English

Ddim yn teimlo’n iawn?

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn gweld pethau’n anodd yn gyffredinol, nid ydych chi ar eich pen eich hunain. Mae gwasanaethau a llinellau cymorth cyfrinachol ar gael i’ch helpu yn rhad ac am ddim.

Rhybudd

Ffoniwch yr heddlu ar 999 yn syth os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod mewn perygl uniongyrchol.

The Professionals Online Safety Helpline (POSH)

C.A.L.L

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy’n bryderus am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind. Mae llinell gymorth a gwasanaeth testun C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol i bobl Cymru.

Mae C.A.L.L. yn wasanaeth sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sydd ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Llinell Gymorth: 0800 132 737

Anfon neges destun at: 81066 

 

Child line

Childline

Ar-lein, ar y ffôn, unrhyw bryd

Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol, preifat, rhad ac am ddim sydd ar gael i bawb dan 19 oed yn y DU, lle gallwch drafod unrhyw beth. Beth bynnag sy’n dy boeni, maen nhw yna i wrando ac i dy gefnogi.

Mae llawer o wahanol ffyrdd o siarad â chwnselydd Childline neu gael cymorth gan bobl ifanc eraill.

Gelli ffonio 0800 1111. Mae galwadau yn rhad ac am ddim, ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar y bil. Llinellau ar agor rhwng 9am a chanol nos.

Gelli siarad â chwnselydd mewn man diogel ar-lein am beth bynnag sy’n dy boeni mewn sgwrs 1 i 1.

Gelli hefyd ymuno â phobl ifanc eraill ar y byrddau negeseuon.

Gelli sefydlu cyfrif Childline ac anfon e-bost o dy locer.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, ewch i wefan Childline.

Gelli hefyd gysylltu â Childline yn Gymraeg.

Cruse Bereavement Care

Mae galar yn broses naturiol, ond gall fod yn dorcalonnus ac ingol. Mae Cruse Bereavement Care yma i’ch cefnogi wedi i chi golli un o’ch anwyliaid. Mae’n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion pan fo rhywun yn marw.

Nod Cruse Bereavement Care yw sicrhau bod gan bawb sydd mewn galar rywle i droi ar ôl colli rhywun arbennig.

Llinell Gymorth: 0808 808 1677

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac yn gallu darparu cymorth a chyngor rhad ac am ddim i.

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth, er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.

Mae pob sgwrs â Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Ffoniwch:0808 80 10 800

Gwybodaeth am y llinell gymorth

Testun:07860077333

Gwybodaeth am y gwasanaeth testun

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Gwybodaeth am y gwasanaeth e-bost

Gwasanaeth sgwrsio byw

Os na fedrwch siarad yn ddiogel, ond bod angen cymorth arnoch ar unwaith, bydd heddluoedd ledled Cymru yn ymateb i alwad 999 dawel – ffoniwch 999 ac yna pwyswch 55 i ddangos nad oes modd i chi siarad, ond bod angen cymorth arnoch.

Meic

Meic

Rhywun ar dy ochr di

Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol, ddwyieithog, rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

O gael gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn dy ardal leol i gael help i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan na fydd neb arall yn gwneud. Bydd neb yn dy farnu, ac fe fydd yn helpu drwy roi’r wybodaeth, cyngor a chymorth defnyddiol sydd eu hangen arnat ti.

Gelli gysylltu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae Meic ar agor rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gelli gysylltu dros y ffôn, neges destun neu negeseuon gwib. Mae Meic yn wasanaeth cyfrinachol, dienw, rhad ac am ddim, ar dy gyfer di. 

Ffonia yn rhad ac am ddim ar 0808 80 23456

Neu anfon neges destun at 84001

Negeseua gwib/Sgwrs ar-lein: www.meiccymru.org

NSPCC

NSPCC

Mae pob plentyndod werth brwydro drosto

Mae'r NSPCC yn gweithio i amddiffyn plant ac atal camdriniaeth.

Os wyt ti'n 18 oed neu'n iau, ffonia Childline ar 0800 1111 i gael cyngor a chymorth beth bynnag sy'n dy boeni, pryd bynnag bydd angen help.

Os ydych chi'n poeni am blentyn, hyd yn oed os ydych yn ansicr, cysylltwch â llinell gymorth yr NSPCC sydd wedi'i staffio gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig, a all ddarparu cyngor a chymorth arbenigol. Gallant helpu os ydych chi'n poeni am blentyn, os ydych chi'n riant neu ofalwr sy'n chwilio am gyngor neu os ydych yn weithiwr proffesiynol sydd angen gwybodaeth ac arweiniad.

Beth bynnag yw eich pryder:

Ffoniwch yr NSPCC ar 0808 800 5000

E-bost: help@nspcc.org.uk

Cyflwynwch ffurflen ar-lein

Gallwch ffonio dydd Llun i ddydd Gwener 9am – 6pm neu 9am – 4pm ar y penwythnos. Mae'n rhad ac am ddim, a does dim angen i chi roi eich enw.

Mae cyngor hefyd ar gael ynghylch adnabod arwyddion camdriniaeth (Saesneg yn unig).

Papyrus

Os ydych chi’n cael meddyliau am hunanladdiad neu’n bryderus am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hyn, gallwch gysylltu â Papyrus am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol drwy eu llinell gymorth, gwasanaeth neges destun neu e-bost.

Mae Papyrus yn elusen genedlaethol sy’n canolbwyntio'n benodol ar ceisio atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc. Mae eu gweledigaeth am gymdeithas sy’n siarad yn agored am hunanladdiad ac sydd â’r adnoddau i helpu pobl ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.

Ffôn: 0800 068 41 41

Anfon neges destun at: 88247

E-bost: pat@papyrus-uk.org

Professionals Online Safety Helpline (POSH)

Cefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Llinell gymorth sy'n cael ei gweithredu gan yr UK Safer Internet Centre, yn benodol ar gyfer helpu pob aelod o'r gymuned sy'n gweithio gyda phlant ar unrhyw faterion diogelwch ar-lein sy'n eu hwynebu nhw neu'r plant a phobl ifanc yn eu gofal.

Maent yn cynnig cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim ar nifer o faterion diogelwch ar-lein, gan gynnwys: preifatrwydd, enw da ar-lein, gemau, magu perthynas amhriodol ar-lein, seiberfwlio, secstio, ymddygiad amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy.

Mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm:

Ffoniwch: 0344 381 4772

Byddant yn ymateb i bob ymholiad e-bost yn ystod eu horiau gwaith arferol:

E-bost: helpline@saferinternet.org.uk

Samariaid Cymru

Samariaid Cymru

Ffonia yn rhad ac am ddim, ddydd neu nos

Mae’r Samariaid yn llinell gymorth sydd ar gael 24/7 i unrhyw un sy’n cael trafferth dygymod neu sydd angen rhywun i wrando heb farnu na rhoi pwysau.

Gelli siarad gyda’r Samariaid am yr hyn sy’n digwydd, ac am dy deimladau, ac fe fyddant yn dy helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Beth bynnag yw dy brofiadau, gelli ffonio’r Samariaid yn rhad ac am ddim unrhyw bryd, o unrhyw ffôn, ar 116 123.

Neu gelli anfon e-bost at y Samariaid ar jo@samaritans.org. Cei ymateb o fewn 24 awr.

Pe bai’n well gen ti ysgrifennu llythyr, gelli ei anfon at:

Chris
Freepost RSRB-KKBY-CYJK
PO Box 9090
STIRLING
FK8 2SA

Bydd y Samariaid yn ceisio ymateb i lythyrau o fewn 7 diwrnod.

Shout

Mewn argyfwng? Yn orbryderus? Yn poeni? Dan straen? Gallwch gael cymorth 24/7.

Shout yw gwasanaeth neges destun 24/7 cyntaf y DU, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd mewn argyfwng ar unrhyw adeg yn unrhyw le. Mae’n fan y gallwch fynd iddo os ydych chi’n cael trafferth ymdopi ac angen cymorth ar unwaith.

Anfon neges destun at 85258

Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc

Chwe rhestr chwarae i'ch cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu drwy'r cyfnod hwn a thu hwnt.

Ym mhob un o'r rhestri chwarae, fe welwch wefannau hunan-gymorth, apiau, llinellau cymorth, a mwy sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.

Adrodd ar broblem ar-lein

Mae’r mwyafrif o ddarparwyr gwasanaethau yn cynnig ffyrdd i ddeiliaid cyfrifon adrodd am broblemau, ac mae rhai yn cynnig dull adrodd cyhoeddus sy’n caniatáu i drydydd parti adrodd ar ran plentyn neu berson ifanc.

Mae canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd ar Hwb yn rhoi cyngor ar sut i adrodd ar broblem ar rai o’r rhwydweithiau cymdeithasol, apiau a gwefannau gemau mwyaf poblogaidd.

Dyma rai adnoddau adrodd arbenigol eraill.