English

Mae'r tîm Cadernid Digidol mewn Addysg (DRiE) wedi gweithio gyda Cymru Ifanc, menter gyfranogiad Plant yng Nghymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, i sefydlu grŵp ieuenctid Cadw'n ddiogel ar-lein sy’n cynnwys pobl ifanc rhwng 13 i 17 oed o bob cwr o Gymru.

Diben y grŵp

Mae tîm DRiE yn rheoli ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb sy'n darparu adnoddau, arweiniad a hyfforddiant ynghylch cadw'n ddiogel ar-lein i blant a phobl ifanc, yn ogystal ag i addysgwyr a theuluoedd. Drwy glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc, mae DRiE yn gallu cael gwell dealltwriaeth o’r materion perthnasol a sut i godi ymwybyddiaeth o'r rhain ac, yn y pen draw, cefnogi plant a phobl ifanc i fod yn fwy diogel ar-lein.

Mae'r grŵp yn cyfarfod tua chwe gwaith yn ystod y flwyddyn ysgol ac mae'r sesiynau'n cael eu hwyluso gan Cymru Ifanc i sicrhau bod dulliau diogelu priodol ar waith. Yn ystod y sesiynau, mae'r aelodau'n trafod ystod eang o bynciau: gallai un sesiwn ganolbwyntio ar fanteision a pheryglon y cyfryngau cymdeithasol, ac un arall ar oblygiadau deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau eraill sy'n dod i'r amlwg i'n bywydau.

Yn ogystal â rhannu profiadau, mae manteision eraill i gymryd rhan, sy'n cynnwys y cyfle i:

  • gydgynhyrchu prosiectau gyda'r tîm DRiE a dylanwadu ar bolisïau ac arferion Llywodraeth Cymru
  • cymryd rhan mewn ymgyrchoedd byd-eang, gan gynnwys Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
  • datblygu gwybodaeth am y datblygiadau diogelwch ar-lein diweddaraf a sgiliau arwain a chyfathrebu.
  • cyfarfod ffrindiau newydd a mynychu digwyddiadau preswyl.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y ffurflen ymuno, ar gael ar wefan Cymru Ifanc.


Pynciau cysylltiedig