr yn eu hysgol.  Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr ymuno â grwpiau astudio neu ddosbarthiadau trwy'r ap. 

  • Erbyn hyn, gall chwaraewyr sgwrsio ag unrhyw un ar Discord yn uniongyrchol o Xbox, yn hytrach na thrwy’r ap yn unig.

  • Adnodd y gallwch optio i mewn iddo, sy’n helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu mwy am weithgareddau eu plentyn ar Discord a’r cymunedau y mae’n rhan ohonynt. Gall rhieni a gofalwyr weld ‘Activity feed’ a derbyn negeseuon e-bost wythnosol sy’n crynhoi defnydd eu plentyn o’r ap. 

  • Talfyriad o ‘robot’. Estyniadau trydydd person sy’n cynnwys pob math o swyddogaethau yw ‘bots’ ar Discord, o gymedroli sgyrsiau’n awtomatig gyda rheolau penodol i’r defnyddiwr, i greu negeseuon sy’n croesawu defnyddwyr newydd i’r gweinydd.

  • Rhybuddion sy’n cael eu hanfon at blant os bydd dieithryn yn cysylltu â nhw.

  • Lle gall defnyddwyr brynu addurniadau ychwanegol ar gyfer eu proffil ac afatar.

  • Nodweddion ychwanegol y gellir eu hychwanegu at weinyddion Discord neu gyfrifon personol.

  • Math arbennig o ‘ap’ sy’n cynrychioli gemau rhyngweithiol mae defnyddwyr yn gallu eu chwarae ar weinydd Discord.

Argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn cydnabod y sgôr oedran hyn o 17+ a ddefnyddir gan yr Apple App Store. Yn aml bydd defnyddwyr ar y platfform yn trafod gemau sydd â sgôr oedran uwch na 13 ac felly mae defnyddwyr yn agored i gynnwys mwy aeddfed. Mae gan yr ap nodwedd 'Keep me safe', sy'n sganio negeseuon uniongyrchol gan bawb ar gyfer cynnwys cyfryngau anweddus. Fodd bynnag, mae'n hawdd i ddefnyddwyr analluogi'r nodwedd hon. Hefyd, mae defnyddwyr o dan 18 oed yn gallu cael mynediad hawdd at y gweinydd NSFW trwy glicio 'OK' ar ôl derbyn neges yn rhybuddio nad yw'n addas ar gyfer defnyddwyr o dan 18 oed. Os ydych chi’n dewis caniatáu i'ch plentyn ddefnyddio'r ap Discord, mae'n werth darganfod pa gemau maen nhw’n eu trafod ac archwilio sgôr oedran y gemau hyn trwy wefan PEGI. Byddai hyn yn rhoi gwell syniad o'r mathau o gynnwys gemau y byddai defnyddwyr yn ei weld a’i drafod.

Yn yr un modd ag apiau sgwrsio eraill, bydd yn bosib hefyd y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad â chynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus mewn sgyrsiau. Trwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn gysylltu â nhw ar y platfform, bydd eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod ei bod yn bosib o hyd i’ch plentyn weld cynnwys amhriodol drwy’r cysylltiadau sydd ganddo.

Hefyd, mae perygl i’ch plentyn weld cynnwys a all beri gofid neu ddryswch ar ‘Activties’ Discord, sef gemau seiliedig ar ap. Mae rhai gemau fel ’Death by AI’ neu ’Gartic Phone’, yn caniatáu i ddefnyddwyr ysgrifennu eu hymatebion eu hunain i awgrymiadau neu gwestiynau gan AI neu ddefnyddiwr arall. Nid yw awgrymiadau ac ymatebion wedi’u creu gan ddefnyddwyr yn cael eu hidlo, sy’n golygu bod defnyddwyr yn gallu cynnwys cyfeiriadau treisgar neu anweddus o rywiol yn eu hawgrymiadau ac ymatebion. Felly, dim ond gyda chysylltiadau hysbys y dylai’ch plentyn chwarae’r rhain. Hefyd, gofalwch bod eich plentyn yn gwybod y gall siarad â chi os yw’n dod ar draws unrhyw gynnwys sy’n peri gofid neu ddryswch.

Mae Discord yn argymell y dylai defnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i ddefnyddio'r platfform, ond nid yw'n cynnig unrhyw osodiadau preifatrwydd cadarn sy'n golygu bod y cyfrif yn breifat. Mae hyn yn golygu bod unrhyw ddefnyddwyr ar y platfform yn gallu gweld proffil defnyddwyr eraill a chysylltu â nhw. O fewn ap Discord, gall defnyddwyr ryngweithio un i un neu mewn sgyrsiau grwp gyda naill ai pobl y maent yn eu hadnabod neu ddieithriaid. Os bydd dieithryn yn anfon neges at eich plentyn am y tro cyntaf, bydd eich plentyn yn derbyn ‘Safety Alert’ sy’n rhoi cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â’r sefyllfa a hefyd yn ei gwneud hi’n haws iddo flocio neu riportio defnyddiwr yn gyflym. Ond, argymhellir mai dim ond pobl maen nhw’n eu hadnabod yn y byd all-lein y dylai pobl ifanc sgwrsio â nhw. 

Bydd hyn yn helpu i gyfyngu ar y tebygolrwydd o fod yn agored i gynnwys amhriodol. Dylai defnyddwyr iau ddefnyddio'r gosodiadau ‘Privacy and safety' i reoli ceisiadau gan ffrindiau. Os yw'ch plentyn yn defnyddio'r ap mewn gweinydd cyhoeddus (gofod sgwrsio o fewn y gêm), fe'ch cynghorir i'w oruchwylio er mwyn sefydlu'r mathau o gysylltiadau mae'n ymwneud â nhw. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o sgwrsio â dieithriaid ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy â defnyddwyr eraill mewn sgyrsiau. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddo neu i sgwrsio'n breifat.

Dylai rhieni nodi bod Discord wedi newid eu system adrodd yn llwyr yn ddiweddar fel bod pob adroddiad yn cael ei ymchwilio'n unigol i sicrhau canlyniadau priodol i ddefnyddwyr sy'n camddefnyddio'r platfform. Mae hyn bellach yn golygu y gall defnyddwyr barhau i ddefnyddio'r ap, er ei fod mewn capasiti cyfyngedig, hyd yn oed ar ôl cael eu hadrodd. Sicrhewch fod unrhyw gyfrifon yr ydych chi neu'ch plentyn yn adrodd amdanyn nhw hefyd wedi'u blocio i helpu i gyfyngu ar y cyswllt sydd gan eich plentyn â defnyddwyr nad ydyn nhw'n eu hadnabod neu sy'n eu gwneud yn anghyfforddus.

Os oes gan eich plentyn gyfrif Discord, mae'n bwysig eich bod chi a'ch plentyn yn ymwybodol o'r hyn mae'n ei rannu a'r effaith fydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sy'n briodol a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu a'i annog i rannu gyda'i ffrindiau yn unig. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, oherwydd mae'n hawdd copïo ac ailbostio cynnwys heb yn wybod iddo ac yna gall ddod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd.

Os yw defnyddiwr yn torri canllawiau cymuned Discord, bydd yn derbyn rhybudd gan system rybuddio Discord. Mae’r system hon yn dweud wrth ddefnyddiwr ei fod wedi torri rheolau Discord, pa gamau mae Discord wedi’u cymryd, a sut fydd hynny’n effeithio ar statws ei gyfrif ar Discord. Mae sawl statws (‘standing’) yn bosibl, yn amrywio o ‘all good’ i ‘permanent suspension’, sy’n seiliedig ar nifer y toramodau a pha mor ddifrifol ydyn nhw. Ni fydd cyfrif sydd wedi’i atal yn barhaol yn gallu defnyddio Discord mwyach. Dylech siarad â’ch plentyn am bwysigrwydd dilyn canllawiau cymuned Discord er mwyn sicrhau bod statws ei gyfrif yn parhau’n dda.

Gall Discord fod yn eithriadol o boblogaidd gyda phobl ifanc sydd wrth eu bodd yn chwarae gemau. Fel chwarae gêm ei hun, gall gwylio eraill yn chwarae gêm a sgwrsio gyda nhw fod yn brofiad hynod apelgar i bobl ifanc, felly efallai y bydd angen gosod cyfyngiadau i'w hatal rhag treulio oriau maith yn sgwrsio.

Mae sawl cyfle i ddefnyddwyr brynu eitemau yn yr ap ar Discord. Gall defnyddwyr uwchraddio i danysgrifiad premiwm o'r enw Nitro yn ogystal â phrynu ‘server boosts’. Siaradwch â'ch plentyn am brynu eitemau yn yr ap gan sicrhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu eitemau yn yr ap. Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau clyfar a chyfrifiaduron yn caniatáu i ddefnyddwyr sefydlu gosodiadau prynu yn yr ap yn eu dewislen prif osodiadau. Hefyd, mae'n bwysig sicrhau nad yw'r ap yn gysylltiedig â'ch cardiau banc na'ch manylion ariannol.

  • Er nad oes un prif osodiad preifatrwydd ar Discord, mae yna rai gosodiadau diogelwch y gellir eu defnyddio i reoli preifatrwydd. Mae hyn yn cynnwys rheoli pwy all anfon ceisiadau ffrind at eich plentyn.

    I reoli ceisiadau ffrind:

    • Ar y fersiwn we, agorwch ddewislen Settings trwy glicio ar y symbol cog ar waelod y sgrin (gall defnyddwyr dyfeisiau symudol glicio ar eich proffil ar waelod y sgrin)
    • Ewch i 'Friend Requests'
    • yn ddiofyn, mae pob gosodiad yn cael ei osod ar ‘everyone’
    • yr opsiynau ar gyfer 'who can send you a friend request’ yw:
      • Everyone
      • Friends of Friends
      • Server Members
  • Mae sawl gosodiad diogelwch yn yr ap y gallwch chi eu defnyddio i wneud Discord yn fwy diogel i'ch plentyn. Yn ddiofyn, mae Discord yn caniatáu i unrhyw un allu anfon a derbyn negeseuon uniongyrchol. Ni all defnyddwyr dan 18 oed ymuno â gweinyddwyr â chyfyngiad oedran yn awtomatig na gweld negeseuon sydd wedi'u canfod fel rhai amhriodol.

    I hidlo delweddau a sbam penodol mewn Negeseuon Uniongyrchol (gwe):

    • ewch i mewn i leoliadau trwy glicio ar y symbol cog ar waelod y sgrin
    • cliciwch ar ‘Privacy and safety’ yna ‘Filter all direct messages.’

    I osod 'Safe direct messaging':

    • agorwch yr ap a dewiswch 'Settings' a dewiswch 'Privacy and safety'
    • er mwyn caniatáu i Discord sganio negeseuon am gynnwys anweddus gallwch ddewis un o'r canlynol:
      • 'Keep me safe' sy'n sganio negeseuon uniongyrchol gan bawb
      • ‘My friends are nice' sy'n sganio negeseuon uniongyrchol gan bawb oni bai eu bod nhw'n ffrind (gosodiad diofyn)
      • ‘Do not scan' sy'n golygu na fydd negeseuon uniongyrchol yn cael eu sganio am gynnwys anweddus
    • bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu ar unwaith

    I osod ‘DM Spam Filter’:

    • agorwch yr ap a dewiswch ‘Settings’ ac wedyn ‘Privacy and safety’
    • er mwyn caniatáu i Discord hidlo’ch negeseon am sbam gallwch ddewis o blith naill ai:
      • ‘Filter all direct messages’ sy’n sganio negeseuon uniongyrchol gan bawb
      • ‘Filter direct messages from non-friends’ sy’n sganio negeseuon gan bawb oni bai eu bod nhw’n ffrind (gosodiad diofyn)
      • ‘Do not filter direct messages’ sy’n golygu na fydd negeseuon uniongyrchol yn cael eu sganio am gynnwys anweddus

    Os byddai'n well gennych i'ch plentyn beidio â derbyn negeseuon uniongyrchol gallwch analluogi'r swyddogaeth hon trwy:

    • agor yr ap a dewis 'Settings' a dewis 'Privacy and safety'
    • toglo 'Allow direct messages from server members' i off

    Cymhwysir y gosodiad hwn pan fydd defnyddwyr yn ymuno â gweinyddion newydd ac ni fydd yn cael ei gymhwyso i weinyddion presennol.

  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Er ei bod yn hawdd blocio defnyddiwr, mae cwyno am ddefnyddiwr yn fwy cymhleth, gan fod angen i chi gyflwyno cais i Discord â dolen i'r neges, delwedd neu fideo yr ydych am gwyno amdani.

    I flocio defnyddiwr:

    • ewch at y defnyddiwr yr ydych am ei flocio trwy ddewis yr eicon ffrind ar y gwaelod a'r eicon tri dot
    • dewiswch ei enw ac yna dewiswch yr opsiwn 'Blocked' neu 'Remove friend'

    I riportio defnyddiwr / neges:

    • agorwch y neges yr hoffech ei riportio
    • dewiswch y neges a dewis yr eicon tri dot
    • dewiswch ‘Report message', yna dewiswch y rheswm dros riportio o'r rhestr ganlynol:
      • spam
      • cam-drin neu aflonyddu
      • camwybodaeth niweidiol neu glodfori trais
      • datgelu gwybodaeth breifat
      • rhywbeth arall
    • rhowch fwy o fanylion pan fydd yn cael ei roi i chi
    • cadarnhewch eich dewis

    I adrodd proffil defnyddiwr:

    • agorwch broffil y defnyddiwr yr hoffech riportio
    • cliciwch ar yr eicon tri dot yna dewiswch ‘Report user profile’
    • dewiswch o'r rhestr a ddarperir y rhan benodol o'r proffil yr hoffech ei riportio o'r rhestr ganlynol:
      • eu Llun (afatar a/neu ddelwedd faner)
      • eu henw (enw defnyddiwr a/neu enw arddangos)
      • eu disgrifyddion testun (amdanaf i, statws, a/neu ragenwau)
    • yna dilynwch yr awgrymiadau i riportio

    Fel arall gallwch lenwi ffurflen adrodd ar-lein Discord. Noder y bydd angen y 'Message Link' arnoch i riportio neges trwy'r dull hwn. I wneud hyn, bydd angen i chi agor y neges yr hoffech ei riportio a naill ai dal y neges neu hofran drosto i ddewis yr eicon tri dot sy'n ymddangos. O'r fan hon byddwch yn gallu ‘Copy Message Link’ fel y gallwch ei gludo i'ch ffurflen riportio.

  • Er mwyn helpu i gyfyngu ar y pwysau i bobl ifanc fod ar-lein ac ymateb i negeseuon ar unwaith, mae gan Discord rai gosodiadau i helpu i reoli defnydd. Mae 'Activity status' yn dweud wrth ddefnyddwyr eraill pan fyddwch chi ar-lein gyda dot bach gwyrdd wrth ymyl yr eicon Discord.

    I analluogi hysbysiadau:

    • agorwch yr ap a dewis 'User settings' trwy glicio ar eich proffil
    • sgroliwch i lawr i 'App settings' a dewis 'Notifications'
    • toglwch oddi ar yr opsiwn i ‘Get notifications within Discord’
    • sgroliwch i lawr a thoglo oddi ar ‘Get notifications with your friends stream’

    I analluogi  ‘Activity status’:

    • agorwch yr ap a dewis 'User settings' trwy glicio ar eich proffil
    • sgroliwch i lawr i 'App settings' a dewis 'Activity settings' a thoglo i 'off'
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth wedi’i dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Gall defnyddwyr analluogi eu cyfrif hefyd, sy’n gyfystyr â dadactifadu. Mae Discord yn dweud bod modd adfer cyfrifon sydd wedi’u dadactifadu unrhyw bryd. Bydd angen i ddefnyddwyr  naill ai ddileu neu drosglwyddo perchnogaeth o unrhyw weinyddion Discord maen nhw wedi’u creu neu sy’n eiddo iddyn nhw.

    Mae cyfrifon sydd wedi’u dadactifadu yn dal i dderbyn ceisiadau ffrind, a bydd defnyddwyr yn gallu eu gweld os byddant yn penderfynu ailactifadu eu cyfrif, ond ni fyddant yn derbyn hysbysiadau drwy’r cyfrif e-bost sy’n gysylltiedig â’r cyfrif. Efallai y bydd cyfrifon sydd wedi’u hanalluogi am ddwy flynedd neu fwy yn cael eu dileu, felly mae Discord yn argymell y dylai defnyddwyr fewngofnodi o dro i dro i sicrhau nad yw eu cyfrif yn cael ei ddileu. Hefyd, os yw’r defnyddiwr yn berchen ar unrhyw weinyddion Discord ar y cyfrif yr hoffai ei ddadactifadu, bydd angen trosglwyddo’r gweinyddion i ddefnyddiwr arall.

    I analluogi eich cyfrif Discord:

    • ewch i’r dewislen ‘Settings’ a dewis ‘My account’
    • dewiswch ‘Account removal’ ac yna ‘Disable account’
    • dilynwch y cyfarwyddiadau i analluogi’ch cyfrif

    I ddileu eich cyfrif Discord:

    • ewch i’r ddewislen ‘Settings’ a dewis ‘My account’
    • dewiswch ‘Account removal’ ac yna ‘Delete account’
    • teipiwch eich cyfrinair ac yna’r cod chwe digid 2FA
    • dewiswch ‘Delete account’ i gwblhau’r broses
  • Mae nodwedd ‘Family centre’ Discord yn caniatáu i rieni a gofalwyr gadw llygad ar weithgareddau eu plentyn ar y platfform. Mae’r crynodeb sy’n cael ei rannu gyda rhieni a gofalwyr yn cynnwys gwybodaeth am ffrindiau a ychwanegwyd yn ddiweddar, pa weinyddion mae’r plentyn wedi ymuno â nhw neu gymryd rhan ynddynt, a’r defnyddwyr y cysylltwyd â nhw trwy negeseua neu mewn sgyrsiau grŵp. I ddiogelu annibyniaeth eich plentyn, nid yw’r crynodeb yn rhannu cynnwys ei negeseuon neu alwadau. Bydd angen i’r oedolyn a’r plentyn gwblhau’r broses sefydlu trwy ap Discord.

    I osod Family Centre (o ddyfais y plentyn):

    • agorwch yr ap, ewch i’ch proffil a sgrolio i lawr i ‘Family Centre’
    • dewiswch yr opsiwn ‘Connect with parent’ a fydd yn creu cod QR
    • defnyddiwch ddyfais y rhiant i sganio’r cod QR yn yr ap, a fydd yn creu cais am gyswllt
    • bydd y cais am gyswllt yn ymddangos ar ddyfais y plentyn, yn adran ‘My family’ o ap ‘Family centre’
    • dewiswch y tic gwyrdd yna ‘Accept request’ i dderbyn y cais rhiant
    • noder: gall y rhiant a’r plentyn ganslo’r cyswllt teuluol unrhyw bryd trwy ddewis y groes goch sydd yn adran ‘My family’ o ap ‘Family centre’.

Mae Discord wedi datblygu ei ganolfan ddiogelwch ddynodedig ei hun i roi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr am sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth ddefnyddio'r ap. Mae’r llyfrgell diogelwch yn cynnwys adnoddau defnyddiol penodol i blant a rhieni.

Mae Discord wedi cyhoeddi Teen Safety Charter gyda gwybodaeth am ymddygiad derbyniol ar Discord a gwybodaeth am offer diogelwch penodol i blant.

Mae Discord wedi cynhyrchu tudalen ganllaw ar gyfer rhieni a gofalwyr i’w helpu i siarad am ddiogelwch ar-lein gyda’u plant. Mae ‘Parent Hub’ ar gael hefyd, lle gall rhieni a gofalwyr ddysgu mwy am sut mae eu plentyn yn defnyddio Discord a rhai o’r gosodiadau sydd ar waith i ddiogelu defnyddwyr iau ar y platfform.

Mae Discord wedi lansio gwasanaeth ‘find a helpline’ lle gall defnyddwyr ddod o hyd i gymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim, yn eu gwlad.