English

Barnardo's Cymru

Mae Barnardo’s yn credu mewn dull sy’n canolbwyntio ar y teulu cyfan. Maen nhw’n helpu gofalwyr ifanc a’r rhai sy’n gadael gofal; y rhai sy’n cael eu cam-drin a’r rhai sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Yn cefnogi’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl; y rhai sydd wedi profi trawma masnachu pobl ac yn llywio pobl ifanc agored i niwed oddi wrth droseddu cyfundrefnol.

X (a elwir gynt yn Twitter): @BarnardosCymru

BBFC (British Board of Film Classification)

Rheoleiddiwr annibynnol yw’r BBFC â mwy na 100 mlynedd o brofiad. Mae’r BBFC yn helpu pawb yn y DU i ddewis ffilmiau, fideos a gwefannau sy’n briodol i’r oedran, ble bynnag a sut bynnag maen nhw’n eu gwylio neu’u defnyddio

X (a elwir gynt yn Twitter): @BBFC

Byw Heb Ofn

Mae'n cynnig cyngor a chymorth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ffôn: 0808 80 10 800

X (a elwir gynt yn Twitter): @LiveFearFree

Canolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol

Mae’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol yn darparu cyfleuster ar gyfer mentrau, academyddion, ysgolion, sefydliadau ac unigolion sydd am ddysgu mwy am dechnoleg, manteisio ar gyfleusterau o’r radd flaenaf a chael cyngor o ansawdd gan arbenigwyr uchel eu parch ym maes seiber ddiogelwch.

Ffôn: 02921 052 734

Ebost: enquiries@NDEC.org.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @ThalesNDEC

Childline

Mae Childline yn wasanaeth cwnsela a ddarperir ar gyfer pobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed yn y DU.

Ffôn: 0800 1111

Childnet

Mae Childnet yn elusen sy’n gweithio i wneud y rhyngrwyd yn lle gwych a diogel i blant. Mae Childnet yn un o bartneriaid Canolfan y DU ar Ddefnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, ac mae’n canolbwyntio ar addysg/ymwybyddiaeth, polisïau a llais pobl ifanc.

X (a elwir gynt yn Twitter): @childnet

Common Sense Education

Mae Common Sense Education yn cefnogi ysgolion i rymuso’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion digidol, gan gynnig gwersi arobryn sy’n seiliedig ar ymchwil i ddatblygu arferion a sgiliau gydol oes i fyfyrwyr, yn ogystal ag adnoddau defnyddiol i rieni.

X (a elwir gynt yn Twitter): @CommonSenseEd

Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC)

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn darparu canllawiau a chymorth ar seiberddiogelwch er mwyn helpu i wneud y DU yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein.

Gwefan: ymholiadau cyffredinol 

X (a elwir gynt yn Twitter): @NCSC

Get Safe Online

Menter ar y cyd ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith, rheoleiddwyr a sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ym maes technoleg, cyfathrebu, manwerthu a chyllid. Y nod yw i helpu unigolion a busnesau bach a chanolig i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel.

Ebost: tim.mitchell@getsafeonline.org

Swyddfa Eiddo Deallusol

Bob dydd mae pobl yn ceisio datrys problemau a sbarduno datblygiadau technolegol trwy ddyfeisio. Oherwydd bod gan y creadigaethau hyn werth - yn fasnachol ac yn ddiwylliannol - mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cynnig amddiffyniad i eiddo deallusol (IP) gan gynnwys patentau, dyluniadau cofrestredig, nodau masnach a hawlfraint. Mae deall Eiddo Deallusol yn bwysig a dyna pam ein bod ni wedi datblygu ystod o adnoddau addysgu.

Ebost: innovation@ipo.gov.uk

Adnoddau: Cracking ideas (TES)

Internet Watch Foundation

Mae'r IWF yn helpu plant o bob cwr o’r byd sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol drwy ganfod a dileu delweddau a fideos o gamdriniaeth sydd ar-lein. Eu nod yw rhyngrwyd sy'n gwbl rydd o ddelweddau cam-drin plant yn rhywiol.

Ffôn: 01223 20 30 30

X (a elwir gynt yn Twitter): @IWFHotline

Gwybodaeth bellach

Learn My Way

Mae Learn My Way (LMW) yn llwyfan sgiliau digidol sylfaenol, dwyieithog sy’n cynnig cyrsiau i’ch helpu i feithrin sgiliau digidol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y byd ar-lein.

The Marie Collins Foundation

Elusen yw’r Marie Collins Foundation  sy'n ymroddedig i wella'r canlyniadau i blant sy'n cael eu cam-drin ar-lein drwy gynorthwyo teuluoedd, gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol, datblygu adnoddau a darparu hyfforddiant.

Ffôn: 01765 688827

Ebost: info@mariecollinsfoundation.org.uk

Meic Cymru

Gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru hyd at 25 oed yw Meic. Bydd Meic yn helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth ichi i newid pethau.

Ffôn: 080880 23456

X (a elwir gynt yn Twitter): @meiccymru

National Crime Agency - CEOP

NCA CEOP yw’r prif sefydliad yn y DU sy’n mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, ac mae’n darparu rhaglen addysg CEOP Education. Gall plant riportio cam-drin a chamfanteisio rhywiol drwy Ganolfan Ddiogelu Click CEOP.

Ebost: ceopeducation@nca.gov.uk

Twitter: @CEOPUK

NSPCC Cymru

Yr NSPCC yw’r brif elusen i blant yn y DU, sy’n gweithio i atal camdriniaeth a helpu’r rheini sy’n dioddef i wella.

X (a elwir gynt yn Twitter): @NSPCC_Cymru

Parent Zone

Mae Parent Zone yn darparu cymorth a gwybodaeth i rieni, plant ac ysgolion, gan weithio gyda phawb i helpu teuluoedd i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a hyderus. Maen nhw’n gweithio gyda rhieni, ysgolion, llywodraethau a busnesau i astudio, deall ac ymdrin ag effaith technolegau newydd ar bobl ifanc.

X (a elwir gynt yn Twitter): @TheParentsZone

Project DRAGON-S

Mae Prosiect DRAGON-S yn defnyddio arbenigedd mewn ieithyddiaeth, deallusrwydd artiffisial, troseddeg, polisi cyhoeddus a seicoleg – ac yn gweithio gyda phartneriaid o bob cwr o'r byd gan gynnwys cyrff anllywodraethol amddiffyn plant, llunwyr polisi ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith – i ddatblygu offer sy'n foesegol gyfrifol i amddiffyn plant rhag meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Ebost: project.dragons@swansea.ac.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @ProjectDragon_s

Gwybodaeth bellach

ProMo-Cymru

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwybodaeth, fod ganddynt ddiddordeb, eu bod wedi’u cysylltu a’u bod yn cael eu clywed. Mae ProMo-Cymru yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol.

X (a elwir gynt yn Twitter): @ProMoCymru

SchoolBeat Cymru

Partneriaeth yw SchoolBeat Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar Heddlu Cymru. Nod SchoolBeat Cymru yw diogelu plant, meithrin gwytnwch ynddynt, a’u cadw allan o’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol.

‘Heddlu’n diogelu plant Cymru drwy addysg atal troseddu’

X (a elwir gynt yn Twitter): @SchoolBeat

Lucy Faithfull Foundation Cymru

Mae Stop It Now! yn brosiect i atal cam-drin plant yn rhywiol, sy’n gweithredu ar draws y wlad i sicrhau bod rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sefyllfa orau bosibl i ddiogelu plant rhag camdriniaeth a chamfanteisio rhywiol.

Ffôn: 0808 1000 900

Ebost: wales@lucyfaithfull.org.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @LucyFaith_Wales

SWGfL (South West Grid for Learning) Trust Ltd

Elusen yw SWGfL sy’n canolbwyntio ar alluogi pobl i ddefnyddio technoleg mewn modd saff a diogel drwy wasanaethau, offer, cynnwys a pholisïau arloesol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Ebost: onlinesafety@swgfl.org.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @SWGfL_Official

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol yn y DU am hybu a gorfodi’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003, ymysg eraill.

Ebost: wales@ico.org.uk

Tarian Regional Cyber Crime Unit

Mae gan TARIAN Regional Cyber Crime Unit (RCCU) dîm o swyddogion ‘Seiber Atal’. Eu rôl yw atal pobl ifanc rhag cyflawni seiberdroseddau a/neu aildroseddu. Mae’r RCCU yn gweithio’n agos gyda’r National Crime Agency sy’n cydlynu’r ymateb cenedlaethol Seiber Atal

X (a elwir gynt yn Twitter): @TarianROCU

UK Safer Internet Centre

Partneriaeth rhwng tair elusen – Childnet, Internet Watch Foundation (IWF) ac SWGfL – ei chenhadaeth yw gwneud y DU y lle mwyaf diogel i fod ar-lein ynddo.

Ebost: enquiries@saferinternet.org.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @UK_SIC

WISE KIDS

Mae WISE KIDS yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn hyrwyddo Llythrennedd Digidol, Diogelwch Ar-lein, Dinasyddiaeth Ddigidol a Lles trwy ein rhaglenni hyfforddiant, ein rhwydweithiau, ein hadnoddau a'n gwaith ymchwil.

Ebost: info@wisekids.org.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @wisekids

Youth Cymru

Mae Youth Cymru yn elusen fawr o waith ieuenctid sy'n gweithredu yng Nghymru gyfan. Maent yn cefnogi eu haelodau a'u pobl ifanc i gael mynediad at adnoddau ychwanegol, gan ddarparu mwy o ddewisiadau a chyfleoedd ar gyfer dysgu, datblygu a thyfu.

Ffôn: 01443 827840

Ebost: mailbox@youthcymru.org.uk

X (a elwir gynt yn Twitter): @youthcymru