Canllaw i’r teulu ar siarad am gamwybodaeth a ffugio dwfn
Cyflwyniad
Mae gwybodaeth gamarweiniol o bob math yn cael ei lledaenu a'i rhannu'n fwriadol mewn sawl ffordd ar-lein – o ddamcaniaethau cynllwynio peryglus a dulliau iachau amheus, i fideos am wleidyddion ‘cecrus’. Serch hynny, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng ffeithiau dilys, cywir a ffuglen a allai fod yn niweidiol.
Mae’r canllaw hwn yn egluro’r gwahaniaethau rhwng camwybodaeth (misinformation), newyddion ffug a ffugio dwfn neu ‘deepfakes’, ac mae'n cynnwys cyngor i'ch plentyn a'ch teulu ar sut i adnabod ac atal gwybodaeth ffug a allai fod yn niweidiol rhag cael ei lledaenu ar y we.
Beth yw camwybodaeth?
Yn y bôn, gwybodaeth ‘anghywir’ yw camwybodaeth. Gallai fod yn:
- neges neu bost ar gyfryngau cymdeithasol
- llun/fideo go iawn neu wedi’i olygu
- gwefan
- ffeil neu ddogfen o ryw fath.
Efallai y bydd person yn rhannu rhywbeth ar-lein heb sylweddoli ei fod yn ffeithiol anghywir neu'n gamarweiniol. Ar y llaw arall, os ydyn nhw'n ei rannu'n fwriadol er mwyn twyllo eraill a'u cael i'w gredu, mae hynny’n cael ei alw’n lledaenu ‘camwybodaeth’.
A yw newyddion ffug yn gamwybodaeth?
Ydy. Mae’r term ‘newyddion ffug’ yn cyfeirio’n benodol at pan fydd rhywun yn llunio stori sydd ddim yn wir, ac yn aml dros ben llestri, am berson enwog, grwp, cwmni neu le. Os oes cryn ddiddordeb cyhoeddus ac mae'r amseru'n iawn, gall newyddion ffug droi’n feirol yn gyflym iawn – gan niweidio enw da neu sbarduno eraill i ychwanegu rhywbeth pellach at y stori.
Pam mae newyddion ffug yn broblem?
Os yw’r newyddion ffug am rywun enwog, bydd y person hwnnw yn aml yn cyhoeddi datganiad i ddweud nad yw’n wir, sy’n arwain at sefyllfa lle mae'n fater o air un person yn erbyn gair rhywun arall. Ond yn hytrach na diystyru’r wybodaeth fel gwybodaeth ffug a’i anghofio'n gyflym, gall straeon newyddion ffug ‘oroesi’ ar-lein am amser hir, ac o bosib, newid barn a chanfyddiad pobl er gwaeth.
Mae rhai straeon mor rhyfedd, mae’n hawdd i’w hadnabod nhw a’u cwestiynu.
Er enghraifft, mae'n debyg y byddech yn diystyru pennawd fel ‘Ty’r Cyffredin ar dân ar ôl i weinidogion geisio gwneud crempog!’ Ond os darllenwch chi ‘Person enwog mewn coma ar ôl damwain car ddifrifol’, mae hyn yn ymddangos yn fwy tebygol ac, felly, yn gredadwy.
Pam mae pobl yn lledaenu camwybodaeth?
Mae nifer o resymau pam mae rhai pobl yn lledaenu camwybodaeth. Efallai eu bod wedi gwneud camgymeriad go iawn – gan gredu eu bod yn rhannu gwybodaeth gywir o ffynhonnell ddibynadwy neu ddylanwadol.
Ond efallai bod cymhellion anonest, ecsbloetiol neu faleisus ar waith. Gallai’r rhain gynnwys:
- ymgais i werthu/marchnata/hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth, neu i elwa o ymddygiad ar-lein. Er enghraifft, mae rhai penawdau yn denu defnyddwyr i glicio ar ddolen (clickbait) ac i ymweld â safle i hybu refeniw hysbysebu
- sgamiau sy’n cael eu cynllunio i dwyllo pobl ar-lein i drosglwyddo gwybodaeth bersonol, arian neu eiddo i droseddwyr
- galwadau i weithredu sy’n annog pobl i berfformio math penodol o weithred ar ôl clywed neges – sydd yn aml ond o fudd i'r ffynhonnell
- awydd i niweidio enw da unigolyn, grwp neu sefydliad.
Bydd pobl yn rhannu pennawd newyddion ffug yn aml iawn heb ddarllen yr erthygl gyfan gyntaf. Y pethau sy'n ein gwneud ni'n ofnus, yn ddig, yn bryderus neu'n hapus sy'n tueddu i fynd yn feirol. Ac rydym yn fwy tebygol o anfon postiadau, negeseuon e-bost a WhatsApp ymlaen yn gyflym sy'n atgyfnerthu ein credoau presennol.
Peryglon camwybodaeth ar-lein
Mae camwybodaeth sy’n cael ei rannu ar-lein o bosib yn dylanwadu ar gredoau ac ymddygiad, fel ideolegau eithafol sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth, hil, crefydd a hunaniaeth rywiol. Mae hyn yn arbennig o wir os yw'r wybodaeth yn cael ei chyflwyno fel ffaith neu dim ond gyda thystiolaeth sy'n cefnogi'r safbwynt penodol hwnnw. Gall hefyd arwain at broblemau eraill fel:
- swigod hidlo cyfryngau cymdeithasol – a all arwain at bobl yn gweld mwy o'r un safbwyntiau eithafol a chael eu hynysu oddi wrth safbwyntiau eraill i’r gwrthwyneb
- ‘siambrau atsain’ – lle mai dim ond unigolion o'r un meddylfryd sydd â'r un safbwynt yn rhyngweithio, ac mae eu safbwyntiau presennol yn cael eu hatgyfnerthu drwy glywed yr un farn a fynegir gan eraill yn unig
- damcaniaethau o gynllwynio a mythau (yn enwedig o ran iechyd a llesiant) – gall hynny annog pobl i weithredu mewn ffyrdd sy'n cynyddu'r risg y byddan nhw’n niweidio eu hunain a/neu eraill.
Sut gallwch chi helpu
Mae'n bwysig i chi a'ch plentyn ddeall a gweld arwyddion camwybodaeth yn y lle cyntaf. Gall ymddangosiadau fod yn dwyllodrus. Mae'n bosibl, er enghraifft, dynwared cyfrifon ac awdurdodau swyddogol, gan gynnwys Newyddion y BBC a’r llywodraeth. Gall sgrin-luniau gael eu newid i wneud iddyn nhw edrych fel bod yr wybodaeth wedi dod gan gorff cyhoeddus dibynadwy.
Dylech edrych am gyfrifon a gwefannau sydd wedi’u dilysu. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth yn hawdd, gallai fod yn ffug. Ac os yw post, fideo neu ddolen yn edrych yn amheus – mae'n debyg ei fod e.
Beth yw ffugio dwfn?
Mae ‘ffugio dwfn’ neu ‘deepfakes’ yn cyfeirio at lun neu fideo lle mae’r wynebau wedi’u cyfnewid neu eu haddasu’n ddigidol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI). Gall creu delweddau ffug fel hyn gynhyrchu canlyniadau credadwy iawn sy'n ymddangos fel pe baen nhw’n dangos rhywun yn dweud rhywbeth neu'n gwneud rhywbeth na wnaethon nhw ei ddweud na'i wneud mewn gwirionedd.
Fel arfer y bwriad y tu ôl i’r math yma o gynnwys yw niweidio enw da’r person yn y llun neu’r fideo a’u portreadu mewn ffordd negyddol. Mae ffugio dwfn hefyd yn cael eu defnyddio i ledaenu negeseuon ffug drwy ddefnyddio enwogion. Enghraifft ddiweddar o hyn oedd y fideo ffug ar gyfryngau cymdeithasol o Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn cymeradwyo ei gilydd i fod yn brif weinidog.
Sylwi ar arwyddion camwybodaeth ar-lein
I godi ei hygrededd a gwneud iddo ymddangos yn fwy credadwy, mae camwybodaeth yn aml yn cael ei gynnwys ymhlith manylion sy’n ffeithiol gywir er mwyn ei gwneud hi'n anoddach sylwi arnyn nhw.
Felly wrth farnu pa mor ddibynadwy yw’r cynnwys ar-lein, dylech ystyried y canlynol.
- Pwy neu beth yw'r ffynhonnell? Ydych chi'n ymddiried ynddo ac a yw’r wybodaeth yn gyfredol? A yw’n ffaith neu’n farn?
- Beth yw cymhellion posibl ei rannu?
- A yw’r wybodaeth yn ceisio newid eich barn neu safbwyntiau – er gwell neu er gwaeth?
- Oes ‘galwad i weithredu’? A beth allai ddigwydd pe byddech yn ymateb?
- Os yw’r wefan yn boblogaidd, a yw’r ffaith bod nifer o bobl wedi’i weld neu ei hoffi yn ei wneud yn fwy dibynadwy?
- A yw'r testun yn edrych yn ddilys ac yn gywir? Yn achos negeseuon e-bost twyllodrus, edrychwch am wallau sillafu neu ramadeg gwael sy'n awgrymu na ddaeth o gwmni neu wefan go iawn.
Os ydych chi'n teimlo ei fod yn rhywbeth a allai boeni neu gynhyrfu eich plentyn, tawelwch eu meddwl a'u hatgoffa bod siarad â chi neu oedolyn dibynadwy arall yn bwysig iawn. Bydd yn eu helpu i wneud synnwyr o'r hyn maen nhw wedi'i weld a deall beth i'w wneud nesaf.
Awgrymiadau ar wirio cynnwys
Gwiriwch ffynonellau ar-lein ac all-lein gwahanol (teledu, radio, deunydd print) i asesu pa mor gyson yw'r wybodaeth. A defnyddiwch safleoedd gwirio ffeithiau dibynadwy fel WHO’s Myth busters page (Saesneg yn unig), BBC ‘Reality Check’ (Saesneg yn unig), Full Fact (Saesneg yn unig) neu Snopes (Saesneg yn unig).
Gallech hefyd ofyn am farn arall gan arbenigwr neu weithiwr proffesiynol dibynadwy (er enghraifft meddyg teulu os yw'ch pryder yn gysylltiedig ag iechyd a lles). Dylai plant a phobl ifanc allu troi at oedolyn dibynadwy fel rhiant/gofalwr neu athro am gyngor.
Sut gallwch chi amddiffyn eich plentyn rhag cael ei effeithio?
Y ffordd orau o helpu i leihau effaith camwybodaeth ar eich plentyn yw eu hannog i werthuso gwybodaeth mewn ffordd feirniadol.
Yn ogystal â chreu rhestr o wefannau ‘dibynadwy’ i ddod o hyd i wybodaeth, dylech annog plant i gwestiynu’r ffynhonnell a’r cymhelliad, a chael safbwyntiau eraill a allai hefyd eu helpu i werthuso cynnwys mewn ffordd fwy cytbwys.
Efallai y bydd angen i chi hefyd herio safbwyntiau camarweiniol mewn ffordd bositif (a pharchus), gan ddefnyddio ffynonellau ffeithiol i ategu eich barn. Ond os yw siarad am y rhain, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn troi’n sarhaus, ystyriwch sut i ddod â'r sgwrs i ben yn ddiogel.
Adrodd ar bryderon
Mae’n bwysig adrodd ar unrhyw gynnwys a allai fod yn niweidiol a rhoi rhywun mewn perygl – fel safbwyntiau negyddol eithafol sy’n targedu unigolyn neu grwp. Os ydych chi'n credu bod eich plentyn wedi gweld camwybodaeth ar-lein, defnyddiwch yr offer adrodd ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n gallu blocio neu gael gwared ar ddeunydd o’r fath. Neu cysylltwch â'r heddlu'n uniongyrchol ynglyn ag unrhyw ymddygiad troseddol y gallai rhywun fod yn bygwth ei gyflawni ar-lein mewn bywyd go iawn.
I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth am gamwybodaeth a ffugio dwfn ewch i:
Hwb – Rhestr chwarae camwybodaeth i rieni a gofalwyr
SWGfL – Riportio Cynnwys Niweidiol
Llywodraeth y DU – Adrodd ar Derfysgaeth neu Eithafiaeth (Saesneg yn unig)
Y Ganolfan Seiberddioglewch Genedlaethol – Cyber Aware (Saesneg yn unig)
Help a chefnogaeth:
Meic – Gwasanaeth llinell gymorth dwyieithog cyfrinachol, dienw a di-dâl sydd ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
Childline (Saesneg yn unig) – Gwasanaeth cyfrinachol, preifat a di-dâl sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. Beth bynnag sy’n poeni’r plentyn neu’r person ifanc, maen nhw yno i wrando.
NSPCC (Saesneg yn unig) – Mae’r NSPCC yn elusen genedlaethol sy’n gweithio er mwyn amddiffyn plant ac atal camdriniaeth, ac mae’n cynnig llinell gymorth bwrpasol â chwnselwyr proffesiynol.
CEOP (Saesneg yn unig) – Ar wefan y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein gallwch adrodd unrhyw bryderon am gam-drin rhywiol ar-lein yn ddiogel.
Riportio Cynnwys Niweidiol – Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu pawb i roi gwybod am gynnwys niweidiol maen nhw’n ei weld ar-lein.