English

O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu’n ofynnol i ysgolion weithredu’n gyflym i ddatblygu trefniadau dysgu o bell.

Gan na fydd ysgolion yn gweithredu yn ôl yr arfer am beth amser, lluniwyd y gyfres ganlynol o ysgogiadau i helpu ysgolion i werthuso’u darpariaeth a chynllunio ar gyfer dysgu cyfunol effeithiol.

Sylwch: nid rhestr wirio hollgynhwysfawr yw hon ond caiff ei ddarparu i gynorthwyo ysgolion wrth feddwl am gynllunio darpariaeth ar yr adeg anodd hon.

Yn y pen draw, bydd y categori hwn o gwestiynau trafod yn cael eu hymgorffori yn y categorïau eraill o gwestiynau trafod ond fe'u cynhwysir ar wahân yma i gefnogi ysgolion yn benodol gyda'u trefniadau o amgylch dysgu cyfunol.

    • Pa mor dda ydyn ni'n cefnogi lles dysgwyr pan fyddant yn dysgu o bell?
    • Pa mor ddatblygedig yw sgiliau annibynnol dysgwyr, a'u sgiliau dysgu i ddysgu?
    • I ba raddau y mae dysgwyr yn ymgymryd â phrofiadau dysgu o bell/cyfunol?
    • I ba raddau y mae dysgwyr yn dangos gwydnwch a phenderfynoldeb i gwblhau tasgau/mynd i'r afael â heriau/cwblhau gwaith i'r safon orau posibl?
    • Pa mor dda y mae dysgwyr yn defnyddio strategaethau i fyfyrio ar eu gwaith, a'i wella?
    • Pa mor dda y mae dysgwyr yn ymgysylltu â chyfoedion yn ystod profiadau dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda ydyn ni'n sicrhau cymorth ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed/dysgwyr dan anfantais yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell?
    • Pa mor dda ydyn ni'n cysylltu ag asiantaethau allanol i gefnogi dysgwyr yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell?
    • Pa mor dda ydyn ni'n creu cyfleoedd i ddysgwyr ddylanwadu ar beth maen nhw'n ei ddysgu, a sut?
    • Pa mor dda y mae ein cynnig dysgu cyfunol yn sicrhau ehangder priodol o ddysgu?
    • Pa mor dda y mae ein cynnig dysgu cyfunol yn creu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso sgiliau ar draws ystod o gyd-destunau?
    • Pa mor llwyddiannus yw ein cynnig cwricwlwm o ran ymgysylltu â dysgwyr trwy ein trefniadau dysgu cyfunol?
    • Pa mor effeithiol ydyn ni'n cefnogi parhad a chynnydd i bawb trwy ein cynnig dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn cydweithio i gynllunio a darparu cynnig dysgu cyfunol cysylltiedig, er enghraifft ar draws adrannau?
    • Pa mor dda y mae ein trefniadau parhad dysgu (dysgu o bell) yn diwallu anghenion ein dysgwyr?
    • Pa mor dda ydyn ni'n cefnogi dysgwyr agored i newid neu dan anfantais i ymwneud â phrofiadau dysgu o bell a llwyddo trwyddynt?
    • Pa mor gynhwysol/teg yw ein trefniadau dysgu o bell?
    • Pa mor dda ydyn ni'n addasu addysgeg i gefnogi dysgu cyfunol/o bell?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn ymwneud â dysgu proffesiynol, ac yn ei ddefnyddio, i gefnogi dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda ydyn ni'n defnyddio amser dysgu wyneb yn wyneb i addysgu sgiliau a gwybodaeth newydd?
    • Pa mor dda ydyn ni'n defnyddio amser dysgu wyneb yn wyneb i fodelu ymddygiadau dysgu effeithiol?
    • Pa mor dda ydyn ni'n sefydlu disgwyliadau ar gyfer dysgu yn y cartref ac yn yr ysgol?
    • Pa mor dda ydyn ni'n cefnogi dysgwyr i fodloni disgwyliadau?
    • Pa mor dda ydyn ni'n defnyddio llwyddiannau a chamdybiaethau blaenorol dysgwyr i lywio addysgu gartref ac yn yr ysgol?
    • Pa mor effeithiol yw prosesau asesu o ran cefnogi disgyblion i wneud cynnydd trwy ddysgu cyfunol?
    • Pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn datblygu sgiliau dysgu'n annibynnol a sgiliau dysgu i ddysgu dysgwyr?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn cydweithio i ddarparu profiadau dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio dysgu proffesiynol i addasu addysgeg ar gyfer dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn arloesi i ymestyn profiadau dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn rheoli eu baich gwaith ac yn sicrhau eu lles eu hunain yn ystod cyfnodau o ddysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn caniatáu i ddysgwyr lywio eu dysgu?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr ysgol yn sefydlu gweledigaeth a disgwyliadau ar gyfer profiadau dysgu cyfunol sy'n diwallu anghenion datblygiadol, academaidd a lles yr holl ddysgwyr?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn deall, yn hyrwyddo ac yn cefnogi addysgeg dysgu cyfunol effeithiol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn datblygu diwylliannau o gydweithio ac arloesi i gefnogi dysgu cyfunol effeithiol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn hwyluso cyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn dyrannu adnoddau i gefnogi dysgu cyfunol effeithiol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn monitro cynnydd dysgwyr trwy weithgarwch dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn sicrhau bod gan staff yr adnoddau, yr amser a'r amodau i gynllunio ar gyfer dysgu cyfunol effeithiol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn cefnogi lles staff yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell/dysgu cyfunol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn ystyried safbwyntiau cymuned yr ysgol (rhieni/gofalwyr, dysgwyr, asiantaethau eraill) wrth gynllunio a darparu profiadau dysgu o bell/cyfunol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn ymgysylltu â chymuned yr ysgol, a chyfathrebu â hi, yn ystod cyfnodau o ddysgu o bell/dysgu cyfunol?
    • Pa mor llwyddiannus y mae arweinwyr yn cefnogi dysgwyr dan anfantais neu ddysgwyr sy'n agored i niwed i ymwneud â phrofiadau dysgu o bell/cyfunol, a llwyddo trwyddynt?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn cynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu trwy ddull dysgu o bell/cyfunol?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn rhannu arferion dysgu o bell/cyfunol effeithiol ag ysgolion eraill?

Isod mae deunyddiau cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu cyfunol, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, Estyn a'r consortia rhanbarthol: