English

Hwb

MAES DYSGU A PHROFIADMathemateg a Rhifedd

Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.

2. Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Rhifau yw’r system symbolau ar gyfer disgrifio a chymharu meintiau. Dyma’r cysyniad haniaethol cyntaf y bydd dysgwyr yn dod ar ei draws ym mathemateg, ac mae’n gymorth i sefydlu egwyddorion rhesymu sy’n rhesymegol. Ym mathemateg, mae’r system rifo’n sail i resymu o ran algebra, ystadegau, tebygolrwydd a geometreg, yn ogystal ag o ran cyfrifo ariannol a gwneud penderfyniadau.

Mae gwybodaeth a gallu ym maes rhifau a meintiau yn hanfodol ar gyfer cyfrannu’n hyderus mewn bywyd, ac yn cynnig sylfaen ar gyfer astudio pellach a chyflogaeth. Mae rhuglder o ran cyfrifiannu yn allweddol i ddatrys problemau a gwneud cynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad. Datblygir rhuglder drwy ddefnyddio’r pedair gweithred rhifyddeg sylfaenol a datblygu dealltwriaeth o’r berthynas rhyngddyn nhw.  Mae hyn yn arwain at baratoi’r ffordd ar gyfer defnyddio symbolau algebra yn llwyddiannus.

Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol.

Mae algebra yn astudio’r strwythurau sydd ymhlyg mewn cyfrifiannau a chydberthnasau, ac yn cynnig ffordd o gyffredinoli. Mae meddwl algebraidd yn symud o’r cyd-destun i’r strwythur a’r perthnasoedd. Mae’r dull gweithredu pwerus hwn yn cynnig ffordd o gyrraedd at nodweddion haniaethol pwysig, a ffordd o ganfod a mynegi strwythurau mathemategol gwahanol sefyllfaoedd, gyda’r nod o ddatrys problemau. Mae algebra yn rhedeg fel llinyn cyswllt drwy frethyn mathemateg i gyd.

Mae meddwl algebraidd yn hanfodol er mwyn rhesymu, modelu a datrys problemau ym mathemateg ac mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau go iawn, gan gynnwys technoleg a chyllid. Mae gwneud cysylltiadau rhwng rhifyddeg ac algebra yn meithrin sgiliau ar gyfer rhesymu haniaethol o oedran cynnar.

Mae geometreg yn ymwneud â chwarae gyda siapiau a strwythurau, eu trin, eu cymharu, eu henwi a’u dosbarthu. Mae astudio geometreg yn annog dysgwyr i ddatblygu a defnyddio dulliau dyfalu, rhesymu diddwythol a phrawf. Mae mesur yn golygu y gellir meintioli nodweddion gofodol a haniaethol, gan ddefnyddio amrywiaeth o unedau safonol ac ansafonol, a gall mesur hefyd ategu’r broses o ddatblygu dulliau rhesymu rhifyddol.

Mae rhesymu ynghylch meintiau a phriodweddau siapiau a’r gofod o’u hamgylch yn cynnig modd i ddysgwyr wneud synnwyr o’r byd ffisegol a byd siapiau mathemategol. Gellir cymhwyso geometreg a mesur mewn sawl maes, gan gynnwys celf, adeiladu, gwyddoniaeth a thechnoleg, peirianneg, a seryddiaeth.

Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.

Ystadegaeth yw’r arfer o gasglu, trin a dadansoddi data er mwyn gallu cynrychioli a chyffredinoli gwybodaeth. Tebygolrwydd yw’r broses fathemategol o astudio siawns, er mwyn gallu rhagfynegi’r tebygrwydd y bydd rhywbeth yn digwydd. Mae ystadegaeth a thebygolrwydd yn dibynnu ar gymhwyso a thrin rhifau ac algebra.

Mae rheoli data a chynrychioli gwybodaeth yn effeithiol yn cynnig ffordd o brofi rhagdybiaethau, dod i gasgliadau a gwneud rhagfynegiadau. Mae rhesymu gan ddefnyddio ystadegau a thebygolrwydd, a gwerthuso pa mor ddibynadwy ydyn nhw, yn meithrin y sgiliau dadansoddi a meddwl beirniadol sy’n hollbwysig wrth wneud penderfyniadau egwyddorol a gwybodus.