English

2. Y cynnig dysgu proffesiynol

Ymrywmiad i sicrhau mynediad teg i bob ymarferydd ac ym mhob rhanbarth.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae’r cynnig dysgu proffesiynol a ddarperir gan y consortia rhanbarthol wedi tyfu ac wedi dod yn fwy cydnaws, yn enwedig mewn perthynas ag arweinyddiaeth. Mae sefydliadau haen ganol eraill fel Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn a CBAC hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol.

Yng Nghymru, rydym yn neilltuo pum diwrnod ar gyfer HMS ar hyn o bryd ond mae ysgolion yn rhyddhau athrawon ac arweinwyr ar gyfer sesiynau dysgu proffesiynol ychwanegol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn ailystyried y sail resymegol ar gyfer neilltuo amser ar gyfer dysgu proffesiynol.

Pan fydd y cwricwlwm drafft ar gael yn Ebrill 2019, bydd yn cymryd amser i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r heriau a wynebir o ran dysgu proffesiynol wrth weithredu’r cwricwlwm mewn ysgolion.

Meddyliwch am fideo gan arbenigwr arweiniol ar wella ysgolion yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.


Ymchwil

Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol:

  • Blaenorol

    Addysgeg ar gyfer dysgu proffesiynol

  • Nesaf

    Achrediad a chydnabyddiaeth