Pa gefnogaeth fydd yn cael ei darparu
Amlinelliad o’r gefnogaeth fydd ar gael.
Drwy gydol y rhaglen, cewch eich arwain gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth ymroddgar.
Prif gyfrifoldebau'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth fydd:
- darparu adborth proffesiynol parhaus i bob cyfranogwr
- cefnogi'r cyfranogwr i ystyried yr asesiad 360 a hwyluso sgyrsiau am arweinyddiaeth, yn seiliedig ar dwf personol o ran arweinyddiaeth
- cefnogi dewis y profiad arweinyddiaeth
- gweithredu fel 'brocer' rhwng y Pennaeth Ysgol sy'n Cefnogi a'r cyfranogwr i sicrhau bod y cyfranogwr yn cael cefnogaeth, amser a chyfle i gyflawni'r profiad arweinyddiaeth a thasgau eraill y cytunwyd arnynt
- cefnogi'r cyfranogwr i adeiladu eu proffil mynediad at rôl Pennaeth
Bydd disgwyl i'ch pennaeth neu'ch cyflogwr hefyd ddarparu cefnogaeth yn ystod y rhaglen fel yr amlinellir yn yr adran Beth yw'r disgwyliadau gan fy nghyflogwr presennol.
Bydd Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Rhaglen hefyd wrth law i gefnogi unigolion ag elfennau gweithredol y rhaglen.