English

Mae'r byd ar-lein yn chwarae rhan bwysig ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl ifanc. Mae'n cynnig nifer o gyfleoedd i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol, i gael cefnogaeth neu i gael hwyl.

Mae gan y rhan fwyaf o  bobl sy'n defnyddio'r rhyngrwyd fwriadau da, gydag apiau fel FaceTime, WhatsApp a Skype yn ffyrdd poblogaidd o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.

Ond er bod rhai unigolion wir eisiau sgwrsio, mae lleiafrif bach yn defnyddio'r rhyngrwyd i gysylltu â phlant i'w cam-drin yn rhywiol - naill ai drwy negeseuon fideo a rhannu delweddau ar-lein, neu drwy eu cyfarfod yn bersonol. Gelwir y broses hon yn feithrin perthynas amhriodol ar-lein neu ‘grwmio’. Mae hyn yn gallu cymryd misoedd, neu mae’n gallu digwydd yn gyflym iawn, o bosib o fewn munudau i'r cyswllt cyntaf.

Mae bod yn ymwybodol o'r peryglon hyn yn bwysig iawn. Mae'r canllaw hwn yn esbonio'n fanylach beth yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein, arwyddion i edrych amdanynt, a sut gallwch chi helpu i gadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein.


Mae meithrin perthynas rywiol amhriodol ar-lein yn cyfeirio at broses sydd fel arfer yn dechrau gyda’r troseddwr yn meithrin cysylltiadau emosiynol gyda’r plentyn. I ddechrau, gall y person hwn esgus bod yn ffrind neu’n gariad, cyn mynd ymlaen i ddefnyddio’r ‘berthynas’ hon – a all deimlo’n real iawn i’r plentyn – i’w hudo i weithgaredd rhywiol.

Gallai'r plentyn gael ei hudo gan rywun y maen nhw'n ei adnabod neu gan ddieithryn llwyr. Ym mha bynnag ffordd mae'n digwydd, mae’r sawl sy’n denu yn defnyddio amrywiaeth o dactegau i ennill pwer a rheolaeth dros y dioddefwr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgwrsio rhywiol, fflyrtio a rhannu cynnwys pornograffig fel delweddau, fideos neu eiriau, ac ati
  • cyflwyno eu hunain mewn ffordd nad yw'n rhywiol fel ffrind, rhywun sy’n rhannu’r un diddordeb mewn gemau neu fentor i feithrin ymddiriedaeth y plentyn
  • llwgrwobrwyo plant gydag anrhegion a chynigion go iawn neu rithwir fel arian drwy apiau, ‘hoffi’ negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, dulliau twyllo neu eitemau ychwanegol mewn gemau, modelu ffug a chontractau cerddoriaeth
  • canmoliaeth, ffalsio ac ennill hyder y plentyn drwy rannu cyfrinachau – rhoi baich cyfrifoldeb arnynt a/neu ddefnyddio’r rhain yn eu herbyn
  • blacmel – bygwth rhannu delwedd neu wybodaeth amheus am y plentyn neu'r person ifanc yn ehangach
  • ynysu'r plentyn oddi wrth deulu a ffrindiau – gan wneud iddynt deimlo'n fwriadol eu bod ar fai am yr hyn sy'n digwydd, ac y byddant yn mynd i drwbwl os ydynt yn gofyn am help.

Gall unrhyw blentyn fod yn ddioddefwr. Ond gallant fod yn fwy agored i niwed ar adegau penodol yn eu bywydau neu os ydynt yn wynebu anawsterau fel unigrwydd, hunan-barch isel, problemau gyda theulu neu ffrindiau neu wrth archwilio eu rhywioldeb. Bydd troseddwr yn chwilio am wendidau emosiynol a chorfforol fel rhain ac yn eu hecsbloetio.


Mae ymchwil yn dangos bod effaith drawmatig barhaus cam-drin rhywiol ar-lein drwy fideo neu ddelweddau yn debygol o fod yr un mor ddifrifol ag effaith cam-drin rhywiol corfforol.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod cam-drin rhywiol yn gallu digwydd heb feithrin perthynas amhriodol. Enghraifft ar-lein o hyn yw pan allai troseddwr dwyllo plant i wneud rhywbeth rhywiol ar gamera a defnyddio'r delweddau hynny i'w blacmelio mewn rhyw ffordd, e.e. ‘Os na wnei di hyn i fi, dwi’n mynd i roi’r fideo yma ar YouTube, a’i rannu gyda dy ffrindiau’.

Ond sut bynnag mae'n digwydd, mae'n bwysig cofio, os mai plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei hudo, nid eu bai nhw yw hynny byth.


Nid yw wastad yn amlwg bod plentyn yn cael ei feithrin i gael perthynas amhriodol – mae rhai arwyddion yn aml yn edrych fel ymddygiad ‘normal’ ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau. Serch hynny, os bydd y rhain yn digwydd dros gyfnod byr o amser, gallai hyn ddangos bod rhywbeth o’i le. Gallant, er enghraifft:

  • mynd i’w cragen, teimlo’n anhapus a bod yn gyfrinachol
  • treulio mwy o amser yn siarad ar y we – gan gadw eu gweithgareddau ar-lein yn breifat iawn yn aml
  • rhoi'r gorau i wneud pethau maen nhw’n eu mwynhau fel arfer, fel cwrdd yn gymdeithasol gyda ffrindiau
  • peidio â bod mor agored a siaradus gyda’u rhieni neu ofalwyr ac oedolion dibynadwy eraill
  • dechrau dod ag eitemau newydd sbon fel dillad neu ffôn symudol i'r cartref – heb ddweud o ble y daethant na chynnig esboniad credadwy.

Chi sydd yn y sefyllfa orau i wybod a yw ymddygiad eich plentyn yn wahanol i’r arfer, felly mae angen i chi gael ffydd yn eich greddf a mynd ar drywydd eich pryderon.


Y peth gorau gallwch chi ei wneud i amddiffyn eich plentyn rhag cael eu hudo i berthynas amhriodol ar-lein yw gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel a'u cefnogi drwy ddod naill ai atoch chi neu oedolyn dibynadwy arall, a chysylltu â CEOP os ydyn nhw'n teimlo o dan fygythiad neu wedi'u caethiwo. Dylent hefyd wybod na fyddan nhw byth yn mynd i drwbwl oherwydd eu bod yn gofyn am help.

Esboniwch pam eich bod yn poeni a chofiwch gael sgyrsiau rheolaidd, yn hytrach nag un ‘sgwrs fawr’. Efallai y gallech chi sôn am stori newyddion neu raglen deledu ddiweddar sy'n briodol i'w hoedran i roi cychwyn ar sgwrs.

Siaradwch yn agored am yr holl bethau positif maen nhw'n eu gwneud ar-lein, yn ogystal â'r agweddau peryglus, a beth i'w ddisgwyl o berthynas iach, barchus. Gwnewch yn siwr hefyd eu bod yn deall nad yw hi byth yn iawn i unrhyw un roi pwysau neu ddylanwadu arnyn nhw.

Mae ffyrdd ymarferol o helpu i amddiffyn eich plentyn yn cynnwys y canlynol.

  • Gosod rheolaeth i rieni er mwyn sicrhau na fydd cynnwys i oedolion yn ymddangos yn eu canlyniadau chwilio.

  • Dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd i gadw'n ddiogel ar-lein a nodi ffynonellau dibynadwy ar y rhyngrwyd.

  • Eu cyfeirio at gyngor sy'n briodol i'w hoedran yn thinkuknow.co.uk, themix.org.uk a childline.org.uk.

Os ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei hudo i berthynas amhriodol ar-lein neu ei ecsbloetio'n rhywiol, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 101 neu'r NSPCC ar unwaith. Gall plant, rhieni, gofalwyr ac athrawon hefyd roi gwybod i’r CEOP ceop.police.uk am bryderon ynglyn â meithrin perthynas amhriodol a cham-drin rhywiol ar-lein.

Cofiwch – dylech chi wastad sôn wrth rywun os yw'ch plentyn mewn cysylltiad neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi:

  • sgwrsio ar-lein â'ch plentyn ynglyn â rhyw a/neu ofyn iddynt wneud pethau rhywiol ar we-gamera, sgwrs fideo neu ffrwd fyw
  • trefnu i gwrdd wyneb yn wyneb os mai dim ond ar-lein y maen nhw wedi cwrdd
  • gofyn am luniau rhywiol a/neu eu gorfodi i wneud gweithgaredd rhywiol.

I gael mwy o wybodaeth am gadw plant yn ddiogel rhag cael ei hudo i berthynas amhriodol a cham-drin rhywiol ar-lein, ewch i thinkuknow.co.uk/parents.

Mae Canolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y DU yn saferinternet.org.uk hefyd yn cefnogi rhieni/gofalwyr, athrawon a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, i ddefnyddio'r rhyngrwyd mewn ffordd bositif a diogel.