English

Os ydych chi’n mwynhau treulio amser ar-lein, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol bod rhai oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd i gymryd mantais ar bobl ifanc a’u rhoi dan bwysau i wneud rhywbeth rhywiol. Sefyllfa gyffredin yw bod plentyn neu berson ifanc dan 18 oed yn derbyn neges breifat gan oedolyn yn gofyn iddo rannu lluniau neu fideos noeth ohono’i hun. Camfanteisio rhywiol ar-lein yw hynny, a dyw hynny ddim yn iawn.

Mae'r Internet Watch Foundation (IWF) wedi gwneud ffilm i roi gwybod i blant a phobl ifanc am y pethau y gall rhai oedolion eu dweud a'u gwneud ar-lein i'w cael i rannu lluniau neu fideos ohonyn nhw eu hunain. Mae'r IWF wedi darganfod fod merched 11 i 13 oed mewn mwy o berygl, felly mae’r ffilm hon yn canolbwyntio ar ferched, ond mae’n bwysig gwybod y gall hyn ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo'ch rhyw neu gefndir.

Mae tri cham syml yn y ffilm i i gofio: BLOCIO. RIPORTIO.  DWEUD WRTH RYWUN YR YDYCH YN YMDDIRIED YNDDO.

Rhannwch y neges bwysig hon â’ch ffrindiau!


Beth yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein?

Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein ('grwmio') yn rhywbeth y mae camdrinwyr sy'n oedolion yn ei wneud er mwyn meithrin perthynas â phlentyn neu berson ifanc ar-lein fel y gallan nhw eu cam-drin. Bydd rhai o'r camdrinwyr hynny yn treulio llawer o amser yn ymddwyn yn gyfeillgar a gofalgar gydag un person, tra bydd eraill yn ceisio cysylltu â chymaint o blant a phobl ifanc ag y gallan nhw, gan obeithio y bydd rhywun yn ateb.

Mae'n bosibl nad yw'r bobl ar-lein yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw

Efallai y bydd y rhai hynny sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn defnyddio proffil ffug i'ch twyllo a dweud celwydd am eu hoedran, sut maen nhw'n edrych, eu rhyw a'u hobïau – dim ond i wneud i chi eu hoffi ac ymddiried ynddyn nhw. Ond nid yw pob un yn dweud celwydd am eu hoedran a'u hunaniaeth, gall rhai ohonyn nhw fod yn iau a bod yn gyfeillgar ac yn ddoniol. Gall fod yn anodd iawn gwybod pwy i ymddiried ynddyn nhw, ond mae rhai arwyddion i gadw golwg amdanyn nhw:

  • Rhoi llawer o sylw i chi
  • Esgus bod yn ffrind i chi
  • Rhoi anrhegion rhithwir neu go iawn i chi
  • Ceisio eich cael i wneud pethau nad ydych am eu gwneud
  • Siarad am ryw
  • Eich herio i rannu lluniau neu fideos noeth (neu bron yn noeth)

Ni fyddai ffrind go iawn byth am wneud i chi deimlo'n anghyfforddus. Os byddwch chi'n siarad â rhywun ar-lein a’u bod nhw'n dechrau siarad am ryw neu'n gofyn i chi rannu lluniau neu fideos noeth, dyw hynny ddim yn iawn, cam-drin rhywiol ar-lein yw hynny.

Beth allwch chi ei wneud

Sut i riportio - CEOP

Os ydych chi'n poeni am rywun yr ydych chi wedi cwrdd ag ef neu hi ar-lein neu os ydych chi'n poeni bod hyn yn digwydd i ffrind, gallwch chi roi gwybod i'r CEOP am hynny.

Rhan o’r heddlu yw'r CEOP sy'n gyfrifol am gadw plant a phobl ifanc dan 18 oed yn ddiogel rhag cam-fanteisio a cham-drin rhywiol ar-lein.

Pan fyddwch chi'n cyflwyno adroddiad, bydd un o'r Cynghorwyr Amddiffyn Plant yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn. Byddant yn siarad gyda chi am eich adroddiad ac yn rhoi cynllun ar waith. Bydd eich diogelwch a'ch lles yn cael eu hamddiffyn a byddan nhw'n gweithio gyda chi a gweithwyr diogelwch proffesiynol eraill i helpu.

Gwasanaethau cymorth eraill

Os nad ydych chi'n barod, neu os nad ydych chi'n teimlo’n ddigon hyderus i gyflwyno adroddiad i’r CEOP, gallwch chi siarad â Childline neu Meic yn ddienw ar-lein neu ar y ffôn.

Os ydych chi eisoes wedi anfon llun neu fideo noeth, a’ch bod chi’n poeni eich bod wedi colli rheolaeth arno, gallwch gael cymorth i’w dynnu o’r rhyngrwyd drwy gyflwyno adroddiad i Report Remove ar wefan Childline.

Rhybudd

Os ydych chi neu rywun yr ydych chi'n ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.