English

Rhaid i bob adnodd ar Hwb fodloni'r meini prawf canlynol.

Allwn ni ddim cyhoeddi unrhyw ddeunydd sy'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae hyn yn ofyniad statudol o dan safonau'r Gymraeg. Felly mae'n rhaid i bob adnodd fod yn gwbl ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys fideos, clipiau sain a phob elfen arall o'r deunydd.

Gall cynhyrchu deunydd cwbl ddwyieithog fod yn her, wrth greu fideos er enghraifft. Mae'n bwysig datrys unrhyw broblemau posib o'r cychwyn cyntaf, er mwyn sicrhau bod Hwb yn gallu derbyn a chyhoeddi eich deunyddiau.

Gofynnwch am gyngor wyneb yn wyneb, os oes angen, gan Catrin Parri, Uwch-gynghorydd ar Gyfathrebu Dwyieithog Catrin.parri@llyw.cymru. Bydd sgwrs gynnar gyda Llywodraeth Cymru o gymorth i sicrhau sicrwydd ansawdd digonol a chynnyrch gwell yn y ddwy iaith yn y pen draw.

Dylai'r holl adnoddau fod am ddim i'w defnyddio a'u cyrchu, heb fod angen mewngofnodi. Lle bo modd, ni ddylai'ch adnodd gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd angen mewngofnodi iddyn nhw neu sy'n gofyn am fanylion pellach. Yr eithriad yw cysylltu ag adnoddau neu offer rydych chi'n eu defnyddio i fewngofnodi i Hwb.

Rhaid i bob adnodd fod yn anfasnachol ei natur, heb hyrwyddo unrhyw wasanaeth neu sefydliad lle ceir unrhyw weithgaredd masnachol. Ni ddylai defnyddiwr orfod prynu ap neu feddalwedd i ddefnyddio'r adnodd.

Rhaid i bob elfen o adnodd fod ar gael i'w lanlwytho i Hwb. Darllenwch ein canllawiau creu dogfennau hygyrch am fwy o fanylion.

Er mwyn sicrhau bod eich adnoddau yn addas ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, darllenwch ein canllaw ar adnoddau a deunyddiau ategol.

Testun

Lle bynnag y bo modd dylech greu a defnyddio eich testun eich hun mewn adnodd ar gyfer Hwb. Yr unig ddefnydd a ganiateir o destun gwreiddiol mewn adnodd yw er mwyn dyfynnu. Mae angen iddo gynnwys dyfyniad priodol, wedi'i gyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol er mwyn pwysleisio'r pwynt a wnaed. Peidiwch â sganio gwerslyfrau, papurau newydd, cylchgronau nac unrhyw ddeunydd printiedig arall a'i ddefnyddio mewn adnodd ar gyfer Hwb, hyd yn oed darnau bach o'r cyhoeddiadau hyn. Mae copïo â llaw neu deipio'r testun yn dal i dorri cyfraith hawlfraint.

Delweddau

Mae ffotograffau a darluniau, gan gynnwys rhai a geir ar beiriannau chwilio fel Google Images a Bing Images, wedi'u diogelu gan hawlfraint ac ni allwch eu defnyddio heb ganiatâd y perchennog.

Mae rhai gwefannau, fel Wikimedia Commons, yn cadw delweddau i'w hailddefnyddio dan drwyddedau Creative Commons - mae rhai yn ddelweddau 'parth cyhoeddus' y gellir eu defnyddio am ddim, ond cofiwch fod rhai'n destun trwyddedau 'priodoli' sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi gydnabod perchennog yr hawlfraint.

Defnyddiwch wefannau fel Pixabay, Pexels ac Unsplash sydd â nifer o ddelweddau di-hawlfraint a di-briodoledd ar gael i'w lawrlwytho. Chwiliwch am luniau ar Flickr o dan yr hidlydd ‘No known copyright restrictions’.

Sain/fideo

Mae clipiau sain a fideo wedi'u diogelu gan hawlfraint, felly ni ddylech eu defnyddio mewn adnodd oni bai eich bod wedi eu creu nhw eich hun neu wedi cael caniatâd gan y sawl wnaeth eu creu. Nid yw prynu CD neu DVD neu ffeil ddigidol yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio'r cynnwys heb gyfyngiad – dim ond prynu'r cyfryngau corfforol a'r hawl i wrando ar y gerddoriaeth neu wylio'r ffilm at ddefnydd personol ydych chi. Fel gyda delweddau, dyw'r ffaith bod clip eisoes ar-lein ddim yn golygu ei fod yn y parth cyhoeddus ac felly ar gael i'w ddefnyddio’n rhad ac am ddim.

Yn hytrach na gosod fideo ar-lein yn eich adnodd, rhowch ddolen i'r gwefannau lle mae’r clipiau fel YouTube neu Vimeo. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio clipiau sain fel effeithiau sain a 'brynwyd' gennych ar-lein – gall telerau'r drwydded olygu eu bod wedi'u cyfyngu at ddefnydd personol yn unig.

Am ragor o wybodaeth am hawlfraint, gweler y Copyright Licensing Agency neu'r Intellectual Property Office.

Os nad yw'r adnodd yn cael ei gynnal ar Hwb, rhaid i'r wefan fod â chyfeiriad HTTPS diogel.

Dylai adnodd ddarparu gweithgaredd addysgol y gall yr athro neu'r dysgwr ei gyflawni er mwyn helpu i gyrraedd y nod dysgu.

Gallai'r mathau o adnoddau gynnwys:

  • deunyddiau arddangos (fel posteri)
  • dolenni i wefannau defnyddiol
  • canllawiau
  • deunyddiau i ddysgwyr
  • taflenni gwybodaeth/taflenni i’w dosbarthu
  • fideos/clipiau sain
  • deunyddiau HMS
  • canllawiau arfer da
  • astudiaethau achos

Gallwn naill ai gynnal adnoddau ar Hwb neu gyfeirio trwy gysylltu â thudalen ar y we neu ffeil ar-lein o'r cerdyn adnoddau.

  • Dim ond mewn un lle y dylai adnoddau gael eu cynnal. Os yw'r adnoddau eisoes ar eich gwefan, yna byddai'n well gennym ddarparu dolenni'n uniongyrchol iddyn nhw o Hwb, fel i BBC Bitesize. Eithriad fyddai os yw'r deunyddiau’n cael eu cynnal y tu ôl i broses fewngofnodi ond eich bod am sicrhau eu bod ar gael yn gyhoeddus ar Hwb.
  • Os nad yw'ch adnoddau ar gael yn unrhyw le arall, yna gallwn eu cynnal ar Hwb. Os ydych chi’n dewis yr opsiwn hwn, bydd angen i chi sicrhau bod unrhyw ddolenni i'r adnoddau ar eich gwefan yn cyfeirio defnyddwyr at y lle priodol ar Hwb. Dylech ystyried hyn hefyd os oes problemau gyda'r wefan bresennol fel hyd oes cyfyngedig, dibyniaeth ar gyllid neu ddiffyg diweddariadau.

Adnoddau a grëwyd gan sefydliadau allanol

Bydd angen i chi gael prosesau sicrhau ansawdd ar waith cyn anfon y deunyddiau at Hwb.

Efallai y bydd aelod o dîm cynnwys digidol Hwb yn gofyn y cwestiynau canlynol i chi pan ddaw hi'n amser adolygu'r dogfennau.

  • Pwy ysgrifennodd y cynnwys? Ydyn nhw'n arbenigo ar y pwnc?
  • Yw'r ffeithiau yn y cynnwys wedi'u gwirio gan fwy nag un person?
  • Yw'r cynnwys wedi'i olygu gan rywun heblaw'r awdur?
  • Sut cafodd y fersiwn Gymraeg ei chreu? A ddefnyddiwyd cyfieithydd proffesiynol?
  • Pryd cafodd yr adnodd ei ysgrifennu a'i greu?
  • Ydych chi wedi defnyddio'r arddull ty cywir wrth ysgrifennu'r deunyddiau? Ar gyfer deunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru, gweler canllaw arddull Llywodraeth Cymru.
  • Yw hawlfraint unrhyw luniau, fideos, cerddoriaeth ac unrhyw ddeunyddiau eraill â hawlfraint wedi'u clirio i'w cynnwys? Ar gyfer adnoddau sydd wedi'u creu ar gyfer Llywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth Cymru, ydych chi wedi llenwi'r ffurflen ryddhau i gael caniatâd?
  • Yw'r deunyddiau’n ystyried materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr, cymysgedd rhywedd, lleiafrifoedd ethnig) ac unrhyw ystyriaethau hygyrchedd?

Adnoddau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru drwy drydydd parti

Os yw'r adnoddau wedi’u comisiynu, bydd tîm cynnwys digidol Hwb yn rhan o'r broses ddatblygu ar ôl dyfarnu contract. Bydd y tîm yn cynghori ar y canlynol:

  • yr arddull ty cywir i'w defnyddio wrth ysgrifennu deunyddiau
  • cyfieithwyr cymeradwy y gellir eu comisiynu i gyflenwi fersiynau Cymraeg
  • rhaid cael y caniatâd cywir i ddefnyddio deunyddiau a gomisiynwyd i'w cynnwys yn yr adnoddau, fel lluniau, fideos neu gerddoriaeth (er enghraifft, trwy lenwi ffurflen ryddhau Llywodraeth Cymru)
  • defnyddio deunyddiau hawlfraint byw yn yr adnoddau, a'r caniatâd priodol sy'n rhaid ei gael gan ddeiliaid hawlfraint ar gyfer eu cynnwys
  • materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr) ac unrhyw ystyriaethau hygyrchedd

Os yw eich adnodd yn cydymffurfio â'n meini prawf, llenwch ein ffurflen lanlwytho adnoddau Hwb.