English

Mae nifer o rieni a gofalwyr yn hoffi rhannu gwybodaeth am eu plant a’u teuluoedd ar-lein. Mae’n ffordd hawdd o gofnodi cerrig milltir pwysig a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â ffrindiau a pherthnasau sy’n byw ym mhell i ffwrdd.

Mae’r cyfryngau wedi bathu’r term ‘sharenting’ am hyn. Gall rhannu gormod o wybodaeth bersonol, gan gynnwys lluniau, fideos a delweddau ar-lein beryglu hawl eich plant i breifatrwydd. Mae’n bwysig bod yn ofalus ynghylch beth rydych chi’n ei rannu ac â phwy.

Bydd yr erthygl hon yn defnyddio’r term ‘rhannu gormod’ i amlinellu’r effaith ar ôl troed digidol teulu ac yn rhoi cyngor ynghylch beth y dylech ei ystyried cyn postio gwybodaeth a delweddau ar-lein.


Gall rhieni a gofalwyr beryglu preifatrwydd eu plant drwy rannu gormod o wybodaeth, a rhoi gwybodaeth breifat i hysbysebwyr a chasglwyr data, yn anfwriadol. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio rhieni a gofalwyr i gadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac mae camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn osgoi rhannu gormod a diogelu cofnodion digidol eich plant.

Mae rhain yn cynnwys:                 

  • peidio â thagio. Mae tagio’n ffordd o adnabod eich plentyn neu eraill mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, fel y mae’r erthygl hon ar Facebook yn egluro (Saesneg yn unig). Gall peidio â thagio eich plant helpu i warchod eu hunaniaeth ar-lein

  • diffodd y nodwedd rhannu lleoliad. Mae’r rhan fwyaf o wefannau cyfryngau cymdeithasol yn cynnig i chi allu rhannu eich lleoliad – efallai bod rhai rhieni a gofalwyr wedi galluogi hyn heb sylweddoli hynny. Er mwyn osgoi datgelu lle rydych chi a’ch teulu ar unrhyw amser penodol, gallwch ddiffodd y nodwedd rhannu lleoliad. Bydd Canolfannau Cymorth y gwefannau cyfryngau cymdeithasol rydych chi’n eu defnyddio yn esbonio sut mae diffodd y nodwedd rhannu lleoliad, fel yr erthygl hon ar Instagram er enghraifft (Saesneg yn unig)

  • meddwl yn ofalus cyn postio. Pan fyddwch wedi postio delwedd, ni fydd gennych unrhyw reolaeth ynghylch sut bydd y ddelwedd honno’n cael ei rhannu, ei gweld na’i phostio eto. Mae hynny’n golygu y gall pobl eraill gopïo’r ddelwedd, tagio’r ddelwedd neu ddefnyddio’r ddelwedd – dyna pam ei bod yn bwysig bod yn ofalus iawn pa ddelweddau rydych chi’n eu postio.

Cyn rhannu gwybodaeth ar-lein, meddyliwch am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar ôl troed digidol eich teulu. Mae eich bywyd digidol yn gyhoeddus ac yn barhaol. Mae popeth rydych chi a’ch plant yn ei wneud ar-lein yn creu olion traed digidol sy’n gadael llwybr parhaol ar-lein.


  • A fyddwn i’n siarad am y wybodaeth, y ddelwedd neu’r fideo yma yn y gwaith?

  • O ystyried yr hyn rwy’n ei wybod am fy mhlant, a fyddan nhw’n teimlo’n chwithig petaen nhw’n gwybod fy mod wedi postio hyn?

  • A fyddwn i’n teimlo’n iawn am y peth petai rhywun yn dwyn y ddelwedd, y fideo neu'r wybodaeth yma?

  • Ydy’r ddelwedd hon yn creu hunaniaeth ar-lein gadarnhaol ar gyfer fy mhlentyn?

  • Petawn i’n gweld y ddelwedd, y fideo neu’r wybodaeth yma am fy mhlentyn ar hysbysfwrdd cyhoeddus, a fyddwn i’n teimlo’n iawn ynghylch hynny?

  • Oes angen i mi rannu lleoliad y ddelwedd hon?

Cofiwch y gall unrhyw un gopïo, lawrlwytho, tynnu sgrin-lun neu rannu unrhyw ddelwedd sy'n cael ei chyhoeddi'n gyhoeddus. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch ar-lein, ewch i’r Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.