English

Yn y gwaith neu gartref, mae technoleg yn dylanwadu’n fawr ar ein bywydau. Yn arbennig i nifer o blant a phobl ifanc lle mae'n chwarae rhan allweddol i gynnal eu rhwydweithiau cymdeithasol. Mae rhai rhieni a gofalwyr yn ystyried technoleg fel ffordd o gadw eu plentyn yn ddiogel. Ond, fel unrhyw beth arall, mae peryglon cysylltiedig y dylid bod yn ymwybodol ohonynt.

Yn ddiweddar, bu nifer o achosion uchel eu proffil yn y cyfryngau, yn tynnu sylw at ganlyniadau bwlio ar-lein. I rai pobl mae'n realiti dyddiol, felly mae'n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn gwybod beth yw bwlio ar-lein a’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r canllaw yma’n cynnwys enghreifftiau o fwlio ar-lein, sut i gefnogi eich plentyn os yw’n cael ei fwlio ar-lein, a chamau cadarnhaol y gallwch eu cymryd i gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein.


Mae bwlio ar-lein, neu seiberfwlio fel y cyfeirir ato, yn fath o fwlio sy’n defnyddio dyfais electronig (e.e. ffôn symudol, tabled, cyfrifiadur). Mewn nifer o ffyrdd, mae bwlio ar-lein yr un fath â bwlio wyneb yn wyneb (neu ‘yn y byd go iawn’). Mae’r ddau fath yn cynnwys ymddygiad sy’n mynd ati’n fwriadol i frifo rhywun arall, mae'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro ac mae diffyg cydbwysedd o ran pŵer. Mae bwlio ar-lein yn cynnwys nifer o weithredoedd sy’n gysylltiedig â bwlio perthynol, e.e:

  • galw enwau a bygwth
  • lledaenu straeon
  • datgelu gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol heb ganiatâd y targed
  • ynysu ac eithrio cymdeithasol.

Fel bwlio ‘bywyd go iawn’, mae bwlio ar-lein yn gallu bod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

  • Bwlio uniongyrchol - mae'r targed yn gwybod amdano, mae'r targed a’r cyflawnwr yn rhyngweithio mewn rhyw ffordd.

  • Bwlio anuniongyrchol – gallai gynnwys trydydd parti, efallai nad yw’r targed yn gwybod amdano, nid yw’n digwydd ym mhresenoldeb y targed.

Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau fath o fwlio, Er enghraifft, ar y naill law mewn achos o fwlio wyneb yn wyneb dim ond y rhai sy’n sefyll o gwmpas sy’n ei weld ac mae'n annhebygol o gael ei gofnodi. Ar y llaw arall mae achos o fwlio ar-lein yn gallu cyrraedd cynulleidfa fyd-eang gyda chofnod ohono am gyfnod amhenodol.


Mae sawl math o fwlio ar-lein, ac wrth i gyfryngau cymdeithasol ddatblygu, nid yw wedi’i gyfyngu i alwadau tynnu coes ac e-byst sarhaus. Gallai fod o gymorth i chi fod yn gyfarwydd â’r enghreifftiau canlynol.

  • Corfforol e.e. bygythiadau bwriadol, fel anfon ffeil â firws yn fwriadol
  • Geiriol e.e. gwatwar neu ddifrïo rhywun trwy anfon negeseuon bygythiol neu sarhaus neu trwy eu hynysu’n fwriadol, fel eu cau allan o sgwrs grŵp
  • Anuniongyrchol e.e. gweithredoedd cyfrwys neu du ôl i’r cefn, fel rhannu neu ail-rannu straeon
  • Cam-drin perthynol e.e. defnyddio unrhyw ffordd i niweidio perthynas y targed fel anfon lluniau bygythiol neu anweddus, creu a rhannu cynnwys ffug neu wneud hwyl am ben anghenion arbennig, salwch rhywun neu dargedu statws cymdeithasol eu teulu.
  • Rhywiol e.e. cam-drin yn seiliedig ar luniau rhywiol digroeso; blacmelio rhywiol, camddefnyddio lluniau preifat, uwchsbecian
  • Iaith ysgrifenedig neu lafar casineb ar-lein e.e. unrhyw gynnwys ar-lein sy’n targedu rhywun/grŵp yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig gyda’r bwriad neu’r effaith debygol o ysgogi, lledaenu neu hybu casineb neu fathau eraill o wahaniaethu

Mae nifer o ffactorau, fel amharodrwydd i’w adrodd, yn ei gwneud yn anodd i ymchwilwyr fesur yn gywir gyfradd bwlio ar-lein. Fodd bynnag mae ymchwil a wnaed gan Betts, Gkimitzoudis, Spenser and Baguley[1] yn awgrymu bod hyd at ddau o bob tri pherson ifanc rhwng 16 a 19 oed yn ymwneud â bwlio ar-lein yn y DU.


Mae’r Academydd, C. L. Nixon, yn hawlio bod bwlio ar-lein yn ‘emerging international public health concern, related to serious mental health concerns, with significant impact on adolescents’ depression, anxiety, self-esteem, emotional distress, substance use, and suicidal behaviour’. Yn wir, mae nifer o astudiaethau wedi awgrymu cysylltiadau rhwng bod yn darged i fwlio ar-lein a lles meddyliol isel.


Er nad oes yr un achos yn union yr un fath â’i gilydd, gallai plant a phobl ifanc sy’n cael eu bwlio ar-lein amlygu’r ymddygiad canlynol.

Os ydynt yn cael eu bwlio, efallai y byddant yn:

  • rhoi’r gorau’n sydyn i ddefnyddio eu dyfeisiau
  • cau sgriniau pan ddaw rhywun arall i mewn i’r stafell
  • edrych yn bryderus wrth dderbyn neges
  • edrych yn flin neu’n isel ar ôl defnyddio technoleg
  • dangos diffyg diddordeb neu’n osgoi mynd i’r ysgol neu fynd allan yn gyffredinol
  • yn amharod i drafod gweithgareddau y maent wedi bod yn eu gwneud ar-lein
  • tynnu’n ôl o fywyd teuluol.

Os mai nhw yw’r rhai sy’n bwlio, efallai y byddant yn:

  • cau sgriniau pan ddaw rhywun arall i mewn i’r stafell
  • defnyddio technoleg yn gyson
  • amlygu lefelau uchel o bryder os na allant gael mynediad i dechnoleg
  • osgoi siarad am yr hyn y maent yn ei wneud
  • defnyddio cyfrifon lluosog neu gyfrif ffug.

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio neu’n bwlio rhywun ar-lein, mae’n debygol o fod yn gyfrinachgar a/neu dawedog. Gallai gwybod sut i helpu eich plentyn fod yn her. Gallai’r canllawiau canlynol fod o gymorth.

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio ar-lein:

  • gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn (ac yn teimlo’n) ddiogel. Efallai bod sawl rheswm pam nad ydyn nhw eisiau datgelu eu bod yn cael eu bwlio ar-lein, e.e. ofni y gallai datgelu hynny wneud y sefyllfa’n waeth, neu arwain eraill i fod â llai o feddwl ohonynt.

  • siaradwch efo’ch plentyn a gwrandewch arno/arni. Fel rhiant neu ofalwr, dylech fod yn ofalus sut rydych yn ymateb. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw rhai plant a phobl ifanc yn adrodd ynghylch bwlio ar-lein oherwydd eu bod yn ofni y byddant yn cael eu gwahardd rhag cael mynediad i dechnoleg ar-lein. I ennyn hyder eich plentyn, peidiwch â newid eu mynediad i dechnoleg ddigidol ar ôl iddynt ddatgelu gwybodaeth i chi.
  • casglwch dystiolaeth. Ceisiwch annog eich plentyn i gadw unrhyw dystiolaeth o fwlio ar-lein i ddarparwyr cynnwys, ysgolion a’r heddlu, os bydd angen. Ond dylech fod yn ofalus sut y mae’r dystiolaeth yma’n cael ei chasglu a’i chadw. Mae ymchwil yn dangos bod rhai pobl ifanc yn ailedrych ar negeseuon nifer o weithiau i gosbi eu hunain.

Camau nesaf i’w cymryd

  • Gweithiwch gydag ysgol eich plentyn.
  • Ceisiwch ymatal rhag cysylltu â rhieni neu ofalwyr y cyflawnwr.
  • Cysylltwch â’r darparwr cynnwys ar-lein i ddweud wrthynt beth sy’n digwydd
  • Os oes angen, ceisiwch gael gwasanaeth cwnsela neu gymorth ychwanegol i’ch plentyn.
  • Galwch yr heddlu os oes unrhyw fygythiad corfforol.
  • Cymerwch fesurau i atal y broblem rhag ailddigwydd e.e. blocio cyfrifon y rhai sy’n bwlio ar-lein a newid gosodiadau preifatrwydd.

Os yw eich plentyn yn bwlio rhywun ar-lein:

  • cefnogwch eich plentyn. Hyd yn oed os mai eich plentyn yw’r sawl sy’n bwlio rhywun arall ar-lein. Mae'n bwysig sicrhau amgylchedd cefnogol anfeirniadol ar gyfer eich plentyn. 
  • trafodwch gyda nhw sut gallai eu hymddygiad ar-lein gael ei ddehongli gan eraill. Mae ymchwil yn dangos nad yw nifer o bobl ifanc sy’n bwlio eraill ar-lein yn sylweddoli y gallai eu hymddygiad gael ei ystyried fel bwlio ar-lein. Er enghraifft, gallai ymddygiad sy’n cael ei ystyried fel tynnu coes groesi’r llinell a datblygu i fod yn fwlio ar-lein. 
  • ceisiwch annog eich plentyn i ddangos empathi a rhoi eu hunain yn sefyllfa’r targed. Wrth ryngweithio ar-lein, mae unigolion yn gallu teimlo nad ydynt wedi’u cyfyngu gymaint ac maent yn fwy tebygol o ymddwyn mewn ffordd fwy eithafol. Yr enw a roddir ar hyn yw’r effaith ddiluddiannu. Gallwch atal hyn trwy ofyn i’ch plentyn ystyried teimladau’r targed a’r gofid y gallan nhw fod yn ei achosi.

Tra nad yw’n bosibl i chi reoli popeth y mae eich plentyn yn ei wneud ar-lein, gallwch leihau’r tebygolrwydd y bydd eich plentyn yn gysylltiedig â bwlio ar-lein.

  • Technoleg.  Newidiwch y gosodiadau preifatrwydd a rhowch flocwyr cynnwys ar ddyfais eich plentyn. Lluniwch gytundeb teuluol o ran technoleg yn amlinellu:
    • lle y gall eich plentyn fynd ar-lein a beth y gall ei wneud
    • faint o amser y caniateir iddo/ddi ei dreulio ar-lein
    • beth ddylai eich plentyn ei wneud os yw’n teimlo’n anghyfforddus
    • sut i fod yn ddiogel, ymddwyn yn foesegol a bod yn gyfrifol.
  • Siarad.  Trafodwch efo’ch plentyn beth yw ymddygiad ar-lein priodol a chanlyniadau gweithredoedd. Ceisiwch ei (h)annog i sôn wrthych am brofiadau o fwlio ar-lein.

Fel y manylwyd uchod, rhan sylfaenol o gefnogi eich plentyn yw siarad am fwlio ar-lein gyda nhw. Dyma rai cwestiynau a allai fod o gymorth i ddechrau’r sgwrs.

  • Pa mor dda wyt ti’n adnabod y bobl yr wyt ti’n ‘ffrindiau’ efo nhw ar y cyfryngau cymdeithasol?
  • Beth fyddet ti’n ei wneud pe byddet ti’n dyst i fwlio ar-lein?
  • Sut wyt ti'n meddwl y mae pobl eraill yn dehongli dy gynnwys a dy ymddygiad di ar-lein?
  • Wyt ti wedi cael profiad o unrhyw beth ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus?
  • Wyt ti’n meddwl am yr wybodaeth yr wyt ti’n ei rhannu ar-lein?

Betts, L. R., 'Cyberbullying: Approaches, Consequences and Interventions' (London: Palgrave, 2016)

Moore, M. O., 'Understanding Cyberbullying: A Guide for Parents and Teachers' (Dublin: Veritas Publications, 2014)

Nixon, C. L., ‘Current Perspectives: The Impact of Cyberbullying on Adolescent Health’, in 'Adolescent Health, Medicine and Therapeutics', 5 (2014),143-158

Betts, L. R., Gkimitzoudis, T., Spenser, K. A., & Baguley, T., ‘Examining the Roles Young People Fulfil in Five Types of Cyber Bullying’, in 'Journal of Social and Personal Relationships', 34 (2017), 1080 – 1098