English

Mae pornograffi wedi bodoli ers canrifoedd. Ond yr hyn sydd wedi newid yn sylweddol dros oddeutu’r 25 mlynedd diwethaf yw’r ffaith bod y rhyngrwyd ac dyfeisiau symudol wedi ei gwneud hi’n haws nag erioed i gael mynediad ato. Mae’n anochel y bydd rhieni a gofalwyr yn poeni i ba raddau y mae eu plentyn yn dod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys deunydd eithafol.  

Nod y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth glir a chytbwys o bornograffi ar-lein i rieni a gofalwyr, yn benodol ei agweddau cyfreithiol a sut i roi mesurau ataliol ar waith, ynghyd â chyngor ar sut i’w drafod gyda’ch plentyn.


O ddeunydd wedi’i argraffu a ffotograffiaeth, i ffilm, fideo a gwefannau, mae pornograffi ar gael mewn llawer o ffurfiau gwahanol. Mae cysylltiadau cyflym â’r rhyngrwyd yn golygu bod pornograffi ar gael yn hwylus ledled y byd. Mae ymchwil yn dangos bod y ffaith ei bod yn hawdd cael gafael ar bornograffi ar-lein a’r posibilrwydd i blant a phobl ifanc ei weld yn achosi pryder i lawer o rieni a gofalwyr.


Yn gyffredinol, mae’r gyfraith yn targedu cynhyrchwyr pornograffi yn hytrach na defnyddwyr. Felly, yn y DU, mae’n gyfreithlon i oedolion ei wylio a’i brynu ar hyn o bryd. Nid yw’n anghyfreithlon i rywun dan yr oed hwnnw edrych ar ddeunydd pornograffig yn anfwriadol, e.e. drwy ffenestri naid.

Fodd bynnag, mae’r canlynol yn anghyfreithlon:         

  • meddu ar bornograffi ‘eithafol’ neu ei rannu. Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (Saesneg yn unig) sy’n diffinio hyn
  • fideo ar-alw a wnaed yn y DU yn dangos gweithredoedd rhywiol sydd wedi'u gwahardd gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) mewn DVDs sy'n cael eu gwerthu mewn siopau rhyw (nid yw’r gyfraith hon yn berthnasol i gwmnïau y tu allan i'r DU)
  • oedolyn yn dangos pornograffi i blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed neu adael iddo ei wylio
  • tynnu delweddau rhywiol o rywun dan 18 oed neu feddu ar ddelweddau o’r fath neu eu dosbarthu/rhannu, hyd yn oed os yw’r bobl yn y lluniau wedi cytuno i hynny a’u bod dros 16 oed. Caiff hyn ei ddosbarthu fel lluniau sy'n ymwneud â cham-drin plant – gan gynnwys delweddaeth sydd wedi’i chreu ar gyfrifiadur.

Mae'r Internet Watch Foundation (IWF) (Saesneg yn unig) yn monitro cynnwys rhywiol ar-lein a bydd yn dileu deunyddiau sy'n cynnwys pobl ifanc o dan 18 oed yn ogystal â chymryd camau i ddiogelu dioddefwyr. Gellir rhoi gwybod iddynt am achosion yn ddienw.


Mae nifer o bethau a all ei gwneud hi’n anoddach i’ch plentyn gael mynediad at bornograffi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gosod dulliau rheolaeth gan rieni ar eich dyfeisiau gartref
  • defnyddio hidlyddion lefel rhwydwaith a dulliau rheolaeth gan rieni a ddarperir gan eich darparwr band eang symudol a chartref
  • mecanwaith gwirio oedran mae'r Llywodraeth yn ei gynnig ar gyfer pobl dros 18 oed.

Ond byddwch yn ofalus wrth wneud hyn neu fe allech gael canlyniad i’r gwrthwyneb. Ac fe fyddan nhw’n anfodlon cynnal unrhyw sgyrsiau am bornograffi neu agweddau eraill ar ryw a pherthnasoedd, sgyrsiau a allaicynnal eu datblygiad naturiol iach a’u chwilfrydedd.


Mae pobl ifanc yn dweud wrth ymchwilwyr eu bod am allu siarad ag oedolion – gan gynnwys rhieni a gofalwyr – heb gael eu beirniadu a heb i rywun ddweud wrthyn nhw fod beth bynnag maen nhw’n ei wneud yn gorfod bod yn ddrwg ac yn niweidiol. Felly, mae hi’n werth dechrau arni drwy:

  • trafod beth yw perthynas normal, gariadus a boddhaus. O gydsyniad a chydraddoldeb rhywiol i drin eich partner â chyd-barch
  • siarad yn y trydydd person. Gofynnwch yn gyffredinol a yw ‘pobl ifanc’ neu ‘eu ffrindiau’ yn edrych ar gynnwys amhriodol. Dangoswch ddiddordeb yn yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud, heb ddiystyru eich gwerthoedd eich hun
  • cynnal sgyrsiau am breifatrwydd a diogelwch ar-lein. Dod o hyd i ddelweddau neu gyfryngau amhriodol ar-lein wrth chwilio am enwogion a chymeriadau teledu, a pheidio â chwrdd â dieithriaid. Gyda phobl yn eu harddegau hŷn, gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol o beryglon maleiswedd (meddalwedd niweidiol, e.e. firws cyfrifiadur, sydd wedi’i guddio mewn rhaglen neu ffeil) a allai gael ei rannu drwy wefannau pornograffi
  • cwestiynu delweddau ‘afrealistig’ o ddynion a merched yn y cyfryngau. Oherwydd bodolaeth technegau addasu lluniau a hidlyddion cyfryngau cymdeithasol, nid yw bob dim fel mae'n ymddangos. Herio’r pwysau ar blant i gydymffurfio â stereoteipiau cymdeithasol.
  • trafod moeseg diwydiannau. O fwyd brys a ffasiwn i bornograffi, mae ymgyrchoedd yn bodoli i wneud gwasanaethau ffrydio fideo fel YouTube dalu pris teg am gerddoriaeth a chynnwys creadigol arall.