English

Mae Microsoft 365 Copilot Chat yn wasanaeth sgwrsio AI sydd wedi'i ddylunio i gefnogi addysgu, dysgu a gweithrediadau ysgol. Er mwyn cadw at bolisïau diogelu data a chydymffurfio, dim ond drwy eu cyfrif Hwb y mae Microsoft Copilot Chat ar gael i ymarferwyr.

I ddefnyddio Copilot Chat ar wefan Hwb, rhaid i chi fewngofnodi a chlicio ar yr ap Microsoft 365 sydd ar ddangosfwrdd Hwb. 

I ddefnyddio Copilot Chat y tu allan i wefan hwb, rhaid i chi agor copilot.microsoft.com, gwasgu’r eicon mewngofnodi sydd ar y chwith ar waelod y dudalen, a mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif Hwb.

Defnyddiwch yr eicon hwn i sicrhau eich bod Copilot Chat wedi mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif Hwb yn hytrach na chyfrif Microsoft personol.

Lleihau llwyth gwaith a phersonoli dysgu

  • Drafftio cynlluniau gwahaniaethol ar gyfer gweithgareddau dosbarth, cwisiau a chyfarwyddiadau.
  • Addasu adnoddau ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol.
  • Cefnogi cyfieithu deunyddiau i'r Gymraeg neu ieithoedd eraill.
  • Darparu cwestiynau a (neu) esboniadau gwahaniaethol yn seiliedig ar allu'r dysgwr.
  • Awgrymu syniadau am bynciau, gwasanaethau neu themâu wythnosol.
  • Creu delweddau a gynhyrchwyd gan AI.

Cefnogi dysgu proffesiynol

  • Awgrymu strategaethau ar gyfer rheoli’r ystafell ddosbarth ac addysgeg.
  • Crynhoi erthyglau a phapurau ymchwil hir.
  • Eich helpu i ddysgu sut mae defnyddio offer digidol newydd ar gyfer dysgu ac addysgu. 

Gwella gweithrediadau ysgolion

  • Drafftio negeseuon e-bost, cylchlythyrau a chyhoeddiadau.
  • Creu cynlluniau gweithredu a chrynodebau o ddata ysgolion, er enghraifft presenoldeb ac ymddygiad, er mwyn llywio ymyriadau.
  • Cynhyrchu dogfennau polisi, llawlyfrau a chofnodion cyfarfodydd sydd â fformat cyson.
  • Cyfieithu negeseuon rhieni i sawl iaith.

Mae asiantau yn gynorthwywyr pwrpasol sydd wedi'u dylunio i weithio â thasgau penodol neu feysydd arbenigedd, er enghraifft cynllunio cwricwlwm neu roi cymorth gweinyddol i ysgol. Maen nhw’n rhoi atebion yn gynt ac yn fwy cywir na’r Copilot Chat arferol, sy'n fwy cyffredinol ac agored. Mae’r asiantau i’w cael yn y ddewislen ar y chwith.

Mae Teach in Copilot Chat yn nodwedd sy'n defnyddio asiantau addysg i helpu gyda thasgau addysgu. Mae'r asiantau hyn wedi'u creu i ddeall anghenion addysgol ac i ymateb gyda chymorth sydd wedi'i deilwra. Cofiwch nad yw'r offer o fewn Teach yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru eto.

Dysgwch fwy am asiantau Microsoft.

Mae nodweddion Copilot Chat wedi'u hintegreiddio o fewn Microsoft Teams. I ddefnyddio Copilot Chat o fewn Teams, agorwch yr ap Teams a dewiswch Copilot o'r ddewislen ar y chwith. Os na allwch chi ei weld, efallai y bydd angen i chi glicio ar yr elipsis (...) cyn iddo ddod i’r golwg.

Sut all Copilot Chat yn Teams gefnogi ysgolion

  • Drafftio negeseuon, nodiadau cyfarfodydd a dogfennau cydweithredol.
  • Creu adnoddau i’w rhannu ar gyfer adrannau staff.
  • Cefnogi’r gwaith o ysgrifennu adborth ar gyfer aseiniadau dysgwyr a chreu cyfarwyddiadau.
  • Creu syniadau ar gyfer clybiau ysgol, codi arian neu fentrau dan arweiniad dysgwyr. 
  • Ar gyfer gwell diogelwch data, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio eich cyfrif Hwb trwy’r adeg yn hytrach na chyfrif Microsoft personol, gwiriwch yr eicon rheoli cyfrif yn y gornel chwith isaf. 
  • Dylid defnyddio Copilot Chat yn unol â pholisïau ehangach yr ysgol, er enghraifft llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol, diogelu a gwarchod data. Dylai ei ddefnydd adlewyrchu strategaethau AI awdurdodau lleol.
  • Dylid ystyried yr holl wybodaeth a rennir gyda Copilot Chat yn ofalus i gynnal preifatrwydd a diogelu. Mae ymarferwyr yn gyfrifol am sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol yn cael ei rhoi i Copilot Chat.
  • Mae Copilot Chat wedi'i gynllunio i gefnogi barn broffesiynol, nid ei ddisodli. Gall gynhyrchu ymatebion anghywir neu ragfarnllyd ac mae'n agored i achosion o dorri hawlfraint. Gall ymddangos ei fod yn mynegi barn neu emosiynau personol, nad ydynt yn rhai go iawn. Yn ogystal, gall gamfarnu awgrymiadau, gan fethu ag ymateb yn briodol neu gynnig atebion anaddas. Os ystyrir bod cynnwys a gynhyrchir gan Copilot Chat yn amhriodol, rhaid ei adrodd i dîm TG yr ysgol, partner cymorth technoleg addysg neu awdurdod lleol.
  • Er mwyn cynnal safonau moesegol ac i ddiogelu preifatrwydd, dylech sicrhau nad yw ffugiadau dwfn neu gynrychiolaethau a gynhyrchir gan AI o unigolion a gynhyrchir gyda Copilot Chat yn cael eu creu na'u rhannu heb ganiatâd clir, gwybodus.
  • Gall Copilot Chat gyfieithu deunyddiau i ieithoedd eraill, ond dylid ystyried hyn yn gyfieithiad symlach neu fras. Nid yw'n offeryn cyfieithu cymeradwy ac efallai na fydd yn gywir.
  • Edrychwch ar ragor o adnoddau Copilot Chat a gwyliwch y recordiad ar Copilot Chat Hwb DigiFest.

Terfynau defnydd

Gallwch lwytho un ffeil, hyd at 512 MB, o One Drive neu ddyfais ar gyfer pob awgrym. 

Mae cyfyngiadau ar y gallu i gynhyrchu delweddau ar hyn o bryd ac mae’n dibynnu ar gapasiti'r system. Yn gyffredinol, caniateir 1 delwedd y dydd. 

Cadw data

Mae hanes sgwrsio Copilot Chat yn parhau i fod yn hygyrch i ymarferydd unigol am 18 mis. Mae hyn yn caniatáu i ymarferydd ailymweld ag awgrymiadau yn hawdd. Ar ôl 18 mis caiff hanes y sgwrs ei ddileu'n awtomatig. Gall ymarferwyr ddileu eu sgyrsiau o'u hanes er mwyn cadw trefn ar eu hanes sgwrs.

Sicrwydd data

  • Dylai ysgolion ystyried a oes angen Asesiad newydd o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA), neu a ddylid diweddaru eu DPIA cyfredol. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Atodiad Diogelu Data Microsoft.
  • Mae ymarferwyr sy'n defnyddio Copilot Chat yn Hwb yn elwa o amddiffyniadau a rheolaethau gwell o'r enw Enterprise Data Protection. Mae’r un amddiffyniad yn bodoli pan ddefnyddiwch raglenni Microsoft 365 eraill trwy Hwb, er enghraifft Outlook ac OneDrive. Yn Copilot Chat, edrychwch i weld a oes tarian werdd ar ochr dde uchaf y sgrin, mae hyn yn golygu bod enterprise data protection yn gweithio. 
  • Ni fydd awgrymiadau ac ymatebion yn cael eu hadolygu gan bobl ac ni chânt eu defnyddio i hyfforddi'r modelau iaith mawr sylfaenol (LLMs).
  • Dim ond gwybodaeth a rennir mewn awgrymiadau, ffeiliau wedi'u huwchlwytho neu wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd y mae Copilot Chat yn ei defnyddio. Nid oes gan Copilot Chat fynediad at ddata sefydliadol, er enghraifft negeseuon e-bost, dogfennau sydd wedi'u storio yn Hwb neu Microsoft 365, negeseuon Teams a chronfeydd data neu gofnodion mewnol.
  • Gall Copilot Chat o fewn Microsoft Teams Hwb gael mynediad at y cynnwys a rennir yn y Tîm penodol hwnnw, ynghyd â gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd. Os yw data am ddysgwr wedi'i gynnwys mewn ffeil yn y Tîm Microsoft (sydd i'w weld i bawb), yna gall Copilot Chat yn Microsoft Teams ei weld. Nid oes ganddo fynediad at wybodaeth am gyfrifon dysgwr, er enghraifft enwau defnyddwyr, cyfrineiriau neu ddata proffil personol.
  • Mae Copilot Chat trwy Hwb yn parchu'r caniatâd a'r rheolaethau mynediad a osodir o fewn Hwb Microsoft 365.
  • Mae Copilot Chat trwy Hwb yn glynu ar yr ymrwymiadau preifatrwydd a diogelwch, gan gynnwys GDPR y DU. 

Nodweddion

Defnyddio Copilot Chat pan nad ydych wedi mewngofnodi gyda chyfrif Hwb (mynediad heb ei ddilysu)

Defnyddio Copilot Chat tra byddwch wedi mewngofnodi gyda chyfrif Hwb (mynediad wedi’i ddilysu)

Nid yw cyfarwyddiadau ac ymatebion yn cael eu defnyddio i hyfforddi'r modelau sylfaenYdyYdy
Amgryptio data wrth orffwys ac wrth drosglwyddo. Nid oes gan unigolion yn Microsoft fynediad iddo gyda’i reolaethau diogelwch corfforol llym, ac ynysu data rhwng tenantiaidYdyYdy
Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion yn cael eu storio ar gyfer senarios cydymffurfioNaYdy
Mae awgrymiadau ac ymatebion yn aros o fewn ffin gwasanaeth Microsoft 365NaYdy
Gwasanaeth prosesydd, Diogelu Data a Thelerau Cynnyrch yn berthnasolNaYdy
Cefnogaeth ar gyfer GDPR, ac ISO/IEC 27018NaYdy
Mae Copilot yn parchu eich model hunaniaethYdyYdy
Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion wedi'u cofnodi ac ar gael i'w harchwilioNaYdy
Mae cyfarwyddiadau ac ymatebion ar gael ar gyfer eDiscoveryNaYdy
Wedi’i drosglwyddo i Bing Search er mwyn nôl gwybodaeth o'r weYdyYdy
Wedi'i wahanu/ei wneud yn anhysbys oddi wrth ddata sylfaenol a data am ymholiadau’r defnyddiwrYdyYdy
Gwasanaeth rheolydd. Mae'r defnydd o Bing yn cael ei gwmpasu gan Gytundeb Gwasanaethau Microsoft rhwng pob defnyddiwr a Microsoft, ynghyd â Datganiad Preifatrwydd MicrosoftYdyYdy

Nid yw hysbysebion yn cael eu dangos

NaYdy

Am adnoddau ychwanegol am AI cynhyrchiol, gan gynnwys canllawiau, hyfforddiant a gweithgareddau dysgu, ewch i'r ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar Hwb.