English

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer carfan 3 nawr yn fyw. Dysgu sydd yn rhedeg y broses ymgeisio.

Ar ôl derbyn cefnogaeth eich pennaeth neu gyflogwr a’r awdurdod lleol, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais erbyn 4pm ar 16 Ionawr 2026. 

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion o bob rhan o Gymru sy'n credu y gallant ddangos tystiolaeth o brofiad perthnasol i fodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ffurfiol, ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer, er enghraifft, aelodau o uwch dimau arwain.

Croesewir ceisiadau hefyd gan y rhai sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac sydd â'r profiad angenrheidiol i arwain ysgol a enillwyd drwy waith mewn sefydliadau eraill o fewn y system addysg, er enghraifft, awdurdodau lleol a phartneriaethau, Estyn.

Er mwyn gwneud cais, rhaid i ymgeiswyr:

  • feddu ar statws athro cymwysedig
  • bod wedi cwblhau cyfnod sefydlu statudol (os cawsant SAC ar ôl 1 Ebrill 2003)
  • meddu ar brofiad o rôl arweinyddiaeth uwch o fewn y sector addysg 

Os yw'r ymgeiswyr mewn swydd addysgu gyfredol, rhaid iddynt hefyd fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gwybodaeth a sgiliau

Fel rhan o'u cais, dylai ymgeiswyr ddangos:

  • eu hymrwymiad i gefnogi pob dysgwr, gan eu galluogi i fod cystal ag y gallant fod
  • eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gyd-destun a diwygiadau addysg Cymru, gan gynnwys gofynion Cwricwlwm i Gymru a'r Ddeddf ADY
  • eu hmrwymiad i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru
  • eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chreu amgylchedd lle y mae dysgwyr a staff yn teimlo'n ddiogel i herio, rhannu syniadau a mynegi pryderon
  • eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r hyn a olygir wrth addysgu a dysgu rhagorol a sut i'w sicrhau, er mwyn gofalu am anghenion amrywiol a chymhleth dysgwyr ar draws yr ysgol
  • eu profiad o gyfathrebu a datblygu perthynas yn effeithiol â chymuned yr ysgol ac amrywiaeth o bartneriaid
  • ymrwymiad i’r agenda diwygio addysg yng Nghymru

Ymddygiadau

Dylai ymgeiswyr hefyd nodi eu profiad o:

  • fod yn wydn dan bwysau a pharhau'n bositif a brwdfrydig
  • defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol
  • gweithredu ag uniondeb a sensitifrwydd
  • parodrwydd i ddysgu

Mae tri cham i'r broses gais:

  • cyflwyno ffurflen gais
  • bydd y panel dethol cenedlaethol CPCP yn asesu pob cais
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn y cam hidlo yn cael eu gwahodd i gam asesu

Ceir rhagor o wybodaeth am bob cam isod.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais sy'n dangos tystiolaeth o'u sgiliau a'u profiad perthnasol yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ffurfiol a'r gofynion cymhwysedd a phrofiad blaenorol. Mae'r ffurflen gais i’w gweld mae modd cael mynediad i'r ffurflen gais drwy Microsoft Forms.

Dylid cyflwyno ceisiadau drwy’r ffurflen ar-lein erbyn 4pm ar 16 Ionawr 2026.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu manylion dau ganolwr. Dylai un canolwr weithio gyda'r ymgeisydd yn ddyddiol, er enghraifft eich rheolwr llinell, a dylai un canolwr weithio ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.

Bydd angen i ymgeiswyr gadarnhau bod eu pennaeth neu cyflogwr a’u hawdurdod lleol yn cefnogi eu cais.

Mae PDF o'r cwestiynau yn y ffurflen ar gael i gyfeirio atynt.

Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau, bydd panel dethol cenedlaethol CPCP yn dod ynghyd i asesu a didoli pob cais. Bydd y panel dethol yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol ynghyd â phenaethiaid presennol. Bydd enwau'r ymgeiswyr yn cael eu cuddio yn y cam hwn o'r broses.

Bydd y galw am benaethiaid, o ran daearyddiaeth, sector neu gyfrwng iaith, yn cael ei ystyried wrth gytuno'n derfynol pa ymgeiswyr sy’n symud i’r cam asesiad..

Gofynnir am eirda ar gyfer y rhai sy'n llwyddo yn y cam sifftio cyn y cam asesiad.

Bydd ymgeiswyr sy'n aflwyddiannus yn y cam sifftio yn cael eu hysbysu gan Lywodraeth Cymru erbyn 02 Mawrth 2026. 

Bydd penderfyniad y panel sifftio yn derfynol.

Caiff yr ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam sifftio eu gwahodd i asesiad. 

Bydd yr asesiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau yn dechrau 16 Ebrill 2026 a 23 Ebrill 2026. 

Bydd rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd ei angen fel rhan o'r cam asesiadyn cael ei rannu â'r ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn y cam sifftio.

Unwaith y bydd yr holl asesiadauwedi'u cynnal, bydd y panel dethol cenedlaethol yn ailymgynnull i gymedroli. 

Fel yn achos y cam sifftio, bydd y galw am benaethiaid, ar sail anghenion daearyddol, sector neu gyfrwng iaith, yn cael ei ystyried er mwyn cytuno'n derfynol ar yr ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn symud ymlaen i'r rhaglen. 

Efallai y bydd y panel yn cytuno i osod ymgeiswyr a oedd yn llwyddiannus yn eu hasesiad, ond nad ydynt am gael eu derbyn ar y rhaglen oherwydd yr angen i sicrhau cydbwysedd o gyfranogwyr ledled Cymru ac ar gyfer sectorau penodol, ar restr wrth gefn. Gellid dod ag ymgeiswyr sydd ar y rhestr wrth gefn i mewn i'r rhaglen os bydd cyfranogwr arall yn tynnu'n ôl neu cânt eu blaenoriaethu ar gyfer y rhaglen nesaf.

Ni fydd ymgeiswyr yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad panel dethol cenedlaethol CPCP.

  • Hysbysiad Preifatrwydd CPCP pdf 145 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath