English

Mae datblygiad technoleg wedi trawsnewid cymdeithas fodern a gellir gweld yn eang yr effeithiau o batrymau cyfathrebu a rhyngweithiadau personol, at gyflawniadau addysgol a gwyddonol.

Wrth i bobl ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer cyfathrebu drwy ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol, anfon negeseuon gwib a dangos lluniau/fideos, mae tystiolaeth ymchwil gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (Saesneg yn unig) yn dangos effaith hyn ar ein bywydau cymdeithasol a’n llesiant.

Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu plant a phobl ifanc i gwrdd â chadw mewn cysylltiad â ffrindiau, a chael mynediad haws at wybodaeth berthnasol i’w bywydau cymdeithasol.  Mae technolegau rhyngrwyd yn caniatáu mynediad yn syth at addysg, gwybodaeth ac adloniant, a gall hyn greu effeithiau cadarnhaol fel:

  • mynediad gwib at fathau newydd o adloniant
  • mwy o addysg drwy ymchwil, tiwtorialau ar-lein, fideos a sgyrsiau
  • dod i gysylltiad â darganfyddiadau newydd, yn cynnwys cymunedau, diwylliannau ac ieithoedd
  • llai o deimladau o unigrwydd a mwy o gynhwysiad cymdeithasol
  • hwyluso rhyngweithiadau cymdeithasol yn y byd go iawn
  • ymestyn cylchoedd cymdeithasol a synnwyr o gymuned
  • creu gwir berthnasau a theimladau o hunan-barch
  • mwy o sgiliau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg
  • mwy o sgiliau mewn creadigedd, datrys problemau a rhesymu.

Yn anffodus, nid yw’r defnydd o dechnolegau rhyngrwyd bob amser yn gadarnhaol, ac felly mae’n bwysig cydnabod y risgiau a’r effeithiau negyddol er mwyn eu hosgoi.

Mae rhai effeithiau negyddol y gall technolegau rhyngrwyd eu cael ar blant a phobl ifanc yn cynnwys:

  • mwy o deimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd
  • mwy o hunanaddoliad
  • pryderon gyda hunanddelwedd a hunaniaeth
  • mwy o straen
  • creu perthnasau arwynebol
  • dod i gysylltiad â bwlio, pornograffi, hiliaeth, meithrin perthynas amhriodol ac iaith casineb ar-lein
  • defnydd cymhellol o dechnolegau rhyngrwyd a’r anallu i hunanreoli
  • ofn colli allan (OCA)
  • dod i gysylltiad â thwyll ar-lein a gweithgaredd anghyfreithlon ar-lein
  • problemau iechyd yn gysylltiedig â defnydd estynedig o sgriniau a dyfeisiau (e.e. cur pen, poen gwddf, gordewdra, straen llygad).

Mae effeithiau cadarnhaol a negyddol y technolegau rhyngrwyd yn ymddangos eu bod yn adlewyrchu ei gilydd a gall eu heffeithiau amrywio, yn dibynnu ar nodweddion unigol y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Gall y cyfuniad o nodweddion personol, oed, gwydnwch ac aeddfedrwydd esbonio pam y gall technolegau rhyngrwyd gael effeithiau cadarnhaol cryfach ar rai plant a phobl ifanc na rhai eraill.

Er mwyn lleihau effeithiau negyddol y technolegau rhyngrwyd, gall rhieni a gofalwyr gymryd camau i sicrhau bod llesiant eu plentyn ar-lein yn cael ei wella.

  • Edrychwch ar sut mae eich plentyn yn rhyngweithio â’i ddyfeisiau – a yw’n drist, yn bryderus, yn siriol neu’n hapus ar ôl bod ar-lein?
  • Penderfynwch sut i gydbwyso gweithgareddau ar-lein gyda gweithgareddau‘r byd go iawn.
  • Ceisiwch ddeall bod pobl ifanc yn gallu rheoli rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein, ond rhowch gefnogaeth iddyn nhw gyda hyn.
  • Gofynnwch i’ch plentyn beth mae’n hoffi ynglŷn â bod ar lein a beth nad yw’n hoffi.
  • Dylech gynnal sgyrsiau rheolaidd gyda’ch plentyn ynglŷn â sut mae’n teimlo, beth mae’n ei wneud a chynigiwch eich cefnogaeth. Er mwyn cael
    canllawiau ynglŷn â sut i ddechrau sgwrs, gweler yr adnodd Childnet yma (Saesneg yn unig).

Gall rhieni a gofalwyr ddarganfod mwy gan Pew Internet Research, sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â llesiant mewn byd sy’n llawn technoleg  (Saesneg yn unig).

Er mwyn cael gwybodaeth bellach ynglŷn â llesiant plant a phobl ifanc ar lein, gallwch chi ymgynghori â’r Cadw'n ddiogel ar-lein.