English

Mae'n hanfodol bod pob adnodd dysgu ac addysgu adlewyrchu egwyddorion a rhesymeg y Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd briodol. Er mwyn sicrhau bod yr adnoddau y mae ysgolion a darparwyr eraill yn eu defnyddio yn gyson, yn gydradd ac yn deg, mae angen i feini prawf cytûn gael eu defnyddio ym mhob rhan o'r system addysg yng Nghymru. Mae'r canllaw hwn yn cefnogi manyleb a chynllun adnoddau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gan gydnabod rôl ymarferwyr fel cynllunwyr y cwricwlwm. At ddibenion y canllaw hwn, mae’r term adnoddau yn cynnwys deunyddiau ategol.

Canllaw anstatudol ydyw i unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r gwaith o ddatblygu a chynhyrchu adnoddau a deunyddiau ategol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Dylai roi ystyriaeth ddyledus i'r egwyddorion a amlinellir yn y canllaw hwn sicrhau bod yna adnoddau ansawdd sy'n addas at y diben i gefnogi dysgu ac addysgu ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau. Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion a darparwyr eraill yn ogystal â sefydliadau yn y trydydd sector, y sector preifat a'r sector cyhoeddus a sefydliadau nid er elw. Mae'n berthnasol i adnoddau a ddatblygwyd gan ymarferwyr a gaiff eu rhannu'n genedlaethol, yn ogystal ag adnoddau sydd ar gael yn fasnachol.

Mae'r canllaw hwn wedi'i ddatblygu ar y cyd gan ymarferwyr, sefydliadau rhanddeiliaid ym maes addysg, a Llywodraeth Cymru. Mae'n adlewyrchu adborth a roddwyd gan y proffesiwn drwy sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar adnoddau yn ystod hydref 2021.

Ar 3 Mawrth 2022, cyhoeddodd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y byddai cwmni adnoddau addysg dwyieithog yn cael ei sefydlu yn 2023. Maes o law, bydd y cwmni hwn yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu a chomisiynu adnoddau a deunyddiau dwyieithog i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau. Caiff y canllaw cychwynnol hwn ei ddiweddaru pan fydd y sefydliadau newydd yn dechrau gweithredu.

Cwricwlwm i Gymru: y gwahaniaethau

Cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yw'r Cwricwlwm i Gymru, yn sylfaenol ac yn benodol. Mae hyn yn golygu y dylai popeth sy'n cael ei ddysgu a'i addysgu:

  • fod â diben clir
  • helpu dysgwyr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru

Dylai dysgwyr ddeall pam mae eu dysgu yn bwysig, a sut mae'n cysylltu â'u dysgu ehangach. Dylai eu helpu i ddod yn fwy uchelgeisiol a galluog; egwyddorol a gwybodus; mentrus a chreadigol; ac iach a hyderus. Yn syml, nid yw'n ddigon bod dysgwyr yn caffael gwybodaeth ac yn datblygu galluoedd. Mae'r pedwar diben hwn yn cynnig gweledigaeth a rennir a dyheadau ar y cyd ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.

Nod y Cwricwlwm i Gymru yw sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd ystyrlon yn ei ddysgu. Mae cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu ac yn gwella eu dealltwriaeth a'u gallu dros amser yn seiliedig ar dystiolaeth, yn hytrach nag astudio testunau gwahanol yn unig. Mae'n ofynnol i ysgolion a darparwyr eraill sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd. Mae gwaith asesu yn y Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â deall y cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud a'r camau y dylent fod yn eu cymryd nesaf.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru hefyd yn gosod y rôl o ddatblygu cwricwlwm gydag ysgolion a’r darparwyr eraill. Mae hyn yn cydnabod mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau am anghenion eu dysgwyr. Mae canllawiau'r fframwaith cenedlaethol yn cynnwys gofynion y cwricwlwm, a gaiff eu nodi mewn deddfwriaeth, a chanllawiau ategol. Bwriedir i hyn sicrhau bod y cwricwla sy'n cael eu datblygu gan ysgolion a darparwyr eraill yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf ac ar gynnydd mewn dysgu, yn hytrach na chynllunio gweithgareddau unigol neu anelu at gwmpasu testunau penodol. Dylai pob elfen o ddysgu gyfrannu at gynnydd a dealltwriaeth ehangach dysgwyr.

Mae dull integredig o ymdrin â dysgu yn un o nodweddion y Cwricwlwm i Gymru. Mae'n helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau â'u gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiadau blaenorol wrth iddynt ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ehangach a mwy soffistigedig, a wynebu profiadau newydd.

Mae datblygu ar y cyd yn galluogi ymarferwyr ac unigolion neu sefydliadau perthnasol eraill i gydweithio a rhannu syniadau, profiadau ac arbenigedd, yn hytrach na bod cynnyrch gorffenedig yn cael ei gyflwyno iddynt. Caiff hyn ei gefnogi gan ddiwylliant o ymholi, lle mae cwestiynu, gwerthuso ac adolygu yn sicrhau bod adnoddau yn gallu cael eu datblygu ymhellach, eu haddasu ar gyfer cyd-destunau unigol a'u defnyddio i gefnogi profiadau dysgu dilys.

Mae llais y dysgwr yn ganolog wrth helpu i gyflawni'r pedwar diben. Mae'r rhan a chwaraeir gan ddysgwyr yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y broses o gynllunio'r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth o anghenion dysgwyr, a lle maent arni yn eu dysgu, yn llywio pob elfen o ddysgu. Mae'r dysgwyr eu hunain yn chwarae rhan allweddol wrth ddeall yr anghenion hyn. Wrth ddatblygu eu cwricwlwm, mae ysgolion a darparwyr eraill yn defnyddio llais y dysgwr ac yn ymateb i anghenion, profiadau a mewnbwn dysgwyr.

Diben adnoddau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Diben adnoddau yw helpu ymarferwyr i gynllunio'r cwricwlwm a dulliau addysgegol sy'n gwella ansawdd y dysgu ac yn hyrwyddo cynnydd dysgwyr. O ran cynllunio'r cwricwlwm ac addysgeg, gall adnoddau helpu ysgolion a darparwyr eraill i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod gan bob elfen o ddysgu ddiben clir sy'n annog dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben
  • sicrhau bod pob elfen o ddysgu yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd
  • deall y cynnydd y mae dysgwyr wedi'i wneud

Yn y Cwricwlwm i Gymru, ysgolion yw cynllunwyr y cwricwlwm: rôl adnoddau yw cefnogi'r broses hon, yn hytrach na rhoi cynhyrchion y gall ymarferwyr eu mabwysiadu. Mae gan ysgolion a darparwyr eraill yr hyblygrwydd i gynllunio adnoddau sy'n diwallu anghenion dysgwyr.

Yr hyn y dylai adnoddau ei wneud

Gall adnoddau ganolbwyntio ar agwedd benodol ar ddysgu neu thema; neu gallant ganolbwyntio ar y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gynllunio a datblygiad yn fwy cyffredinol. Gall hyn gynnwys:

  • cefnogi dealltwriaeth o sut y gall egwyddorion allweddol y cwricwlwm gael eu defnyddio i gynllunio cwricwlwm ysgol, ei threfniadaeth a'i strwythur
  • cefnogi prosesau datblygu a chynllunio'r cwricwlwm, gan gynnwys:
    • sut i ddewis ac integreiddio: gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau, dulliau addysgegol a gweithgareddau asesu
    • dewis a defnyddio gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau a fydd yn amlwg yn cefnogi cynnydd yn y cysyniadau, y sgiliau a'r ymagweddau sy'n ofynnol gan y datganiadau gorfodol o'r hyn sy'n bwysig
  • helpu dysgwyr i ymgysylltu â'r hyn maent yn ei ddysgu mewn ffordd sy'n rhoi hyblygrwydd i ysgolion a darparwyr eraill o ran y ffordd y caiff hyn ei wneud
  • cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynllunio cynnydd mewn dysgu:
    • dros gyfnodau byrrach a hwy
    • o fewn ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad ac o fewn ac ar draws datganiadau o'r hyn sy'n bwysig
    • yn y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol
  • cefnogi dealltwriaeth a sgiliau o ran y defnydd o waith asesu ac i lywio cynnydd mewn dysgu
  • dulliau o ymdrin â materion sy'n benodol i feysydd dysgu a phrofiad penodol

Isod nodir egwyddorion allweddol i'ch helpu i ddatblygu adnoddau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Dylech ddefnyddio'r rhain os byddwch yn adolygu adnoddau  sy'n bodoli eisoes ac wrth ddatblygu adnoddau newydd, yn enwedig os bwriedir i'r adnoddau hyn fod ar gael yn genedlaethol drwy blatfform addysg Hwb. Mae'r egwyddorion hyn yn cefnogi'r ‘pecyn cymorth’ ymarferol a nodir yn adran nesaf y canllaw hwn.

Dylai'r ffordd y caiff adnoddau a deunyddiau ategol eu datblygu fodloni’r egwyddorion canlynol.

Bod yn gyson ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru

Mae'n hanfodol bod adnoddau a deunyddiau ategol yn adlewyrchu cysyniad ein cwricwlwm a arweinir gan ddibenion er mwyn hwyluso cynnydd dysgwyr ar hyd y continwwm dysgu 3 i 16. Pedwar diben y cwricwlwm yw'r man cychwyn a'r dyhead ar gyfer pob dysgwr. Ni fwriedir iddynt fod yn amcanion dysgu. Mae angen i ddatblygwyr ddeall sut mae'r dysgu a amlinellir mewn adnodd neu ddeunydd ategol yn helpu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben. Mae dull cyfannol o ymdrin â'r cwricwlwm yn dechrau gyda'r dysgwr. Bydd adnoddau a deunyddiau ategol sy'n adlewyrchu sgiliau a themâu trawsgwricwlaidd, gan gynnwys defnydd effeithiol o gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn helpu ymarferwyr i gynllunio a datblygu cwricwla effeithiol.

Cynnwys rhesymeg dysgu glir – y pam, nid dim ond y beth

Mae'n hanfodol bod gan adnoddau a deunyddiau ategol fwriadau clir ar gyfer dysgu yn seiliedig ar anghenion a dyheadau dysgwyr. Mae'n hollbwysig cael nod clir ar gyfer dysgu er mwyn deall sut mae'r adnodd neu’r deunydd ategol yn cefnogi'r pedwar diben; pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau sydd wedi'u cynnwys a sut beth y gallai cynnydd fod ar gyfer y rhain. Dylai adnoddau a deunyddiau ategol gael eu hategu gan esboniadau o'r rhesymau pam mae'r nodau dysgu yn bwysig a sut maent yn cyfrannu at ddiben cyffredinol y dysgu mewn agwedd benodol ar y cwricwlwm. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd yr adnodd neu’r deunydd ategol yn canolbwyntio ar gwmpasu testunau neu weithgareddau heb synnwyr clir o'r rheswm pam maent yn bwysig a'u cyfraniad at ddysgu ehangach. 

Cefnogi ymarferwyr i ddylunio a datblygu dysgu yn hytrach na gwneud hyn eu hunain

Un o ddibenion allweddol adnoddau yw helpu ysgolion a darparwyr eraill i ddatblygu agweddau ar eu cwricwlwm a rhoi dysgu ac addysgu ar waith drwy eu cwricwlwm. Mae hyn yn cydnabod mai ymarferwyr sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ynghylch sut maent yn cynllunio neu'n trefnu dysgu i ddiwallu anghenion penodol eu dysgwyr; gan adlewyrchu'r egwyddor o sybsidiaredd sydd wedi helpu i lywio datblygiad y Cwricwlwm i Gymru. Dylai adnoddau a’u datblygwyr , helpu ymarferwyr i ddatblygu dysgu, yn hytrach na chreu cynnwys cwricwlwm drwy wersi, cyfres o wersi neu gynlluniau gwaith rhagnodol sydd wedi'u cynllunio i fod yn barod i'w defnyddio.

Cefnogi dulliau priodol o ymdrin â dysgu ac addysgu sy'n cael eu llywio gan ymchwil

Dylai adnoddau helpu ymarferwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y dylent ddefnyddio deunyddiau wrth addysgu. Os oes ymchwil sy'n awgrymu bod dulliau penodol o addysgu yn fwy effeithiol, dylai'r adnodd gyfeirio atynt er mwyn helpu gyda chylch ymholi'r ysgol neu gylch ymholi darparwyr eraill. Drwy wneud hyn, gall adnoddau helpu ymarferwyr i ddeall yr effaith y gallai bwriad dysgu adnodd ei chael.

Cynnwys proses datblygu ar y cyd

Dylai datblygiad ac argaeledd adnoddau adlewyrchu anghenion ysgolion a darparwyr eraill fel rhan o'u gwaith o gynllunio a datblygu'r cwricwlwm. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy ymgysylltu ag ymarferwyr presennol sy'n gweithio gyda'r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol priodol a sefydliadau cymunedol, arbenigwyr a dysgwyr. Gall cydweithio ag ymarferwyr i ddatblygu'ch adnodd helpu i sicrhau ei fod yn fwy effeithiol, yn gallu diwallu anghenion ac felly y gellir ei ddefnyddio'n fwy eang. Bydd gan ddatblygwyr adnoddau arbenigedd penodol, y gellir ei ymestyn drwy fewnbynnau ehangach a chydweithio. Mae'r broses datblygu ar y cyd yn golygu dwyn y pethau hynny ynghyd i greu adnoddau  o ansawdd. 

Cynllunio a datblygu adnoddau Cymraeg a Saesneg

Dylai argaeledd adnoddau adlewyrchu anghenion ysgolion a darparwyr eraill ym mhob categori iaith, er mwyn sicrhau y ceir mynediad amserol i adnoddau amrywiol o ansawdd uchel. Mae hynny'n ofyniad allweddol pan gânt eu rhannu ar draws ysgolion a darparwyr eraill.

Bod yn hygyrch i bob dysgwr

Mae angen i ddatblygwyr ystyried sut y gall pob dysgwr ac ymarferydd gael gafael ar adnoddau, a dylent gael eu datblygu yn unol â chanllawiau hygyrchedd.

Dyma rai pethau y dylech feddwl amdanynt wrth ddatblygu adnoddau; byddant yn llywio eich ffordd o feddwl a'ch gwaith cynllunio a gwerthuso. Bwriad y rhestri hyn, er nad ydynt yn hollgynhwysfawr, yw eich helpu i ddatblygu adnoddau ar y cyd.

Cynllunio adnodd

1. Y rhesymau dros gynhyrchu'r adnodd hwn

Mae angen bod gan adnoddau fwriad clir. Mae hyn yn hollbwysig am nifer o resymau. Bydd yn rhoi ffocws mwy penodol i'r gwaith datblygu; bydd yn nodi cysylltiadau â'r Cwricwlwm i Gymru ac, yn bwysicaf oll, bydd dealltwriaeth ymarferwyr a dysgwyr o'r diben yn cefnogi dysgu ac addysgu mwy effeithiol.

  • Beth yw bwriad y dysgu sydd wrth wraidd eich adnodd? Pam mae'r dysgu hwn yn bwysig o safbwynt plant a phobl ifanc fel rhan o'u dysgu ym mhob rhan o'r cwricwlwm?
  • Sut y gallai'r adnodd alluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau sy'n hollbwysig i'r pedwar diben? Sut y bydd hyn yn cefnogi dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben
  • Pa gysyniadau sylfaenol y bydd yr adnodd yn helpu dysgwyr i ddeall?
  • Pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau rydych am eu harchwilio drwy'r adnodd? Pam mae'r rhain yn bwysig?
  • Pa fath o gyd-destunau neu destunau all gefnogi dysgu yn hyn o beth? Beth sy'n gwneud y rhain yn gyd-destunau neu'n destunau pwysig a defnyddiol
  • Beth yw'r egwyddorion sy'n ategu'r dewis o gyd-destunau neu destunau yn y maes hwn?
  • Sut y gallwch sicrhau bod bwriad yr adnodd hwn yn glir ac yn cael ei egluro'n dda?
  • Sut mae eich adnodd yn cynnig hyblygrwydd i gefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol?

2. Sut mae'ch adnodd yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru

Ar ôl diffinio bwriad clir ac amrywiaeth o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau sy'n cefnogi'r bwriad hwn, mae'n hanfodol wedyn i ddeall sut y gellir mynd ati i'w archwilio drwy'r Cwricwlwm i Gymru:

  • Sut y bydd yr adnodd yn cefnogi cynnydd mewn dysgu, ac yn nodi profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn hytrach na rhagnodi gweithgareddau penodol yn unig?
  • Sut mae'r profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau yn cefnogi cynnydd mewn dysgu o ran y cysyniadau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig?
  • A oes cysylltiadau priodol yn cael eu gwneud â meysydd dysgu a phrofiad gwahanol?
  • Sut mae thema'r adnodd yn cysylltu â'r cysyniadau a'r ystyriaethau a amlinellir yn adrannau Cynllunio eich Cwricwlwm canllawiau'r cwricwlwm, ac yn adeiladu ar y cysyniadau a'r ystyriaethau hynny?
  • Os ydych yn bwriadu rhannu'r adnodd, a ydych wedi ystyried yn ofalus sut y byddwch yn datblygu fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r un ansawdd sy'n berthnasol i'r gynulleidfa fwriadedig ac sydd ar gael yn y ddwy iaith ar yr un pryd?
  • A oes ystyriaeth wedi'i rhoi i'r cyd-destun lleol a chenedlaethol a Chynefin wrth ddatblygu'r adnodd?
  • A fydd eich adnoddau yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob dysgwr ac ymarferydd?

3. Sut mae'r adnodd yn helpu ysgolion a darparwyr eraill i ddatblygu cynnydd dysgu neu ddatblygiad plant

Gall bod yn glir ynghylch bwriad y dysgu a'r profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n hanfodol iddo helpu ymarferwyr i ddeall cynnydd dysgwyr. Dylai adnoddau helpu ymarferwyr i ddeall y ffurf y mae cynnydd yn ei dilyn yn yr agwedd berthnasol ar ddysgu drwy ystyried y canlynol:

  • Sut y gall y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau a nodwyd gael eu datblygu er mwyn helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd? Beth mae'n ei olygu i wneud cynnydd yn yr agwedd hon ar ddysgu?
  • Gan adeiladu ar yr egwyddorion cynnydd, sut y gallech ddisgwyl i ddysgwr ddatblygu ei wybodaeth a'i sgiliau yn yr agwedd hon dros amser? Sut y dylai ei brofiadau newid? Efallai y gall adnoddau roi syniad i ymarferwyr am hyn. Mae'r disgrifiadau dysgu yn bwynt cyfeirio: maent yn nodi disgwyliadau eang ar gyfer cynnydd dysgwyr ar bwyntiau gwahanol yn eu taith ddysgu. Gallant gael eu defnyddio i helpu i ystyried y camau nesaf priodol o ran dysgu ar bwyntiau gwahanol. Ni ddylai adnoddau geisio datblygu gweithgareddau i ‘gyflawni’ disgrifiadau dysgu.
  • Sut y gall yr adnodd helpu pob dysgwr i wneud cynnydd, ac adlewyrchu anghenion dysgu, galluoedd ac ymagweddau ar yr un pryd?
  • Ar ôl deall sut beth y gallai cynnydd fod, beth yw'r gwahanol ffyrdd y gall ymarferwyr ddatblygu amrywiaeth eang o ddulliau gweithredu gwahanol i asesu'r cynnydd hwnnw?
  • Beth y dylai ymarferydd fod yn ei ystyried wrth gynllunio'r camau nesaf ar gyfer dysgwyr?

4. Sut y gall yr holl ffyrdd hyn o feddwl gael eu defnyddio i helpu ysgolion a darparwyr eraill i gynllunio eu cwricwlwm a datblygu dysgu ac addysgu

Fel yr amlinellwyd, diben adnoddau yw helpu ysgolion a darparwyr eraill i ddatblygu eu cwricwlwm a datblygu eu dull o ymdrin â dysgu ac addysgu. Ni fwriedir iddynt ddarparu cwricwlwm sy'n barod i'w fabwysiadu. Dylech ystyried y canlynol:

  • I ba raddau y mae eich adnodd yn helpu ysgolion a darparwyr eraill i fod yn hyblyg wrth gynllunio'r cwricwlwm a chynllunio o fewn eu cyd-destun eu hunain?
  • A oes dulliau addysgegol a lywir gan ymchwil a all helpu ysgolion a darparwyr eraill i ddefnyddio'r adnodd?
    • Beth yw elfennau allweddol ac effeithiau tebygol dulliau addysgegol a'r ffordd y caiff y cysyniad neu'r testun ei addysgu? Pam?
    • Sut y gall y 12 egwyddor addysgegol gael eu hadlewyrchu yn yr agwedd hon?

Wrth gynhyrchu eich adnodd

5. Sut rydych yn bwriadu datblygu eich adnodd

  • Sut rydych yn bwriadu defnyddio proses datblygu ar y cyd i greu'r adnodd?
  • Sut rydych yn ymgysylltu ag ymarferwyr sy'n gweithio gyda'r Cwricwlwm i Gymru ar hyn o bryd i gynllunio a datblygu'r adnodd?
  • Sut y gall eich gwaith datblygu hwyluso dulliau a rennir a sicrhau ansawdd os caiff ei fabwysiadu gan sawl ysgol a darparwyr eraill?

6. Sut y byddwch yn sicrhau bod eich adnodd o ansawdd uchel

  • Fel rhan o'ch proses datblygu a sicrhau ansawdd, a ydych yn gofyn i ymarferwyr a dysgwyr am fewnbwn ac adborth?
  • A oes cysylltiad clir rhwng yr iaith a'r derminoleg (Cymraeg a Saesneg) a chanllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru? Er enghraifft, y disgrifiadau dysgu ar gyfer datganiadau perthnasol o'r hyn sy'n bwysig
  • Sut rydych yn gwerthuso effeithiolrwydd yr adnodd?
  • Sut rydych yn sicrhau bod yr adnodd yn cydymffurfio â hawliau trydydd parti (gan gynnwys eiddo deallusol a hawlfraint)?
  • A ydych yn hyderus eich bod yn bodloni gofynion hygyrchedd o ran y ffordd y mae eich adnodd yn cael ei ddatblygu?

7. Sut ydych yn bwriadu cyhoeddi'r adnodd neu sicrhau ei fod ar gael

  • Sut y byddwch yn sicrhau bod eich adnodd cyhoeddedig ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd?
  • Os ydych yn defnyddio Hwb, sut y byddwch yn sicrhau bod hierarchaeth tagio a thacsonomeg yn cael ei defnyddio a'i nodi yn yr hyn y byddwch yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (fel y bo'n briodol)?
  • Sut y byddwch yn hyrwyddo eich adnoddau? Sut y byddwch yn rhoi gwybod i ymarferwyr beth sydd yno a sut i ddod o hyd iddynt?
  • Sut rydych yn bwriadu gwerthuso ac adolygu eich adnoddau dros gyfnod o amser er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r hyn a fwriedir?
  • A ydych yn hyderus eich bod yn bodloni gofynion hygyrchedd o ran y ffordd y mae eich adnodd yn cael ei gyhoeddi neu ei rannu?

Pethau i'w hosgoi

Mae'r egwyddorion yn nodi'r hyn rydym am ei weld wrth ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, ac mae'r pecyn cymorth yn nodi rhai ystyriaethau allweddol a ddylai fod yn rhan o'r broses ddatblygu. Roedd yr adborth a gafwyd wrth fynd ati i ddatblygu'r canllaw hwn ar y cyd yn awgrymu y byddai'n ddefnyddiol nodi'r hyn na fyddai mor ddefnyddiol; nodir rhai awgrymiadau isod.

  • camddeall rôl ymarferwyr wrth ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain:
    • ceisiwch osgoi rhoi gormod o bwyslais ar yr hyn sy'n cael ei ddysgu neu ei addysgu (cynnwys y cwricwlwm) yn eich adnoddau, ar draul pam neu sut y dylai gael ei ddysgu
    • dylai adnoddau helpu ymarferwyr i ddatblygu dysgu fel rhan o'r broses o gynllunio'r cwricwlwm – ni ddylent ddarparu cwricwlwm, cynlluniau gwersi, modiwlau na chynlluniau gwaith parod
  • camddeall sut mae'r Cwricwlwm i Gymru yn llywio gwaith cynllunio:
    • nid yw defnydd arwynebol o'r pedwar diben yn eich adnoddau yn debygol o gefnogi dealltwriaeth ymarferwyr
    • datblygu cynnwys yn uniongyrchol o'r pedwar diben
    • canolbwyntio ar amserlennu
    • gorsymleiddio dulliau rhyngddisgyblaethol
    • defnyddio disgrifiadau dysgu fel safonau neu ganlyniadau cyflawni i lywio'r broses gynllunio
    • hepgor elfennau gorfodol o'r cwricwlwm
  • cynnydd ac asesu:
    • defnyddio disgrifiadau dysgu fel meini prawf asesu, neu eu rhannu'n elfennau blwch ticio byr fel rhan o adnodd nad yw'n gyson â'u diben fel y'u nodir yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru
    • dangos tasgau nad ydynt yn ddigon heriol neu ymestynnol
    • atgyfnerthu canfyddiadau (neu gamganfyddiadau) ynghylch atebolrwydd a gwella ysgolion
    • camddehongli diben asesiadau personol ar-lein
    • gwahanu asesu oddi wrth ddysgu ac addysgu
    • adlewyrchu gofynion canfyddedig neu ddisgwyliedig o ran cymwysterau
    • ymdrin â dysgu fel gwersi ar wahân
  • sybsidiaredd a datblygu ar y cyd:
    • gorsymleiddio natur ymgysylltu yn ystod y broses ddatblygu
    • diystyru dysgu ymarferwyr
    • dibynnu'n gyfan gwbl ar fewnbynnau gan arweinwyr, neu grwpiau eraill o gyfranwyr, sy'n golygu na cheir barn gytbwys ar gynigion
    • camgynrychioli rôl sgaffaldwaith fel rhywbeth sy'n tanseilio rôl ymarferwyr, yn hytrach na'u helpu i wneud eu gwaith
    • peidio â chaniatáu myfyrio fel rhan o broses datblygu ar y cyd
    • gofyn i arbenigwyr nad ydynt yn arbenigwyr addysgu am atebion
  • gweithgarwch ôl-osod neu ddulliau parod:
    • diystyru neu beidio â gweld yr egwyddorion a nodir yn y canllaw hwn
    • gwneud mân newidiadau i adnoddau a gynhyrchwyd ar gyfer cwricwla neu awdurdodaethau eraill
    • ceisio darbwyllo pobl ynghylch ansawdd a pherthnasedd adnodd a'i addasrwydd at ddiben drwy gyhoeddusrwydd
    • rhoi'r proses o gynllunio'r cwricwlwm ac allbynnau ar gontract allanol
    • modelau un ateb i bawb
    • unrhyw beth sy'n tybio bod ateb syml
  • cydlyniaeth:
    • cynnwys neu ffocws a lywir gan gymwysterau, yn hytrach na chynnwys neu ffocws sy'n helpu i gynllunio'r cwricwlwm a darpariaeth sydd wedyn yn destun asesiad allanol
    • cyflwyno negeseuon cymysg o ran ffocws neu sut mae'n cefnogi dysgu ac addysgu
    • defnyddio iaith a therminoleg sy'n anghyson â'r hyn a nodir ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
    • defnyddio terminoleg na chaiff ei diffinio'n glir

Dylid sicrhau bod egwyddorion allweddol yr adnodd a ffordd o feddwl yr awduron yn glir. Bydd hyn yn galluogi ysgolion, darparwyr eraill ac ymarferwyr i ddeall ei fwriad ac ymgysylltu'n feirniadol er mwyn deall ei bwysigrwydd a'r effaith y bydd yn ei chael ar eu dysgwyr. Mae hyn yn golygu egluro pam mae pethau'n bwysig a'r dewisiadau y mae'r awduron wedi eu gwneud.

Dylai'r adnodd gynnig amrywiaeth o syniadau a chwestiynau i brocio meddwl ymarferwyr. Ni ddylent gynnwys rhagnodiad manwl o weithgareddau neu ddulliau. Ymhlith yr agweddau eraill i'w hystyried mae'r canlynol:

  • darparu dulliau gweithredu a sgaffaldwaith sy'n galluogi ymarferwyr i ymgysylltu â chysyniadau gwahanol wrth iddynt ddatblygu eu cwricwlwm neu ymgorffori agwedd benodol ar ddysgu
  • defnyddio darluniadau ac enghreifftiau o ymarfer i ysgogi'r meddwl ac annog ymgysylltiad beirniadol yn hytrach na rhagnodi atgynyrchiadau ac un dull gweithredu. Dylai enghreifftiau ddangos yn glir ac yn effeithiol yr egwyddorion sy'n sail iddynt, yn hytrach na dibynnu ar yr ymarferydd i ystyried pam maent yn enghreifftiau cadarnhaol
  • sicrhau bod adnoddau yn hyrwyddo dulliau rhyngweithiol a grwp o ddatblygu'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol. Dylent annog ymarferwyr i gydweithio a gweithio ar draws sectorau i ddatblygu eu dulliau gweithredu
  • cefnogi hunanwerthuso er mwyn llywio blaenoriaethau a myfyrio ar ymarfer. Dylai adnoddau annog ymarferwyr i wella a mireinio eu dulliau gweithredu yn barhaus, yn hytrach na chyflwyno mabwysiadu adnodd fel ffordd gynhwysfawr o fynd i'r afael â materion
  • rhoi cyfle i ymarferwyr ddefnyddio tystiolaeth a phrofiad o'u cyd-destun uniongyrchol, gan sicrhau bod y dysgu yn diwallu anghenion dysgwyr penodol ac yn ystyrlon i ddysgwyr, yn ogystal â chyfle i adlewyrchu cyd-destunau dilys

Darparu sgaffaldwaith ar gyfer y broses ddatblygu

  • Gall gweithdai gefnogi gwaith cynllunio cydweithredol – ystyriwch ddarparu fformat lle gall ymarferwyr siarad am eu dull gweithredu a'i ddatblygu.
  • Cwestiynau trafod i gynllunwyr y cwricwlwm – paratowch rai cwestiynau allweddol a fydd yn helpu ymarferwyr i feddwl am eu gwaith.
  • Pecynnau cymorth cynllunio – cynigiwch gyfresi o gwestiynau neu ddulliau gweithredu er mwyn mynd ag ymarferwyr drwy'r broses ddysgu.
  • Syniadau am destunau, themâu ac amrywiaeth eang o weithgareddau posibl (gan adeiladu ar adrannau Cynllunio eich Cwricwlwm o ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru, awgrymwch destunau, dulliau gweithredu a dysgu ar gyfer agwedd ar y cwricwlwm ac, yn hollbwysig, drafodaeth ynghylch sut y gallai'r rhain fod yn effeithiol).
  • Trafodaeth ynghylch sut beth y gallai cynnydd fod yng nghyd-destun yr agwedd hon ar y cwricwlwm, gan adeiladu ar yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu; syniadau am amrywiaeth o ffyrdd y gellir nodi'r cynnydd hwnnw

Darparu enghreifftiau

  • Astudiaethau achos (nodwch ddulliau gweithredu sy'n dangos agweddau cadarnhaol ar ddysgu ac addysgu a pham mae pethau wedi gweithio; myfyrdodau ar brosesau, sut y gwnaethpwyd penderfyniadau a pham; gan roi cipolygon).
  • Enghreifftiau o gynnydd dysgwyr (sy’n nodi’n benodol sut y gall dysgwr wneud cynnydd mewn agwedd benodol a’r ffyrdd gwahanol o nodi neu asesu cynnydd).

Cyfeirio at waith ymchwil a gwybodaeth bellach

  • Deunydd darllen pellach, ffyrdd o feddwl a thystiolaeth sy'n helpu ymarferwyr i ddeall.
  • Helpu ymarferwyr i ymholi (cymorth i gynllunio a defnyddio gwaith ymchwil, tystiolaeth ac arbenigedd).
  • Ystyriaeth feirniadol o waith ymchwil (gan gynnwys sut i'w ddefnyddio mewn cyd-destun).
  • Cyfeirio (cysylltiadau â gwaith ymchwil, tystiolaeth ac ystyriaethau ehangach).
  • Cymorth ar gyfer ymholi a hunanwerthuso:
    • Cwestiynau a chymorth ar gyfer ymarferwyr o ran ymholi.
    • Cwestiynau neu ddulliau gweithredu i gefnogi hunanwerthuso: er mwyn helpu ymarferwyr i ddeall anghenion a myfyrio ar y cwricwlwm.

Sut mae hyn yn wahanol i'r hyn mae adnoddau wedi'i wneud yn y gorffennol

Yn y gorffennol, mae adnoddau wedi cynnwys y canlynol:

  • esboniadau manwl o safonau'r cwricwlwm
  • enghreifftiau o waith dysgwyr sy'n dangos sut y cyflawnwyd y safonau hyn
  • deunyddiau addysgu cymeradwy a oedd wedi'u halinio'n benodol â'r cwricwlwm
  • profion neu asesiadau eraill i'w defnyddio i roi barn ar gyrhaeddiad yn erbyn safonau'r cwricwlwm
  • gweithgareddau dysgu proffesiynol dan arweiniad i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o safonau'r cwricwlwm
  • rhaglenni dysgu mewn pynciau unigol, gan gynnwys gwerslyfrau cynhwysfawr
  • enghreifftiau o ‘arferion gorau yn yr ystafell ddosbarth’ i'w mabwysiadu gan ymarferwyr

Caiff pob adnodd a deunydd ategol a gyhoeddir ar Hwb ei ddosbarthu gan ddefnyddio tacsonomeg a hidlyddion er mwyn helpu defnyddwyr i chwilio a phori drwy gynnwys Hwb. Dangosir yr hidlyddion a'r tacsonomeg sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ar y daenlen hon. Bydd y rhain yn cael eu datblygu o bosibl yn sgil profiadau defnyddwyr ac, os felly, cânt eu diweddaru mewn fersiynau o'r canllaw hwn yn y dyfodol.

Efallai y bydd datblygwyr adnoddau am ystyried pa fath o hidlyddion, tacsonomi a tagiau y credant sy’n briodol ar gyfer eu hadnodd, gan nodi hynny wrth gyflwyno'r adnodd i'w lanlwytho ar Hwb.

Mae'r hidlyddion a ddefnyddir ar gyfer adnoddau ar Hwb yn cael eu dangos yn y tab cyntaf fel 'lefel uchel’. Mae angen pob hidlydd coch ar gyfer yr holl adnoddau. Mae tacsonomi ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) yn cael ei dangos mewn tabiau ar wahân.

Dylid dosbarthu tacsonomi adnodd yn erbyn prif Faes neu Feysydd y cwricwlwm y mae'n berthnasol iddo/iddynt, ac nid Meysydd eraill y cwricwlwm lle nad yw'n brif ffocws yr adnodd.

Hefyd, dylid dosbarthu adnodd yn erbyn pob lefel o'r maes tacsonomi a ddewiswyd. Er enghraifft, mae gan y Dyniaethau 3 lefel. Mae hyn yn sicrhau bod adnoddau perthnasol yn parhau i gael eu harddangos pan fydd defnyddiwr yn hidlo'r holl lefelau.

Geiriau arwyddocaol yw tagiau sy'n helpu ymarferwyr a defnyddwyr eraill i chwilio am adnoddau trwy chwilio am air allweddol. Os oes gan adnodd gynnwys a allai fod yn berthnasol i Faes arall o'r cwricwlwm y tu hwnt i'w brif bwyslais, gellir ychwanegu tag ato.

Darllenwch y canllawiau cyhoeddi adnoddau ar Hwb i sicrhau bod eich adnodd yn bodloni'r holl feini prawf perthnasol cyn cwblhau'r ffurflen lanlwytho adnoddau ar Hwb.

Hygyrchedd

Mae Creu dogfennau hygyrch yn rhoi manylion y bydd angen i chi eu hystyried wrth rannu adnoddau ac, yn benodol, wrth gyhoeddi ar Hwb.

Arweiniad ac adnoddau pellach

Dolenni i adnoddau y gellir eu defnyddio fel templedi

Mae'r adran hon, a gaiff ei diweddaru dros amser, yn cynnwys dolenni i adnoddau sy'n cynnig enghreifftiau da, neu dempledi.

Rhagor o gyngor

Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch ynghylch cynnwys y canllaw hwn, neu os bydd gennych adborth ar y ffordd y gellir ei ddatblygu ar gyfer y fersiwn nesaf, cysylltwch â: cwricwlwmigymru@llyw.cymru.