Defnyddio gwybodaeth a data i gefnogi a gwella dysgu
Ein dull gweithredu a'n disgwyliadau gan bartneriaid wrth ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi a gwella dysgu ar draws y system ysgolion.
Ein dull tuag at ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi a gwella dysgu
Mae data a gwybodaeth yn adnoddau hanfodol a phwerus ar gyfer llywio addysg. Mae angen i’n dealltwriaeth a’n penderfyniadau fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau, p’un a ydym yn gweithio mewn ysgol, awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru neu sefydliad partner arall.
Mae ein canllawiau gwella ysgolion yn nodi ein dull tuag at ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi a gwella dysgu mewn ffordd sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae angen i’r dull gael ei ymgorffori drwy arweinyddiaeth, gweithio ar y cyd a rhannu gwybodaeth. Yn y cyd-destun hwn, mae data a gwybodaeth yn gyfrifoldeb i bawb. Dylid eu defnyddio’n barhaus, gan eu gwneud yn nodwedd amlwg yng nghylch gwella ysgol, ar draws awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Er mwyn cefnogi gwelliant mewn ffordd wirioneddol ym maes dysgu, rhaid i’r data a’r wybodaeth fod yn briodol i’w defnyddio, a rhaid hefyd eu defnyddio mewn ffordd briodol. Rydym yn cyfeirio’n aml at y rhyngweithio rhwng y data ei hun a sut y’i defnyddir fel ‘yr ecosystem wybodaeth’.
Rydym yn disgwyl y bydd y defnydd o ddata a gwybodaeth yn gymesur ac yn gytbwys. Dylai ysgogi gwelliant i ddysgwyr mewn modd effeithiol. Mae data ansoddol a meintiol yn bwysig er mwyn cael darlun cyflawn o ddysgwyr, dysgu ac ysgolion.
Credwn fod defnyddio mathau addas o ddata a gwybodaeth eang mewn ffyrdd priodol yn helpu’r system gyfan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig, ac yn helpu i ddarparu set gynhwysfawr a chytbwys o wybodaeth i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr, ysgolion, awdurdodau lleol, llywodraeth genedlaethol a phartneriaid eraill.
Egwyddorion yr ecosystem wybodaeth
Mae ein hegwyddorion o ran yr ecosystem wybodaeth yn:
- llywio ein dull gweithredu cyffredinol
- darparu fframwaith clir i seilio ein defnydd o ddata a gwybodaeth arno wrth gefnogi dysgu a gwella
- ei gwneud yn bosibl defnyddio data a gwybodaeth o ansawdd uchel mewn ffordd effeithiol, gan gefnogi ysgolion a rhanddeiliaid ehangach mewn gwahanol gyd-destunau a rhoi’r lle canolog i ddysgwyr yn y broses o wneud penderfyniadau
- perthnasol ar draws y system ysgolion
- helpu rhanddeiliaid (ysgolion, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill) i ddefnyddio data yn feddylgar, gan ganolbwyntio ar fewnwelediad go iawn, gwerthuso effeithiol ac atebolrwydd i ysgogi gwelliant yng nghynnydd a phrofiadau dysgwyr
- ategu ymhellach ein dymuniad i gamu oddi wrth yr arfer o ddefnyddio data mewn ffordd risg uchel
Nid oes hierarchaeth i’r egwyddorion. Gallai fod angen cydbwyso sensitif wrth eu cymhwyso, gan y gall cyd-destunau gwahanol alw am bwyslais gwahanol yn ymarferol. Rhaid ystyried yn ofalus y goblygiadau i ddysgwyr ym mhob achos.
Y 12 egwyddor yr ecosystem wybodaeth
Dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
Ar y dysgwyr y mae ein holl ffocws o hyd. Mae eu hanghenion, eu cynnydd a’u lles yn arwain ein penderfyniadau.
Cymorth i’r gweithlu
Drwy osod disgwyliadau clir ynglŷn â defnyddio data, ein nod yw grymuso addysgwyr i gefnogi dysgwyr yn well.
Cyfannol
Ni all yr un metrig unigol ddiffinio llwyddiant. Rydym yn ystyried amrywiaeth eang o ffactorau, gan osgoi gorddibyniaeth ar fesurau unigol.
Cyd-destun
Mae data yn fwy ystyrlon yn ei gyd-destun. Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth yn berthnasol, yn amserol, o safon uchel ac yn ei chyd-destun er mwyn rhoi darlun cyflawn o ysgol ac ystyried deilliannau mewn ffordd fwy teg. Mae tarddiad a chyfyngiadau data yn cael eu gwneud yn glir.
Effeithlonrwydd a symlrwydd
Mae symleiddio gofynion yn lleihau beichiau gweinyddol, gan alluogi addysgwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf.
Hyblygrwydd
Mae ein dull yn parchu anghenion unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau. Nid oes un ateb sy’n addas i bawb.
Fformat hawdd ei ddefnyddio
Dylai data a gwybodaeth fod yn hygyrch ac yn ddealladwy. Mae eu dangos yn glir mewn ffordd weledol yn helpu eu deall.
Disgrifiadol, nid beirniadol
Nid ydym yn cyfleu barn drwy ddangosydd, ond yn defnyddio’r dystiolaeth hon ochr yn ochr â mewnwelediad gwrthrychol i gefnogi dealltwriaeth gryfach ac fel sail i weithredu.
Adrodd a rhannu
Mae data yn helpu ysgolion a gwasanaethau gwella i gydweithio.
Grymuso
Mae ysgolion a chynulleidfaoedd eraill yn defnyddio data mewn modd deallus er mwyn llywio hunanwerthuso a gwelliant parhaus.
Ymholi a dealltwriaeth
Mae data yn ysgogi archwilio ac yn cyfoethogi’r broses ymholi, gan arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a thriongli canfyddiadau.
Cyfathrebu ystyrlon
Mae tryloywder yn ysbrydoli hyder. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, gan bwyso a mesur canlyniadau yn ofalus cyn mynd ati i rannu data yn gyhoeddus. Mae hyn yn diogelu dysgwyr ac ysgolion ac yn cadw’r ffocws ar yr hyn sy’n werthfawr inni.
Disgwyliadau o ran defnyddio data a gwybodaeth ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol
Mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol eu ffynonellau cyfoethog eu hunain o ddata a gwybodaeth yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir iddynt gan Lywodraeth Cymru. Mae ein canllawiau gwella ysgolion yn nodi disgwyliadau bras ynghylch sut y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgwyr a dysgu.
Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol:
- ddefnyddio dull cytbwys sy’n dibynnu ar set gydlynol a chynhwysfawr o wybodaeth ansoddol a meintiol i werthuso cynnydd dysgwyr mewn ysgolion mewn modd nad yw’n hierarchaidd. Dylai’r wybodaeth hon fod yn berthnasol i anghenion a chyd-destun ysgolion unigol, ond mae’n debygol y bydd elfennau cyffredin ar draws ysgolion i gefnogi dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau bod ysgolion yn rhoi sylw i ddisgwyliadau cenedlaethol
- peidio â dibynnu’n llwyr ar ffyrdd cyfyngedig o fesur cyrhaeddiad dysgwyr i ddod i gasgliadau ar berfformiad ysgolion
- sicrhau na chaiff sylw arweinwyr ysgolion, ymarferwyr a staff cymorth ei dynnu oddi wrth eu gwaith gyda dysgwyr i gasglu a chadw tystiolaeth, sy’n aml yn helaeth, er mwyn bodloni gwahanol ofynion
Dylai ysgolion:
- ddefnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth i edrych ar gynnydd yr holl ddysgwyr a’r systemau sy’n eu cefnogi, gan ddilyn yr egwyddorion cynnydd er mwyn llunio barn gyfannol ar gynnydd dysgwyr
- datblygu llinellau ymholi ar gyfer gwaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau pellach, gan adeiladu ar dystiolaeth a gasglwyd am gynnydd dysgwyr, yn ogystal â gwybodaeth ehangach ar draws holl weithgareddau’r ysgol
- dewis yr wybodaeth a ddefnyddir i hunanwerthuso gan ddibynnu ar eu cyd-destun, eu hanghenion a’u blaenoriaethau eu hunain, wrth anelu at gynnal gwerthusiad gwrthrychol o’u sefyllfa bresennol
- ystyried yn ofalus, ac o fewn y cyd-destun, y defnydd o unrhyw wybodaeth gymharol, sut y gellir ei defnyddio i nodi meysydd posibl i’w harchwilio, ac i gefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion a rhannu arferion effeithiol
- defnyddio’r wybodaeth sydd ganddynt yn effeithiol at ddibenion hunanwerthuso, yn ogystal â defnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth sydd wedi cael ei darparu iddynt neu y maent wedi cael gafael arni
Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth er mwyn:
- sicrhau bod unrhyw wybodaeth sydd ganddynt a fyddai’n helpu ysgolion i hunanwerthuso ar gael i ysgolion, fel rhan o ddiwylliant o weithio mewn partneriaeth
- rhannu gwybodaeth berthnasol am ysgolion â’i gilydd, yn unol â deddfwriaeth Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
- ystyried tystiolaeth a gwybodaeth briodol ar lefel ysgol er mwyn:
- helpu i benderfynu pa gymorth sydd ei angen ar ysgolion a’u gallu i helpu eraill
- cyfrannu at eu gwaith o werthuso eu gwasanaethau eu hunain i gefnogi ysgolion a ddylai, yn ei dro, lywio adolygiadau cynghorau o’u perfformiad ar lefel gorfforaethol, strategol
Sut rydym yn defnyddio data a gwybodaeth
Er mwyn datblygu darlun cyflawn a chytbwys o ysgolion a dysgu yng Nghymru, rydym yn cydweithio’n agos ag ystod eang o bartneriaid ac yn defnyddio’r wybodaeth a gawn o’r ymgysylltu hwnnw ochr yn ochr â:
- data cymwysterau
- data presenoldeb
- adroddiad cenedlaethol ar asesiadau personol
- canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) (Saesneg yn unig) a dadansoddiadau eraill sy’n cymharu
- arolygon y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
- datganiadau ystadegol eraill
- adroddiadau blynyddol a thematig Estyn
- y mewnwelediad sy’n deillio o’r ymchwil amrywiol sydd ar gael inni
Mae’r data sydd ar gael inni drwy ymgysylltiad parhaus ysgolion â chasgliadau ac astudiaethau data, gan gynnwys Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), y Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion, PISA ac Astudiaethau Gwerthuso’r Cwricwlwm, yn darparu gwybodaeth o ansawdd uchel inni wrth wneud penderfyniadau a gwella systemau.
Rydym yn cryfhau ymhellach ehangder yr wybodaeth genedlaethol sydd ar gael inni ac yn gwella sut mae’n cael ei defnyddio i:
- ddeall y dirwedd
- llywio datblygiad polisi
- cefnogi ein partneriaid
- llywio cyllidebau a gwaith cynllunio’r gweithlu
Byddwn yn cymryd rhan yn astudiaethau rhyngwladol Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen (PIRLS) (Saesneg yn unig) a Tueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS) (Saesneg yn unig) am y tro cyntaf yn 2026 a 2027 a fydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’n sylfaen dystiolaeth.
Fel llywodraeth, rydym:
- wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw
- yn gweithredu yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig)
- yn sicrhau bod yr ystadegau a gyhoeddwn yn ddibynadwy, o ansawdd uchel a bod iddynt werth cyhoeddus
Mae diogelwch data unigolion a’n cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, gan gynnwys GDPR y DU, o’r flaenoriaeth uchaf ac yn rhan annatod o sut rydym yn rheoli gwybodaeth.
Diwygio ein hecosystem wybodaeth
Rydym wedi bod yn diwygio ein gofynion a’n disgwyliadau o ran data a gwybodaeth, gan arwain at y dull gweithredu a’r egwyddorion a nodir. Rydym hefyd yn datblygu prosesau i ddiogelu ein hecosystem wybodaeth, ac yn hwyluso’r ffordd i systemau ac adnoddau digidol fod yn gwbl gydnaws â’r dull hwn.
Yn 2025, buom yn ymgynghori ar agweddau ar ein dull diwygiedig o ddefnyddio data a gwybodaeth, gan gynnwys egwyddorion sylfaenol ecosystem wybodaeth a Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16.
Cafodd adborth hefyd ei gasglu a’i ddadansoddi o weithgareddau ymgysylltu ehangach, gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau i arweinwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr 14 i 16 a gynhaliwyd ledled Cymru.
Gellir dod o hyd i grynodebau o ymatebion yr ymgynghoriad o’r cyhoedd ac o’r rhai sy’n gweithio yn y system ysgolion ar ein gwefan.
Gellir hefyd ddod o hyd i’r adroddiad ar benderfyniadau ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar ein gwefan.