English

Trosolwg

Mae'r gofynion band eang ar gyfer ysgolion yn wahanol iawn i ofynion cysylltiad cartref nodweddiadol. P'un ai oes gan ysgol 100 neu 1,000 o ddysgwyr, mae'n rhaid i'r band eang gynorthwyo i gyflwyno'r cwricwlwm a chyflawni tasgau gweinyddol a gweithrediadau dyddiol. Mae'r gweithgareddau hyn yn creu patrymau defnydd penodol ac yn gofyn am gysylltedd wedi'i deilwra'n benodol i amgylchedd addysgol.

Mae'r safon hon yn nodi'r disgwyliadau craidd ar gyfer darpariaeth band eang i ysgolion er mwyn sicrhau cysylltedd sy'n gadarn, y gellir ei ehangu ac sy’n addas i'r diben ar draws pob lleoliad addysgol yng Nghymru. Mae'n rhoi safon glir i ysgolion ac awdurdodau lleol ar gyfer cysylltedd o safon sy'n cefnogi dysgu, addysgu a gweithrediadau.

Wrth ystyried dewis darpariaeth band eang, dylech gyfeirio at y Canllawiau cynllunio a rheoli i gael rhagor o wybodaeth.

  • Mae'r rhwydwaith PSBA wedi'i gynllunio i ddarparu cysylltedd rhyngrwyd data dibynadwy, cyflym a diderfyn i sefydliadau sydd â gofynion digidol ar raddfa fawr, fel ysgolion. Fe'i defnyddir yn helaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Mae PSBA yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnig gwerth ychwanegol y byddai angen eu cyrchu a'u cynnal yn annibynnol fel arall pe bai darparwr amgen yn cael ei ddefnyddio. Mae'r rhain yn cynnwys rheolaethau seiberddiogelwch adeiledig ac, ers mis Mehefin 2018, gwasanaeth hidlo gwe a reolir yn ganolog (WebSafe). Mae WebSafe yn cefnogi ysgolion i fodloni safon hidlo'r we a diogelu ar-lein. Trwy drwyddedu cyfun, mae PSBA yn rhoi gwell gwerth ac yn ei gwneud yn haws rheoli, gan leihau costau o'i gymharu ag ysgolion sy'n gweithredu eu datrysiadau hidlo eu hunain.

    Mae PSBA hefyd yn cynnig cysylltiad uniongyrchol, diogel â systemau addysg awdurdodau lleol, er enghraifft, system gwybodaeth rheoli (MIS) neu wybodaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY). O ddefnyddio darparwr band eang amgen, efallai y bydd angen i chi weithredu cysylltiad diogel o'ch ysgol, ar draws y rhyngrwyd ac yn ôl i systemau eich awdurdod lleol. Gall hyn arwain at gostau ychwanegol neu gyflwyno cymhlethdodau technegol nad ydynt yn ofynnol wrth ddefnyddio PSBA, gan fod awdurdodau lleol yn rhan o'r un cysylltiad.

    PSBA yw'r ateb mwyaf cost-effeithiol a chynhwysfawr ar gyfer darpariaeth band eang ysgolion. Er y gall pecynnau masnachol ymddangos yn rhai deniadol, yn aml nid oes ganddynt y nodweddion diogelwch, hidlo a chysylltedd integredig a ddarperir yn safonol trwy PSBA. Rhaid i ysgolion sy'n dewis darparwr arall sicrhau bod y dewis arall yn rhoi lefel gyfatebol o amddiffyniad, perfformiad ac integreiddio, a rhaid iddynt ystyried y costau ychwanegol llawn sy'n gysylltiedig â disodli gwasanaethau adeiledig PSBA.

    Mae Gweinidogion ac awdurdodau lleol Cymru wedi gwneud buddsoddiad cyhoeddus sylweddol i sicrhau bod rhwydwaith PSBA yn rhoi gwasanaeth cadarn â gwerth uchel, ac y gellir ei ehangu, i'r sector addysg. Rhaid i unrhyw ysgol sy'n dymuno symud i ffwrdd o PSBA ddatblygu achos busnes clir a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru drwy eu hawdurdod lleol cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud. Mae hyn yn sicrhau bod pob elfen o'r safon hon yn cael ei hystyried yn llawn a bod dysgwyr yr ysgol yn parhau i gael eu diogelu.

    Ewch i wefan PSBA am fanylion llawn yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) a natur y gwasanaethau gwerth ychwanegol a ddarperir.

  • Rhaid i ysgolion ddefnyddio gwasanaeth band eang ffibr optig cymesur sy'n darparu cyflymder lawrlwytho ac uwchlwytho cyfartal ac sy'n sicrhau nad yw'r cysylltiad yn cael ei rannu â defnyddwyr eraill. Mae hyn yn sicrhau perfformiad sefydlog a chyson trwy gydol y diwrnod ysgol, gan gynorthwyo i gyflwyno’r cwricwlwm, cynnal gwasanaethau cwmwl, llwyfannau dysgu digidol a gweithgarwch gweinyddol.

    Er bod opsiynau cysylltedd eraill, fel Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP), ar gael, maent yn gyffredinol yn anaddas ar gyfer amgylcheddau ysgol oherwydd eu capasiti cyfyngedig. Gall eithriadau fod yn berthnasol ar gyfer ysgolion sydd â llai na 50 o ddysgwyr neu mewn ardaloedd lle nad oes gwasanaethau cymesur, nad ydynt yn cael eu rhannu, ar gael eto.

    Dylech gyfeirio at y safonau Llwybryddion a switsys i gael rhagor o wybodaeth wrth ystyried sut mae eich band eang yn cysylltu â'ch rhwydwaith ysgol.

  • Rhaid i ysgolion gael gwasanaeth band eang gyda digon o led band i gefnogi eu gofynion gweithredol, gweinyddol ac addysgu dyddiol. Mae lled band digonol yn sicrhau bod gweithgareddau data-ddwys, fel gwersi byw, galwadau fideo a chyfarfodydd, yn rhedeg yn esmwyth heb broblemau fel problemau byffro neu oedi.

    Dylai darpariaeth lled band adlewyrchu maint a phroffil defnydd yr ysgol, gan gynnwys yr holl ddysgwyr, ymarferwyr, staff gweinyddol a defnydd y gymuned o gyfleusterau'r ysgol. Dylai ysgolion ystyried eu hamgylchedd digidol lleol yn ofalus, gan ystyried ffactorau allweddol fel mathau o ddyfeisiau, cymarebau defnyddiwr-i-ddyfais ar draws cymuned yr ysgol a sut mae defnyddwyr yn cysylltu â'r rhyngrwyd. Rhaid i ysgolion hefyd ystyried gofynion y dyfodol, yn enwedig o ran y twf disgwyliedig mewn offer dysgu digidol a gwasanaethau cwmwl, fel yr amlinellir yn Safon A5.

    Wrth adolygu opsiynau band eang, dylai ysgolion hefyd asesu unrhyw wasanaethau gwerth‑ychwanegol a gynigir gan ddarparwyr a chyfeirio at Safon A7 i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau diogelu, perfformiad a chydymffurfio.

  • Wrth i amgylcheddau digidol ysgolion ddod yn fwyfwy cyfoethog o ran cyfryngau, gyda defnydd cynyddol o gynnwys sain, fideo a rhyngweithiol gan staff a dysgwyr ar draws safle'r ysgol, mae'r defnydd cyffredinol o'r rhyngrwyd yn parhau i gynyddu. Wrth ddewis cysylltiad band eang, mae'n bwysig deall nad yw terfynau data yr un peth â lled band. Mae lled band yn cyfeirio at gapasiti cysylltiad ar unrhyw adeg benodol, tra bod data yn cyfeirio at gyfanswm y wybodaeth a anfonir ac a dderbynnir dros gyfnod, fel arfer wedi'i fesur bob dydd neu'n fisol. Wrth i ddefnydd digidol gynyddu, bydd y defnydd o ddata yn cynyddu'n naturiol, gan wneud lwfansau data gwirioneddol ddiderfyn yn ystyriaeth bwysig.

    Dylid osgoi gwasanaethau band eang gyda therfynau data, gan y gallant gyfyngu ar allu ysgol i ddefnyddio adnoddau ar-lein yn effeithiol. Ni ddylai fod angen i ymarferwyr ddogni defnydd o'r rhyngrwyd na phoeni am fynd dros y capiau data yn ystod gwersi.

    Mae gwasanaeth PSBA yn darparu defnydd data diderfyn fel arfer, gan sicrhau nad yw mynediad at adnoddau sy'n gyfoethog o gyfryngau yn effeithio ar argaeledd gwasanaethau. Rhaid i ysgolion sy'n dewis darparwr nad yw'n PSBA wirio a oes terfynau data arno a sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu cefnogi defnydd anghyfyngedig.

  • Gan fod offer, gwasanaethau a chynnwys digidol yn ganolog i addysg yng Nghymru, mae’n rhaid i wasanaeth band eang i ysgolion allu ehangu’n gyflym i fodloni gofynion cynyddol sy’n newid. Rhaid i led band allu cynyddu yn unol â mabwysiadu digidol, gan sicrhau y gellir defnyddio technolegau newydd, llwyfannau ar-lein ac adnoddau amlgyfrwng heb darfu.

    Wrth i ysgolion ddod yn fwyfwy dibynnol ar wasanaethau digidol a gwasanaethau cwmwl i gefnogi addysgu, dysgu a gweithgaredd gweithredol, mae angen gwasanaethau band eang arnynt sy'n gallu cynyddu'n hyblyg wrth i'r galw newid. Mae bod yn gysylltiedig â chysylltiad na all ehangu’n ei gwneud hi'n anodd, ac o bosibl yn gostus, addasu i ofynion sy'n esblygu.

    Mae'r rhwydwaith PSBA wedi'i gynllunio i dyfu gydag anghenion digidol ysgolion, gan ddarparu gwasanaeth a all ehangu ac addasu dros amser. Mae'n rhaid i ysgolion sy'n defnyddio darparwyr eraill sicrhau bod y gwasanaeth a ddewisant yn gallu cynnig yr un gallu i ehangu capasiti wrth i'r galw gynyddu 

  • Mae cysylltedd rhyngrwyd yn gyfleustod craidd, sy’n hanfodol i gyflwyno’r cwricwlwm digidol a chefnogi gweithrediadau ysgol o ddydd i ddydd. Wrth i ysgolion ddod yn fwyfwy dibynnol ar systemau cwmwl a gwasanaethau ar-lein, gall colli cysylltedd gael effaith uniongyrchol a sylweddol ar ddysgu, addysgu a diogelu. Felly mae angen gwasanaeth band eang ar ysgolion sy'n cynnig lefel uchel o ddibynadwyedd, gydag argaeledd o leiaf 99.9% ac adferiad gwarantedig o'r gwasanaeth o fewn 6 awr os bydd y gwasanaeth yn methu'n llwyr.

    Mae CLG clir yn rhoi sicrwydd y bydd diffygion yn cael eu blaenoriaethu a'u datrys o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt ac yn caniatáu i ysgolion gynllunio'n effeithiol ar gyfer digwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth. Dylai ysgolion adolygu eu CLG band eang i ddeall ymrwymiadau'r darparwr mewn perthynas ag amser gweithredu, amseroedd ymateb i namau ac amseroedd trwsio, monitro rhagweithiol, trefniadau uwchgyfeirio, ac argaeledd cymorth.

    Cyfeiriwch at wefan PSBA am fanylion llawn yr hyn a gynhwysir yn y CLG a natur y gwasanaethau â gwerth ychwanegol y mae'n ei gynnwys.

    Mae CLG clir a diffiniedig hefyd o gymorth i ysgolion gyflawni eu cyfrifoldebau parhad dysgu. Dylai ysgolion gael cynlluniau priodol ar waith i sicrhau y gall dysgu barhau yn ystod digwyddiadau annisgwyl neu heb eu cynllunio, fel colli cysylltedd oherwydd toriadau pŵer neu fethiannau seilwaith ehangach. Mae cael CLG cytundebol ar waith yn rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion ynghylch amseroedd adfer, gan alluogi cynllunio mwy effeithiol a gwneud penderfyniadau gwybodus i leihau tarfu a chefnogi parhad dysgu.

  • Mae llawer o wasanaethau band eang, yn enwedig PSBA, yn cynnwys nodweddion gwerth ychwanegol hanfodol sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn rhwydweithiau ysgolion a diogelu dysgwyr. Gall y rhain gynnwys waliau tân, amddiffyniad rhag ataliad gwasanaeth dosbarthedig (DDoS), offer hidlo gwe a rheolaethau diogelwch eraill sy'n cefnogi cydymffurfiaeth a mynediad diogel i adnoddau ar-lein.

    Rhaid i ysgolion ddeall pa wasanaethau gwerth‑ychwanegol sydd wedi'u cynnwys yn eu contract band eang presennol cyn ystyried newid darparwr. Gall symud i wasanaeth cost is arwain at golli offer diogelu a rheoli bygythiadau hanfodol, gan amlygu dysgwyr a staff i risgiau diangen.

    Rhaid i unrhyw ddarparwr band eang newydd ddarparu'r un lefel ac ansawdd amddiffyniad â'r gwasanaeth presennol, gan sicrhau bod yr holl ofynion diogelwch, hidlo gwe a diogelu yn parhau i gael eu bodloni.