Rhanbarthol
Rhwydweithiau cydweithredol
Manteisio i’r eithaf ar ddefnydd o gyfalaf cymdeithasol - cydweithio, pwrpas moesol cyffredin a rhannu profiad/arbenigedd.
Mae gweithio fel rhan o rwydweithiau cydweithredu yn galluogi ymarferwyr i:
- wneud defnydd llawn o gyfalaf cymdeithasol
- mwynhau manteision cydweithio
- deall pwrpas moesol cyffredin
- rhannu profiad ac arbenigedd.
Er ei bod yn amlwg bod rhwydweithiau a chlystyrau o ysgolion yn gyfryngau effeithiol ar gyfer dysgu proffesiynol, nid oes un model unigol sy’n gweithio orau - mae’r dull cenedlaethol yn annog cydweithio ar sail ystod eang o feini prawf ac amcanion.
Meddyliwch am fideo gan arbenigwr arweiniol ar wella ysgolion yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.
Ymchwil
Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol:
Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth: Y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol
Sylfaen y cwricwlwm ar gyfer dysgu proffesiynol mewn safonau cyffredin ar draws pob rôl.
Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i adolygu’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon, arweinwyr ac ymarferwyr sy’n cynorthwyo addysgu mewn ysgolion.
Bwriad y safonau proffesiynol yw:
- nodi disgwyliadau clir o ran arferion effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, y cyfnod y bydd yn ymuno â’r proffesiwn
- galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, yn erbyn safonau sy’n nodi arferion effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
- cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
- darparu cefndir i’r broses rheoli perfformiad.
Mae’r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn adlewyrchu arferion sy’n gyson â’r cwricwlwm newydd.
Pan fydd ymarferwyr unigol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol, dylent fod yn glir ynghylch sut y mae’n cefnogi eu gwaith mewn perthynas â’r safonau proffesiynol.
Meddyliwch am fideo gan arbenigwr arweiniol ar wella ysgolion yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.
Ymchwil
Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol.