Deallusrwydd artiffisial: argymhellion ymarferol ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru
Yn yr erthygl hon, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn nodi ystyriaethau allweddol i gefnogi defnydd diogel, moesegol a phwrpasol o ddeallusrwydd artiffisial.
- Rhan o
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn dod yn bresenoldeb cyfarwydd yn yr offer a'r llwyfannau a ddefnyddir gan ddysgwyr, athrawon a theuluoedd. Mae ysgolion a lleoliadau yng Nghymru eisoes yn ymwneud â deallusrwydd artiffisial (weithiau'n ymwybodol, yn aml yn anweledig) trwy offer cyfieithu, nodweddion hygyrchedd, sgwrsfotiaid cynhyrchiol, apiau dysgu, a gwasanaethau digidol ehangach.
Mae'r argymhellion hyn wedi'u haddasu o ganllawiau a ddefnyddir ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan ganolbwyntio ar ddefnydd diogel, moesegol a phwrpasol o ddeallusrwydd artiffisial mewn ysgolion. Maent yn cyd-fynd â gwerthoedd Cymru, y Cwricwlwm i Gymru, cyfrifoldebau diogelu, a'r realiti ymarferol sy'n wynebu staff a dysgwyr.
Gall deallusrwydd artiffisial ddod â manteision go iawn pan gaiff ei ddefnyddio'n feddylgar, drwy wella effeithlonrwydd, galluogi creadigrwydd, cefnogi cynhwysiant, a meithrin llythrennedd digidol.
Ond mae yna risgiau hefyd, gan gynnwys rhagfarn, camwybodaeth, gorddibyniaeth, defnydd data amhriodol, a mynediad anghyfartal. Nid defnyddio mwy o ddeallusrwydd artiffisial yw'r nod, ond ei ddefnyddio'n well, mewn ffyrdd sy'n cryfhau dysgu, yn cynnal lles, ac yn cefnogi pob dysgwr i ffynnu.
Credwn y dylai datblygiadau a defnydd deallusrwydd artiffisial fod yn:
- Foesegol: dibynadwy ac yn cyd-fynd â gwerthoedd pobl Cymru, tra'n bodloni safonau rhyngwladol o ran diogelwch, cyfrifoldeb a thegwch.
- Empathetig: cynhwysol, hygyrch, ac wedi'i gynllunio i fod o fudd i bawb, gyda ffocws penodol ar gefnogi'r rhai mwyaf bregus a difreintiedig.
- Mentrus: arloesol, cydweithredol, ac wedi ymrwymo i gryfhau ecosystem ymchwil, datblygu ac entrepreneuraidd Cymru.
- Effeithiol: tryloyw, atebol ac wedi’i lywodraethu’n gyfrifol, gan sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn darparu effaith fesuradwy a gwerth cyhoeddus.
-
Efallai y bydd ysgolion yn darganfod bod llawer mwy o ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio na'r disgwyl - o apiau ystafell ddosbarth ac offer cyfieithu i ddysgwyr yn arbrofi'n annibynnol gydag offer fel ChatGPT, Google Gemini neu Microsoft Copilot. Man cychwyn da yw creu cofrestr fewnol syml o offer deallusrwydd artiffisial a ddefnyddir gan staff neu ddysgwyr.
Dylai hyn gynnwys offer am ddim a llwyfannau y telir i’w defnyddio, a dylid ei ddatblygu ar y cyd â'r Swyddog Diogelu Data (DPO), arweinwyr digidol a diogelu i asesu defnydd gwirioneddol a risgiau. Lle bynnag y mae defnydd deallusrwydd artiffisial yn cynnwys defnyddio data personol, yna mae cyfraith diogelu data yn berthnasol. Mae'n bwysig sicrhau bod offer yn cydymffurfio â safonau a osodwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) cyn eu defnyddio ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Gan fod deallusrwydd artiffisial hefyd ar gael ar ddyfeisiau personol, mae angen set glir a syml o reolau ar ysgolion sy'n diffinio pa wybodaeth y gellir ac na ellir ei rhoi mewn offer deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn amddiffyn dysgwyr, yn cefnogi hyder staff, ac yn osgoi toriadau diogelwch data damweiniol.
Mae cofrestr sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd hefyd yn helpu arweinwyr i ddeall risgiau, sylwi ar dueddiadau, a darparu arweiniad gwybodus. Gallwch ddefnyddio'r templed polisi 'AI Cynhyrchiol mewn Ysgolion' i'ch cefnogi gyda'r ystyriaethau hyn a'ch polisïau a'ch ymarfer deallusrwydd artiffisial ehangach
-
Gall ysgolion elwa o gael grŵp amrywiol a all gynghori ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Gallai panel deallusrwydd artiffisial ar lefel ysgol gynnwys athrawon, llywodraethwyr, arweinwyr digidol, staff diogelu, cydlynwyr ADY, gweithwyr cymorth ac, yn hollbwysig, llais y dysgwr.
Nid oes angen i'r grŵp hwn fod yn fawr nac yn ffurfiol. Gall fodoli o fewn grŵp digidol presennol, tîm cwricwlwm, neu is-grŵp cyngor myfyrwyr. Yr hyn sy'n bwysig yw ei fod yn cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau ac yn bwydo i benderfyniadau arweinyddiaeth a wneir gan yr Uwch-dîm Rheoli neu'r Corff Llywodraethu.
Gall y panel:
- adolygu tueddiadau sy'n dod i'r amlwg
- cynghori ar offer y mae staff neu ddysgwyr yn eu defnyddio
- archwilio ystyriaethau diwylliannol ac o ran y Gymraeg
- sicrhau bod goblygiadau diogelu yn cael eu deall
- argymell pryd mae angen cymorth allanol
Mae hyn yn creu cydberchnogaeth ac yn osgoi gwneud penderfyniadau ar wahân.
-
Gall gwybodaeth, dealltwriaeth a hyder gyda deallusrwydd artiffisial amrywio'n fawr. Mae rhai staff a dysgwyr yn frwdfrydig; mae eraill yn teimlo'n ansicr neu'n wyliadwrus. Dylai ysgolion greu cyfleoedd diogel i archwilio deallusrwydd artiffisial gan ddefnyddio offer ac enghreifftiau sy'n briodol i oedran. Ar gyfer dysgwyr cynradd, efallai y bydd y ffocws ar ddeall cysyniadau deallusrwydd artiffisial syml a phrofi hyn gyda'i gilydd mewn ystafell ddosbarth, tra gallai dysgwyr uwchradd fod yn barod i ymgysylltu â defnydd mwy cymhleth ac annibynnol o ddeallusrwydd artiffisial.
Mae llythrennedd deallusrwydd artiffisial yn cynnwys:
- deall sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio ar lefel sylfaenol
- cydnabod cyfyngiadau offer deallusrwydd artiffisial
- cwestiynu allbynnau
- gwirio gwybodaeth am gywirdeb
- sylwi ar ragfarn neu gynnwys niweidiol
- deall pryd na ddylid defnyddio offer
Dylai staff fodelu'r ymddygiadau hyn, gan atgyfnerthu sgiliau llythrennedd digidol yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (DCF), elfen drawsgwricwlaidd o'r Cwricwlwm i Gymru.
Dylid cynnwys llywodraethwyr a staff cymorth yn yr hyfforddiant hefyd, gan eu bod yn aml yn trin cyfathrebiadau a data lle gallai camddefnyddio deallusrwydd artiffisial beri risgiau.
-
Gall deallusrwydd artiffisial fod yn bwerus, ond ni ddylid mabwysiadu offer newydd dim ond am eu bod yn bodoli. Dylai ysgolion ofyn yn rheolaidd:
"Oes angen yr offeryn hwn arnon ni nawr? neu o gwbl?"
Wrth ystyried offer newydd, ystyriwch y canlynol:
- budd addysgol
- perthnasedd diwylliannol a yw'r offeryn deallusrwydd artiffisial yn deall Cymru?
- ansawdd y cymorth Cymraeg
- effeithiau amgylcheddol
- cynhwysiant a hygyrchedd
- dewisiadau eraill a allai fod yn fwy syml
Er mwyn elwa o amddiffyniadau a rheolaethau uwch, ystyriwch a oes modd defnyddio’'r offeryn drwy blatfform Hwb. Gweler y canllawiau ar Copilot Chat, Google Gemini a NotebookLM am fwy o wybodaeth. Offer peilot ar raddfa fach yn gyntaf, gyda meini prawf llwyddiant clir. Gweithiwch gyda'r panel deallusrwydd artiffisial i werthuso effaith cyn penderfynu a yw mabwysiadu ehangach yn briodol.
-
Dylai ysgolion sicrhau bod eu dull o ymdrin â deallusrwydd artiffisial yn cyd-fynd â chanllawiau sefydledig a ddefnyddir ledled Cymru, gan gynnwys:
- Canllawiau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
- Canllawiau’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus.
- Disgwyliadau Llywodraeth Cymru ynghylch diogelu, diogelu data, cynhwysiant, a'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r fframweithiau hyn yn cefnogi atebolrwydd, tegwch, tryloywder ac arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Maent yn helpu ysgolion i asesu offer newydd, deall risgiau, a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch caffael neu ddefnyddio. Mae'r Cynllun AI i Gymru yn rhoi cyd-destun pellach ynglŷn â sut y bydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei ehangu'n gyfrifol ledled Cymru.
-
Dylid diffinio cyfrifoldebau deallusrwydd artiffisial yn glir. Er enghraifft:
- Gall y Pennaeth weithredu fel Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO).
- Gall yr arweinydd digidol fod yn Berchennog Asedau Gwybodaeth (IAO).
- Dylai staff fod yn glir ar eu cyfrifoldebau wrth ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial.
Efallai y bydd angen diweddariadau ysgafn ar ddisgrifiadau swydd i adlewyrchu goruchwyliaeth, rheoli risg a defnydd priodol o ddata. Yn bwysicaf oll, dylai pob aelod o staff ddeall rheolau syml yr ysgol ar gyfer deallusrwydd artiffisial a dangos arfer cyfrifol. Sicrhewch fod y rhai sydd eisoes yn delio â risg yn ymwybodol bod defnyddio deallusrwydd artiffisial bellach yn rhan o'u rôl (gall hyn fod yn is-bwyllgor penodol o'r Corff Llywodraethu ac aelodau o staff yr Uwch-dîm Rheoli neu staff nad ydynt yn addysgu).
-
Mae cyfathrebu clir yn helpu i feithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth ymhlith staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr. Dylai ysgolion esbonio:
- sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio a pham
- pa fesurau diogelu sydd ar waith
- beth ddylai dysgwyr ei ddisgwyl
- sut mae risgiau’n cael eu rheoli
- sut y gall teuluoedd gefnogi defnydd diogel gartref
Gallai hyn fod drwy gylchlythyrau, gwefannau ysgolion, digwyddiadau i rieni, gwasanaethau i ddisgyblion neu drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth. Mae tryloywder yn tawelu meddyliau'r gymuned ac yn cryfhau lles digidol.
-
Gall 'cyfaill beirniadol' fel arweinydd digidol awdurdod lleol, llywodraethwr, cydlynydd digidol clwstwr, neu gynghorydd allanol, helpu ysgolion i wirio ystyr cynlluniau a thynnu sylw at risgiau a allai gael eu colli fel arall.
Mae adolygiad allanol cyfnodol yn hybu gwelliant parhaus ac yn sicrhau bod ysgolion yn cadw i fyny â chanllawiau sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig mewn maes sy'n symud mor gyflym.
-
Dylai llythrennedd deallusrwydd artiffisial ddod yn rhan o ddysgu proffesiynol parhaus, yn debyg i ddiogelu neu ymwybyddiaeth GDPR. Nid oes angen i hyfforddiant fod yn dechnegol. Dylai helpu staff i:
- ddeall manteision, risgiau a chyfyngiadau
- gwerthuso cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd attiffisial
- sylwi ar gamwybodaeth
- diogelu data personol a sensitif
defnyddio offer yn hyderus ond yn ofalus
Dylai ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial, i ddysgwyr, fod yn rhan naturiol o wersi, yn union fel y mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ei wneud, gan gefnogi ymgysylltiad diogel, moesegol a chwilfrydig. -
Gall y rheolau syml, cofiadwy hyn helpu staff a dysgwyr i benderfynu pa wybodaeth y gellir ei rhoi mewn offer deallusrwydd artiffisial:
1. A yw'r wybodaeth yn gyhoeddus neu'n wybodaeth gyffredinol
Gall defnyddio offer am ddim fod yn briodol - er y dylid gwirio allbynnau, ac ni ddylid eu trosglwyddo fel gwaith eich hunan.
2. A yw'n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif
Defnyddiwch offer a llwyfannau diogel, cymeradwy yn unig. Cofiwch, ni ddylid byth rhoi data personol dysgwyr mewn offer AI.
3. Ddim yn siŵr?
Gofynnwch. Bydd y Panel Deallusrwydd Artiffisial yn gallu gofyn i'r Swyddog Diogelu Data neu'r arweinydd digidol.
Mae'r rheolau hyn yn lleihau'r risg tra'n cadw lle ar gyfer creadigrwydd, archwilio a dysgu.
Sylwadau wrth gloi
Mae deallusrwydd artiffisial yn newid yn gyflym, ac mae ysgolion yn llywio ansicrwydd yn ogystal â chyfleoedd. Trwy ddefnyddio dull meddylgar, tryloyw sydd yn seiliedig ar werthoedd addysg Cymru, gall ysgolion helpu dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r meddwl beirniadol sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd digidol.
Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Sefydlwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn 2020 fel corff hyd braich Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni'r Strategaeth Ddigidol i Gymru, gan ganolbwyntio ar Genhadaeth 1: gwasanaethau digidol.
Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cefnogi pobl, timau a sefydliadau i greu trawsnewidiad digidol cynaliadwy, a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus:
- wedi eu cynllunio o amgylch y bobl sy'n eu defnyddio
- yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus
- yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn gost-effeithiol