English

1. Addysgeg ar gyfer dysgu proffesiynol

Dull gweithredu cyffredin ar gyfer cynllunio dysgu ar draws y system, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio.

Mae’r elfen hon yn cyfeirio at sut y dylai darpariaeth dysgu proffesiynol ymrwymo i fodel cynllunio pedair elfen:

  • Cydweithio – gweithio mewn triawdau a grwpiau o fewn ac ar draws ysgolion.
  • Ymarfer myfyriol – cyfleoedd i fyfyrio’n feirniadol ac yn onest ar arferion cyfredol, a bod yn barod i dderbyn sylwadau eraill ar sut y gellir gwella neu ddatblygu arferion.
  • Defnyddio data a thystiolaeth ymchwil – galluogi’r cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau o ran defnyddio ymchwil a data.
  • Hyfforddi a mentora – rhyngweithio â hyfforddwyr a mentoriaid ar raglenni a thrwy ymarfer myfyriol yn yr ysgol.

Meddyliwch am fideo gan arbenigwr arweiniol ar wella ysgolion yn trafod pwysigrwydd yr elfen hon yng nghyd-destun y dull gweithredu cenedlaethol ehangach.


Ymchwil

Ystyriwch ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel sail i’r elfen hon o’r dull gweithredu cenedlaethol.

  • Nesaf

    Y cynnig dysgu proffesiynol