English

Eithafiaeth

Eithafiaeth yw pan mae gan rywun gredoau cryf (fel arfer am wleidyddiaeth, crefydd neu faterion cymdeithasol) nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn credu sy’n dderbyniol neu resymol. Mae gan rai bobl farn eithafol, a gelwir y rhain yn eithafwyr.

Radicaleiddio

Radicaleiddio yw pan mae rhywun yn cael i ddarbwyllo i ddechrau cefnogi neu gredu syniadau eithafol. Maen nhw’n cael eu radicaleiddio (neu eu dylanwadu) gan bobl eraill i feddwl fel hyn.  

Terfysgaeth

Weithiau, gall radicaleiddio ac eithafiaeth arwain at derfysgaeth. Golyga hyn pan fydd bygythiadau neu weithredoedd treisgar yn cael eu cyflawni i ddwyn sylw i gredoau neu farn eithafol. Mae hyn fel arfer yn wleidyddol, yn hiliol neu’n grefyddol. Weithiau, defnyddir arfau neu ffrwydradau, neu gall ddigwydd yn ddigidol drwy hacio systemau electronig.  


Mae radicaleiddio’n aml yn digwydd ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, grwpiau sgwrsio neu wefannau cyn symud ymlaen i sgyrsiau preifat neu sianelau cyfathrebu llai amlwg. Does dim patrwm neu amser penodol. Mae’n bosibl y bydd eithafwyr yn dechrau adeiladu eich ymddiriedaeth yn araf deg, ac efallai na fyddwch hyd yn oed yn sylweddoli ei fod yn digwydd. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y byddwch eisoes yn adnabod yr unigolyn sy’n ceisio eich radicaleiddio, un ai drwy deulu, ffrindiau neu gyfryngau cymdeithasol.

Mae radicaleiddio’n cynnwys:

  • meithrin perthynas amhriodol – eich darbwyllo i wneud rhywbeth dros amser
  • camfanteisio – eich defnyddio chi i wneud rhywbeth er budd rhywun arall
  • bod yn ystrywgar – dylanwadu arnoch mewn ffyrdd clyfar
  • amlygiad – dangos deunyddiau niweidiol a threisgar i chi a gwybodaeth sy’n cefnogi credoau rhywun arall

Gall unrhyw un gael ei radicaleiddio. Pan mae pobl yn ifanc, mae’n naturiol ceisio gwthio’r ffiniau a dysgu pwy ydyn nhw fel person. Efallai y byddi di’n fwy agored i archwilio pethau newydd a gwahanol. Nid yw’n digwydd i un fath o berson, ond gall y ffaith nad wyt ti wedi ffurfio dy farn ar bethau eto dy wneud di’n darged rhwydd.

Mae rhai plant a phobl ifanc mewn mwy o risg o radicaleiddio. Gall hyn fod gan eu bod yn:

  • ansicr
  • dryslyd
  • cael eu dylanwadu’n hawdd
  • yn unig
  • yn flin
  • eisiau cael eu derbyn a theimlo’n perthyn
  • dioddef o faterion iechyd meddwl

Gall fod rhai pethau’n digwydd yn dy fywyd sy’n dy wneud di’n fwy agored i niwed, fel cael dy fwlio, neu golli rhywun rwyt ti’n ei garu. Efallai bod pethau’n digwydd yn y gymuned sy’n dy ddylanwadu, fel gwahaniaethu, pobl yn cael eu trin yn annheg neu densiwn rhwng grwpiau.  


  • Ceisia greu dy farn dy hun. Treulia amser yn ymchwilio popeth rwyt ti’n ei weld ar wefannau cymeradwy a dibynadwy ar-lein, ac edrycha ar bob ochr y stori.
  • Siarada’n agored gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo.
  • Ceisia ddeall beth yw meithrin perthynas amhriodol – rhoi gormod o ganmoliaethau, eich troi yn erbyn pobl, gofyn i ti gadw cyfrinachau. 
  • Dysgu am gefndiroedd, diwylliannau a ffydd gwahanol – paid â chanolbwyntio ar un yn unig.
  • Ceisia osgoi defnyddio neu gefnogi trais (nid yw hyn fyth yn iawn).
  • Bydda’n ymwybodol o berygl – i ti neu bobl eraill.
  • Meddylia am ffyrdd positif y galli di sefyll dros yr hyn wyt ti’n ei gredu – fel cysylltu â gwleidydd lleol, dechrau deiseb neu wirfoddoli.
  • Cofia nad yw pobl bob amser pwy maen nhw’n dweud ydyn nhw ar y we.
  • Paid â chadw cyfrinachau gan fod rhywun wedi dweud wrthyt ti i wneud – mae hyn oherwydd fel arfer maen nhw’n gwybod eu bod yn ymddwyn yn anghywir.

Os wyt ti’n poeni bod ffrind neu rywun rwyt ti’n ei adnabod yn cael ei radicaleiddio, dyma rai arwyddion i chwilio amdanynt:  

  • ymddwyn yn wahanol i’r arfer
  • cadw pellter oddi wrth ffrindiau a theulu
  • newid y ffordd maen nhw’n gwisgo
  • dim dangos diddordeb mewn gwneud pethau yr oedden nhw’n arfer eu mwynhau
  • gwylltio
  • cadw cyfrinachau
  • siarad fel eu bod yn darllen oddi ar sgript
  • edrych ar bethau eithafol ar-lein
  • cydymdeimlo gydag achosion eithafol
  • cefnogi grwpiau neu sefydliadau eithafol

Mae’r byd yn lle ffantastig gyda llawer o farnau, diwylliannau a ffydd gwahanol. Mae dathlu’r gwahaniaethau yn ein bywydau, derbyn pobl eraill a’u barn yn ein helpu i ddod yn bobl barchus a llawn.  

Paid â rhannu

Os yw rhywun yn rhannu cynnwys eithafol gyda ti, gan gynnwys blogiau, delweddau, fideos areithiau a gwefannau sy’n hyrwyddo neu’n cefnogi terfysgaeth, diffodda’r cynnwys a’i adrodd (Saesneg yn unig). Galli di hefyd dynnu sgrinluniau a chopïo’r dolen ar-lein i’w gynnwys pan fyddwch chi’n adrodd.

Paid byth â rhannu cynnwys heb ei ymchwilio’n gyntaf. Mae grwpiau terfysgol yn defnyddio propaganda (gwybodaeth ochrog sy’n darbwyllo pobl i’w gefnogi), felly paid byth â chymryd unrhyw beth yn ganiataol.

Dweda wrth rywun

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth arall o ran radicaleiddio, eithafiaeth neu derfysgaeth, neu os wyt ti’n teimlo fod rhywun yn ceisio dy ddylanwadu, siarada gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Bydda’n agored am dy deimladau. Os nad wyt ti’n siwr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau.

Os nad wyt ti’n credu fod gennyt unrhyw un i siarad gyda nhw, cysyllta â llinell gymorth fel Childline (Saesneg yn unig) neu Meic. Byddan nhw’n cadw popeth yn gyfrinachol oni bai eu bod nhw’n meddwl dy fod di neu rywun arall mewn perygl brys. Os yw hynny’n digwydd, byddan nhw’n sicrhau dy fod yn cael y cymorth iawn gan y bobl iawn.  

Os wyt ti’n poeni am rywun ti’n gwybod sy’n cael ei radicaleiddio, dweda wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo. Os ydyn nhw mewn perygl brys, ffonia’r heddlu ar 999.  

Os wyt ti’n amau unrhyw beth arall ynghylch eithafiaeth a therfysgaeth, rho wybod i’r Llinell Gymorth Gwrth-derfysgaeth ar 0800 789 321 neu rho wybod i MI5 (Saesneg yn unig).


Os ydych chi’n poeni am gynnwys rydych chi wedi ei weld ar-lein, rhowch wybod amdano. Mae’n bwysig rhoi gwybod amdano oherwydd gallai fod yn niweidiol. Wrth riportio pethau ar-lein, gallwch ofyn am gael bod yn ddienw, a byddwch chi’n gwbl ddiogel gan na fyddai neb yn gwybod mai chi a gododd y mater.

Peidiwch â bod ofn riportio rhywbeth, ac os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hynny, gofynnwch i oedolyn eich helpu, neu dywedwch wrth ffrind a gallwch ddweud wrth oedolyn gyda’ch gilydd. Rhwystrwch pwy bynnag bostiodd y cynnwys, a thynnu sgrinluniau os oes angen.

Dywedwch wrth rywun am yr hyn rydych chi wedi ei weld - er enghraifft, athro, eich rhieni, gwarcheidwad, neu ffrind. Y peth pwysicaf yw dweud eich dweud, gan fod unrhyw wybodaeth yn ddefnyddiol, yn enwedig os oes angen i’r heddlu gymryd rhan.  

Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Anti-terrorist hotline (Saesneg yn unig) – adrodd unrhyw beth amheus am derfysgaeth ac eithafiaeth ar 0800 789 321
  • Crimestoppers (Saesneg yn unig) – adrodd am drosedd yn ddienw ar 0800 555 111 neu ar eu gwefan
  • Childline (Saesneg yn unig) – llinell gymorth am ddim, preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yn y DU lle mae modd trafod unrhyw beth o gwbl. Ffonia 0800 1111 
  • Meic – llinell gymorth am ddim a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gydag ymgynghorwyr i dy helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth sydd ei hangen. Ffonia 080880 23456, anfona neges destun at 84001 neu gellid sgwrsio ar-lein
  • Report extremist online content (Saesneg yn unig) – tudalen ar wefan y llywodraeth ble galli di adrodd deunydd ar-lein yn ddienw sy’n edrych fel ei fod yn cefnogi terfysgaeth neu eithafiaeth
Rhybudd

Ffonia 999 os wyt ti, neu rywun rwyt ti’n ei adnabod, mewn perygl brys