English

Gyda Llywodraeth Cymru yn darparu £29 miliwn yn ychwanegol i ysgolion er mwyn rhoi mwy o gymorth i ddysgwyr yn ystod cyfnodau hanfodol yn eu haddysg o fis Medi ymlaen, cynhaliwyd nifer o gyfweliadau ag arweinwyr ysgolion i gipio’u cynlluniau ar gyfer defnyddio'r cyllid hwn. Mae'r adnoddau canlynol yn rhoi enghreifftiau o sut mae ysgolion ar draws y sector yn bwriadu defnyddio'r cyllid hwn i recriwtio, adfer a chodi safonau. Cyflwynir yr adnoddau fel rhestri chwarae ysgolion unigol ac fel Sway wedi'i drefnu yn ôl thema.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg yn ddiweddar y byddai hyblygrwydd ychwanegol yn cael ei gynnig i ysgolion uwchradd ar gyfer eu darpariaeth ar safle’r ysgol o 15 Mawrth 2021.

Mae grwp o benaethiaid o ystod o ysgolion wedi datblygu modelau yn amlinellu sut maen nhw yn bwriadu trin y cyfnod hwn, gan adlewyrchu amgylchiadau a blaenoriaethau’r ysgol.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddilyn a Cdw Addysg yn Ddiogel: Canllawiau Gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau (COVID-19) wrth gynllunio i gynyddu eu gweithrediadau. Dyma rai enghreifftiau o arfer sy’n dangos sut mae ysgolion a lleoliadau eraill yn cynllunio. Darparwyd yr enghreifftiau hyn gan aelodau o grwp rhanddeiliaid penaethiaid sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Sylwch fod y dogfennau hyn yn debygol o newid dros amser i addasu i amgylchiadau sy'n newid.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos o sut mae ysgolion yn paratoi ar gyfer ailagor a’r trefniadau a wnaethpwyd dros y misoedd diwethaf ar gyfer dysgu o bell, lles a dysgu proffesiynol parhaus.

Maent ar ffurf rhestri chwarae neu Sway sy’n cipio cyfweliadau gydag uwch arweinwyr dros alwad fideo.

Mae’r rhestri chwarae isod yn rhannu profiadau ysgolion ar y testunau canlynol:

  • Trefnu'r ysgol ar gyfer ailagor
  • Trefnu'r cwricwlwm
  • Gweithgareddau gyda dysgwyr am yr wythnosau sy'n weddill o'r flwyddyn academaidd
  • Strwythur y diwrnod ysgol
  • Trefniadau staff a'u lles
  • Cynlluniau ar gyfer tymor yr hydref
  • Ymgynghori a chyfathrebu â rhieni/gofalwyr a dysgwyr
  • Dysgu proffesiynol parhaus

Mae'r rhestri chwarae canlynol yn rhoi enghreifftiau o sut mae ysgolion uwchradd wedi datblygu dulliau dysgu cyfunol yn ystod y broses gloi ac wrth i ysgolion ailagor. Mae'r adnoddau hefyd yn ymdrin â chydweithio ôl-16 a sut mae hyn wedi newid trwy ddull dysgu cyfunol.

Isod mae’r cyfweliadau gwreiddiol a wnaethpwyd gydag ysgolion yn ystod y cyfnod Ebrill – Mai 2020 sy’n manylu ar y canlynol:

  • Trefniadau dysgu o bell
  • Trefniadau ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig
  • Lles dysgwyr a staff
  • Dysgu proffesiynol parhaus
  • Defnydd posib o wefan ac adnoddau’r daith ddysgu proffesiynol
  • Cefnogaeth bellach gan y consortia rhanbarthol a llywodraeth Cymru
  • Cydweithio a rhannu

Mae’r rhan fwyaf o’r cyfweliadau ar ffurf rhestri chwarae (baneri oren) gydag ambell gyfweliad ar ffurf Sway (baneri glas).

Mae ysgolion a lleoliadau wrthi’n sefydlu ac yn ymgorffori ffyrdd newydd o ddysgu o ganlyniad i’r ffaith bod dysgwyr yn treulio amser yn dysgu yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill, gan ddefnyddio dulliau digidol a dulliau eraill o ddysgu o bell. Mae hynny’n rhoi cyfle inni ailfeithrin ein hagwedd at drefniadau asesu hefyd, a’i seilio ar y prif egwyddorion a amlinellir yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’. Mae’r canllawiau’n ei gwneud yn glir mai diben asesu yw cefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u herio’n briodol. Mae hefyd yn cynnwys y prosesau allweddol sydd eu hangen i sicrhau cynnydd effeithiol i ddysgwyr, gan gynnwys cyfnod pontio a chyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr.

Mae asesu’n cyfrannu at ddatblygu darlun holistaidd o’r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu – er mwyn i’r wybodaeth honno fynd yn sail i gamau nesaf y dysgu a’r addysgu. Mae’r agwedd honno at asesu yn gweddu’n dda â dysgu cyfunol, sy’n rhoi sylw i gefnogi lles a nodi anghenion dysgwyr unigol i’w helpu i fod yn barod i ddysgu, yn ogystal â sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd wrth ddysgu.

Yn yr astudiaethau achos isod, mae ysgolion a lleoliadau’n rhannu eu profiadau am y ffordd y maen nhw wedi datblygu eu harferion wrth asesu a defnyddio prosesau allweddol eraill i gefnogi cynnydd dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn. Maen nhw’n rhoi sylw i: roi adroddiad ar gynnydd i rieni/gofalwyr a chefnogi lles dysgwyr drwy’r cyfnod pontio. Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n cyfrannu at ysgogi trafodaeth am brosesau wrth i ysgolion a lleoliadau ddatblygu eu ffyrdd o weithio.

Os hoffech rannu eich profiadau a chyfrannu astudiaeth achos y gellir ei lanlwytho i’r dudalen hon, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy e-bostio assessment@llyw.cymru.

  • Adrodd i rieni/gofalwyr - Ysgol Gynradd Glyncollen pdf 402 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r ddogfen hon yn edrych ar y berthynas rhwng asesu a llesiant dysgwyr. Mae’n archwilio sut y gall asesiadau parhaus, o ddydd i ddydd i adnabod, nodi ac ystyried cynnydd dysgwyr unigol gynnig cyfleoedd i hybu llesiant y dysgwr. Mae’n ysgogi ymarferwyr i ystyried arferion presennol eu hysgolion a sut y gellid eu gwella.