English

5. Cynllunio eich cwricwlwm

Mae hyn yn rhoi arweiniad penodol i’w ddefnyddio wrth ymgorffori dysgu o fewn mathemateg a rhifedd yn eich cwricwlwm. Dylai gael ei ddarllen ynghyd ag adran gyffredinol Cynllunio eich cwricwlwm sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu trwy bob maes dysgu a phrofiad.

Rhaid i gwricwlwm ymwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm. Mae’r canlynol yn rhai egwyddorion allweddol y dylai lleoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth gynllunio dysgu ac addysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd (Maes).

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

Dylai ymarferwyr ddatblygu profiadau diddorol a hygyrch i ddysgwyr dderbyn cyfleoedd rheolaidd i ddisgrifio, esbonio a chyfiawnhau eu dealltwriaeth o amrywiol gysyniadau mathemategol, gan ddefnyddio geirfa fathemategol briodol. Gellir datblygu sgiliau llythrennedd hefyd er mwyn disgrifio prosesau mathemategol, megis rhesymu, deall amrywiaeth o strategaethau cyfrifo, disgrifio delweddu siapiau, astudio a dehongli gwybodaeth mewn ystadegau a chymharu dulliau amgen cyn cyrraedd datrysiad i broblem fathemategol. Gellir defnyddio’r sgiliau llythrennedd hyn wrth i ddysgwyr ddod ar draws problemau yn y byd go iawn.

Rhifedd

Fel mae’r enw’n ei nodi, mae rhifedd wrth galon y Maes hwn. Gellir cymhwyso a chysylltu’r pum hyfedredd mathemategol – Dealltwriaeth gysyniadol, Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau, Cymhwysedd strategol, Rhesymu rhesymegol a Rhuglder – gan ddefnyddio amrywiaeth o gyd-destunau bywyd go iawn i gyflwyno ac archwilio cysyniadau mathemategol, yn ogystal â’u cadarnhau. Er enghraifft, gellir cymhwyso’r defnydd o ganrannau i gyfraddau canrannol blynyddol (APR) er mwyn arddangos eu defnydd o safbwynt llythrennedd ariannol.

Cymhwysedd digidol

Mae dulliau digidol yn gwella sgiliau mathemategol a rhifedd dysgwyr ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd a fydd yn digwydd yn naturiol o fewn y maes dysgu a phrofiad. Mae hyn yn fwy na dim ond rhyngweithio â thechnoleg. Er enghraifft, gellir datblygu sgiliau digidol y dysgwyr trwy gydweithredu i ddatrys problem a datblygu algorithmau i gefnogi deall patrymau. Enghraifft arall fyddai creu graff gan ddefnyddio taenlen er mwyn gwella dealltwriaeth ddigidol yn ogystal â chryfhau sgiliau mathemategol a rhifedd y dysgwyr. Wrth iddyn nhw ddatblygu a dangos cynnydd, byddan nhw’n defnyddio sgiliau, prosesau, technegau a systemau digidol mwy cymhleth yn amlach, a hyn er mwyn creu datrysiadau i ymateb i broblemau, cyfleoedd neu anghenion penodol. Wrth i ddysgwyr ddangos cynnydd bydd agweddau ar gasglu, cynrychioli a dadansoddi, er enghraifft, yn dod yn fwyfwy soffistigedig.

Sgiliau cyfannol

Creadigrwydd ac arloesedd

Mae gweithio mathemategol yn datblygu ac yn gofyn am greadigrwydd a chywreinrwydd sydd hefyd yn trosglwyddo i agweddau eraill o fywyd. Yn aml wrth ddatrys problemau mathemategol nid yw’r dysgwr yn gwybod yn syth sut i fynd i’r afael â’r broblem; mae’n gofyn am greadigrwydd a dewrder i archwilio gwahanol ddulliau cyn penderfynu ar y ffordd ymlaen. Mae cynllunio a modelu tasgau o fewn mathemateg yn datblygu gallu dysgwyr i droi syniadau yn weithredoedd.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Mae datblygu meddwl rhesymegol a beirniadol yn sail i ddysgu ym mathemateg. Mae mathemateg yn dysgu sgiliau datrys problemau i ni, sgiliau sy’n trosglwyddo i bob maes yn y cwricwlwm, i fywyd yn gyfredinol ac i fyd gwaith. Mae mathemateg yn ymwneud â datrys problemau ac mae’n dechrau gyda dadansoddi’r anghenion cyn troi wedyn i ofyn cwestiynau a gwerthuso gwybodaeth. Wrth ddatblygu datrysiadau mae dysgwyr yn nodi dulliau posib ac yn datblygu dadleuon gan gyfiawnau eu penderfyniadau.

Effeithiolrwydd personol

Mae astudio mathemateg yn datblygu effeithiolrwydd personol. Wrth astudio mathemateg mae pawb yn wynebu heriau ar ryw adeg, ac mae goresgyn yr heriau hyn yn datblygu ac yn gofyn am ddyfeisgarwch a gwydnwch. Mae cyfathrebu am feddylfryd fathemategol a datrys problemau yn agwedd greiddiol o fathemateg. Mae cyfathrebu mathemategol yn fanwl gywir a rhesymegol, a bydd yn ddefnyddiol mewn bywyd yn gyffredinol.

Cynllunio a threfnu

Mae meddylfryd fathemategol yn gofyn i ddysgwyr fod yn drefnus, ac wrth iddyn nhw fynd trwy’r ysgol bydd eu sgiliau trefniadol yn datblygu, yn arbennig wrth iddyn nhw gynllunio a gweithredu’r cylch trin data dilyniannol. Wrth ddatrys problemau mathemategol, dylai dysgwyr gael eu hannog i ragfynegi ac amcangyfrif datrysiadau, ac yna wirio eu hatebion, myfyrio ar eu canlyniadau a gwerthuso eu dulliau. Mae hyder cynyddol mewn datrys problemau mathemategol yn cefnogi dysgwyr i fod yn fwy uchelgeisiol wrth osod targedau a heriau i’w hunain gan gynnwys cynllunio sut i gyflawni’r rhain.

Mae gwahanol feysydd mathemateg yn hynod o ryng-gysylltiedig a dibynnol ar ei gilydd, ac mae cysyniadau yn cael eu ffurfio dros gyfnod o amser, gan dynnu ar wybodaeth a dysgu cynharach, yn aml o fwy nag un maes mathemategol. Wrth gynllunio ar gyfer dysgu unrhyw bwnc penodol mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r wybodaeth flaenorol y mae dysgwyr eu hangen er mwyn cael mynediad i’r pwnc newydd a’i ddeall.

Nid oes modd deall algebra, geometreg nac ystadegaeth heb ddealltwriaeth flaenorol o rif a chyfeiriadau cyson at rifau, cyfrifiadau a’r system rifau. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, maen nhw’n dysgu gweld mynegiannau rhifiadol yn berthynol yn hytrach nag yn gyfrifiannol, e.e. cyfrifiant megis 2 + 8 = 10, a bod hyn yn sail i ddeillio ffeithiau eraill e.e. 8 + 2 = 10, 8 = 10 – 2, ac yn y blaen. Mae hyn yn gosod sail ar gyfer defnyddio symboleiddio algebraidd yn llwyddiannus.

Mae gwneud cysylltiadau rhwng rhifyddeg ac algebra o gymorth i ddatblygu offer a sgiliau ar gyfer rhesymu haniaethol o oedran cynnar. Mae mesur yn agwedd ar feddylfryd geometraidd sy’n cysylltu’n agos â rhif, ac mae llawer o ddatblygiad dealltwriaeth o rif yn gallu ymddangos trwy fesur sy’n gynyddol soffistigedig. Mae meddylfryd geometraidd yn cynnwys rhesymu cyfrannol, sy’n cysylltu gyda datblygu mewn gwaith rhif; mae hefyd yn cynnwys trawsffurfio siapiau sy’n perthyn i’r defnydd o ffwythiannau a mapio mewn algebra. Mae tebygolrwydd yn cael ei fynegi trwy rif mewn amrywiol ffyrdd, gan ddefnyddio canrannau, ffracsiynau a degolion ynghyd â dealltwriaeth o’r gwahanol gynrychioliadau; mae’r cysylltiadau rhyngddyn nhw yn angenrheidiol ar gyfer mynegi tebygolrwydd yn effeithiol. Mae ystadegau yn ymwneud â thrin, cynrychioli a dehongli data, sydd yn ei dro yn gofyn am feddylfryd rhifiadol a geometraidd.

Y nod yw cyflwyno’r Maes fel bod newid mewn diwylliant gyda dysgwyr yn meithrin agwedd gadarnhaol a gwydn tuag ato.

Ystyriaethau ar gyfer datblygu cwricwlwm

  • Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i archwilio amgylcheddau mathemategol cyfoethog dan do a thu allan. Bydd yr amgylchedd yn briodol ar gyfer datblygiad a bydd yn hwyluso profiadau uniongyrchol gyda chysyniadau mathemategol ac amrywiaeth o adnoddau.
  • Dylid llywio strwythur a dilyniant pynciau o fewn mathemateg a rhifedd gan natur hierarchaethol a chysylltiadol cysyniadau mathemategol, er mwyn sicrhau adeiladu ar seiliau a chysylltu profiadau.
  • Mae angen i ddysgwyr ddod yn gynyddol rugl yn eu defnydd o rif, trwy amrywiaeth eang o brofiadau er mwyn disgrifio, dehongli a chyfathrebu maint, graddfa a chymariaethau, o fewn yn ogystal â thu hwnt i fathemateg. Dylen nhw ddod yn gynyddol rugl yn eu cyfrifo, gyda yn ogystal â heb gyfrifiannell.
  • Trwy gyflwyno dull rhesymu a datrys problemau ar gyfer holl brofiadau mathemateg a rhifedd, cefnogir datblygu’r pedwar diben ac ymagweddau cadarnhaol.
  • Trwy ddefnyddio enghreifftiau o fywyd go iawn i gyflwyno, archwilio a chadarnhau cysyniadau mathemategol, mae dysgwyr o bob oed yn gwneud cysylltiadau rhwng y diriaethol, y delweddol a’r haniaethol. Trwy amrywiaeth o brofiadau, mae dysgwyr yn gwerthfawrogi grym mathemateg i fynegi perthnasoedd yn gryno, mewn ffurfiau sy’n gyffredinol ddealladwy.
  • Dylai dysgwyr ymwneud â thasgau ystyrlon a sylweddol megis: modelu problemau rhifiadol bywyd go iawn, cyfrifo ariannol megis creu a gwerthuso cyllidebau ar gyfer digwyddiadau a dadansoddi risgiau, datblygu dilyniannau mathemategol trwy batrymau ym myd natur a defnyddio’r cylch trin data dilyniannol i osod ac ymchwilio eu cwestiynau ymchwil eu hunain.
  • Dylai ymarferwyr ystyried y defnydd priodol o amrywiaeth o dechnolegau digidol, trinolion, gwrthrychau pob-dydd, a chynrychioliadau diriaethol a haniaethol o wrthrychau mathemategol i fod o gymorth i ddysgwyr ymwneud â chysyniadau mathemategol o fwy nag un persbectif.
  • Mae’n bwysig bod dysgwyr yn gallu dehongli atebion a gwirio eu bod yn gwneud synnwyr mewn cyd-destun, gan gynnwys trwy amcangyfrif, a’u bod yn gallu defnyddio dulliau priodol i ateb cwestiynau drwy gasglu, dadansoddi a chrynhoi data a dehongli canlyniadau. Maen nhw’n gallu gwerthuso eu dulliau ac awgrymu ffyrdd gwahanol neu well o ymchwilio yn y dyfodol.
  • Dylid datblygu dealltwriaeth ddofn mewn mathemateg a rhifedd trwy gynllunio ar gyfer y pum hyfedredd mathemategol, a sut mae’r rhain yn cysylltu a chymhwyso mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
  • Mae’r hyfedreddau yn rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol; ni ddylen nhw gael eu gweld yn hierarchaidd a gallan nhw ddatblygu ochr yn ochr â’i gilydd. Bydd dysgwyr yn datblygu eu hyfedreddau mathemategol ar amserau gwahanol ac efallai’n datblygu nifer ohonyn nhw ar yr un pryd. Er enghraifft, wrth i blentyn ddod yn fwy rhugl yn adio rhifau dau ddigid, byddan nhw’n datblygu eu dealltwriaeth gysyniadol o werth lle.
  • Nid oes disgwyl i’r pum hyfedredd i gyd ddatblygu o fewn sesiwn unigol, ond mae angen i’r pump gael eu datblygu yn ystod cysyniad mathemategol penodol. Mae rhai prosesau a chymwysiadau, er enghraifft y cylch trin data dilyniannol, a ddylai gael eu cyflwyno o’r cychwyn gan eu bod yn hanfodol i ddealltwriaeth gysyniadol.

Defnyddio’r hyfedreddau, enghraifft gyd-destunol: Dysgu am ffracsiynau – achos ½

Dealltwriaeth gysyniadol

Deall bod hanner yn deillio o rannu rhywbeth yn ddwy ran hafal. Gallai hyn fod trwy gysylltu profiadau diriaethol a/neu brofiadau bywyd go iawn o ddosrannu gwrthrychau a rhifau yn rhannau hafal gyda delweddau (e.e. lluniau a delweddau ar y llinell rif) a’r cynrychioliad haniaethol o ½ gan ddefnyddio’r nodiant symbolaidd. Efallai y gallai dysgwr sy’n deall beth yw hanner roi enghreifftiau o fywyd go iawn neu enghreifftiau delweddol, yn ogystal â gallu esbonio pam y gallai rhywbeth beidio â bod yn hanner (e.e. pitsa wedi’i dorri’n ddwy ran nad ydyn nhw’n hafal).

Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau

Deall yr arferiad o sut mae hanner yn cael ei ysgrifennu, a beth mae’r symbolau yn ei olygu. Gallai hyn hefyd gynnwys cysylltu rhannu a ffracsiynau (mewn geiriau eraill ½ = 1 ÷ 2) a defnyddio termau megis rhifiadur ac enwadur.

Cymhwysedd strategol

Gallu adnabod sefyllfaoedd bywyd go iawn sy’n ymwneud â hanner, a gallu cynrychioli’r rhain yn fathemategol; gallu modelu sefyllfaoedd yn ymwneud â haneru yn fathemategol; defnyddio lluniau/delweddau ac iaith a symbolau i ddangos hanner.

Rhesymu rhesymegol

Gallu deall y gwahaniaeth rhwng hanner a chyfan; gallu cyfiawnhau pam mae hefyd yn hanner. Gallu rhesymu bod ½ + ½ = 1, ½ x 2 = 1 a 1 ÷ 2 = ½. Gallu cyfiawnhau pam mae llawer ffordd o hollti siâp yn ei hanner.

Trwy gysylltu’r hyfedreddau hyn o fewn profiad dysgwr o ½, dylai dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth ddofn o hanner fel enghraifft o ffracsiwn. Gellir amrywio dulliau o gyflwyno’r elfennau hyn, ond yn y pen draw, dylai cael cyfleoedd i archwilio a chysylltu’r hyfedreddau hyn sicrhau cynnydd y dysgwr o fewn y cysyniad hwn.

Rhuglder

Gallu cyfrif mewn camau o hanner a gallu dechrau adalw hanerau rhifau.

Ystyriaethau o ran addysgeg

  • Nid oes ymchwil sy’n dangos bod un ffordd o addysgu mathemateg yn well nag unrhyw ffordd arall. Er hyn, dylai addysgeg sicrhau datblygiad cyffredinol yr hyfedreddau hyn a hefyd fod yn berthnasol i’r fathemateg sy’n cael ei haddysgu.
  • Mae angen i addysgu mathemateg fod yn gysyniadol gysylltiedig a chydlynol. Mae hyn yn gofyn am feistrolaeth a chofio cysyniadau blaenorol; mannau cychwyn dealladwy; defnydd cyson o iaith, symbolau, delweddau a chynrychioliadau eraill; dewis goleuedig o enghreifftiau; defnydd perthnasol o offer digidol. Dylai’r rhain gael eu cyfuno o fewn dilyniannau gwersi a allai gynnwys datrys problemau, archwilio, cyfarwyddyd uniongyrchol, cymhwysiad, ymarferion a thasgau estynedig fel sy’n briodol ar gyfer y fathemateg benodol a ddysgir a datblygiad cyffredinol y pum hyfedredd. Ar unrhyw bwynt yn y dilyniant gallai’r ffocws mathemategol fod yn gysyniad newydd, ymestyniad o gysyniad blaenorol, perthynas, techneg, ffaith, theorem, strategaeth fathemategol neu ffordd o feddwl.
  • Bydd cwestiynau sy’n arwain, ynghyd â gwybodaeth am ddewis a dilyniannu dulliau addysgeg er mwyn rheoli’r amrywiaeth hon, yn cael eu cynnwys yn yr adnodd ar addysgeg.

Enghreifftio ehangder

Darperir y canlynol fel enghreifftiau o sut y gallech archwilio dysgu testunol gwahanol yn y Maes hwn. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.

Gallai rhifedd a gwybodaeth am gyd-destunau byd go iawn gynnwys deall cyfraddau cyfnewid, cyfrifiadau morgeisi a threthiant, gan gynnwys y system treth sy'n datblygu yng Nghymru. Drwy feddwl algebraidd a gwybodaeth am algebra, gallai dysgwyr ddatblygu galluoedd y gellir eu cymhwyso i destunau gan gynnwys cyllid personol a chynhyrchu ynni yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Gallai geometreg dynnu ar enghreifftiau, a helpu i ddatblygu gwybodaeth, o ddatblygu trefol, sy’n wahanol ledled Cymru, technoleg feddygol a delweddu cyfrifiadurol. O sylfaen gadarn o ddatrys problemau, rhesymu rhesymegol a deall data, mae Mathemateg a Rhifedd yn hanfodol i ddinasyddion gwybodus sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylech ystyried sut mae dysgu yn cysylltu ar draws Meysydd er mwyn sicrhau dull holistaidd o ddysgu. Gellir defnyddio mathemateg a rhifedd ar draws pob Maes arall i gyfoethogi ysgogi a chefnogi dysgu. Yn ogystal, gellir datblygu mathemateg a rhifedd trwy Feysydd eraill. Mae rhai o’r cysylltiadau allweddol i ddysgu yn y Maes hwn yn cael eu hamlinellu isod.

Celfyddydau Mynegiannol

Mae’r defnydd o rifedd a chysyniadau o’r Maes hwn wedi ymwreiddio ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, gan gefnogi pob disgyblaeth. Dylid rhoi ystyriaeth i gyfrif, dilyniannu ac amser, ac archwilio sut y gellir defnyddio gofod, patrymau, cymesuredd, siâp a safle ar draws y celfyddydau. Gellir hefyd archwilio cymarebau, graddfa, cyfraneddau a ffracsiynau yn y Celfyddydau Mynegiannol, er enghraifft mewn cerddoriaeth. Gall defnyddio caneuon a rhigymau gynorthwyo gydag ymwreiddio rhifedd yn ystod y camau cynnydd cynnar.

Iechyd a Lles

Un o’r cysylltiadau pwysicaf yw’r cysylltiad â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac mae’r enghreifftiau yn cynnwys ymdrin â llythrennedd ariannol a risg. Ymdrinnir â llythrennedd ariannol yn y datganiad o’r hyn sy’n bwysig sy’n ymdrin â’r system rif. Mae hyn yn cael ei gadarnhau yn iechyd a lles lle y gallai dysgu archwilio llythrennedd ariannol trwy risg a dyled bersonol, a’u canlyniadau. Oherwydd cysylltiadau mor agos anogir yn gryf ddysgu’r ddwy elfen arbennig yma yn gyfochrog.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles hefyd yn darparu i’r dysgwyr yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r broses o wneud penderfyniadau, gan gynnwys goblygiadau penderfyniadau ac ystyriaethau risg. Mae rhifedd yn cynnig cyd-destun pwysig ar gyfer archwilio a chefnogi gwneud penderfyniadau’n gadarnhaol, yn arbennig mewn perthynas â phenderfyniadau ariannol.

Ar ben hynny, mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnig cyfle i archwilio rôl rhifedd wrth brynu a pharatoi bwyd i gefnogi maeth, a’i rôl wrth fesur pellter, pwysau ac amser. 

Dyniaethau

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn cynnig cyd-destunau dilys ar gyfer cymhwyso mathemateg a sgiliau rhifedd. Mae ymholiadau yn y dyniaethau yn defnyddio ystod o ddata ansoddol a meintiol. Yn aml byddant hefyd yn cynnwys casgliad o ddata craidd gan ddefnyddio dulliau samplu, a chynrychioliad a dadansoddiad data ac ystadegau mewn amrywiaeth o ffurfiau. Cynigir cyfleoedd i ddysgwyr drefnu a dosbarthu data ac adnabod tueddiadau, patrymau ac anomaleddau. Mae cefnogi entrepreneuriaeth, cymhareb a graddfa, cyllid, talgrynnu a threfnu hefyd yn berthnasol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gellir defnyddio caneuon a rhigymau i ddysgu rhifedd cynnar ym mhob iaith. Mae dod o hyd i batrymau a’u cymhwyso ar gyfer datrys problemau yn sgil sydd ei hangen ar gyfer cynnydd yn y ddau Faes yma.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

O’r defnydd o ddata ac ystadegau mewn ymholiad a thystiolaeth, geometreg a mesur mewn dylunio a datblygu, hyd at drin data mewn technoleg, mae dysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn aml yn seiliedig ar gynnydd mewn dealltwriaeth fathemategol, fel y’u mynegir trwy’r pum hyfedredd mathemategol. Felly mae sawl cysylltiad cwricwlaidd rhwng y ddau Faes yma ac, yn aml, maen nhw’n eithaf manwl. Gall ysgolion ddymuno ystyried dilyniannu cwricwlwm yn arbennig wrth ddylunio a chynllunio eu cwricwlwm er mwyn sicrhau bod cyfleoedd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg i gyd-destunoli dysgu mathemategol cysyniadol yn cael eu gweithredu’n llawn.

Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y Maes hwn

Mae mathemateg yn iaith fyd-eang. Er mwyn gwneud synnwyr o’r iaith hon a deall cysyniadau mathemategol, mae dysgwyr angen enghreifftiau wedi’u gwreiddio mewn bywyd pob-dydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr ifanc nad ydyn nhw’n aml yn gallu meddwl yn haniaethol. Bydd dysgu o fewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn galluogi dysgwyr i ddeall y cysylltiad rhwng mathemateg a rhifedd a chyd-destunau dilys bywyd go iawn sy’n cwmpasu Cymru yn ogystal â’r byd.

Mae gan Gymru hanes balch o gynhyrchu mathemategwyr nodedig, a dylai ysgolion ystyried pob cyfle i dynnu sylw i’w llwyddiannau, gan ysbrydoli dysgwyr i ddod yn fathemategwyr eu hunain.

Mae defnyddio enghreifftiau rhyngwladol o amrywiaeth o ddiwylliannau yn galluogi dysgwyr i ddeall hanes mathemateg a’i datblygiad i fod yn iaith ryngwladol, ac un y gellir ei chymhwyso’n fyd-eang. Mae hyn hefyd yn hyrwyddo a chefnogi dysgu trawsgwricwlaidd.

Dylai ymarferwyr archwilio ffynonellau ac adnoddau lleol, gan ddefnyddio amgylchedd unigryw yr ysgol i wella addysgu ym mathemateg a rhifedd. Mae defnyddio enghreifftiau Cymreig wrth addysgu materion ariannol, er enghraifft cyfraddau treth incwm sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru a’u cytuno gan y Senedd, yn pwysleisio’r cyswllt rhwng mathemateg a rhifedd a’r byd go iawn.

Y Gymraeg: ystyriwch addysgu dysgwyr y ffordd draddodiadol, ugeiniol, o gyfrif yn Gymraeg, yn ogystal â’r ffordd ddegol, er mwyn pwysleisio natur arbennig mathemateg yng nghyd-destun y Gymraeg.

Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith yn y Maes hwn

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith (addysg a phrofiadau byd gwaith) yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu sgiliau meddwl yn rhesymegol, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Drwy addysg a phrofiadau byd gwaith, gall dysgwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o ba mor hanfodol yw mathemateg a rhifedd mewn byd gwaith, boed mewn rôl gweithiwr neu entrepreneur. Bydd y sgiliau hyn yn galluogi dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd gyrfa cyfoethog ac amrywiol.

Dylai dysgwyr brofi mathemateg a rhifedd mewn cyd-destunau gwirioneddol o'r byd gwaith. Dylai ysgolion a lleoliadau roi diben i ddysgu mathemategol drwy gyfleoedd sy'n meithrin, yn datblygu ac yn gwerthuso sgiliau entrepreneuraidd.

Drwy addysg a phrofiadau byd gwaith, dylid annog dysgwyr i ddechrau cymhwyso eu sgiliau er mwyn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur. Dylai dysgwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o'r ffordd y gellir cymhwyso sgiliau mathemateg a rhifedd er mwyn cefnogi eu llythrennedd ariannol, megis cyfrifo cyllidebau a chyfrifo treth sylfaenol ar nwyddau a gwasanaethau.

Addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn y Maes hwn

Gall mathemateg a rhifedd chwarae rôl bwysig wrth hyrwyddo cynhwysiant ac osgoi stereoteipiau drwy'r enghreifftiau, yr astudiaethau achos a'r senarios a ddewisir. Gall hefyd gynnig modelau rôl pwysig o ran rhywedd a rhywioldeb amrywiol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig at fathemateg.

Gellir hefyd ddefnyddio ystadegau a rhifedd i ddatblygu dealltwriaeth o'r data ystadegol a ddefnyddir i ddatblygu tystiolaeth ynghylch cydraddoldebau ac anghydraddoldebau, er enghraifft, ynghylch tâl neu ddewisiadau gyrfa.