English

Mae datblygu proffesiwn addysgu o’r radd flaenaf yn rhan ganolog o wireddu ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru ac mae'n un o'r pedwar amcan galluogi yn Cenhadaeth ein Cenedl.

Mae cyfnod sefydlu statudol athrawon newydd gymhwyso yn rhan o'r weledigaeth hon yn y ffyrdd a ganlyn:

  • galluogi athrawon newydd gymhwyso i adeiladu ar yr wybodaeth a'r profiadau a gafwyd yn ystod yr Addysg Gychwynnol i Athrawon
  • cefnogi athrawon newydd gymhwyso i gael y dechrau gorau i'w gyrfa fel athrawon, ac annog twf proffesiynol gydol gyrfa
  • rhoi cyfle i bob athro newydd gymhwyso ddatblygu ei ymarfer drwy ganolbwyntio ar y gofynion a nodir yn y safonau proffesiynol
  • sefydlu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n cyd-fynd â gofynion y cwricwlwm newydd

Mae gan athrawon newydd gymhwyso hawl i gael cymorth gan fentor sefydlu yn ei ysgol. Caiff athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi byrdymor eu cefnogi gan wiriwr allanol. Ar hyn o bryd, caiff rôl y gwiriwr allanol ei hariannu gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â chyllid a fydd ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2021 i 2022 i gefnogi rôl Mentor Sefydlu.

Diben y cyllid yw galluogi ysgolion i ryddhau Mentoriaid Sefydlu i gefnogi athrawon newydd gymhwyso.

Dyma rai awgrymiadau ynghylch sut y gellid defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithgareddau Mentoriaid Sefydlu:

  • Mentoriaid Sefydlu yn cael eu rhyddhau o’r ysgol i fynd i raglenni dysgu proffesiynol
  • Darparu gweithgareddau sefydlu yn yr ysgol, ee rhaglen sefydlu i redeg drwy bolisïau’r ysgol
  • Amser i arsylwi gwersi athrawon newydd gymhwyso a darparu adborth
  • Monitro’n rheolaidd
  • Gosod targedau a llunio adolygiadau
  • Deialog rheolaidd yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol gan gynnwys cymeradwyo Profiadau Dysgu Proffesiynol
  • Argymhellion terfynol i Gyrff Priodol

Bydd gwirwyr allanol a chydlynwyr sefydlu yn monitro gweithgareddau Mentor Sefydlu drwy’r ffyrdd a ganlyn:

  • Presenoldeb mewn dysgu proffesiynol
  • Defnydd rheolaidd o’r Proffil Sefydlu ar-lein yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol i ddarparu adborth i’r athro newydd gymhwyso a sicrhau bod targedau’n cael eu gosod ac adolygiadau’n cael eu cynnal

Bydd hyd at £1,050 ar gael i ysgolion i’w hawlio i ddarparu cymorth gan Fentor Sefydlu i bob athro newydd gymhwyso.

Bydd ysgolion yn cael eu talu fesul tymor a bydd y taliadau’n cael eu gwneud ar ôl i’r ysgol gyflwyno’r Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu i Gyngor y Gweithlu Addysg ar ddiwedd pob tymor academaidd, neu’n gynt os daw cyflogaeth yr athro newydd gymhwyso yn yr ysgol i ben.

Caiff cyllid ei roi ar ddiwedd pob tymor academaidd pan fo'r athro newydd gymhwyso wedi ymgymryd â’r sefydlu. Bydd hyn yn digwydd ni waeth pa gyfran o'r contract y mae'r athro newydd gymhwyso wedi gweithio na faint o sesiynau sydd wedi'u cwblhau yn ystod y tymor academaidd. Er enghraifft:

  • os yw'r athro newydd gymhwyso yn cwblhau tymor llawn ar gontract amser llawn, bydd yr ysgol yn derbyn taliad o £350
  • os yw'r athro newydd gymhwyso yn dechrau cyfnod sefydlu adeg yr hanner tymor, yna ar ddiwedd tymor academaidd cyntaf sefydlu'r athro newydd gymhwyso, bydd yr ysgol yn derbyn taliad o £175
  • os yw'r athro newydd gymhwyso yn dechrau cyfnod sefydlu ar unrhyw adeg arall yn ystod y tymor academaidd, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn cyfrifo swm y cyllid i'w ryddhau fel a ganlyn. £1,050/380 o sesiynau x nifer y sesiynau a gwblhawyd gan yr athro newydd gymhwyso yn ystod y tymor academaidd