English

4. Llwyfannau poblogaidd AI cynhyrchiol

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond mae'n cynrychioli rhai o'r fersiynau mwyaf defnyddiol a hygyrch o AI cynhyrchiol.

ChatGPT

Wedi'i ddatblygu gan OpenAI, mae'r offeryn hwn yn cynhyrchu testun tebyg i bobl, gan ei wneud yn addas ar gyfer pethau fel:

  • sgyrsiau
  • tasgau ysgrifennu
  • creu cynnwys

Mae ChatGPT yn gallu efelychu sgwrs naturiol gyda'i ymatebion i negeseuon annog a cheisiadau. Mae adroddiad Online Nation 2023 Ofcom (Saesneg yn unig) yn dangos bod yr elfen hon yn apelio at blant a phobl ifanc: dywed 48% o'r rhai sy'n defnyddio AI cynhyrchiol mai eu hoff weithgaredd yw sgwrsio gyda'r cyfrwng. Fodd bynnag, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddrafftio traethodau, cynhyrchu syniadau a golygu cynnwys i fod yn fwy eglur a chyson. Hefyd, gall defnyddwyr hefyd fuddsoddi amser yn 'hyfforddi' ChatGPT fel bod yr ymatebion yn swnio'n debycach i'r defnyddiwr. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi'n anoddach gwahaniaethu rhwng AI a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.

DALL-E

Model arall o stabl OpenAI yw DALL-E. Yn wahanol i ChatGPT, mae'n rhaid talu am gyfrif i gael mynediad at ddelweddau a chynhyrchu delweddau. Mae DALL-E yn rhagori ar droi testun disgrifiadol yn ddelweddau manwl. Er bod gan DALL-E lawer o ddefnyddiau, fe'i defnyddir yn aml ar gyfer celf ddigidol, neu dim ond fel tipyn bach o hwyl ac mae'n caniatáu i ddefnyddwyr ddod â'u dychymyg yn fyw mewn fformat weledol. Mae DALL-E yn cefnogi ystod o arddulliau artistig sy'n caniatáu i ddefnyddwyr arbrofi gyda syniadau gweledol a fyddai fel arall yn anodd eu creu.

Microsoft Copilot

Wedi'i integreiddio i Microsoft Office, mae'n defnyddio AI i helpu defnyddwyr mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys:

  • drafftio negeseuon e-bost
  • cynhyrchu adroddiadau
  • creu cyflwyniadau

Yn ei ffurf bresennol, mae Copilot yn dweud ei fod y tu ôl i ChatGPT fel sgwrsfot sgwrsio pur. Fodd bynnag, mae ei integreiddio i beiriant chwilio Microsoft Edge yn golygu ei fod ar gael yn ehangach gan ei fod ar agor pryd bynnag mae'r porwr ar agor. Mae hyn yn golygu ei fod wedi'i gysylltu â defnyddwyr ac yn darparu awgrymiadau amser real i ddefnyddwyr. Gwahaniaeth allweddol rhwng ChatGPT a Copilot yw bod ymatebion gan Copilot yn dod â chyfeiriadau cyswllt gwe sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wirio unrhyw wybodaeth maen nhw'n ei chael.

Hefyd, mae Copilot yn cynnwys cynhyrchydd delweddau wedi'i bweru gan DALL-E ac sy'n arbenigo mewn defnyddio testun disgrifiadol i greu delwedd artistig. Er ei fod wedi'i bweru gan DALL-E, mae wedi’i gyfyngu i greu delweddau o fewnbynnau testun ac nid yw'n rhoi mynediad i'r ystod lawn o offer a nodweddion. Mae defnyddwyr yn gallu defnyddio’r elfen cynhyrchu delweddau, neu 'boosts', am ddim hyn a hyn o weithiau, sy'n ei wneud yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc. Rhaid i ddefnyddwyr aros tan ddechrau pob mis i’w troeon neu 'boosts' ailgychwyn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wasanaeth i dalu am 'boost'. Efallai y bydd defnyddwyr yn gallu ennill mwy trwy:

  • hyrwyddiadau
  • ymwneud â'r platfform (er enghraifft, cwblhau arolygon neu roi adborth)
  • atgyfeiriadau

Google Gemini

Mae system AI ddiweddaraf Google wedi'i dylunio i gynhyrchu testun, gan helpu gyda gwaith ysgrifennu creadigol, crynhoi, a golygu cynnwys. Fel ChatGPT a Copilot, mae Google Gemini yn cynhyrchu ymatebion testun i awgrymiadau defnyddwyr. Gall hefyd ddadansoddi data o bob math o ffynonellau fel cod, sain, delweddau a thestun. Fel Microsoft Copilot, mae Gemini yn darparu dolenni i'w ffynonellau fel y gall defnyddwyr wirio dilysrwydd ymateb eu hunain.

My AI (Snapchat)

Wedi'i integreiddio i Snapchat, mae'r offeryn AI sgwrsio hwn yn rhyngweithio â defnyddwyr mewn modd hamddenol, cyfeillgar. Fe'i defnyddir yn aml i gael gwybodaeth yn gyflym neu ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Mae rhaglen My AI, gan Snapchat, yn cael ei phweru gan ddefnyddio GPT 3.5 a 4 OpenAI felly mae’n debyg mewn sawl ffordd i ChatGPT. Fodd bynnag, mae wedi'i haddasu fel ei bod wedi'i theilwra i Snapchat a'i ddefnyddwyr. Mae rhaglen My AI yn darparu ymatebion cyflym, o natur sgyrsiol, i ymholiadau defnyddwyr, gan ei gwneud yn offeryn hwyliog a deniadol ar gyfer rhyngweithio bob dydd. Gall ateb cwestiynau, darparu argymhellion neu dynnu coes. Hefyd, mae My AI yn helpu defnyddwyr i gynhyrchu cynnwys wedi'i bersonoli, fel negeseuon wedi'u teilwra neu gapsiynau creadigol ar gyfer eu snaps.