Trosolwg o’r rhaglen
Yn amlinellu sut caiff y rhaglen ei chyflwyno.
Nod rhaglen newydd CPCP yw cefnogi ac arwain unigolion er mwyn eu paratoi i gymryd y cam tuag at fod yn bennaeth. Bydd yr unigolion yn cael eu cefnogi drwy gyfres o weithdai ac ymweliadau, a thrwy rhyngweithio gyda'u Hyfforddwr Arweinyddiaeth i lywio eu gweledigaeth strategol ar gyfer arweinyddiaeth. Mae'r tair elfen breswyl yn rhannau hanfodol o'r rhaglen, gan roi amser ar gyfer dysgu estynedig. Bydd y rhaglen yn ymdrin ag ymarfer a damcaniaeth. Bydd hyn yn cael ei ategu gan fodiwlau y bydd unigolion yn gallu eu dewis yn seiliedig ar eu hanghenion datblygu penodol eu hunain.
Mae'r rhaglen wedi'i hadeiladu o amgylch profiad arweinyddiaeth a fydd â gwerth ymarferol yn ysgolion yr unigolion eu hunain.
Sut bydd y rhaglen yn gweithio?
Bydd y rhaglen ar gael i 48 o unigolion.
Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Ionawr 2025.
Bydd y rhaglen yn rhedeg dros 2 flynedd. Bydd yr unigolion yn ymgymryd â'r elfennau craidd ym mlwyddyn un, a'r rhai dewisol ym mlwyddyn 2.
Mae blwyddyn 1 yn brofiad parhaus, sy'n ymgorffori 3 trefniant preswyl drwy gydol y flwyddyn, a bydd yr unigolion yn datblygu astudiaeth achos blwyddyn o brofiad arweinyddiaeth ar waith.
Ym mlwyddyn 2, bydd yr unigolion yn gallu dewis modiwlau yn seiliedig ar eu hanghenion datblygu penodol eu hunain megis cynllunio'r cwricwlwm, cynllunio'r gweithlu, ADY, gofynion statudol a datblygu unigolion.
Bydd pob unigolyn yn cael asesiad 360 ar ddechrau'r rhaglen a fydd yn helpu i nodi meysydd penodol i'w datblygu yn ystod y 2 flynedd.
Bydd pob unigolyn yn cael ei gefnogi gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth dynodedig drwy gydol y rhaglen. Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu mewn ymateb i'r asesiad 360 ac i hyfforddi unigolion eraill drwy'r rhaglen.
Bydd y rhaglen yn cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cenedlaethol y Rhaglen a fydd yn sicrhau bod ansawdd pob agwedd mor uchel â phosibl a bod y rhaglen yn diwallu anghenion pob unigolyn ac ysgolion y genedl.
Bydd yr unigolion yn derbyn statws CPCP ar ddiwedd y rhaglen, yn seiliedig ar yr astudiaeth achos blwyddyn o brofiad arweinyddiaeth ar waith, a'r trafodaethau a fydd yn parhau gyda'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth.