English

1. Cyflwyniad

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes) yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.

Dylid ystyried yn holistaidd y pedwar datganiad sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn. Golyga hyn y dylid archwilio gwahanol ieithoedd mewn perthynas â’i gilydd, yn ogystal â sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Golyga hyn hefyd y dylid ystyried dysgu am a thrwy lenyddiaeth fel rhywbeth sy’n cyfrannu at holl agweddau dysgu am ieithoedd. Mae’r datganiadau yn cefnogi a chadarnhau’i gilydd. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn anelu at alluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Mae’n anelu at annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill. Bwriedir i’r dull amlieithog a lluosieithog hwn danio chwilfrydedd a brwdfrydedd y dysgwyr a chynnig sylfaen gadarn iddyn nhw ddatblygu diddordeb gydol oes yn ieithoedd Cymru ac ieithoedd y byd, a thrwy hyn eu gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

Caiff y parodrwydd hwn i ddysgu ei gefnogi ymhellach gan fod medru trin iaith yn effeithiol o gymorth i ddysgwyr ddeall cysyniadau ar draws y cwricwlwm, er enghraifft drwy eu galluogi i fynegi eu rhesymu wrth ddatrys problemau a dadansoddi gwybodaeth. Mae sgiliau amlieithog effeithiol yn dyfnhau’r gallu hwn gan eu bod yn galluogi dysgwyr i ymateb mewn llawer mwy o gyd-destunau.

O gofio mai un agwedd allweddol ar ddysgu iaith yn effeithiol yw’r parodrwydd i arbrofi ac i fentro wrth roi cynnig ar strwythurau, seiniau a phatrymau newydd, gall dysgu a phrofiad yn y Maes hwn rymuso’r dysgwyr i fod yn greadigol ac i ddal ati pan fyddan nhw’n wynebu heriau. Gyda’i gilydd, gall y sgiliau hyn feithrin hyder dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd newydd ac i addasu i wahanol rolau, sydd yn ei dro, yn gallu eu datblygu’n gyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.

Yn y Maes hwn, gwelir ieithoedd fel allwedd i gydlyniant cymdeithasol, ac yn fodd i hyrwyddo gwell cyd-ddealltwriaeth yn lleol, cenedlaethol a byd-eang. Y nod yw annog dysgwyr i ymwneud yn feirniadol ag ieithoedd a llenyddiaeth er mwyn eu helpu i ddatblygu nid yn unig eu hunaniaeth ond hefyd eu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng eu diwylliannau a’u cymunedau nhw a diwylliannau a chymunedau eraill. Gellir dyfnhau’r ddealltwriaeth hon wrth i ddysgwyr gael y cyfle i ddysgu sawl iaith. Mae angen yr wybodaeth ieithyddol hon a’r sgiliau hyn er mwyn cyfrannu at gymdeithas a hynny’n hyderus a chydag empathi, ac mae hyn yn cyfrannu at ddatblygu dysgwyr sy’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.

Bydd ymwneud â’r Maes hwn hefyd o gymorth i ddysgwyr ddod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas gan fod y sgiliau a hyrwyddir trwy ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn allweddol i alluogi dysgwyr i fynegi eu hunain yn effeithiol, bod yn agored i safbwyntiau pobl eraill a datblygu perthynas gadarnhaol ag eraill.  

  • Nesaf

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig