English

1. Cyflwyniad

Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) yn cwmpasu pum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a chorff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod, gyda’i gilydd, yn rhannu’r broses greadigol.

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn tri datganiad, sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn annog datblygu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd fydd o gymorth i ddysgwyr ddal ar bob cyfle fydd yn codi yn eu bywydau, gan wynebu’r heriau.

Boed fel rhai sy’n creu neu fel rhan o gynulleidfa, trwy ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol gall dysgwyr ddod i ddeall a gwerthfawrogi diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru a’r byd. Trwy hyn gall dysgwyr feithrin sgiliau i archwilio amrywiaeth ddiwylliannol mewn lleoedd a chyfnodau gwahanol.

Mae’n bwysig fod y Maes yn anelu at sicrhau bod y celfyddydau mynegiannol yn agored i bob dysgwr, a thrwy’r dull cynhwysol hwn, ehangu gorwelion pob un ohonyn nhw.

Gall profi’r celfyddydau mynegiannol gynnau diddordeb dysgwyr yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. O ganlyniad bydd eu lles, eu hunan-barch a’u gwydnwch yn cael eu meithrin. Bydd hyn o gymorth iddyn nhw ddod yn unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Gall profiadau yn y celfyddydau mynegiannol hefyd annog dysgwyr i ddatblygu eu gallu i werthfawrogi gwaith creadigol pobl eraill yn ogystal â’u talentau creadigol a’u sgiliau artistig a pherfformio eu hunain. Y nod yw cynnig cyfleoedd i ddysgwyr archwilio, mireinio a chyfathrebu syniadau gan feddwl yn greadigol a defnyddio’r dychymyg a’r synhwyrau.

Mae ymwneud â’r Maes hwn yn gofyn am ymroddiad personol, dyfalbarhad a sylw manwl i fanylion, rhinweddau sy’n cyfrannu at wneud dysgwyr yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol  eu hoes.

Gall profiadau yn y Maes hwn ysbrydoli a chymell dysgwyr gan eu bod yn rhoi cyfle iddyn nhw ddod i gyswllt â phrosesau creadigol. Golyga hyn gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau megis ymweld â theatrau ac orielau, ac i ddod ag arbenigedd ymarferwyr allanol i mewn i’r ystafell ddosbarth.

Gall ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol wella cyflogadwyedd dysgwyr gan eu bod yn cael eu hannog i reoli eu hamser a’u hadnoddau i greu gwaith pwrpasol a chwrdd â therfynau amser. Gall hybu ymchwilio beirniadol, sy’n gallu arwain at newidiadau. Gyda’i gilydd, gall y sgiliau hyn gefnogi dysgwyr i ddod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith.

At hyn, mae’r gwerthuso sy’n rhan o’r broses greadigol yn galluogi’r dysgwyr i archwilio materion cymhleth. Mae’n eu galluogi i herio rhagdybiaethau ac i ddod o hyd i atebion a all arwain at well dealltwriaeth o’u hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain ynghyd â hunaniaeth ddiwylliannol pobl, lleoedd a chyfnodau eraill. Drwy’r profiad hwn, caiff y dysgwyr gefnogaeth i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.

Yn olaf, wrth iddyn nhw gael mwynhad a boddhad personol drwy fynegiant creadigol, gall dysgwyr ddod yn fwy hyderus, a gall hyn gyfrannu’n uniongyrchol at gyfoethogi eu bywydau.

  • Nesaf

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig