English

Mae Roblox yn blatfform crëwr gemau ar-lein hynod boblogaidd am ddim lle mae dros 50 miliwn o chwaraewyr dyddiol yn dod at ei gilydd i chwarae, creu a rhannu profiadau. Yn hytrach na dim ond un gêm a grëwyd gan ddatblygwr gemau mawr, mae mathau gwahanol o gemau ar gael yn llyfrgell Roblox sy'n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr, sy'n golygu eu bod wedi'u hadeiladu gan aelodau cyhoeddus o gymuned Roblox. Mae dros 24 miliwn o gemau ar gael ar y platfform ar hyn o bryd. Gan fod y gemau'n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr, mae'r dewis o gemau sydd ar gael i’w chwarae yn newid yn barhaus. Mae poblogrwydd gemau unigol ar y platfform yn newid yn aml, ond mae'r ffefrynnau hirhoedlog yn cynnwys Adopt Me, Jailbreak a Bloxburg. 

Mae hon yn gêm PEGI 7.

Mae gan Roblox sgôr PEGI 7 ond mae angen i ddefnyddwyr fod yn arbennig o ofalus gyda'r sgôr hon oherwydd nid un gêm yw Roblox ond llyfrgell o gemau sy'n esblygu'n gyson. Felly dim ond i’r system sylfaenol a gemau sampl Roblox mae’r sgôr PEGI ffurfiol yn berthnasol.  

Mae App Store yn rhoi sgôr oedran o 12+ i Roblox tra bod Google Play yn rhoi sgor ‘Parental Guidance’. Does dim dulliau gwirio oedran wrth greu cyfrif, felly gofalwch fod eich plentyn wedi cofnodi ei ddyddiad geni cywir er mwyn elwa ar rai o'r gosodiadau diogelwch.

Mae telerau gwasanaeth Roblox yn dweud y dylai pobl dan 18 oed ofyn am ganiatâd rhieni i ddefnyddio'r platfform.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Platfform di-dâl cymdeithasol a hwyliog yw Roblox lle gall pobl ifanc wneud ffrindiau'n hawdd a rhyngweithio gyda phobl o bob cwr o'r byd. Gallant adeiladu, creu a chymryd rhan mewn chwarae dychmygus yn ogystal â chyfathrebu â'i gilydd. Mae plant a phobl ifanc yn mwynhau Roblox oherwydd yr amrywiaeth diddiwedd o gemau a dulliau newydd i roi cynnig arnynt. Mae'r rhain yn amrywio o ddirgelwch llofruddiaeth i gwrs rhwystrau neu chwarae rôl. Gall chwaraewyr addasu eu afatars a'u cartrefi gyda chelfi hefyd i greu argraff ar eu ffrindiau trwy brynu eitemau yn y gêm. Mae'n blatfform poblogaidd o greadigrwydd gyda chymuned fawr ar-lein.

  • Mae'r modd hwn yn caniatáu i chi chwarae gyda phobl eraill. Gall hyn naill ai fod gyda ffrindiau dethol neu chwaraewyr eraill nad ydych chi'n eu hadnabod o reidrwydd.

  • Mae'r swyddogaeth sgwrsio’n caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd o fewn yr ap neu'r gêm.

  • Dyma'r arian cyfred yn y gêm a ddefnyddir i brynu pethau ar y platfform.

  • Mae grwpiau'n bodoli ar gyfer pob math o gymunedau – clybiau cefnogwyr, grwpiau cymorth, hobïau ac ati. Gall defnyddwyr sefydlu grwpiau neu ymuno â grwpiau sydd o ddiddordeb iddyn nhw.

  • Dyma iaith godio hawdd ei defnyddio ac mae wedi'i gwreiddio yn Roblox. Mae'n rhoi cyfle i chwaraewyr iau ddysgu rhywfaint o godio sylfaenol i adeiladu byd 3D.

  • Gellir defnyddio hyn i addasu gwrthrychau a gemau Roblox trwy ddefnyddio'r Lua i godio.

Y perygl mwyaf i fod yn ymwybodol ohono yn Roblox yw ei fod yn gartref i lyfrgell o gemau a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, felly mae'r potensial i weld cynnwys amhriodol yno bob amser. Bu achosion o uwchlwytho gemau newydd i blatfform Roblox sy'n cynnwys delweddau a chynnwys anweddus, ac oherwydd bod y platfform yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr, nid yw'r cynnwys hwn yn cael ei ddileu’n syth bob amser. Gwelwyd bod cynnwys rhywiol mewn rhai gemau chwarae rôl ar y platfform, gyda sgwrsio yn y gêm yn cyfrannu at hyn. Cyfeirir at y gemau hyn weithiau fel 'Condos’. Mae'n bwysig gwirio cynnwys y gêm mae'ch plentyn yn ei chwarae oherwydd bod gemau newydd yn dod yn boblogaidd drwy'r amser a gall addasrwydd y cynnwys newid. Mae'n bwysig cofio bod modd efelychu gemau ar y platfform yn hawdd, eu newid fymryn a'u hailenwi'n gynnil. Mae hyn yn arwain at rai chwaraewyr iau yn cael mynediad at gêm maen nhw'n meddwl eu bod wedi'i chwarae o'r blaen, ond sydd bellach yn cynnwys pethau nad oedden nhw'n ei ddisgwyl ac a allai fod yn niweidiol. Dylai rhieni a gofalwyr wirio steil a chynnwys y gemau mae eu plant yn eu chwarae yn rheolaidd cyn iddyn nhw ei chwarae'n annibynnol.

Dylai rhieni a gofalwyr gofio, pan fydd 'Account restrictions' wedi'u galluogi, mai dim ond cynnwys wedi'i guradu gan Roblox fydd  chwaraewyr yn gallu cael mynediad iddo ar y platfform, sydd wedi’i raddio ar gyfer rhai dan 13 oed gan mwyaf. Gall y gemau hyn gynnwys rhywfaint o ymladd cartwn ysgafn, ond cyfyngir y rhestr i gemau llai treisgar nad ydynt yn cynnwys gynnau. Argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn chwarae'r gemau ochr yn ochr â'u plant i sicrhau bod y gemau maen nhw'n eu chwarae’n addas ar gyfer eu hoedran a'u cam datblygu.

Efallai mai'r swyddogaeth sgwrsio mewn gêm yw’r man lle gall chwaraewyr ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus. Mae gan Roblox hidlyddion sgwrsio mewnol i dynnu cynnwys amhriodol oddi ar y platfform ond nid yw'r rhain yn effeithiol bob amser. Er bod y mesur diogelu hwn ar waith i helpu i ddiogelu defnyddwyr iau ar y platfform, ni ddylid dibynnu arno'n llwyr er mwyn osgoi dod i gysylltiad â chynnwys amhriodol. Mae'n dal yn bosib y gall eich plentyn fod yn agored i iaith anweddus neu gynnwys aeddfed yn y swyddogaeth sgwrsio. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu cysylltu â nhw ar y platfform, mae'n llai tebygol wedyn o brofi iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran.

Bu si bod gêm o’r enw ‘The Game’ am gael ei lansio ar y platfform, sy’n hyrwyddo hunan-niweidio yn ôl pob sôn. Er bod ymchwiliad yn parhau i ddilysrwydd yr honiad hwn, dylai rhieni a gofalwyr fonitro cynnwys y gemau y mae eu plant yn eu chwarae yn rheolaidd, a siarad â nhw am y cynnwys niweidiol posibl.

Mae Roblox wedi ehangu’r mathau o gemau a’r themâu y gellir eu cynnig ar Roblox, yn enwedig i bobl ifanc 17 oed a throsodd. Mae Roblox yn dweud y gallai’r rhain gynnwys mwy o bynciau addas i oedolion fel trais dwys, alcohol a gamblo. Er bod angen proses dilysu oedran i ddefnyddio’r cynnwys hwn, mae’n hollbwysig bod rhieni a gofalwyr yn sicrhau eu bod yn galluogi cyfyngiadau cyfrif er mwyn helpu i atal eich plentyn rhag gweld cynnwys niweidiol neu ddryslyd ar Roblox. Mae gwybodaeth ar osod cyfyngiadau cyfrif neu bennu pa brofiadau a ganiateir i’w gweld yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn.

Y risg fwyaf sylweddol ar Roblox yw'r rhyngweithgarwch, gan ei fod yn blatfform sy'n boblogaidd gydag oedolion, plant a phobl ifanc fel ei gilydd. Mae modd rheoli'r risg hon ar gyfer plant a phobl ifanc drwy'r gosodiad 'Account restrictions'.  Bu achosion lle mae drwgweithredwyr wedi defnyddio'r platfform i gychwyn perthynas, cael manylion cyswllt a'u symud i blatfform sgwrsio arall. Siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol ar-lein, neu os ydyn nhw wedi profi unrhyw beth sy'n eu gwneud yn anghyfforddus mewn sgwrs Roblox. Mae rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae. Gofynnwch i'ch plentyn a yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae, a chofiwch wirio â phwy mae'n cyfathrebu. Er bod sgwrsio’n rhan apelgar o chwarae gemau, nid yw'n hanfodol i chwarae.

Mae gan Roblox ei set ei hun o reolau cymunedol, y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw atyn nhw er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi wrth y rheolau ymddygiad disgwyliedig mewn perygl o gael eu gwahardd o'r gêm. Siaradwch â'ch plentyn am beth yw ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i gwyno am unrhyw ymddygiad amhriodol neu sarhaus.  Dylai pob chwaraewr fod yn ofalus am yr hyn maen nhw'n ei rannu mewn sgwrs mewn gêm. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac mae’n anodd ei ddileu oddi ar y rhyngrwyd wedyn. Dylai chwaraewyr sydd eisiau creu a datblygu eu gemau eu hunain ar y platfform gofio beth sy'n addas a ddim yn addas i'w rannu. Atgoffwch eich plentyn fod ganddo gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r rheolau cymunedol ac na ddylai gynhyrchu unrhyw beth sy'n peri gofid neu'n sarhaus i chwaraewyr eraill.

Gellir chwarae Roblox yn ddi-dâl ond mae llawer o gyfleoedd i brynu eitemau yn yr ap. Gallant fod yn atyniadol iawn i blant iau sy'n treulio llawer o amser ar Roblox, ac nad ydynt yn deall y risgiau o wario arian fel hyn o reidrwydd. Siaradwch â'ch plentyn ynghylch prynu eitemau mewn gemau, i wneud yn siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r rhain. Gallwch sefydlu gosodiadau perthnasol prynu mewn apiau ar eich dyfais. Mae’n bwysig gwirio hefyd nad yw'r gêm yn cael ei chysylltu â'ch cardiau banc na'ch manylion ariannol. Hefyd, cafwyd adroddiadau bod platfform Robux wedi'i ddefnyddio i gamfanteisio ar rai chwaraewyr iau gyda'r addewid o Robux yn gyfnewid am sgyrsiau a rhyngweithio. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn gwybod y dylai ddweud wrth oedolyn dibynadwy os gofynnwyd iddo sgwrsio yn gyfnewid am Robux.

  • Mae gosodiadau diogelwch cynhwysfawr ar gael ar Roblox yn y ddewislen gosodiadau. Yma gallwch alluogi 'Account controls' sy'n gofyn am PIN i wneud newidiadau i unrhyw osodiadau cyfrif a gosod 'Account restrictions'.

    I alluogi 'Account controls':

    • ewch i osodiadau eich cyfrif drwy ddewis yr eicon tri dot yn 'More'
    • dewiswch 'Parental controls' a thoglo’r opsiwn 'PIN'
    • crëwch PIN a'i gadarnhau (unwaith y bydd PIN wedi'i alluogi, byddwch ei angen wedyn i wneud unrhyw newidiadau i osodiadau'r cyfrif)
  • Yn y ddewislen gosodiadau, mae'r opsiwn i osod 'Account restrictions', sy'n cyfyngu ar y gemau y gellir eu chwarae ac yn cyfyngu ar gyswllt a negeseuon gan ddefnyddwyr eraill. Pan fydd y cyfyngiadau hyn wedi'u galluogi, dim ond cynnwys wedi'i guradu gan Roblox fydd chwaraewyr yn gallu cael gafael arno ar y platfform. Bellach, mae rhieni’n gallu gosod ‘Allowed experiences’ a fydd yn helpu i benderfynu pa gynnwys y gall eich plentyn ei weld ar Roblox. Mae’r gosodiadau hyn naill ai ar gyfer pob oedran, 9+, 13+, ac 17+. Er mwyn addasu’r profiadau a ganiateir, rhaid i rieni a gofalwyr analluogi ‘Account Restrictions’, sy’n gosod profiadau a ganiateir ar ‘All ages’ yn ddiofyn.

    I alluogi 'Account restrictions':

    • ewch i'r ddewislen 'More' drwy ddewis yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Parental controls' a thoglo'r opsiwn 'Account restrictions'

    Ar ôl galluogi'r cyfyngiadau hyn, maen nhw'n newid yr holl osodiadau cysylltiadau, a geir yn opsiwn 'Privacy' y ddewislen.

    Gallwch ddewis peidio galluogi cyfyngiadau. Yn hytrach, gweithiwch eich ffordd drwy'r ddewislen 'Privacy' a dewis y 'Contact settings' sy’n addas i'ch plentyn. Byddwch yn gallu dewis opsiwn ar gyfer y canlynol:

    • Everyone
    • Friends and Users | Follow and Followers
    • Friends and Users | Follow
    • Friends
    • No one

    I addasu ‘Allowed experiences’ eich plentyn:

    • mewngofnodwch i’r cyfrif yr hoffech chi addasu profiadau ar ei gyfer
    • dewiswch yr eicon gêr yn y gornel dde uchaf i addasu ‘Settings’
    • dewiswch ‘Parental Controls’
    • o dan ‘Allowed Experience’, dewiswch lefel y profiad ar gyfer y cyfrif

    I addasu ‘Allowed experiences’ eich plentyn ar ddyfais symudol:

    • mewngofnodwch i’r cyfrif ar ap Roblox
    • dewiswch y tri dot ‘…’ yn y gornel chwith isaf
    • dewiswch ‘Settings’ yn y naidlen
    • dewiswch ‘Parental Controls’
    • o dan ‘Allowed Experience’, dewiswch lefel y profiad ar gyfer y cyfrif
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. 

    I gwyno am chwaraewr:

    • dewiswch eicon Roblox ar ochr chwith uchaf y sgrin
    • dewiswch eicon y faner wrth ymyl enw'r defnyddiwr a dewis y tab 'Report'
    • ewch drwy'r opsiynau a restrir i gwblhau eich cais cwyno

    I flocio chwaraewr:

    • ewch i dudalen proffil y defnyddiwr
    • dewiswch y ddewislen tri dot yn y gornel dde uchaf
    • bydd dewislen yn ymddangos lle gallwch ddewis 'Block user'

    I gwyno am gêm:

    • chwiliwch am y gêm rydych chi am gwyno amdani a dewis yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Report' a'r rheswm dros gwyno am y gêm
    • dewiswch 'Report abuse' i gadarnhau
  • Er nad oes opsiynau rheoli amser amser ar gael yn y ddewislen gosodiadau, gallwch wneud newidiadau i gyfyngu ar nifer yr hysbysiadau mae'ch plentyn yn eu derbyn. Gallai hyn eu helpu i elwa ar rywfaint o amser di-sgrin lle dydyn nhw ddim yn cael eu boddi gan hysbysiadau Roblox.

    I newid yr opsiynau hysbysu:

    • ewch i'r ddewislen 'More' drwy ddewis yr eicon tri dot
    • sgroliwch i lawr i 'Settings' a dewis 'Notifications'
    • yma gallwch ddewis pa hysbysiadau yr hoffech chi eu derbyn o blith y canlynol:
      • I receive a friend request
      • Someone accepts my friend request
      • I receive a private message
      • I receive update notifications
      • Analytics report becomes available
    • toglwch yr opsiwn 'Mobile push' i ffwrdd er mwyn atal hysbysiadau rhag ymddangos ar sgrin gartref y ddyfais
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. I ddileu cyfrif ar Roblox, rhaid i’r defnyddiwr gyflwyno cais am gymorth. Bydd angen gwybod y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i gofrestru ar gyfer Roblox. Does dim opsiwn i ddadactifadu cyfrif defnyddiwr ar Roblox ar hyn o bryd.

    I ddileu cyfrif defnyddiwr ar Roblox:

    • ar y dudalen cais am gymorth, dewiswch ‘Type of help category’ ac yna ‘Data Privacy Requests’
    • dylai categori newydd ymddangos dan ‘Data Privacy Requests’. Dewiswch y categori hwn ac yna ‘Right to be Forgotten’
    • yn ‘Description of Issue’ esboniwch eich bod am ddileu’r cyfrif
    • pwyswch ‘Submit’ (efallai y bydd Roblox yn gofyn i chi ddilyn camau adnabod ychwanegol i sicrhau bod y defnyddwyr yn gofyn am ddileu’r cyfrif)

Mae gwybodaeth fanwl i rieni ar gael yn adran 'About' y brif ddewislen y gallwch fynd iddi drwy glicio ar y tri dot.

Mae gan Roblox dudalen gwybodaeth i rieni sy’n rhoi rhagor o fanylion am y platfform i rieni a gofalwyr.