English

Ap negeseua gwib am ddim yw WhatsApp sy'n gadael i ddefnyddwyr:

  • anfon negeseuon at gysylltiadau unigol, neu’n rhan o sgwrs grŵp gyda nifer o ddefnyddwyr eraill
  • rhannu cyfryngau
  • gwneud galwadau llais neu fideo am ddim gyda'u cysylltiadau

Yn hytrach na defnyddio SMS, mae'n cysylltu trwy'r rhyngrwyd, sy'n dileu costau negeseuon testun a galw. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i gysylltu â phobl yn rhyngwladol. Mae cyfrifon WhatsApp wedi'u cysylltu â rhif ffôn y defnyddiwr.

Un o nodweddion nodedig WhatsApp yw amgryptio o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai sydd â mynediad at ffonau'r anfonwr neu'r derbynnydd sy’n gallu cael at neges. Ni all neb arall, hyd yn oed WhatsApp, weld cynnwys sgwrs defnyddiwr. 

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i ddefnyddio WhatsApp. Wrth gofrestru, rhaid i ddefnyddwyr gofnodi eu dyddiad geni. Fodd bynnag, nid oes proses gwirio oedran, felly mae'n bosibl i blant o dan 13 oed gofnodi pen-blwydd ffug a defnyddio'r ap. 

Admin

Y sawl sy'n sefydlu sgwrs grŵp. Dim ond gweinyddwyr all ychwanegu defnyddwyr at sgwrs grŵp neu eu tynnu oddi yno. Gallan nhw wneud aelodau eraill o'r grŵp yn weinyddwyr hefyd.

Calls 

Gall defnyddwyr gael galwadau sain a fideo gyda hyd at 8 o bobl ar yr un pryd.

Camera 

Gall defnyddwyr dynnu lluniau a chreu fideos wrth ddefnyddio'r ap a'u hanfon at gysylltiadau. Gellir rhannu cyfryngau o rolyn y camera hefyd.

Chat Lock 

Mae sgwrs wedi'i chloi wedi ei chuddio o'r rhestr gysylltiadau. Mae angen cyfrinair er mwyn gweld sgwrs, ac ni fydd hysbysiadau yn dangos cynnwys y negeseuon.

Chats 

Prif nodwedd WhatsApp. Gall sgyrsiau fod gydag unigolion neu grwpiau.

Communities 

Gall defnyddwyr ymuno â nifer o sgyrsiau grŵp mewn un gymuned, gan rannu calendr a man ar gyfer cyhoeddiadau.

Disappearing messages 

Yn y gosodiadau sgwrsio, gall defnyddwyr ddewis bod negeseuon yn diflannu 24 awr, 7 diwrnod neu 90 diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu hanfon.

Location sharing

Gall defnyddwyr rannu eu lleoliad gyda chysylltiad, gan hefyd naill ai rhannu eu lleoliad ar y pryd, neu rannu eu lleoliad byw am hyd at 8 awr.

Read receipts

Mae ticiau’n cyd-fynd â negeseuon, a byddan nhw’n troi'n las ar ôl i'r derbynnydd weld y neges. Gellir diffodd y nodwedd hon.

Screen sharing (Darlledu ar iOS) 

Gall defnyddiwr rannu ei sgrin gyda chyfranogwyr eraill yn ystod galwad fideo.

Status

Gall defnyddwyr rannu testun, lluniau, dolenni neu ddiweddariadau fideo gyda'u holl gysylltiadau. Mae pob statws yn para 24 awr.

Video messages

Gellir anfon negeseuon fideo sy’n para hyd at 60 eiliad rhwng defnyddwyr. 

View once

Gall defnyddwyr anfon negeseuon y gellir eu darllen unwaith yn unig cyn iddyn nhw gael eu dileu. Nid oes modd tynnu sgrinlun ohonyn nhw.

Voice notes

Gellir anfon recordiadau byr o lais defnyddiwr yn lle negeseuon testun.

Cadw mewn cysylltiad

Mae WhatsApp yn caniatáu i bobl ifanc gadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau a'u teulu trwy alwadau a negeseuon. 

Cyswllt â dieithriaid

Mae cyfrifon WhatsApp wedi'u cysylltu â rhif ffôn y defnyddiwr. Mae hyn yn golygu bod unrhyw un sydd â rhif ffôn eich plentyn yn gallu dod o hyd iddo ar WhatsApp. Yna gall y sawl hwnnw weld ei lun proffil, ei ffonio a'i ychwanegu at grwpiau.

Gallwch gymryd camau i leihau'r risg y bydd dieithriaid yn cysylltu â'ch plentyn.

Newid y gosodiadau preifatrwydd

Yng ngosodiadau preifatrwydd WhatsApp, gallwch ei osod fel mai dim ond cysylltiadau eich plentyn all weld ei lun proffil neu ei ychwanegu at grwpiau. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i ddieithriaid gysylltu â’ch plentyn.

Siarad am or-rannu

Eglurwch i'ch plentyn na ddylai rannu ei leoliad byw nac anfon unrhyw wybodaeth bersonol na lluniau at bobl nad yw'n eu hadnabod nac yn ymddiried ynddyn nhw’n llwyr.

Siarad am ei fywyd digidol

Bydd cael sgyrsiau achlysurol aml gyda'ch plentyn am ei fywyd digidol yn eich helpu i gael gwybod am yr hyn mae'n ei wneud ar-lein. Felly, bydd hi’n fwy tebygol y bydd yn sôn wrthych os bydd dieithryn yn cysylltu ag ef, gan roi cyfle i chi gynnig arweiniad ar sut i ddelio â'r sefyllfa.

Dysgu eich plentyn i flocio a riportio

Mae gan WhatsApp nodweddion blocio a riportio. Gall dangos i'ch plentyn sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn atal cyswllt pellach gan unrhyw ddieithriaid sy'n anfon neges ato.

Bwlio

Mae modd defnyddio WhatsApp ar gyfer bwlio. Gellid ychwanegu pobl ifanc at sgwrs grŵp lle maen nhw’n cael negeseuon cas gan yr aelodau eraill. Gall negeseuon sy'n diflannu olygu ei bod yn anoddach ymladd yn erbyn bwlio, gan fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd casglu tystiolaeth.

Mae yna gamau y gallwch chi a'ch plentyn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar-lein.

Blocio a riportio

Dysgwch eich plentyn sut i ddefnyddio'r nodweddion blocio a riportio ar WhatsApp. Os oes rhywun yn anfon sylwadau cas at eich plentyn, cynghorwch iddo ddefnyddio'r nodweddion hyn i atal cyswllt yn y dyfodol.

Cadw tystiolaeth

Tynnwch sgrinluniau o negeseuon, fideos neu ddelweddau y mae eich plentyn wedi'u cael fel y gellir eu defnyddio’n dystiolaeth os oes angen i chi roi gwybod i’w ysgol neu’r awdurdodau am fwlio. Nid yw hyn yn gweithio ar gyfer negeseuon sy'n diflannu.

Newid y gosodiadau preifatrwydd

Yn y gosodiadau preifatrwydd gallwch reoli pwy sy'n cael ychwanegu eich plentyn at sgyrsiau grŵp. Mae gosod hwn i 'My Contacts’ yn atal cysylltiadau diangen rhag ei ychwanegu at grwpiau lle gallai gael negeseuon annymunol.

Annog sgwrs

Atgoffwch eich plentyn y gall bob amser ddweud wrthych os yw rhywun neu rywbeth yn ei boeni ar-lein.

Dyluniad sy’n annog defnydd

Mae nodweddion WhatsApp fel 'Read receipts’ a 'Last seen' yn annog defnyddwyr i dreulio mwy o amser ar yr ap. Efallai y bydd pobl ifanc yn teimlo pwysau i ymateb yn gyflym i ffrindiau os ydynt yn gwybod y gall eraill weld eu bod wedi bod ar-lein.

Gallwch leddfu'r pwysau i ddefnyddio WhatsApp gyda'r camau canlynol. 

Addasu gosodiadau

Yng ngosodiadau preifatrwydd WhatsApp, gallwch analluogi nodweddion 'Read receipts’ a 'Last seen'. Mae gwneud hynny yn golygu na allwch weld y tro diwethaf yr oedd defnyddwyr eraill ar-lein chwaith. Gellir analluogi hysbysiadau hefyd i atal pobl ifanc rhag cael eu denu’n ôl i'r ap dro ar ôl tro.

Annog ffiniau

Eglurwch i'ch plentyn fod y nodweddion hyn wedi'u cynllunio i'w gadw ar yr ap ac na ddylai ei ffrindiau ddisgwyl iddo ymateb ar unwaith bob amser. Gall hyn ei helpu i deimlo llai o bwysau i fod ar gael ar WhatsApp bob amser. 

Amgryptio o'r dechrau i'r diwedd

Mae amgryptio o'r dechrau i'r diwedd yn golygu bod negeseuon a anfonir ar WhatsApp yn fwy diogel. Fodd bynnag, gall hyn roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl ifanc wrth rannu ar WhatsApp. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall bod modd tynnu sgrinluniau ac anfon negeseuon ymlaen.

Er nad oes gan WhatsApp reolyddion rhieni pwrpasol, mae yna ystod o osodiadau y gellir eu haddasu i wneud defnyddio'r ap yn brofiad mwy diogel.

Addasu gosodiadau preifatrwydd

Yn y gosodiadau preifatrwydd, gall defnyddwyr newid gyda phwy maen nhw'n rhannu eu statws ar-lein, eu llun proffil a’u manylion. Gallwch ddewis rhwng pawb yn gweld yr wybodaeth hon neu neb yn ei gweld. Gellir diffodd lleoliad byw hefyd i ddiogelu preifatrwydd eich plentyn.

Newid pwy all weld gwybodaeth

  • Agorwch WhatsApp a chliciwch ar y 3 dot fertigol yn y gornel dde uchaf.
  • Dewiswch 'Settings' ar waelod y gwymplen.
  • Dewiswch 'Privacy'.
  • Ewch trwy'r nodweddion ac ar gyfer pob opsiwn dewiswch o blith:
  • Everyone
  • My contacts
  • My contacts except...
  • Nobody

Analluogi gosodiadau lleoliad

  • Agorwch osodiadau eich dyfais a dewiswch 'Apps'.
  • Dewiswch 'WhatsApp', yna 'Permissions'.
  • Dewiswch 'Location'.
  • Gallwch nawr ddewis o blith:
  • Allow only while using the app
  • Ask every time
  • Don't allow

Sylwer: Gall camau i gael at osodiadau lleoliad amrywio yn dibynnu ar y ddyfais y mae eich plentyn yn ei defnyddio ond byddan nhw’n debyg i'r rhain.

Archwilio offer blocio a riportio

Dysgwch eich plentyn sut i ddefnyddio offer blocio a riportio WhatsApp i amddiffyn ei hun rhag cyswllt niweidiol. Wrth ddangos iddo sut mae defnyddio'r nodweddion hyn, gallwch hefyd drafod pryd y dylai eu defnyddio.

Blocio neu riportio cysylltiadau niweidiol

  • Cliciwch ar lun proffil y defnyddiwr rydych chi am ei flocio neu riportio.
  • Ar y naidlen, dewiswch y logo gwybodaeth ar y dde.
  • Ewch i waelod y dudalen a dewiswch 'Block' i'w atal rhag cysylltu â'ch plentyn neu 'Report' i gofnodi ei fod wedi torri rheolau WhatsApp.

Diffodd hysbysiadau

Gall dyluniad WhatsApp achosi i bobl ifanc dreulio mwy o amser ar eu ffôn, gan eu bod yn teimlo pwysau i ymateb i negeseuon yn gyflym. Gall diffodd hysbysiadau helpu, gan na fydd eich plentyn yn cael gwybod am negeseuon newydd a bydd yn llai tebygol o gael ei dynnu oddi wrth waith ysgol neu gwsg.
I wneud hyn:

  • agorwch WhatsApp a chliciwch ar y 3 dot fertigol yn y gornel dde uchaf
  • dewiswch 'Settings' ar waelod y gwymplen
  • dewiswch 'Notifications'
  • ewch trwy’r opsiynau a'u diffodd i analluogi hysbysiadau