English

A chithau’n rhiant neu ofalwr, efallai bod eich plentyn neu ei ysgol wedi dweud wrthych chi sut mae rhoi cymorth iddo gadw’n ddiogel ar-lein. Un elfen allweddol o ddiogelwch ar-lein yw datblygu sgiliau seiberddiogelwch da. Gan ddibynnu ar eich profiad eich hun a lefel eich arbenigedd technegol, gallai hyn deimlo fel tasg frawychus. Fodd bynnag, mae camau syml ac ymarferol y gallwch chi a’ch teulu eu cymryd i leihau cryn dipyn ar risgiau seiberdroseddu.

Bydd y canllaw hwn yn edrych ar beth yw seiberdroseddu, y risgiau y gall eu hachosi i oedolion a phlant, a beth allwch chi a’ch plentyn ei wneud i fod yn gall ar-lein.

Mae’r term ‘seiberdroseddu’ yn cael ei ddefnyddio’n aml fel term cyffredinol i ddisgrifio 2 fath o weithgarwch troseddol sy’n ymwneud â thechnoleg:

  • troseddau sy’n cael eu galluogi gan dechnoleg seiber – troseddau traddodiadol lle mae technoleg yn gallu cynyddu graddfa’r troseddau hyn neu eu heffeithiolrwydd (er enghraifft camfanteisio’n rhywiol ar blant, blacmel, twyll, gorfodaeth a smyglo cyffuriau)
  • troseddau sy’n ddibynnol ar dechnoleg seiber – troseddau sydd ond yn gallu digwydd drwy ddefnyddio cyfrifiaduron, rhwydweithiau, a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) (er enghraifft hacio, ysbïo seiber, dwyn data, creu a dosbarthu maleiswedd, ac ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig (distributed denial of service (DDoS))

Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar yr olaf – yn benodol ar weithgarwch troseddol sy’n ymwneud â dwyn arian neu ddata personol.

Mae gweithgarwch seiberdroseddu yn peri risg i bob defnyddiwr ar-lein. Dangosodd astudiaeth academaidd yn 2021 (Saesneg yn unig) gan Brifysgol Birmingham ac Avast fod seiberdroseddu wedi effeithio ar 72% o oedolion yng Nghymru.

Mae llawer o apiau a gwasanaethau yn dibynnu ar ddata defnyddwyr i sbarduno eu twf a’u datblygiad, ac mae hyn yn eu gwneud yn dargedau deniadol ar gyfer seiberdroseddwyr. Yn benodol, mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn annog defnyddwyr i rannu eu gwybodaeth drwy negeseuon, delweddau a fideos. Gyda’r wybodaeth hon, gall seiberdroseddwr gyflawni twyll neu ddwyn hunaniaeth, a gallai’r dioddefwr golli arian neu eiddo.

Mae troseddwyr hefyd yn defnyddio nifer o strategaethau i gael data gan ddioddefwyr, o sgamiau fel ‘gwe-rwydo’ (Saesneg yn unig) hyd at ddefnyddio maleiswedd i ddwyn data o ddyfeisiau a chyfrifon neu i amgryptio data a’i ddal yn bridwerth yn erbyn defnyddwyr. Mae ambell seiberdrosedd yn arwain hefyd at ddinistrio neu ddileu data.

Os oes gan bobl ifanc sgiliau digidol mwy datblygedig, mae perygl hefyd y bydd eu harbenigedd yn eu harwain yn ddiarwybod at weithgarwch troseddol drwy weithredoedd fel hacio gwefannau, neu greu neu ddosbarthu maleiswedd.

Er bod rhai seiberdroseddau yn soffistigedig iawn, mae mabwysiadu arferion da yn gallu lleihau cryn dipyn ar y rhan fwyaf o ymdrechion i ddwyn eich data personol, eich arian neu’ch eiddo. Mae’r 6 awgrym hyn gan ymgyrch gynghori Cyber Aware y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (Saesneg yn unig) yn effeithiol dros ben.

  1. Defnyddiwch gyfrineiriau cryf – y cyfrineiriau gorau yw’r rhai sy’n hawdd eu cofio ond ddim yn hawdd eu dyfalu. Ceisiwch greu cyfrinair allan o 3 gair ar hap. Defnyddiwch gyfrinair gwahanol bob amser ar gyfer pob cyfrif neu wasanaeth rydych chi a’ch teulu’n ei ddefnyddio.
  2. Defnyddiwch gyfrinair ar wahân ar gyfer eich e-bost – eich cyfeiriad e-bost yn aml yw’r porth i wasanaethau ar-lein eraill rydych chi’n eu defnyddio. Gall ei ddiogelu gyda chyfrinair cryf atal hacwyr rhag cael mynediad at eich data personol.
  3. Cadwch eich cyfrineiriau – gall fod yn anodd cadw rheolaeth ar lawer o gyfrineiriau unigryw, ond gall defnyddio meddalwedd rheoli cyfrineiriau helpu.
  4. Defnyddiwch brawf dilysu dau gam (2FA) – mae hyn yn helpu i atal hacwyr rhag cael mynediad at eich cyfrifon, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod eich cyfrinair. Pan fydd hyn wedi'i alluogi, bydd safle neu wasanaeth yn gofyn am god cyn caniatáu i chi gael mynediad i’ch cyfrif. Fel arfer, bydd yn cael ei anfon i’ch ffôn drwy neges destun neu e-bost. Dim ond rhywun sydd â mynediad at y cod hwn sy’n gallu cael mynediad i’r cyfrif.
  5. Diweddarwch eich dyfeisiau – mae sicrhau bod holl ddyfeisiau eich teulu wedi’u diweddaru yn allweddol i sicrhau seiberddiogelwch da. Gwnewch yn siŵr bod yr holl feddalwedd, apiau a systemau gweithredu yn cael eu diweddaru pan ofynnir i chi wneud hynny. Gall rhai dyfeisiau ddiweddaru meddalwedd ar eich cyfer yn awtomatig.
  6. Gwnewch gopi wrth gefn o’ch data – mae gwneud copi o’ch data’n rheolaidd a’i storio yn y cwmwl neu ar ddyfais arall yn golygu, os bydd yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn, y gallwch chi fynd ati’n gyflym i adfer fersiwn ddiweddar o’r wybodaeth rydych chi wedi'i cholli. Gall rhai dyfeisiau a meddalwedd greu copïau wrth gefn yn awtomatig.
  7. Dysgwch sut mae diogelu eich hun – mae troseddu ar-lein wedi cynyddu dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae sgamiau a thwyll yn fwy cyffredin nawr nag erioed, felly mae’n bwysig deall beth yw’r rhain a sut gallwch chi ddiogelu eich hun. Gall ein rhestr chwarae ‘Twyll, arian a throseddau ar-lein’ ar Hwb eich helpu chi gyda hyn.

Os oes gennych chi bryderon am ddiogelwch neu les eich plentyn ar-lein, dylech chi bob amser ofyn am gyngor a chymorth. Gallai hyn fod gan yr ysgol, eich meddyg teulu neu gan sefydliad arall. Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn yr adran ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ ar Hwb.

Dylech chi atgoffa eich plentyn y gall hefyd gysylltu â Meic, sy’n cynnig gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch chi ffonio Meic am ddim ar 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu siaradwch â rhywun ar-lein yn www.meic.cymru/cym. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8 y bore tan hanner nos, 7 diwrnod o'r wythnos.

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu’ch plentyn wedi dioddef seiberdrosedd, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â’r heddlu. Mae ActionFraud (Saesneg yn unig) yn cynnig adnoddau adrodd ar-lein er mwyn i chi allu rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau.

Efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol i chi ar gyfer deall a thrafod seiberdroseddu a seiberddiogelwch gyda’ch plentyn.