English

Cyflenwi tymor byr

Mae'n rhaid i athrawon newydd gymhwyso (ANG) sy'n ymgymryd â sefydlu drwy'r llwybr cyflenwi tymor byr gwblhau cyfnod sefydlu o 380 o sesiynau (gall y corff priodol leihau hyn yn unol â'r canllawiau). Diffinnir sesiwn ysgol fel un bore neu un prynhawn o gyflogaeth fel athro cymwysedig mewn lleoliad priodol. Yn ystod y cyfnod hwn byddant yn defnyddio'r Pasbort Dysgu Proffesiynol i ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r safonau proffesiynol.

Rhaid i athrawon cyflenwi tymor byr gymryd cyfrifoldeb am:

  • gwblhau ‘Ffurflen Hysbysu Sefydlu fel Athro Cyflenwi Byrdymor’ CGA (dolen allanol) o fewn deg diwrnod gwaith o gychwyn cyflogaeth a phob tro bydd yr ANG yn symud ysgol yn ystod eu cyfnod ymsefydlu
  • logio gyda CGA pob sesiwn ysgol wedi’i dilysu, o fewn 10 diwrnod o gwblhau’r sesiynau drwy ddefnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (dolen allanol)
  • sicrhau bod y sesiynau yn cael eu dilysu gan y pennaeth neu uwch arweinydd yn yr ysgol gan ddefnyddio adran berthnasol o’r proffil ymsefydlu cyn iddynt symud i ysgol arall
  • mynychu dysgu proffesiynol ar gyfer ANGau. Gellir cael gwybodaeth am y dysgu proffesiynol sydd ar gael drwy'r consortia rhanbarthol neu'r bartneriaeth berthnasol, neu drwy gysylltu â'ch cydlynydd sefydlu neu gonsortiwm eich awdurdod lleol. Mae’r manylion cyswllt yma.