English

Mae addysgu effeithiol yn ennyn brwdfrydedd ar gyfer dysgu. Mae’n grymuso dysgwyr i gael disgwyliadau a dyheadau uchel. Mae’n meithrin gwerthfawrogiad dysgwyr fod gan waith caled ac ymdrech gynaledig oblygiadau cadarnhaol iddyn nhw eu hunain, a dysgwyr eraill.

Mae ganddo’r gallu i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y cynnydd academaidd gorau posibl, ac yn cyflawni lefelau uchel o ran lles. Mae’n galluogi dysgwyr i weithio’n gyson tuag at gyflawni’r pedwar diben, a datblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth i’w galluogi i fyw bywydau hapus a llwyddiannus.

Mae addysgu’n sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer dysgwyr yn gyson trwy fireinio addysgeg yn raddol, dylanwadu ar ddysgwyr a datblygu dysgu.

Sbardunau myfyrio a deialog

Pa mor dda y mae’r ysgol yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu fel:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, medrus
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol
  • Unigolion iach, hyderus?

I ba raddau y mae addysgu a dysgu yn cynnal ffocws cyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm?


Pa mor dda y mae addysgu yn datblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o fewn cyd-destunau go iawn a phwrpasol o fewn, ac ar draws, Meysydd Dysgu a Phrofiad?


Pa mor dda y mae addysgu yn atgyfnerthu cyfrifoldebau traws-gwricwlaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i’w hymarfer?


Pa mor dda y mae addysgu yn datblygu dealltwriaeth a defnydd dysgwyr o’r Gymraeg?


Pa mor dda y mae athrawon yn dewis y dulliau addysgu mwyaf addas o gynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd?

Gallai’r dulliau hyn gynnwys addysgu uniongyrchol a’r rhai sy’n hyrwyddo datrys problemau, meddwl creadigol a beirniadol.


I ba raddau y mae addysgu a dysgu yn herio pob un o’r dysgwyr trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrech gynaledig wrth fodloni disgwyliadau sy’n uchel ond yn gyflawnadwy iddynt?


Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio holi i ddatblygu dysgu?

    • Pa mor dda y mae holi yn cynorthwyo ac yn herio dysgwyr i ddatblygu a chymhwyso eu medrau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth?
    • Pa mor dda y mae holi yn atgyfnerthu neu’n ymestyn dysgu?
    • Pa mor dda y mae holi yn herio dysgwyr i ddisgrifio eu dysgu?
    • Pa mor dda y mae holi yn hyrwyddo chwilfrydedd, creadigrwydd a datrys problemau?
    • Pa mor dda y mae holi yn hyrwyddo myfyrio effeithiol ar ddysgu?
    • Pa mor dda y mae holi yn hyrwyddo dysgu annibynnol neu ddysgu ar y cyd?

Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio asesu i lywio addysgu a dysgu, ac adeiladu ar fedrau, gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr?


Pa mor dda y mae athrawon yn deall ac yn defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu?

    • I ba raddau y mae strategaethau asesu yn cynorthwyo dysgwyr i wella mewn gwersi, a thros gyfnod?
    • Pa mor dda ydym ni’n defnyddio strategaethau asesu i nodi anghenion dysgu ac anghenion eraill dysgwyr?
    • Pa mor dda ydym ni’n defnyddio gwybodaeth asesu i ddiwallu anghenion dysgwyr a’u cynorthwyo i wneud cynnydd?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio profion diagnostig i gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio gwybodaeth olrhain i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr yn gwneud y cynnydd y dylen nhw ei wneud, o leiaf?
    • Pa mor dda ydym ni’n cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt i fyfyrio’n feirniadol ar eu gwaith eu hunain, a gwaith dysgwyr eraill?
    • Pa mor effeithiol y mae dulliau o ddarparu adborth i ddysgwyr yn eu cynorthwyo i ddysgu a gwella eu gwaith?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn galluogi dysgwyr i ddylanwadu ar beth maent yn ei ddysgu, a sut?
    • Pa mor effeithiol yw ein trefniadau i gynnwys rhieni a gofalwyr mewn prosesau asesu? Beth yw effaith hyn ar gynnydd a lles dysgwyr?

I ba raddau y mae addysgu yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol?

    • Pa mor dda y mae addysgu yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gydweithio i gefnogi ei gilydd i ddysgu a gwneud cynnydd?
    • Pa mor dda y mae addysgu yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol a pharchus rhwng dysgwyr ac oedolion?
    • Pa mor dda y mae perthnasoedd yn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr?

       


Pa mor dda y mae addysgu yn ennyn diddordeb dysgwyr, er mwyn ysgogi eu brwdfrydedd a’u cymell i ymestyn eu dysgu?

    • Pa mor dda y mae athrawon yn galluogi dysgwyr i ddangos brwdfrydedd, annibyniaeth a gwydnwch yn eu dysgu?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn herio pob grwp o ddysgwyr i ymestyn eu dysgu?

Mae’r athro yn ymestyn gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth yn gyson a gall ddangos y modd y mae myfyrio a bod yn agored i her a chymorth yn llywio dysgu proffesiynol i ddatblygu addysgeg yn raddol.

Mae’r athro mewn rôl arwain ffurfiol yn symbylu awydd ar gyfer dysgu proffesiynol sy’n cael ei werthfawrogi, sy’n effeithio ar addysgeg ac yn cefnogi twf proffesiynol ar draws cymuned ddysgu yn yr ysgol, a thu hwnt.

Sbardunau myfyrio a deialog

Pa mor dda y mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgu proffesiynol parhaus athrawon yn cefnogi cyflawni’r pedwar diben ar gyfer dysgwyr?


Pa mor dda y mae’r ysgol yn defnyddio dysgu proffesiynol i wella’r effaith a gaiff addysgu ar gynnydd a lles dysgwyr?

    • Pa wahaniaeth y mae dysgu proffesiynol yn ei wneud i gynnydd, deilliannau a lles dysgwyr? Sut ydym ni’n gwybod?
    • Pa mor dda ydym ni’n sicrhau bod dysgu proffesiynol yn canolbwyntio ar weledigaeth a nodau’r ysgol?
    • Pa mor dda ydym ni’n sicrhau bod dysgu proffesiynol yn canolbwyntio ar anghenion dysgu dysgwyr?
    • Pa mor effeithiol yw ein strategaethau ar gyfer archwilio effeithiolrwydd dysgu proffesiynol?

Pa mor dda y mae athrawon yn ymgymryd ag ymchwil i gefnogi gwelliant?

    • I ba raddau y mae ymgysylltiad athrawon ag ymchwil yn cefnogi gwelliant?

Pa mor dda y mae athrawon yn nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol cydweithwyr?

    • Pa mor dda ydym ni’n gweithio fel tîm i nodi a chefnogi dysgu proffesiynol cydweithwyr?

Pa mor dda y mae athrawon yn cyfrannu at ddysgu proffesiynol y staff yn yr ysgol, a thu hwnt?

    • Pa mor dda ydym ni’n cynorthwyo staff yn ein hysgol i ddysgu oddi wrth ei gilydd?
    • Pa mor effeithiol ydym ni’n cynorthwyo athrawon i ymgysylltu ag ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill, a pha wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i arfer broffesiynol?
    • Pa mor effeithiol yw ein strategaethau ar gyfer cynorthwyo athrawon i ymestyn eu dealltwriaeth a’u medrau mewn defnyddio’r Gymraeg?

Mae’r athro yn defnyddio rhagolwg arloesol a ddangosir trwy ddatblygu technegau a dulliau o wella deilliannau addysgeg yn rheoledig a phwyllog.

Mae’r athro mewn rôl arwain ffurfiol yn sicrhau hinsawdd gadarnhaol ar gyfer arloesi sy’n gydlynus a hylaw ac fe gaiff deilliannau eu gwerthuso, eu lledaenu a’u cymhwyso.

Sbardunau myfyrio a deialog

Pa mor lwyddiannus ydym ni’n creu diwylliant lle gall athrawon fod yn agored i syniadau newydd a gwneud pethau’n wahanol?

    • Pa mor dda y mae arloesi / newid yn cefnogi gwelliannau i ddeilliannau a lles dysgwyr?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn nodi’r angen am newid ac arloesi eu harfer eu hunain?
    • I ba raddau y mae athrawon yn agored i syniadau a barn ei gilydd?

       


Pa mor dda y mae athrawon yn ymgymryd ag ymchwil newydd neu bresennol i wella eu harfer broffesiynol?

    • I ba raddau y mae ymgysylltiad athrawon ag ymchwil yn cefnogi gwelliant?

Pa mor dda ydym ni’n galluogi athrawon i rannu profiadau arloesi i gynorthwyo athrawon eraill i wella?

    • Pa mor dda y mae staff yn rhannu eu profiadau eu hunain o arloesi yn agored â phobl eraill (llwyddiannau a methiannau) i gynorthwyo cydweithwyr i wella?

       


Pa mor dda y mae athrawon yn myfyrio ar arloesi a’r gwahaniaeth a wna i’w harfer broffesiynol eu hunain?

    • Pa mor dda y mae athrawon yn nodi’r angen am newid eu harfer eu hunain? A ydynt yn sefydlu rhesymeg ar gyfer arloesi / newid?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn myfyrio ar newidiadau ac yn gwerthuso eu llwyddiannau a’u methiannau yn onest?

Mae’r athro yn cymryd cyfleoedd i weithio’n gynhyrchiol gyda’r holl bartneriaid mewn dysgu er mwyn ymestyn effeithiolrwydd proffesiynol.

Mae’r athro mewn rôl arweinyddiaeth ffurfiol yn creu hinsawdd o gymorth ar y ddwy ochr lle mae cydweithio effeithiol yn ffynnu yn yr ysgol a thu hwnt i ledaenu addysgeg effeithiol.

Sbardunau myfyrio a deialog

Pa mor dda y mae’r ysgol yn defnyddio cydweithio i wella arfer broffesiynol, deilliannau a lles dysgwyr?


Pa mor dda ydym ni’n rhannu dulliau ac adnoddau addysgu newydd i helpu pobl eraill?

    • Pa mor dda y mae ein cydweithio yn gwella arfer broffesiynol?
    • Sut mae cydweithio proffesiynol yn gwella deilliannau a lles dysgwyr?
    • I ba raddau ydym ni’n cynnwys cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill mewn gwireddu profiadau dysgu go iawn ar gyfer ein dysgwyr?

Mae’r athro yn ymarfer arweinyddiaeth trwy bob agwedd ar arfer broffesiynol i gefnogi ymdrechion pobl eraill ar draws yr ysgol a thu hwnt i gyflawni’r uchelgeisiau addysgol ar gyfer Cymru.

Mae’r athro mewn rôl arwain ffurfiol yn gweithio’n ddeallus i ddod â chydlyniant, eglurder ac ymrwymiad ar y cyd i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer addysgeg, dysgwyr, cydweithwyr a’r gymuned ehangach.

Sbardunau myfyrio a deialog

Pa mor lwyddiannus yw’r arweinwyr addysgu wrth gynorthwyo dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben?


Pa mor lwyddiannus y mae arweinwyr yn ymgymryd â dysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi i wella addysgeg?


Pa mor lwyddiannus yw’r arweinwyr addysgu o ran sicrhau safonau uchel o gynnydd a lles dysgwyr?


Pa mor dda y mae’r ysgol yn galluogi staff i gyfrannu at arwain dysgu proffesiynol, cydweithio, arloesi ac addysgeg yn yr ysgol, a thu hwnt?


I ba raddau y mae pob un o’r athrawon yn defnyddio’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i arwain eu dysgu proffesiynol?

    • Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio’r safonau proffesiynol i ddylanwadu ar eu datblygiad proffesiynol a’u dysgu eu hunain?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn sicrhau cydbwysedd o ran dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r safonau proffesiynol i fodloni blaenoriaethau eu hysgol, eu blaenoriaethau lleol a chenedlaethol?

  • Nid oes un dull addysgegol ‘cywir’ y gellir ei gymhwyso i’r holl destunau a grwpiau o ddysgwyr ym mhob ysgol ar bob adeg
  • Gellir gwerthuso effeithiolrwydd yr addysgu trwy gael rhestr o nodweddion a bennwyd ymlaen llaw, a chyfri faint ohonynt a gyflawnwyd yn ystod y wers
  • Mae ansawdd yr adborth ysgrifenedig bob amser yn bwysicach nac ansawdd yr adborth llafar
  • Rhaid i athrawon ysgrifennu’r amcan(ion) dysgu ar gyfer pob gwers
  • Mae rhai gweithgareddau (er enghraifft ‘sesiynau llawn bach’ neu hunanasesu / asesu cymheiriaid) y dylid eu defnyddio ym mhob gwers, beth bynnag fo’u cyd-destun, neu anghenion dysgwyr
  • Bydd gwers lwyddiannus bob amser yn cynnwys cynllun gwers ysgrifenedig manwl, hir
  • Bydd athro effeithiol bob amser yn sicrhau bod ei gynllun gwers yn cael ei ddilyn yn union fel y mae wedi’i ysgrifennu
  • Gellir gwerthuso effeithiolrwydd yr addysgu trwy ystyried ystod ac / neu ‘ansawdd’ adnoddau gweithgareddau yn unig, heb ystyried eu heffaith ar gynnydd a lles dysgwyr
  • Bydd addysgu effeithiol bob amser yn canolbwyntio ar ystod benodol o fedrau dysgwyr; er enghraifft, bydd rhifedd ym mhob gwers
  • Gellir gwerthuso ansawdd yr addysgu yn ôl faint o wybodaeth asesu y mae’n ei gynhyrchu, ac mae’r ffeiliau cynllunio ac asesu mwyaf wedi’u cysylltu â’r athrawon mwyaf effeithiol