English

I bob golwg, mae technolegau newydd yn dod i’r amlwg bob mis ac, o ganlyniad iddynt, ffyrdd newydd i bobl ryngweithio ar-lein. Fel ymarferydd addysg, mae’n ddefnyddiol gwybod sut mae technolegau newydd yn galluogi tueddiadau ac ymddygiadau newydd ymysg plant a phobl ifanc. Mae’r Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar faterion diogelwch ar-lein. Drwy ei gwaith, mae wedi canfod y tueddiadau diweddaraf sy’n effeithio ar ddysgwyr o bob oed ac ym mhob ysgol a choleg. Mae’r canllaw hwn yn nodi'r tueddiadau hyn a’r risgiau sy’n gysylltiedig â nhw, ac yn cynnig cyngor ar sut mae rheoli’r risgiau hyn a helpu dysgwyr i wneud hynny hefyd.


Mae gemau newydd yn aml yn cynyddu mewn poblogrwydd ymysg chwaraewyr yn gyflym iawn. Dros y misoedd diwethaf, mae math newydd o gêm wedi cipio dychymyg a sylw plant a phobl ifanc i raddau hollol newydd. Mae gemau ‘brwydr aruthrol’ (‘battle royale’) yn herio nifer fawr o chwaraewyr i gael gwared ar bob gwrthwynebydd arall er mwyn bod yr unig un i oroesi. Mae’r gemau hyn yn cael eu chwarae dros y rhyngrwyd, ac maent yn gallu denu miliynau o ddefnyddwyr. Mae Fortnite: Battle Royale yn enghraifft dda. Mae’r gêm aml-chwaraewr hon wedi bod yn destun llawer o achosion i’r Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein ac mae pryderon wedi cael eu codi ynglŷn ag a yw’r gêm yn gaethiwus efallai. Mae pob gêm yn gallu para tua ugain munud, ac mae gadael y gêm yn effeithio ar safle chwaraewr. Felly, mae rhai plant a phobl ifanc yn cael trafferth gadael y gêm pan fydd hi’n amser am y pryd teuluol, er enghraifft. 

Er gwaethaf y sylw negyddol, mae'r math hwn o gêm bellach yn hynod boblogaidd ymysg plant a phobl ifanc. Does dim syndod fod datblygwyr gemau yn ychwanegu’r modd hwn at eu fersiynau diweddaraf. I chwaraewyr hŷn, mae Call of Duty: Black Ops 4 a Battlefield V yn cael eu rhyddhau yn 2018, a byddant yn cynnwys moddau brwydr aruthrol. Caiff chwaraewyr iau flas ar foddau brwydr aruthrol yn Darwin Project a Crazy Justice. Efallai y bydd plant sydd wedi chwarae Fortnite wedi chwarae gemau eraill sydd heb sgôr oedran eto, fel Fear the Wolves ac SOS. Mae mwy o wybodaeth am Fortnite a gemau brwydr aruthrol eraill ar gael ar y wefan Ask about games (Saesneg yn unig).

Mae gemau brwydr aruthrol yn gallu bod yn gyffrous iawn ond, yr un fath â phob gêm ar-lein, mae’n bwysig bod dysgwyr a rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o’r risgiau posib ac yn cymryd camau i aros yn ddiogel ar-lein. Dyma rywfaint o awgrymiadau ar gyfer sut mae gwneud hynny.

  • Cael cydbwysedd iach. Mae chwarae gemau yn hwyl, ond mae’n gallu datblygu’n obsesiwn. Beth am gael sgwrs â’ch dysgwyr am gydbwyso amser o flaen sgrin ag amser all-lein, adloniant ag addysg, a rhannau pwysig eraill o’u bywyd. Fe allwch chi annog rhieni a gofalwyr i gael y sgwrs hon â’u plant gartref hefyd. Mae’r rhestr chwarae Treulio gormod o amser o flaen sgrin? (Ymarferwyr addysg) yn archwilio'r problemau ynghylch amser o flaen sgrin a ffyrdd o fynd i’r afael â nhw.
  • Defnyddio gosodiadau diogelwch. Mae gan gonsolau gemau a’r gemau eu hunain amrywiaeth o osodiadau gallwch chi eu galluogi i ddiogelu plant a phobl ifanc pan fyddant yn chwarae gemau ar-lein. Gwnewch yn siŵr bod eich dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr yn gwybod amdanyn nhw a sut mae eu galluogi. Fe allai’r Canllaw i rieni a gofalwyr ar fanteision a risgiau gemau ar-lein ar Hwb fod yn ddefnyddiol er mwyn codi ymwybyddiaeth o risgiau chwarae gemau, a rhai o'r camau i helpu plant a phobl ifanc chwarae gemau’n ddiogel.
  • Siarad am sgwrsio ar-lein. Mae gan rai gemau adnoddau sgwrsio parod, ond gall eraill ddefnyddio gweinyddion trydydd parti i gysylltu â chymunedau ar-lein rhyngweithiol. Mae’n bosib mai ychydig iawn o osodiadau diogelwch sydd gan y gweinyddion trydydd parti hyn. Hefyd, mewn gemau fel Fortnite lle mae sain yn hollbwysig, mae chwaraewyr yn dueddol o wisgo clustffonau, a dydy rhieni/gofalwyr ddim yn gallu clywed beth mae pobl ddiarth yn ei ddweud. Gwnewch yn siŵr bod eich dysgwyr yn ymwybodol o hyn ac yn gwybod beth i’w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le wrth ryngweithio â phobl ar-lein. Fe allwch chi hefyd awgrymu bod rhieni/gofalwyr yn cael sain yn dod o’r teledu yn ogystal â’r clustffonau, er mwyn iddynt allu clywed beth mae chwaraewyr eraill yn ei ddweud.
  • Hybu cwsg. Bydd cael ychydig o gwsg neu ddim cwsg o gwbl yn effeithio ar ddysgu plentyn neu berson ifanc. Weithiau, mae hyn yn gallu bod o ganlyniad i chwarae gemau hyd oriau mân y bore. Efallai y dylech chi drafod hyn yn uniongyrchol â’r dysgwyr er mwyn iddynt ddeall pwysigrwydd cwsg i'w lles. Os ydych chi’n amau bod dysgwr yn dioddef o ddiffyg cwsg o ganlyniad i chwarae gemau’n ormodol, mae’n bwysig tynnu sylw at yr ymddygiad hwn a dilyn y gweithdrefnau diogelu.
  • Achub y blaen. Fel y nodwyd uchod, bydd Call of Duty Black Ops 4 a Battlefield V yn cael eu rhyddhau yn nes ymlaen eleni, a’r ddau yn cynnwys moddau brwydr aruthrol. Beth am ddarllen amdanyn nhw nawr er mwyn cael gwybod pa fath o gemau fydd eich dysgwyr yn eu chwarae efallai. Cofiwch fod rhai dysgwyr wedi cael mynediad at fersiynau ‘beta’ o’r gemau dros wyliau’r haf o bosib.
  • Gwnewch eich gwaith ymchwil. Dyma rywfaint o safleoedd defnyddiol sy’n cynnwys gwybodaeth ddibynadwy am gemau gan gynnwys adolygiadau, gwybodaeth am sgoriau oedran, a chyngor diogelwch cyffredinol.

Mae gwasanaethau negeseua ac apiau poblogaidd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Mae’r diweddariadau hyn yn aml yn cynnwys nodweddion newydd, trwsio chwilod a diweddariadau diogelwch. Dros y misoedd diwethaf, mae’r prif nodweddion canlynol wedi ymddangos mewn nifer o apiau poblogaidd, ac wedi arwain at lawer o alwadau i’r Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein. Mae’n bwysig helpu dysgwyr i gymryd gofal wrth ddefnyddio nodweddion newydd, oherwydd mewn rhai achosion gall eu defnyddio arwain at ddatgelu gwybodaeth bersonol neu leoliad mewn camgymeriad, a hynny i bobl nad oeddent yn bwriadu datgelu iddynt. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y nodweddion newydd, mae’r Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein ar gael i’ch helpu chi i'w deall er mwyn i chi allu cefnogi eich dysgwyr yn well.

  • Statws gweithgarwch. Mae defnyddwyr Instagram bellach yn gallu postio statws gweithgarwch ar ôl i apiau eraill, fel Facebook Messenger, gynnwys y nodwedd hon. Mae gosod statws gweithgarwch yn rhoi gwybod i’ch dilynwyr a ydych chi’n defnyddio'r ap ar y pryd, neu pa bryd oeddech chi ar yr ap ddiwethaf. Mae ychwanegu'r nodwedd hon nawr yn rhoi dewis i ddefnyddwyr o ran eu statws gweithgarwch. Bydd ei diffodd yn golygu na fydd pobl yn gallu gweld a ydych chi ar yr ap, neu pa bryd oeddech chi ddiwethaf, ac i’r gwrthwyneb. Fe allai’r elfen hon o lwyfan cyfryngau cymdeithasol gael effaith negyddol ar rywun sy’n cael ei fwlio, ei aflonyddu neu ei stelcio ar-lein.
  • Straeon (‘Stories’). Cafodd y nodwedd hon ei chyflwyno ar Snapchat i ddechrau, ond mae bellach wedi cael ei chyflwyno ar nifer o apiau, gan gynnwys Instagram a Facebook. Mae Straeon yn ffordd wych o rannu rhywfaint o’ch diwrnod, ac maent yn teimlo’n llai parhaol na phostio ar eich llinell amser, gan eu bod yn dileu eu hunain ar ôl 24 awr fel arfer. Serch hynny, mae angen i ddefnyddwyr gofio bod pobl eraill yn gallu cymryd sgrin lun a rhannu cynnwys eu stori’n ehangach. Mae modd golygu a dileu stori cyn i’r 24 awr ddod i ben, ond dylid annog defnyddwyr i feddwl cyn postio, ac ystyried pa wybodaeth bersonol a allai fod yn cael ei rhannu.
  • Mae llawer o apiau’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu eu lleoliad. Ar Snapchat, mae hyn yn cael ei wneud ar ffurf hidlydd er mwyn i chi allu ei ychwanegu at eich lluniau, ac fe allwch chi hefyd ychwanegu eich straeon at fap rhyngweithiol. Ar Instagram, mae’n ymddangos fel dewis pan fyddwch chi’n ychwanegu capsiwn, ac ar Facebook mae’n rhaid i chi ddiffodd eich lleoliad bob tro os nad ydych chi am ei rannu ar bob statws. Hanfod cyfryngau cymdeithasol ydy cysylltu pobl, felly mae hyn yn ffordd amlwg o wneud hynny, ond mae goblygiadau diogelwch clir hefyd. Fe ddylech chi annog defnyddwyr i wneud penderfyniad pendant o ran pryd i ddarlledu eu lleoliad. Pan fyddant ar wyliau, mae’n gallu bod yn hwyl rhoi gwybod eu bod mewn atyniad penodol, bron fel creu cofarwydd digidol, ond oes angen tagio eu lleoliad bob tro pan fyddant gartref?

Mae ymddygiadau a thechnolegau newydd yn newid o hyd. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu chi.

Cyngor campus

  • Gwell rhwystro’r clwy na’i wella. Fe ddylech ddiweddaru polisïau rheoli argyfwng eich ysgol/coleg i gynnwys y camau i’w cymryd os bydd pryder diogelwch ar-lein newydd yn codi.
  • A yw’n broblem go iawn? Cofiwch mai nod sefydliadau cyfryngau ydy gwerthu newyddion, ac mae stori syfrdanol am beryglon technoleg yn gwneud hynny’n berffaith. Cymerwch funud i ystyried y dystiolaeth. Ydy’r hyn rydych chi’n ei ddarllen yn destun pryder go iawn?
  • Pennu'r ffynhonnell. Ewch ati i ddiogelu'r dysgwyr yn eich ysgol/coleg yn gyntaf oll. Ydy'r wybodaeth am bryder wedi dod o ffynhonnell fewnol neu allanol? Pa ffordd bynnag rydych chi’n dod i wybod am y broblem, efallai byddai’n syniad ymchwilio rhagor a chymryd amser i ystyried eich camau cyn rhoi gwybod i randdeiliaid yr ysgol/coleg.
  • Rhannu gwybodaeth ar sail ‘angen gwybod’. Yn eithaf aml, dydy'r tueddiadau ar-lein sy’n cael eu hadrodd yn y cyfryngau ddim yn berthnasol iawn i’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol. Os ydy’r duedd ddiweddaraf yn gêm a allai achosi i blant a phobl ifanc weld cynnwys niweidiol, mae’n ddealladwy y byddech chi am rannu rhybuddion am hyn. Ond gallai gwneud hynny ddim ond ennyn chwilfrydedd dysgwyr, gan arwain at y dysgwyr yn ceisio mynd ar drywydd y gêm. Dyna pam y dylech chi rannu gwybodaeth dim ond os ydy hynny’n gwbl angenrheidiol.
  • Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch am gymorth. Os ydych chi’n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc ac yn dymuno cael cyngor am bryder diogelwch ar-lein, cysylltwch â’r Llinell Gymorth i Weithwyr Proffesiynol ar Ddiogelwch Ar-lein am fwy o gyngor, drwy ffonio 0344 381 4772 neu e-bostio helpline@saferinternet.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth am gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, mae gan y Parth Cadw'n ddiogel ar-lein amrywiaeth eang o adnoddau ar ddiogelwch ar-lein, ac mae’r adnoddau ar gael yn ddwyieithog.