English

Nod y ddogfen hon yw eich helpu i ymgymryd â’ch dyletswyddau diogelu fel bwrdd llywodraethu. Gellir ei hystyried yn ddogfen ategol i ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru, ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’, sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant. Mae hyn yn cynnwys helpu ysgolion i ddarparu amgylchedd diogel, cyfrifol a chefnogol ar gyfer dysgu, ac atal mynediad at ddeunydd amhriodol neu niweidiol.

Holl lywodraethwyr a chyrff llywodraethu ysgolion a cholegau Cymru

Mae pobl ifanc yn dweud bod arweinwyr ysgolion ac athrawon yn tanamcangyfrif bob amser nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng plant a phobl ifanc. Mae ystadegau adroddiad Estyn (Rhagfyr 2021) yn cadarnhau bod hwn yn fater hynod bwysig sy'n effeithio ar blant – dywedodd 76% o ddisgyblion eu bod wedi gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd i eraill, a dywedodd 86% o ferched eu bod wedi gweld neu brofi aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. 'Yn fwy aml ar-lein' oedd yr ateb mwyaf poblogaidd i 'ble mae aflonyddu rhywiol rhwng disgyblion yn digwydd amlaf?'. Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn cydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gyffredin iawn ym mywydau dysgwyr ac y dylid dilyn dull ataliol a rhagweithiol ar lefel ysgol gyfan i ddelio ag ef.  

Mae'r ddogfen fer hon yn esbonio beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein, ac yn tynnu sylw at wybodaeth ychwanegol sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnig cwestiynau allweddol y dylech fod yn eu gofyn yn eich rôl fel llywodraethwr/arweinydd ysgol, i gefnogi'r ysgol yn ei gwaith o ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng plant a phobl ifanc.

Wrth sôn am aflonyddu rhywiol ar-lein, rydym yn golygu unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso sy'n digwydd ar unrhyw blatfform digidol. Gall fod ar amrywiol ffurfiau, gan gynnwys bygythiadau rhywiol, bwlio rhywiol, cyswllt rhywiol digroeso a rhannu neu greu delweddau neu fideos personol heb gydsyniad yr unigolyn. Mae'n gallu codi ofn ar berson, creu ymdeimlad o fygythiad, cywilydd neu waradwydd, a gwneud i berson deimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn ei erbyn hyd yn oed.

  • Beth i chwilio amdano?

    • Mae aflonyddu rhywiol ar-lein yn cael sylw penodol mewn polisi ysgol ac mae staff yr ysgol yn ymwybodol o'r hyn yw aflonyddu rhywiol ar-lein, y ffurfiau gwahanol posibl sydd iddo, a’i nodweddion penodol. Mae’r ysgol yn deall yn glir beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein a pham nad yw’n dderbyniol.
    • Mae staff yr ysgol yn ymwybodol o’r ffaith y gall aflonyddu rhywiol ar-lein orgyffwrdd ag aflonyddu rhywiol all-lein a mathau eraill o ymddygiad rhywiol niweidiol.
    • Mae gan yr ysgol ddealltwriaeth glir o’r derminoleg y cytunwyd arni wrth gyfeirio at unigolion sydd ynghlwm mewn achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein (er enghraifft, dioddefwyr, cyflawnwyr, cyflawnwyr honedig, gwylwyr) a sut y dylid ei defnyddio.
    • Mae’r ysgol yn mynd i’r afael yn effeithiol â’r ystod o faterion sy’n ymwneud â rhagfarn.
    • Mewn perthynas â thrafod profiadau ar-lein plant a phobl ifanc, mae staff yr ysgol yn deall yr iaith, yr agweddau a'r ymddygiadau sy’n gallu cyfleu bod bai ar y dioddefwr, ac maent yn deall bod beio plant a phobl ifanc am unrhyw gamdriniaeth neu niwed y maent wedi'i brofi yn annerbyniol bob amser.
    • Mae staff yr ysgol yn ymwybodol o’r ystod o faterion sy’n gallu cyfrannu at sefyllfa lle mae dysgwyr yn arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol ar-lein.
    • Mae’r ysgol yn gyfarwydd â’r prif gyfreithiau a chanllawiau statudol sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol ar-lein.

    Atal aflonyddu rhywiol ar-lein: Arfer da

    • Mae’r ysgol yn gweithredu ar lefel ysgol gyfan ac yn gwreiddio negeseuon am ddiogelwch ar-lein a chydberthnasau iach ar draws y cwricwlwm a’r gymuned, gan gynnwys negeseuon am aflonyddu rhywiol ar-lein.
    • Mae’r uwch dîm arwain yn hyderus ac yn gofalu bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeall, atal ac ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein.
    • Mae’r ysgol yn cefnogi’r holl staff yn eu dyletswydd i ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein drwy bolisïau, gweithdrefnau a chyfleoedd hyfforddi a datblygu rheolaidd.
    • Mae’r dysgwyr a’r staff yn deall hanfodion cadw eu hunain yn ddiogel ar-lein – gan gynnwys gosodiadau preifatrwydd, sut i roi gwybod pan fydd rhywbeth yn digwydd, a sut i drefnu bod deunyddiau yn cael eu tynnu i lawr.
    • Mae’r ysgol yn sicrhau bod y gymuned ysgol gyfan yn cael ei chynnwys mewn gwaith atal, gan gynnwys creu polisïau cysylltiedig, a deall beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein.
    • Mae pob aelod o’r staff yn deall sut mae rhoi gwybod am unrhyw achos o gam-drin ar-lein a ddaw i’w sylw.
    • Mae’r dysgwyr yn cael gwybod am y llwybrau hysbysu gwahanol sydd ar gael iddynt a sut y cânt eu cefnogi.
    • Mae’r dysgwyr yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ar ôl iddynt roi gwybod am ddigwyddiad, ac yn deall na fyddant byth yn cael eu beio am unrhyw gamdriniaeth neu niwed a brofant.
    • Mae’r rhieni a’r gofalwyr yn cael gwybod am y llwybrau hysbysu gwahanol sydd ar gael iddynt.
    • Mae’r rhieni a’r gofalwyr yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar ôl iddynt/i’w plentyn roi gwybod am ddigwyddiad a sut y cânt eu cefnogi.
    • Mae’r staff yn deall sut mae plant a phobl ifanc yng nghymuned yr ysgol yn defnyddio technoleg.
    • Mae’r ysgol yn gyfarwydd â’r dyfeisiau, y gwefannau a’r apiau y mae cymuned yr ysgol yn eu defnyddio.
    • Mae’r ysgol yn hyrwyddo defnydd cadarnhaol o dechnoleg.
    • Mae canlyniadau i aflonyddu rhywiol, ar-lein ac all-lein, ac mae cymuned gyfan yr ysgol gyfan yn glir ynghylch sut y bydd achosion yn cael eu trin.
    • Mae’r staff a’r dysgwyr yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae’r ysgol yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc sy’n dioddef aflonyddu rhywiol ar-lein.
    • Mae’r ysgol yn monitro ac yn mesur effaith ei gwaith atal.

    Pryd i fod yn bryderus

    • Nid oes gan yr ysgol bolisïau diogelwch ar-lein o sylwedd, os o gwbl, gan gynnwys polisïau ynghylch ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein.
    • Mae'r ysgol wedi paratoi polisïau sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol, ond nid yw'r rhain wedi’u gwreiddio o fewn yr ysgol na'u rhannu â staff.
  • Yr hyn i chwilio amdano

    • Mae’r staff yn gyfarwydd â phrosesau'r ysgol ynghylch ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein, a gallant gael gafael arnynt yn hawdd ac yn gyflym.
    • Mae cymuned gyfan yr ysgol yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r ysgol yn cefnogi dysgwyr sy’n cael eu cam-drin y tu allan i’r ysgol, ac yn ystod gwyliau’r ysgol.
    • Mae'r staff yn ymwybodol o agweddau dysgwyr at roi gwybod am ddigwyddiadau, a’r hyn sy’n eu rhwystro rhag gwneud hynny, ac yn gwneud ymdrech i wella’r sefyllfa.
    • Mae’r dysgwyr sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn cael eu cynnwys mewn ffordd briodol yn y broses o wneud penderfyniadau a datrys y sefyllfa.
    • Mae staff priodol yn derbyn hyfforddiant ar sut i gynnal asesiad risg er mwyn penderfynu a yw digwyddiad yn anghyfreithlon.
    • Mae’r staff yn gwybod beth i’w wneud os ydynt yn amau bod gweithgarwch aflonyddu rhywiol ar-lein yn torri’r gyfraith.
    • Mae’r staff yn gwybod sut i gyfeirio adroddiadau at uwch aelodau staff priodol drwy weithdrefn yr ysgol.
    • Mae’r ysgol yn ymgynghori ag asiantaethau eraill er mwyn cael eu cefnogaeth (er enghraifft y bwrdd lleol diogelu plant, gwasanaethau cymdeithasol plant, swyddogion cymuned ysgol yr heddlu).
    • Mae 1 aelod o’r staff yn gweithredu fel pwynt cyswllt os oes asiantaethau eraill yn ymwneud ag achos. Mae cynllun clir o ran sut i hwyluso trefniadau cydweithio amlasiantaethol yn effeithiol.
    • Mae’r staff yn gyfarwydd â phrosesau’r ysgol o ran chwilio dysgwyr, cymryd dyfeisiau a dileu deunydd, a gallant gael gafael ar bolisïau’r ysgol ar gyfer hyn yn hawdd ac yn gyflym.
    • Mae’r holl ddysgwyr a allai fod wedi cael eu heffeithio gan achos o aflonyddu rhywiol ar-lein (gwylwyr, dioddefwyr a chyflawnwyr) yn cael cynnig cymorth parhaus.
    • Mae’r rhieni a’r gofalwyr yn cael gwybod am unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ac yn cael eu cynnwys yn y broses o’u datrys.
    • Mae’r dysgwyr sydd wedi cyflawni gweithgarwch aflonyddu rhywiol ar-lein yn cael cymorth i newid eu hymddygiad.

    Arfer da

    • Mae’r ysgol yn adolygu ei phrosesau a’i pholisïau ar-lein yn rheolaidd gan ddefnyddio adnodd hunan-adolygu 360 Safe Cymru, ac yn cynnwys ei drafod mewn cyfarfodydd tîm.
    • Mae gan yr ysgol lwybrau a mecanweithiau hysbysu amlwg, gan gynnwys rhai ar-lein, ar gyfer dysgwyr a rhieni a gofalwyr.
    • Mae'r holl staff yn ymwybodol o ffynonellau cymorth mewn perthynas ag achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein, fel: y llinell gymorth Professionals Online Safety Helpline, Riportio Cynnwys Niweidiol, ‘Canllawiau 'Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth' , a phecynnau cymorth addysgu ‘Codi Llaw, Codi Llais’ a ‘Dim ond jôc?’ (gweler yr adran Adnoddau ategol).
    • Mae gan y Person Diogelu Dynodedig a’i ddirprwyon y sgiliau priodol ac maent wedi cael eu hyfforddi i ddelio â'r gwahanol risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch ar-lein. Gall fod aelodau ychwanegol o'r staff wedi'u henwebu i roi cymorth yn y maes hwn gan ddefnyddio eu harbenigedd.
    • Mae’r staff yn cael hyfforddiant priodol ar ddiogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys yn ymwneud â diogelwch ar-lein.
    • Mae gan yr ysgol strategaethau wedi’u cynllunio effeithiol ar gyfer cymorth gan gyfoedion, er enghraifft, mecanweithiau hysbysu neu brosesau uwchgyfeirio, a gefnogir gan holl staff yr ysgol neu’r coleg.
    • Mae’r ysgol yn ymchwilio i ymddygiad a risgiau ar-lein, gan ddarparu gwybodaeth sylfaenol gan y dysgwyr am y lefelau a'r mathau o broblemau ar-lein sy'n gyffredin yn yr ysgol neu’r coleg.
    • Mae’r ysgol yn ymgymryd â gwaith gwerthuso rheolaidd mewn perthynas â llwybrau hysbysu a gweithdrefnau ymateb.
    • Mae adroddiad y pennaeth i'r corff llywodraethu yn tynnu sylw at wybodaeth a data am ddiogelwch ar-lein.
    • Mae penderfyniadau ynghylch hidlo a monitro priodol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, yn unol ag anghenion yr ysgol neu’r coleg, ac mae gwybodaeth berthnasol yn cael ei chyfleu’n glir i'r staff, y dysgwyr, y rhieni a’r gofalwyr.

    Pryd i fod yn bryderus

    • Nid oes llwybrau hysbysu, neu mae’r llwybrau hysbysu yn aneglur, neu’n anghyson.
    • Nid oes prosesau cofnodi er mwyn galluogi'r ysgol neu’r coleg i nodi a monitro pryderon.
    • Nid yw’r dysgwyr, y rhieni a’r gofalwyr yn ymwybodol o’r llwybrau hysbysu, neu nid ydynt yn ymddiried ynddynt.
    • Mae’r staff yn ansicr sut i gefnogi dysgwyr, rhieni a gofalwyr o ran achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein.
    • Nid oes dulliau hidlo a monitro priodol ar waith, a/neu mae diffyg dealltwriaeth o'r penderfyniadau a wneir gan y tîm arwain mewn perthynas â hidlo a monitro priodol.
  • Yr hyn i chwilio amdano

    • Cofnod o anghenion hyfforddiant yr holl staff .
    • Mae’r staff yn manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yn ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ ar Hwb.
    • Mae hyfforddiant sy'n gwella gwybodaeth ac arbenigedd y staff o ran ymddygiad diogel a defnydd priodol o dechnoleg yn cael ei gynnig a’i ddilyn.
    • Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein sy'n rhan annatod o'r hyfforddiant diogelu sy'n ofynnol ar gyfer pob aelod o'r staff o leiaf unwaith y flwyddyn.
    • Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) sy'n rhan annatod o broses sefydlu pob aelod newydd o staff.
    • Hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) sy’n cael ei gydlynu gan y person diogelu dynodedig.
    • Tystiolaeth bod y person diogelu dynodedig (a'i ddirprwyon) wedi sicrhau bod ganddynt wybodaeth a sgiliau cadarn mewn perthynas â diogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein).
    • Mae'r ysgol wedi ystyried a sefydlu systemau hidlo a monitro priodol ar gyfer ei seilwaith digidol a’r cysylltedd, i amddiffyn defnyddwyr rhag cael mynediad at ddeunydd amhriodol neu ymweld â gwefannau amhriodol.

     Arfer da

    • Mae’r person diogelu dynodedig a’i ddirprwyon â lefel uwch o hyfforddiant, gwybodaeth ac arbenigedd o ran materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein), a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n glir mewn perthynas â diogelwch ar-lein cymuned yr ysgol neu’r coleg.
    • Datblygu arbenigedd o ran diogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) ar draws carfan o staff er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth a sgiliau eu trosglwyddo a'u cynnal.
    • Sefydlu hyfforddiant clir ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) fel rhan o hyfforddiant diogelu ehangach yr ysgol neu’r coleg.
    • Diweddaru deunydd hyfforddiant er mwyn adlewyrchu ymchwil gyfredol a datblygiadau ym maes technoleg yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau lleol.
    • Rhoi hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) i bob aelod newydd o staff fel rhan o'r broses sefydlu.

     Pryd i fod yn bryderus

    • Nid yw’r person diogelu dynodedig na’i ddirprwyon wedi’u hyfforddi na’u hawdurdodi’n briodol o ran diogelwch ar-lein.
    • Nid oes 1 person neu grwp cydnabyddedig sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar-lein, neu sydd â’r hyfforddiant a’r awdurdod priodol.
    • Nid oes unrhyw hyfforddiant i bob aelod o’r staff, nid oes llawer o hyfforddiant i bob aelod o’r staff neu nid yw’r hyfforddiant i bob aelod o’r staff yn gyfredol.
    • Mae rhai aelodau o'r staff sydd heb gael unrhyw hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein).
    • Nid oes hyfforddiant diweddar rheolaidd, sy’n cael ei ddilyn yn flynyddol o leiaf.
    • Nid yw'r hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein (gan gynnwys ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein) yn cyflawni anghenion y staff.
    • Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar hen adnoddau, neu ddeunyddiau nad ydynt yn gywir.
    • Mae diffyg eglurder ynglyn â phwy sy'n cydlynu hyfforddiant staff.