English

Bydd y safonau digidol ar gyfer y maes addysg yn helpu ysgolion i ddeall, rheoli a gweithredu eu hamgylchedd digidol eu hunain neu gyda chymorth eu partner ym maes technoleg addysg. Mae'r safonau hefyd yn cynnig canllawiau ar sut y dylai ysgolion sicrhau bod eu hamgylchedd digidol yn un sy'n diwallu anghenion cwricwlwm ysgol sy'n rhoi mwy o sylw i sgiliau digidol at y dyfodol.

Bwriedir i'r safonau hyn ateb y diben drwy weithredu fel arferion gorau er mwyn bodloni anghenion digidol. Fodd bynnag, derbynnir bod ysgolion yn gweithredu ar adnoddau prin a bod rhaid iddynt gynllunio i gyflawni'r safonau dros amser.

Gall eich awdurdod lleol gynnig cyngor a chyfarwyddyd ichi ar sut y gallwch gyflawni'r safonau hyn.

Dylai’r holl waith seilwaith sy’n cael ei gwblhau er mwyn bodloni’r safonau gael ei ystyried a’i gynllunio’n ofalus, ei gaffael yn unol â rheoliadau caffael cenedlaethol a’i roi ar waith gan sefydliadau proffesiynol.

Safonau

Canllawiau

Dogfennau

  • Addysg safonau digidol: fersiwn Excel xlsx 56 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath