AI cynhyrchiol: canllaw i rieni a gofalwyr
Canllaw i rieni a gofalwyr ynghylch AI cynhyrchiol.
- Rhan o
Trosolwg
Cangen o ddeallusrwydd artiffisial sy’n gallu creu cynnwys, megis testun, delweddau, a hyd yn oed cerddoriaeth, yn seiliedig ar ysgogiadau yw AI cynhyrchiol (gen AI). Mae awgrymiadau yn cael eu hysgrifennu a'u cofnodi mewn ffordd debyg i ddefnyddio peiriant chwilio fel Google. Mae rhai adnoddau AI cynhyrchiol, fel ChatGPT, wedi cael sylw yn y newyddion oherwydd mae'n debyg bod dysgwyr wedi eu defnyddio i ysgrifennu eu traethodau. Mae ffurfiau eraill o AI cynhyrchiol, fel My AI ar Snapchat, wedi'u dylunio i fod yn debycach i ffrind AI y gallai defnyddiwr anfon neges ato i gael ffeithiau cyflym am bwnc penodol.
Mae twf cyflym technoleg AI yn golygu ei bod yn cael ei hintegreiddio mewn porwyr gwe ac yn cael ei chysylltu ag offer chwilio sy’n cael eu hysgogi gan lais. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i ddefnyddiwr fynd i wefan neu ap penodol i gael mynediad i offeryn AI cynhyrchiol. Maen nhw bellach wedi'u hintegreiddio mewn llawer o’r gwasanaethau poblogaidd sy'n cael eu defnyddio gan bobl bob dydd, ym mhedwar ban byd. Er enghraifft:
- mae chwiliadau Google bellach yn rhoi ymatebion 'Gemini' (offeryn AI Google) ar frig y rhestr cyn unrhyw ddeunydd sydd wedi'i noddi neu ei ddilysu
- mae porwr Microsoft Edge yn cynnwys Microsoft Copilot
- gellir cysylltu offer AI â chynorthwywyr rhithwir fel Siri, Google Assistant neu Alexa, sy'n golygu bod modd dechrau mynediad at dechnoleg AI gan ddefnyddio gorchmynion llais syml
Sgôr oedran swyddogol
Yn gyffredinol, mae offer AI cynhyrchiol yn hygyrch i ystod oedran eang, heb unrhyw gyfyngiadau oedran llym. Mae llawer o offer AI cynhyrchiol bellach wedi'u hintegreiddio mewn porwyr gwe ac yn ymateb yn awtomatig neu'n hygyrch ar ddyfeisiau symudol gyda chyfyngiad oedran cyfyngedig ar waith yn ddiofyn.
Mae ChatGPT a llwyfannau OpenAI eraill yn gofyn i ddefnyddwyr greu cyfrif i gadarnhau eu bod nhw'n 13 oed a throsodd cyn cael mynediad. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod ganddyn nhw unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.
Yn y cyfamser, efallai y bydd gan lwyfannau sydd wedi integreiddio'r offer hyn yn eu platfform eu canllawiau oedran eu hunain. Er enghraifft, mae My AI wedi'i integreiddio yn Snapchat, sydd ag isafswm oedran o 13 oed.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein canllaw 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Mae'r defnydd o AI cynhyrchiol yn cynyddu, ac mae ei apêl yn amlwg. Mae ffigurau o Arolwg Llythrennedd Blynyddol 2023 i 2024 y National Literacy Trust (Saesneg yn unig) yn dangos:
- bod canran y plant rhwng 13 ac 18 oed sydd wedi defnyddio AI wedi mwy na dyblu, o 37% yn 2023 i 77% yn 2024
- mae'r rhesymau dros ddefnyddio AI yn amrywiol ac yn adlewyrchu llawer o agweddau bywyd pobl ifanc yn eu harddegau
- mae adloniant, chwilfrydedd, gwaith cartref a cheisio ysbrydoliaeth yn rhesymau cyffredin pam mae plant yn defnyddio AI cynhyrchiol
Cymorth gyda gwaith ysgol
Mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio offer fel ChatGPT a Google Gemini i helpu gyda gwaith cartref, ymchwil ac astudio. Gellir defnyddio AI cynhyrchiol hefyd i gynhyrchu crynodebau o bynciau cymhleth, darparu esboniadau a hyd yn oed awgrymu syniadau ar gyfer traethodau neu brosiectau. Mae'n hawdd copïo a gludo darn cymhleth o destun a gofyn i'r AI symleiddio'r testun neu egluro tasg mewn ffordd fwy dealladwy.
Prosiectau creadigol
Ar gyfer pobl ifanc greadigol, mae offer AI cynhyrchiol fel DALL-E a Microsoft Copilot (Image) yn ddefnyddiol i greu syniadau unigryw ar gyfer gwaith celf neu waith dylunio. Gellir defnyddio'r rhain mewn prosiectau ysgol, ar gyfer hobïau, neu hyd yn oed i greu cynnwys ar-lein. Mae offer AI yn gallu dod â chysyniadau dychmygus yn fyw, ac felly'n ddefnyddiol hyd yn oed i’r rhai sydd heb lawer o sgiliau artistig.
Cynnwys cyfryngau cymdeithasol
Mae modd defnyddio offer AI cynhyrchiol fel My AI ar Snapchat:
- i gynhyrchu ymatebion cyflym
- i lunio negeseuon unigryw
- i greu delweddau y gellir eu rhannu â ffrindiau ar lwyfannau cymdeithasol
Mae'r offer hyn yn caniatáu i bobl ifanc gynnal presenoldeb cyson ar gyfryngau cymdeithasol. Maen nhw'n gwneud hyn trwy greu cynnwys sy'n greadigol, yn ffraeth neu'n ddeniadol yn weledol, a hynny heb fawr o ymdrech.
Nid yw offer AI cynhyrchiol eu hunain yn darparu cyfleoedd rhwydweithio cymdeithasol nac yn fodd i anfon neges ar y platfform. Yn hytrach, gallan nhw chwarae rhan sylweddol wrth wella rhyngweithio cymdeithasol ymhlith defnyddwyr ifanc.
Terminoleg allweddol
Neges annog
Mae hyn yn cyfeirio at fewnbwn neu gwestiwn y defnyddiwr sy'n llywio'r AI wrth gynhyrchu cynnwys. Gall negeseuon annog fod mor syml ag un gair neu mor gymhleth â senario manwl.
Model
Mae hyn yn cyfeirio at system sylfaenol yr offeryn AI, wedi'i hyfforddi ar setiau data mawr i ddeall iaith, delweddau a mathau eraill o ddata. Mae modelau fel GPT (a ddefnyddir gan ChatGPT) yn enghreifftiau o fodelau iaith mawr sy'n cynhyrchu testun yn seiliedig ar batrymau yn y data y cawsant eu hyfforddi arnyn nhw.
Model iaith mawr
Mae 'model iaith mawr' ('LLM') yn algorithm sydd wedi'i hyfforddi ar symiau mawr o ddata. Mae LLM yn ysgrifennu brawddegau yn seiliedig ar ragfynegi pa eiriau fyddai'n mynd gyda'i gilydd fel arfer wrth gyfleu syniad.
Rhwydwaith niwral
Mae hyn yn cyfeirio at fath o fodel dysgu peiriant sy'n dynwared yr ymennydd dynol, a ddefnyddir i gynhyrchu cynnwys trwy adnabod patrymau mewn data. Mae rhwydweithiau niwral yn hanfodol i redeg AI cynhyrchiol.
Data hyfforddi
Mae hyn yn cyfeirio at ddata a ddefnyddir i hyfforddi modelau AI, gan gynnwys testun, delweddau a mathau eraill o gynnwys digidol. Mae ansawdd ac ystod y data hyfforddi yn effeithio'n arw ar allu'r offeryn AI i gynhyrchu cynnwys cywir a pherthnasol.
GPT
Talfyriad o ‘generative pre-trained transformer’ yw 'GPT' ac mae'n cyfeirio at allu'r offeryn i ffurfio ymateb neu ateb i ddefnyddiwr. Gellir meddwl amdano fel 'ymennydd' offeryn AI.
Llwyfannau poblogaidd AI cynhyrchiol
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond mae'n cynrychioli rhai o'r fersiynau mwyaf defnyddiol a hygyrch o AI cynhyrchiol.
ChatGPT
Wedi'i ddatblygu gan OpenAI, mae'r offeryn hwn yn cynhyrchu testun tebyg i bobl, gan ei wneud yn addas ar gyfer pethau fel:
- sgyrsiau
- tasgau ysgrifennu
- creu cynnwys
Mae ChatGPT yn gallu efelychu sgwrs naturiol gyda'i ymatebion i negeseuon annog a cheisiadau. Mae adroddiad Online Nation 2023 Ofcom (Saesneg yn unig) yn dangos bod yr elfen hon yn apelio at blant a phobl ifanc: dywed 48% o'r rhai sy'n defnyddio AI cynhyrchiol mai eu hoff weithgaredd yw sgwrsio gyda'r cyfrwng. Fodd bynnag, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddrafftio traethodau, cynhyrchu syniadau a golygu cynnwys i fod yn fwy eglur a chyson. Hefyd, gall defnyddwyr hefyd fuddsoddi amser yn 'hyfforddi' ChatGPT fel bod yr ymatebion yn swnio'n debycach i'r defnyddiwr. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi'n anoddach gwahaniaethu rhwng AI a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
DALL-E
Model arall o stabl OpenAI yw DALL-E. Yn wahanol i ChatGPT, mae'n rhaid talu am gyfrif i gael mynediad at ddelweddau a chynhyrchu delweddau. Mae DALL-E yn rhagori ar droi testun disgrifiadol yn ddelweddau manwl. Er bod gan DALL-E lawer o ddefnyddiau, fe'i defnyddir yn aml ar gyfer celf ddigidol, neu dim ond fel tipyn bach o hwyl ac mae'n caniatáu i ddefnyddwyr ddod â'u dychymyg yn fyw mewn fformat weledol. Mae DALL-E yn cefnogi ystod o arddulliau artistig sy'n caniatáu i ddefnyddwyr arbrofi gyda syniadau gweledol a fyddai fel arall yn anodd eu creu.
Microsoft Copilot
Wedi'i integreiddio i Microsoft Office, mae'n defnyddio AI i helpu defnyddwyr mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys:
- drafftio negeseuon e-bost
- cynhyrchu adroddiadau
- creu cyflwyniadau
Yn ei ffurf bresennol, mae Copilot yn dweud ei fod y tu ôl i ChatGPT fel sgwrsfot sgwrsio pur. Fodd bynnag, mae ei integreiddio i beiriant chwilio Microsoft Edge yn golygu ei fod ar gael yn ehangach gan ei fod ar agor pryd bynnag mae'r porwr ar agor. Mae hyn yn golygu ei fod wedi'i gysylltu â defnyddwyr ac yn darparu awgrymiadau amser real i ddefnyddwyr. Gwahaniaeth allweddol rhwng ChatGPT a Copilot yw bod ymatebion gan Copilot yn dod â chyfeiriadau cyswllt gwe sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wirio unrhyw wybodaeth maen nhw'n ei chael.
Hefyd, mae Copilot yn cynnwys cynhyrchydd delweddau wedi'i bweru gan DALL-E ac sy'n arbenigo mewn defnyddio testun disgrifiadol i greu delwedd artistig. Er ei fod wedi'i bweru gan DALL-E, mae wedi’i gyfyngu i greu delweddau o fewnbynnau testun ac nid yw'n rhoi mynediad i'r ystod lawn o offer a nodweddion. Mae defnyddwyr yn gallu defnyddio’r elfen cynhyrchu delweddau, neu 'boosts', am ddim hyn a hyn o weithiau, sy'n ei wneud yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc. Rhaid i ddefnyddwyr aros tan ddechrau pob mis i’w troeon neu 'boosts' ailgychwyn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wasanaeth i dalu am 'boost'. Efallai y bydd defnyddwyr yn gallu ennill mwy trwy:
- hyrwyddiadau
- ymwneud â'r platfform (er enghraifft, cwblhau arolygon neu roi adborth)
- atgyfeiriadau
Google Gemini
Mae system AI ddiweddaraf Google wedi'i dylunio i gynhyrchu testun, gan helpu gyda gwaith ysgrifennu creadigol, crynhoi, a golygu cynnwys. Fel ChatGPT a Copilot, mae Google Gemini yn cynhyrchu ymatebion testun i awgrymiadau defnyddwyr. Gall hefyd ddadansoddi data o bob math o ffynonellau fel cod, sain, delweddau a thestun. Fel Microsoft Copilot, mae Gemini yn darparu dolenni i'w ffynonellau fel y gall defnyddwyr wirio dilysrwydd ymateb eu hunain.
My AI (Snapchat)
Wedi'i integreiddio i Snapchat, mae'r offeryn AI sgwrsio hwn yn rhyngweithio â defnyddwyr mewn modd hamddenol, cyfeillgar. Fe'i defnyddir yn aml i gael gwybodaeth yn gyflym neu ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Mae rhaglen My AI, gan Snapchat, yn cael ei phweru gan ddefnyddio GPT 3.5 a 4 OpenAI felly mae’n debyg mewn sawl ffordd i ChatGPT. Fodd bynnag, mae wedi'i haddasu fel ei bod wedi'i theilwra i Snapchat a'i ddefnyddwyr. Mae rhaglen My AI yn darparu ymatebion cyflym, o natur sgyrsiol, i ymholiadau defnyddwyr, gan ei gwneud yn offeryn hwyliog a deniadol ar gyfer rhyngweithio bob dydd. Gall ateb cwestiynau, darparu argymhellion neu dynnu coes. Hefyd, mae My AI yn helpu defnyddwyr i gynhyrchu cynnwys wedi'i bersonoli, fel negeseuon wedi'u teilwra neu gapsiynau creadigol ar gyfer eu snaps.
Risgiau posibl
Cynnwys
Un o brif risgiau AI cynhyrchiol yw'r potensial ar gyfer cynnwys anghywir neu gamarweiniol. Mae'n bwysig sicrhau bod pobl ifanc yn deall nad yw allbynnau AI cynhyrchiol yn sicrhau cywirdeb ffeithiol. Dylen nhw wirio'r wybodaeth a ddarperir yn erbyn ffynonellau eraill bob amser. Bydd rhai offer AI cynhyrchiol, fel Copilot, hefyd yn darparu dolenni i'r gwefannau sy'n cynnwys yr wybodaeth wreiddiol, fel bod defnyddwyr yn gallu gwirio'r cynnwys, ond nid yw hyn yn safonol ar draws pob platfform. Mae arolwg y National Literacy Trust (Saesneg yn unig) yn dangos mai dim ond 1 o bob 5 o bobl ifanc yn eu harddegau sy'n gwirio'r wybodaeth maen nhw'n ei chael gan offeryn AI. Fel arfer, rydym yn argymell bod pobl ifanc yn gwirio'r wybodaeth a gynhyrchir gan offer AI gan ddefnyddio 2 ffynhonnell arall i wirio bod yr wybodaeth yn gywir. Mae hwn yn sgìl bywyd gwych i bobl ifanc ei feithrin, gan fod meddwl beirniadol ac adolygu ffynonellau nid yn unig yn rhan bwysig o ddefnyddio AI cynhyrchiol, ond hefyd yn sgìl defnyddiol i'w ddatblygu a fydd yn gwella llythrennedd digidol yn ogystal ag agweddau eraill ar waith ysgol.
Er bod yr offer hyn yn gallu cynhyrchu testun a delweddau sicr neu argyhoeddiadol, nid ydyn nhw’n deall pa mor wir yw'r wybodaeth maen nhw'n ei chynhyrchu. Mae AI wedi'i hyfforddi ar ddata, sy'n golygu y bydd unrhyw ddata anghywir neu unochrog yn cael ei adlewyrchu yn ymateb offeryn AI. Gall hyn arwain at offeryn AI yn cynhyrchu gwybodaeth ffug neu unochrog. Gall beri pryder arbennig pan fydd rhywun yn defnyddio cynnwys AI at ddibenion academaidd, oherwydd gallai myfyrwyr fod yn dibynnu ar wybodaeth anghywir, yn ddiarwybod iddyn nhw. Mae'n bwysig cofio taw cyfrifiaduron ac nid bodau dynol yw offer AI cynhyrchiol ac nad ydyn nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen.
Mae risg y gallai plant a phobl ifanc ddod ar draws cynnwys anaddas wrth ddefnyddio offer AI cynhyrchiol. Er bod gan lawer o lwyfannau AI ganllawiau cymunedol neu hidlwyr eisoes ar eiriau a themâu penodol, sy'n ei gwneud hi'n llai tebygol i ddefnyddwyr ddod ar draws cynnwys amhriodol, ni ddylid dibynnu'n llwyr arnyn nhw. Gall offer AI, yn ddiarwybod, ddangos cynnwys i ddefnyddwyr sy’n anaddas i'w hoedran neu lefel aeddfedrwydd.
Mae'n bwysig cofio mai dim ond ymateb i neges annog mae AI, ac felly ni fydd yn creu cynnwys anaddas oni bai ei fod yn cael cais i wneud hynny. Mae negeseuon annog diniwed weithiau'n gallu arwain at gynhyrchu cynnwys annisgwyl neu amhriodol. Gall hyn ddigwydd oherwydd y ffordd mae’r offeryn AI yn dehongli'r neges annog neu ddylanwad data unochrog yn ei set hyfforddi. Cofiwch atgoffa'ch plentyn i siarad â chi os yw'n dod ar draws unrhyw gynnwys sy'n peri gofid neu ddryswch wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol. Mae hefyd yn werth cofio bod rhai defnyddwyr yn chwilio am ffyrdd o drechu neu ragori ar AI a byddan nhw’n rhannu'r awgrymiadau hyn ar lwyfannau eraill. Dylai rhieni a gofalwyr gadw llygad ar ddefnydd eu plentyn o'r cyfrwng o bryd i'w gilydd, er mwyn helpu i liniaru'r risgiau hyn.
Mae risg y gallai dysgwyr ddefnyddio cynnwys a gynhyrchwyd gan AI fel eu gwaith eu hunain, heb briodoli'n briodol. Gall hyn arwain at anonestrwydd academaidd a thanseilio'r broses ddysgu. Mae'n bwysig trafod gyda phlant bwysigrwydd gwaith gwreiddiol a chyfeiriadau priodol wrth ddefnyddio offer AI.
Cysylltu ag eraill
Gall offer AI cynhyrchiol achosi risgiau penodol i berthnasoedd, er nad yw'n aml yn bosibl cysylltu ag eraill trwy offer AI. Fodd bynnag, gall plant ddefnyddio offer AI i drafod eu perthnasoedd go iawn â phobl eraill. Dylai plant osgoi rhannu manylion personol gydag offer AI, gan fod y data hwn yn cael ei gasglu a'i storio fel arfer. Ar y cyfan, does gan offer AI ddim y cynildeb a’r cyd-destun sydd gan bobl mewn perthynas ac ni ddylen nhw ddisodli bodau dynol wrth gael cyngor ar berthynas.
Hefyd, mae perygl y gallai cynnwys a gynhyrchir gan AI arwain at fwy o bwysau cymdeithasol. Mae'n hawdd rhannu cynnwys wedi'i greu gan AI ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, TikTok a Snapchat. Gallai plant ddefnyddio memes, gwaith celf neu hyd yn oed negeseuon ffraeth a gynhyrchir gan AI i ennill poblogrwydd ('likes'), dilynwyr neu i ddiddanu eu ffrindiau. Mae defnyddio AI ar gyfer dilysu cymdeithasol yn gallu achosi i blant deimlo eu bod yn gorfod cynhyrchu cynnwys mwy creadigol neu gaboledig i ddal lan â chyfoedion. Yn ei dro, gall plant ddod yn orbryderus neu brofi ymdeimlad negyddol o hunan-werth ar sail sut mae eraill yn derbyn eu creadigaethau sydd wedi'u hategu gan AI.
Ymddygiad defnyddwyr
Wrth i offer AI ddod yn rhan fwyfwy cyffredin o fywyd bob dydd, mae risg y gallai plant ddibynnu gormod arnyn nhw ar gyfer tasgau a fyddai fel arfer yn gofyn am feddwl beirniadol neu greadigrwydd, fel darn o waith cartref neu brosiect creadigol arall. Gallai gorddibynnu ar AI rwystro'r plentyn rhag datblygu sgiliau datrys problemau hanfodol, ymchwil annibynnol a meddwl gwreiddiol. Er y dylid annog pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau wrth ddefnyddio offer AI cynhyrchiol, dylen nhw feithrin dull cytbwys o ddefnyddio AI, trwy ei ddefnyddio i ategu ymdrech ddynol yn hytrach na'i disodli.
Hefyd, mae perygl y byddai'n well gan rai plant ryngweithio ag AI yn hytrach na’u cyfoedion dynol. Mae AI yn aml wedi'i gynllunio i ymateb yn gadarnhaol i unrhyw gais, ac mae’n bosibl y bydd plant yn cael mwy o foddhad o hyn ac yn ei gael yn haws ei reoli. Hefyd, bydd llawer o offer AI yn ymateb yn fwriadol mewn modd personol ac ymatebol. Oherwydd hyn, gall defnyddwyr ffurfio cwlwm sy'n debyg i berthynas mewn bywyd go iawn. Gall hyn ddod yn arbennig o broblemus os bydd ymddygiad yr offeryn AI yn newid yn annisgwyl neu'n dod yn or-feddiannol, gan achosi trallod emosiynol i'r defnyddiwr. Mae'n bwysig atgoffa pobl ifanc na all AI wir efelychu emosiynau neu berthnasoedd dynol. Ni ddylai'r offer hyn ddisodli cysylltiadau cymdeithasol yn y byd go iawn.
Dylai rhieni a gofalwyr annog plant i feithrin perthynas â'u cyfoedion er mwyn helpu i wrthweithio'r duedd hon. Atgoffwch eich plentyn mai cyfrifiaduron, nid bodau dynol, yw offer AI, ac na allan nhw efelychu perthnasoedd empathig wedi'u ffurfio a'u meithrin â phobl eraill.
Dylunio, data a chostau
Mae defnyddio offer AI cynhyrchiol yn aml yn golygu rhannu data personol, p'un ai trwy orchmynion llais, negeseuon annog wedi'u teipio neu wasanaethau integredig. Mae llawer o systemau AI yn casglu data ar ryngweithio defnyddwyr i wella eu gwasanaethau. Gallai'r data hwn gynnwys gwybodaeth bersonol, megis hanes chwilio, lleoliad a hyd yn oed recordiadau llais. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o bolisïau preifatrwydd yr offer AI mae eu plant yn eu defnyddio ac ystyried goblygiadau casglu data.
Gallai dyluniad sylfaenol yr offer AI gynnwys elfen o risg hefyd. Mae cynnwys a grëir gan AI cynhyrchiol yn aml yn cael ei storio gan y platfform a'i adolygu gan bobl i wella ymatebion. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn deall hyn fel eu bod yn gwybod y gall person go iawn weld unrhyw wybodaeth, fel enwau a lleoliadau.
Er bod llawer o blatfformau AI ar gael yn rhad ac am ddim, efallai y byddan nhw’n aml yn cynnwys math o wasanaethau sydd angen talu amdanyn nhw, fel fersiwn 'premiwm' neu 'pro'. Efallai y bydd y llwyfannau hyn yn dewis cuddio rhai nodweddion y tu ôl i wal dalu neu gynnig opsiynau 'boost' y gellir eu prynu i gyflymu cynhyrchiant neu gynyddu realaeth a lefelau manylder. Gall llwyfannau eraill gyfyngu ar faint o amser y gall defnyddiwr ryngweithio mewn cyfnod penodol o amser, fel arfer trwy gyfyngu'r defnyddiwr i gyfnod amser 24 awr neu gyfnod prawf o fis am ddim. Mae angen talu i danysgrifio i rai offer AI, fel llwyfannau cynhyrchu delweddau mwy pwerus. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae tanysgrifiadau'n gweithio a'u hatgoffa bod hon yn strategaeth fusnes i gwmnïau fel OpenAI wneud arian, yn hytrach na chynnig rhywbeth sydd o fudd enfawr i ddefnyddwyr.
Awgrymiadau ar gyfer cadw'ch plentyn yn ddiogel
Monitro defnydd o AI
Er mwyn sicrhau profiad diogel a buddiol gydag AI cynhyrchiol, dylai rhieni a gofalwyr gadw llygad ar sut mae eu plant yn defnyddio'r offer hyn. Gosodwch reolau ynghylch pryd a sut maen nhw’n cael defnyddio offer AI. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cyfyngu'r defnydd o AI i dasgau penodol, fel gwaith cartref, a chyfyngu mynediad yn ystod amser cyfryngau cymdeithasol neu adloniant.
Mae'n bwysig sgwrsio â'ch plentyn am ei ddefnydd o AI. Gofynnwch iddo ddangos beth mae wedi'i greu neu ei ddysgu a thrafod unrhyw bryderon neu gwestiynau sy'n codi. Gall hyn eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ei weithgareddau a’i roi ar ben ffordd i ddefnyddio AI yn gyfrifol. Yn ogystal, gallech dreulio amser yn defnyddio AI gyda'ch plentyn i greu cynnwys gyda'ch gilydd.
Addysgu am y risgiau
Helpwch eich plentyn i ddeall risgiau posibl AI cynhyrchiol a sut i'w trin yn ddiogel. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn deall nad yw'r cynnwys sy'n cael ei gynhyrchu gan AI bob amser yn gywir a dylid ei wirio cyn ei ddefnyddio. Anogwch eich plentyn i groeswirio gwybodaeth a meddwl yn feirniadol am y cynnwys mae’n ei gynhyrchu neu'n dod ar ei draws.
Hefyd, mae'n bwysig trafod diogelu gwybodaeth bersonol a bod yn ofalus wrth rannu manylion gydag offer AI. Esboniwch sut mae'n gallu casglu a defnyddio data, a pham mae'n hanfodol cadw manylion y cyfrif yn ddiogel.
Adrodd a blocio
Mae gwybod sut i adrodd am a blocio cynnwys neu ryngweithio amhriodol yn allweddol i gynnal amgylchedd diogel. Gofalwch eich bod chi a'ch plentyn yn gyfarwydd â'r dulliau adrodd sydd ar gael o fewn offer AI. Anogwch eich plentyn i roi gwybod am unrhyw gynnwys sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus, naill ai i chi, oedolyn arall y mae’n ymddiried ynddo neu i'r platfform ei hun.
Er bod gan offer AI eu mesurau diogelu eu hunain, gallech hefyd ddefnyddio rheolaethau rhieni i rwystro mynediad i offer AI nad yw'n addas ar gyfer oedran neu lefel aeddfedrwydd eich plentyn.
Annog defnydd cyfrifol
Ewch ati i hybu arferion iach a defnydd cyfrifol o AI trwy roi cyfarwyddyd i’ch plentyn ar sut i ryngweithio â'r offer hyn yn effeithiol. Anogwch eich plentyn i ddefnyddio AI i ategu ei ddysgu, nid i’w ddisodli. Er enghraifft, gallai ddefnyddio AI i gynhyrchu syniadau ond dylai barhau i fynd ati i ymchwilio, dadansoddi a chreu cynnwys gwreiddiol.
Hefyd, gallwch ddysgu'ch plentyn i ryngweithio ag AI mewn ffordd barchus ac osgoi negeseuon annog a allai arwain at gynhyrchu cynnwys amhriodol neu niweidiol. Pwysleisiwch mai offeryn i'w ddefnyddio'n feddylgar yw AI, nid ffynhonnell adloniant a allai arwain at ganlyniadau negyddol.
Cyflwyno rheolaethau rhieni
Lle bo'n bosibl, defnyddiwch y nodweddion rheolaethau rhieni sydd ar gael o fewn offer AI neu lwyfannau cysylltiedig. Cofiwch ddefnyddio hidlwyr neu ddulliau diogel sy'n cyfyngu ar y mathau o gynnwys y gall yr AI ei gynhyrchu. Gall hyn helpu i atal cysylltiad â deunydd amhriodol a sicrhau bod allbynnau'r AI yn cyd-fynd â lefel oedran ac aeddfedrwydd eich plentyn.
Dileu a dadactifadu cyfrif
Mae gwybod sut i reoli neu ddileu cyfrifon sy'n gysylltiedig ag offer AI cynhyrchiol yn bwysig er mwyn cadw rheolaeth ar ôl troed digidol eich plentyn. Bydd gan bob platfform ei ddulliau ei hun ar gyfer dileu neu ddadactifadu cyfrif. Rydym ni wedi rhestru rhai canllawiau isod, ond lle da i gychwyn arni gyda llwyfannau eraill yw chwilio am 'delete or deactivate my account' ar y platfform dan sylw.
ChatGPT
Mae dileu neu ddadactifadu cyfrif yn golygu llywio trwy osodiadau rheoli cyfrif OpenAI, lle gallwch ofyn am ddileu data neu ddadactifadu'r cyfrif yn llwyr.
Microsoft Copilot
Yn gysylltiedig â chyfrif Microsoft fel arfer. Mae dadactifadu yn golygu cael gwared ar y tanysgrifiad cysylltiedig neu addasu'r gosodiadau o fewn dangosfwrdd eich cyfrif Microsoft.
Google Gemini
Caiff ei reoli trwy osodiadau cyfrif Google, lle gallwch ddileu'r data sy'n gysylltiedig ag AI neu ddadactifadu'r defnydd o nodweddion AI.
My AI (Snapchat)
Mae'n bosib analluogi My AI yn Snapchat trwy addasu gosodiadau sgwrsio neu ei ddileu fel cyswllt. Byddai dileu cyfrif yn llawn yn golygu rheoli'r cyfrif Snapchat yn ei gyfanrwydd.
DALL-E a Microsoft Copilot (Image)
Mae'r offer hyn yn aml yn rhan o lwyfannau ehangach (fel OpenAI neu Microsoft). Mae dileu eich cyfrif neu ddata yn golygu mynd i osodiadau'r cyfrif o fewn y llwyfannau hyn a dilyn y camau ar gyfer rheoli data.
Cymorth llythrennedd AI
Mae AI yn dechnoleg sy'n tyfu ac yn datblygu ar gyflymder mor anhygoel fel bod yna lawer o bobl sydd heb unrhyw wybodaeth bersonol amdani, sy’n ei gwneud yn anoddach addysgu plant ar sut i'w defnyddio'n ddiogel. Mae Hwb wedi paratoi cyflwyniad i AI i rieni a gofalwyr ar ddefnyddio AI a gweithgareddau y gallwch eu gwneud gyda'ch plant.
Am gymorth pellach gyda ChatGPT, darllenwch ein canllawiau penodol yn Hwb.
Mae gennym gasgliad o ganllawiau ac adnoddau AI hefyd.
Awgrymiadau ychwanegol
Cofiwch gael sgyrsiau agored gyda'ch plentyn am sut mae'n defnyddio offer AI. Pwysleisiwch bwysigrwydd defnyddio AI yn gyfrifol ac yn foesegol, yn enwedig mewn gwaith academaidd. Anogwch eich plentyn i ystyried AI fel offeryn sy'n cynorthwyo ei broses greadigol a dysgu, yn hytrach nag fel llwybr byr i gwblhau tasgau.
Hefyd, dylech sicrhau bod eich plentyn yn deall cryfderau a chyfyngiadau AI, yn enwedig y ffaith mai offeryn i’w helpu ydyw yn hytrach na rhywbeth i gymryd lle ei alluoedd ei hun. Trafodwch oblygiadau moesegol defnyddio AI, fel pwysigrwydd peidio â defnyddio cynnwys wedi'i gynhyrchu gan AI i gamarwain eraill neu gymryd clod am waith os nad ei waith ef ydyw.
Dylech ymdrechu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg AI a'i effeithiau posibl ar blant. Mae hyn yn cynnwys deall nodweddion newydd, risgiau posibl ac arferion gorau ar gyfer defnydd diogel. Hefyd, beth am gysylltu â rhieni a gofalwyr eraill, neu addysgwyr, er mwyn helpu i nodi problemau posibl yn gynnar a darparu atebion ar y cyd ynghylch defnydd diogel o AI i blant.