English

Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 yn nodi’r hawl i ddysgu 14 i 16, sy’n pwysleisio amrywiaeth eang o ddysgu a chyfleoedd i bobl ifanc. Mae hyn yn eu cefnogi wrth iddynt:

  • wneud cynnydd tuag at gyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
  • nesáu at ddiwedd eu haddysg statudol
  • cwblhau cymwysterau
  • paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau, boed yn addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth

Mae’r canllawiau yn nodi y dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos a chyfleu’r hyn y mae wedi’i ddysgu, ei gynnydd a’i gyflawniadau ym mhob un o 4 elfen yr hawl i ddysgu erbyn iddo gwblhau addysg orfodol yn 16 oed. 

Y 4 elfen hyn yw:

  • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
  • cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
  • cymwysterau i annog ehangder
  • dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm

Bydd hawl pob dysgwr yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, profiadau a chyflawniadau ym mhob un o’r elfennau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cymwysterau heriol ac uchelgeisiol mewn llythrennedd, rhifedd a’r gwyddorau, ond mae’n cydnabod mor hanfodol yw lles a pharodrwydd i ddysgu, profiadau ehangach a pharatoi ar gyfer y cyfnod ôl-16. Mae hyn yn gydnaws â chyngor arbenigol rhyngwladol ac arferion da ar bolisi addysg.

Dylai ysgolion ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth sy’n ymwneud â’r uchod i gefnogi eu prosesau hunanwerthuso a gwella ar sail yr egwyddorion cynnydd.

Mae’r Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 (y Fframwaith) yn amlinellu’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi fel mater o drefn am bob ysgol ochr yn ochr â pha wybodaeth y byddwn yn gofyn i ysgolion ei darparu. Mae hyn yn cefnogi ein nod i roi darlun mwy cyflawn, cytbwys a thryloyw o brofiadau a deilliannau dysgwyr sy’n adlewyrchu’n uniongyrchol yr hawl i ddysgu 14 i 16.

Gan adlewyrchu data a gwybodaeth o dan bob un o 4 elfen yr hawl i ddysgu, bydd y Fframwaith yn cefnogi dysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o brofiadau dysgwyr mewn ysgolion.

Caiff trefniadau adrodd newydd sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith hwn eu cyflwyno am y tro cyntaf gyda deilliannau haf 2027, gan gyd-daro â’r adeg y bydd y garfan gyntaf o ddysgwyr 14 i 16 yn cwblhau Blwyddyn 11 o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Mae cymwysterau yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r darlun ochr yn ochr ag elfennau ehangach o’r hawl i ddysgu. Gan fod cymwysterau diwygiedig yn cael eu cyflwyno mewn 3 ton, bydd y trefniadau adrodd newydd hyn yn cael eu cyflwyno’n raddol. Bydd yr hen gymwysterau yn parhau i gael eu cynnwys mewn adroddiadau nes bod y fersiynau diwygiedig ar gael (er enghraifft, ni fydd y cymwysterau Sylfaen newydd ar gael i’w haddysgu am y tro cyntaf tan 2027, nac i fod yn destun adroddiad tan 2029, caiff yr hen gymwysterau Lefel Mynediad eu cynnwys yn yr adroddiadau tan hynny). Lle maent ar gael, dim ond y cymwysterau diwygiedig fydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau.

 Adroddir ar ddata cymwysterau ar lefel cymwysterau unigol, gan gynnwys data am gofrestriadau a deilliannau, a chaiff canlyniadau eu cyflwyno ar draws ystodau graddau lle mae hyn yn bosibl ar gyfer cofrestriadau ysgol. Mae’n bwysig nodi na fydd y rhain yn dibynnu ar fesurau cyfansawdd sy’n cyfuno sawl cymhwyster. Lle bo modd, dangosir dangosyddion gyda chyd-destun a chânt eu dadansoddi yn ôl nodweddion penodol y dysgwyr.

  • Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu: trosolwg pdf 155 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Trosolwg o’r cofrestriadau ar draws cymwysterau mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg a rhifedd

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am hyn ar sail cyfrannau’r dysgwyr a gofrestrwyd ar draws y cymwysterau perthnasol ym mhob maes pwnc.

Y cymwysterau perthnasol ar gyfer y trosolwg o gofrestriadau Cymraeg yw:

  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Dwyradd).
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol).
  • Sylfaen Lefel Mynediad mewn Cymraeg.
  • TGAU Cymraeg Craidd.
  • Sylfaen Lefel Mynediad mewn Cymraeg Craidd.

Bydd adroddiadau am gymwysterau Cymraeg yn sensitif i gategori cyfrwng iaith ysgol.

Y cymwysterau perthnasol ar gyfer y trosolwg o gofrestriadau Saesneg yw:

  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Dwyradd).
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd unigol).
  • Sylfaen Lefel Mynediad neu Lefel 1 Saesneg.

Y cymwysterau perthnasol ar gyfer y trosolwg o gofrestriadau mathemateg a rhifedd yw:

  • TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd).
  • Sylfaen Lefel Mynediad neu Lefel 1 Mathemateg a Rhifedd.

Cofrestriadau a deilliannau ar gyfer cymwysterau perthnasol mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg a rhifedd

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am y rhain ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer pob cymhwyster unigol
  • y cyfrannau sy’n llwyddo ar draws ystodau graddau ar gyfer pob cymhwyster unigol (lle mae niferoedd y cofrestriadau yn ddigonol i gael gwared ar y risg o ddatgelu data unigolion)

Bydd cymwysterau a nodir fel rhai sy’n briodol i’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymddangos yn awtomatig. Fel arall bydd y manylion yn dibynnu ar p’un a gafodd y dysgwyr eu cofrestru yn yr ysgol.

Ar gyfer Cymraeg, bydd y dyfarniadau canlynol yn cael eu cynnwys:

  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Dwyradd).
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol).
  • Sylfaen Lefel Mynediad mewn Cymraeg.
  • TGAU Cymraeg Craidd.
  • Sylfaen Lefel Mynediad mewn Cymraeg Craidd.
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol.

Adroddir ar y TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Dwyradd) yn awtomatig mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Adroddir ar y TGAU Cymraeg Craidd yn awtomatig mewn ysgol cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog. Adroddir ar bob dyfarniad arall a restrir uchod lle mae dysgwr yng ngharfan yr ysgol wedi’i gofrestru.

Ar gyfer Saesneg, bydd y dyfarniadau canlynol yn cael eu cynnwys:

  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Dwyradd).
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol).
  • Sylfaen Lefel Mynediad neu Lefel 1 Saesneg.

Adroddir ar TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Dwyradd) yn awtomatig. Adroddir ar bob dyfarniad arall a restrir uchod lle mae dysgwr yng ngharfan yr ysgol wedi’i gofrestru.

Ar gyfer mathemateg a rhifedd, bydd y dyfarniadau canlynol yn cael eu cynnwys:

  • TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd).
  • Sylfaen Lefel Mynediad neu Lefel 1 Mathemateg a Rhifedd.
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol.

Adroddir ar TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd) yn awtomatig. Adroddir ar bob dyfarniad arall a restrir uchod lle mae dysgwr yng ngharfan yr ysgol wedi’i gofrestru.

Trosolwg o’r cofrestriadau ar draws cymwysterau mewn gwyddoniaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am hyn ar sail cyfrannau’r dysgwyr a gofrestrwyd ar draws y cymwysterau perthnasol ym maes pwnc gwyddoniaeth.

Y cymwysterau perthnasol ar gyfer y trosolwg o gofrestriadau gwyddoniaeth yw:

  • TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd).
  • TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg gyda’i gilydd (bydd ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yn penderfynu a fydd y rhain yn parhau i gael eu cynnwys yn y dyfodol).
  • TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol).
  • Sylfaen Lefel Mynediad neu Lefel 1 Y Gwyddorau.

Cofrestriadau a deilliannau ar gyfer cymwysterau perthnasol mewn gwyddoniaeth a phob cymhwyster TGAU, TAAU a Sylfaen arall

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am y rhain ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer pob cymhwyster unigol
  • y cyfrannau sy’n llwyddo ar draws ystodau graddau ar gyfer pob cymhwyster unigol (lle mae niferoedd y cofrestriadau yn ddigonol i gael gwared ar y risg o ddatgelu data unigolion)

Bydd cymwysterau gwyddoniaeth a nodir fel rhai sy’n briodol i’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymddangos yn awtomatig. Fel arall bydd y manylion yn dibynnu ar p’un a gafodd y dysgwyr eu cofrestru yn yr ysgol.

Ar gyfer gwyddoniaeth, bydd y dyfarniadau canlynol yn cael eu cynnwys:

  • TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd).
  • TGAU Bioleg.
  • TGAU Cemeg.
  • TGAU Ffiseg.
  • TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol).
  • Sylfaen Lefel Mynediad neu Lefel 1 Y Gwyddorau.

Adroddir ar o leiaf 1 o gymwysterau TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) ac ar bob 1 o’r 3 TGAU ar wahân Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn awtomatig. Adroddir ar bob dyfarniad arall a restrir uchod lle mae dysgwr yng ngharfan yr ysgol wedi’i gofrestru (bydd ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yn penderfynu a fydd TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn cael eu cynnwys yn y dyfodol).

Cofrestriadau a deilliannau ar gyfer Project Personol 

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am hyn ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer cymwysterau Project Personol ar bob lefel
  • y cyfrannau sy’n llwyddo ar draws ystodau graddau ar gyfer cymwysterau Project Personol ar bob lefel (lle mae niferoedd y cofrestriadau yn ddigonol i gael gwared ar y risg o ddatgelu data unigolion)

Cofrestriadau a deilliannau ar gyfer Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, a Sgiliau Bywyd a Gwaith

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am hyn ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer pob lefel o bob cymhwyster
  • y cyfrannau sy’n llwyddo ar bob lefel o bob cymhwyster (lle mae niferoedd y cofrestriadau yn ddigonol i gael gwared ar y risg o ddatgelu data unigolion)

Adroddir ar y Dystysgrif Her Sgiliau a hen gymwysterau eraill o fewn yr elfen hon tra byddant yn dal i fod ar gael i ddysgwyr cyn 16 oed, a chyn i’r cymwysterau newydd hyn gael eu cyflwyno yn y drydedd don o weithredu.

Gwybodaeth ar y dysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg sy’n rhan o gwricwlwm yr ysgol

Gofynnir i ysgolion ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar y dysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd, gwerthoedd a moeseg sy’n rhan o gwricwlwm yr ysgol.

Gwybodaeth ar y cyfleoedd dysgu a chwricwlaidd ehangach a chyfranogiad yn yr ysgol

Gofynnir i ysgolion ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar y cyfleoedd dysgu a chwricwlaidd ehangach a’r cyfranogiad yn yr ysgol.

A. Effeithiolrwydd ac ymgysylltiad dysgwyr

Gwybodaeth am gefnogi dysgwyr i ddysgu’n fwyfwy effeithiol yn yr ysgol

Gofynnir i ysgolion ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd am gefnogi dysgwyr i ddysgu’n fwyfwy effeithiol yn yr ysgol.

Gwybodaeth am y dull tuag at ddefnyddio Llais y Dysgwr a chefnogi lles yn yr ysgol

Gofynnir i ysgolion ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd am y dull tuag at ddefnyddio Llais y Dysgwr a chefnogi lles yn yr ysgol.

Lefelau presenoldeb ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am y rhain ar sail:

  • cyfrannau’r sesiynau a fynychwyd ar gyfer pob grŵp blwyddyn

Absenoldeb cyson ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am y rhain ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr ym mhob grŵp blwyddyn sy’n absennol yn gyson
  • cyfrannau absenoldeb ar gyfer pob grŵp blwyddyn sy’n absenoldeb cyson

B. Cynllunio ôl-16

Gwybodaeth am gynllunio ôl-16 a phontio yn yr ysgol

Gofynnir i ysgolion ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar gynllunio ôl-16 a phontio yn yr ysgol.

Cyrchfannau dysgwyr Blwyddyn 11 yn y gorffennol

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am y rhain ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr sydd mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant neu ddim un o’r rhain

Dysgwyr Blwyddyn 11 heb unrhyw gymwysterau

Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am y rhain ar sail:

  • cyfrannau’r dysgwyr sy’n gadael Blwyddyn 11 heb unrhyw gymwysterau

Y garfan 14 i 16

Byddwn yn:

  • adrodd am ddangosyddion yn seiliedig ar ddeilliannau’r holl ddysgwyr a gofnodwyd fel rhai ym Mlwyddyn 11 yn natganiad y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yr ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd honno (a adroddwyd ym mis Ionawr) pan fydd y dysgwyr wedi’u cofrestru yn yr ysgol honno yn unig, neu’r ysgol honno yw’r prif leoliad y maent wedi’u cofrestru ynddo. Ar gyfer dangosyddion sy’n seiliedig ar gymwysterau, byddwn yn cynnwys yr holl ddyfarniadau perthnasol y mae dysgwyr wedi’u cyflawni yn y blynyddoedd blaenorol (bydd y cymwysterau hynny sydd wedi’u nodi mewn mannau eraill o’r Fframwaith hwn yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau)
  • defnyddio model eithriadau cyfyngedig, pan fo’r dysgwyr yn newydd i system addysg sy’n seiliedig ar y Gymraeg neu’r Saesneg (NEWBES (new to an English- or Welsh-based education system)) nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf a phan fo’r dysgwyr yn trosglwyddo o system seiliedig ar y Gymraeg neu’r Saesneg (FEWBES (from an English- or Welsh-based education system)) (ond sydd â chymwysterau neu sydd wedi dilyn cyrsiau nad ydynt yn cael eu cyfrif o fewn trefniadau adrodd 14 i 16 Cymru), a nhw yw’r unig bolisïau sy’n berthnasol o ran eithriadau
  • cynnwys dysgwyr sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad, gan gynnwys dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), mewn dangosyddion ysgol os yr ysgol honno yw prif leoliad y dysgwyr hynny; ni fyddwn yn cynnwys dysgwyr os yr ysgol honno yw lleoliad atodol y dysgwyr yn nangosyddion yr ysgol

Cymwysterau a fydd yn cael eu cynnwys wrth adrodd

Byddwn yn:

  • cynnwys yr holl gymwysterau a gymeradwywyd neu a ddynodwyd ar gyfer cyflawni addysg 14 i 16 gan Gymwysterau Cymru, o Lefel Mynediad hyd at Lefel 3
  • cynnwys gradd orau dysgwyr os byddant wedi’u cofrestru sawl gwaith ar gyfer yr un cymhwyster
  • cadw system ddiystyru gyfyngedig yn benodol ar gyfer sefyllfaoedd pan fo dysgwr wedi gwneud cynnydd trwy wahanol lefelau o gymwysterau yn yr un pwnc, a byddwn yn adrodd ar y cymhwyster lefel uwch yn unig. Defnyddir system ddiystyru i wneud penderfyniad ar gymhwyster unigol i’w gynnwys mewn dangosyddion ysgol pan fydd nifer o gymwysterau a enillwyd gan ddysgwr yn debyg iawn o ran eu cynnwys. Mae system ddiystyru dim ond yn effeithio ar y broses o gyfrifo dangosyddion a adroddir ar gyfer ysgol. Nid yw’n effeithio ar y cymwysterau a enillwyd gan ddysgwyr. Mae rhesymau cyfreithlon pam y gallai dysgwr ymgymryd â chymwysterau sy’n diystyru ei gilydd, un rheswm yw os bydd wedi gwneud cynnydd trwy wahanol lefelau o gymwysterau yn yr un pwnc, er enghraifft cael cymhwyster sylfaen cyn symud ymlaen i gael TGAU yn yr un pwnc
  • adrodd ar wahân ar ddyfarniadau ar gyfer gwahanol amrywiadau meysydd llafur un cymhwyster (pan fo cymwysterau o’r fath yn bodoli, er enghraifft TGAU mewn Celf a Dylunio) ac mae gan y dysgwr ddyfarniadau am fwy nag un amrywiad
  • adrodd ar y dangosydd ‘trosolwg o gofnodion ar draws gwahanol fathau o gymwysterau’ fel cyfran nifer y dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer gwahanol gyfuniadau o fathau o gymwysterau i adlewyrchu’r amrywiaeth o raglenni dysgu a llwybrau (mae’r categorïau terfynol i’w diffinio o hyd)
  • adrodd ar ddysgwyr sydd ddim yn cyflawni unrhyw gymwysterau fel canran o’r garfan

Cyflwyno data deilliannau i gynulleidfa gyhoeddus

Byddwn yn:

  • defnyddio siartiau bar fel y prif fformat gweledol, gan gynnwys cymaryddion, a siartiau llinell i ddangos tueddiadau dros amser
  • mabwysiadu model haenog ar gyfer mynediad, lle cyflwynir trosolwg cyffredinol a syml i ddefnyddwyr; bydd trosolwg dadansoddol a manylach, sy’n cynnig cyd-destun ychwanegol a chyflwyniad mwy cymhleth, ar gael fel haen ddewisol
  • archwilio datblygu model sy’n cymharu ysgolion rhithwir fel model posibl i ddilyn ein model presennol sy’n cymharu grwpiau o ysgolion. Bydd hyn yn darparu cyd-destun ystyrlon i ddeilliannau ysgol (byddai’r model yn paru dysgwyr yn y garfan â chyfoedion o bob cwr o Gymru, yn seiliedig ar set benodol o ffactorau sy’n cynnwys nodweddion dysgwyr ac ysgolion)
  • cyhoeddi deilliannau ar gyfer TGAU Saesneg, Cymraeg, mathemateg a rhifedd, a gwyddoniaeth yn unig i ddechrau: mae nifer y dysgwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyfer y cymwysterau hyn yn ddigonol i osgoi achosion uchel o atal data a diffyg argaeledd data i gynulleidfa gyhoeddus, ac yn osgoi data anghyson oherwydd amrywiadau sy’n ymwneud â nifer isel o ddysgwyr sydd wedi’u cofrestru. Byddwn yn ailedrych ar ddichonoldeb adrodd ar bob pwnc arall a chanlyniadau dyfarniadau cymwysterau eraill unwaith y bydd y maes cymwysterau diwygiedig wedi’i sefydlu, ac rydym yn deall patrymau mynediad ar draws y cynnig yn well. Byddwn yn dal i adrodd ar geisiadau ar gyfer yr holl gymwysterau perthnasol (bydd y cymwysterau hynny sydd wedi’u nodi mewn mannau eraill yn y Fframwaith hwn yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau) lle mae dysgwyr yn y garfan wedi’u cofrestru
  • defnyddio set gyfyngedig o nodweddion dysgwyr i’w dadansoddi (rhyw ac anfantais economaidd-gymdeithasol)

Cynrychioli’r profiad dysgu ehangach ar gyfer 14 i 16

Byddwn yn:

  • cyflwyno presenoldeb ac absenoldeb parhaus Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 gan ddefnyddio siartiau bar fel y prif fformat gweledol, gan gynnwys cymaryddion, a siartiau llinell i ddangos tueddiadau dros amser
  • mabwysiadu model haenog o fynediad, gyda throsolwg syml yn cael ei gyflwyno yn gyntaf; bydd trosolwg dewisol ar gael sy’n ddadansoddol ac yn ddyfnach, ac sy’n caniatáu cyflwyniad mwy cymhleth gyda nodweddion cyd-destunol ychwanegol
  • parhau i weithio i nodi’r ffynonellau data mwyaf priodol ar gyfer cyrchfannau a chyfnodau amser adrodd, gyda’r nod o gyflwyno cyrchfannau ôl-16 gan ddefnyddio categorïau clir a phatrymau tueddiadau syml i ddangos deilliannau ar gyfer gwahanol garfannau dros amser

Er mwyn cefnogi ysgolion i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd a fydd yn adeiladu darlun mwy cyflawn o brofiad dysgwr, byddwn yn:

  • darparu canllawiau cenedlaethol clir ac yn awgrymu strwythur adrodd i ysgolion ei ddilyn pan fyddant yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael
  • archwilio a fydd datblygu llwyfan, neu ychwanegu at lwyfan bresennol, lle gall ysgolion gyhoeddi meysydd gwybodaeth penodol yn gyson, yn eu helpu i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn haws

Dangosodd tystiolaeth a gwaith ymgysylltu eang nad yw’r trefniadau adrodd ar gyfer deilliannau diwedd Cyfnod Allweddol 4 o dan yr hen gwricwlwm yn addas i gefnogi dysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru.

Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2025, aethom ati i geisio safbwyntiau ar Fframwaith Dangosyddion arfaethedig ar gyfer yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 i gefnogi dysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru a helpu’r cyhoedd i ddeall sut mae ysgolion unigol yn cyflawni hyn drwy’r data a’r wybodaeth ar lefel ysgolion sydd ar gael ar lwyfan cyhoeddus.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r adborth a gasglwyd, aethom ati i gyhoeddi adroddiad ar benderfyniadau. Cadarnhaodd yr adroddiad y caiff y Fframwaith ei roi ar waith fel set o wybodaeth a gynlluniwyd i adlewyrchu ehangder llawn yr hawl i ddysgu.

Rydym yn parhau i gydweithio’n agos â’r sector addysg i fireinio dangosyddion 14 i 16 a’r trefniadau adrodd yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn parhau â’r gwaith ymgysylltu ehangach ar draws y system ac â phartneriaid allweddol, gan gynnwys rhieni, gofalwyr a’r cyhoedd. 

Rydym yn datblygu offer a systemau digidol sy’n hwyluso’r gwaith o adrodd ar ddata a’i ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys y mecanweithiau ar gyfer cyflwyno a defnyddio Setiau Data Craidd Cymru Gyfan a ddarperir i ysgolion ac awdurdodau lleol, yn ogystal â phlatfform Fy Ysgol Leol sy’n agored i’r cyhoedd. Byddwn hefyd yn edrych ar gynllun a chynnwys Setiau Data Craidd Cymru Gyfan i’w halinio â’r trefniadau adrodd newydd, ac yn ymgorffori nodweddion ychwanegol a fyddai’n cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol ymhellach gyda’u gweithgarwch hunanwerthuso a gwella.

Byddwn yn sicrhau bod ysgolion a rhanddeiliaid yn cael eu cefnogi wrth inni symud ymlaen i weithredu’r trefniadau adrodd newydd.

Tynnir sylw at diweddariadau am ddatblygiad y Fframwaith yng nghylchlythyr Dysg.