English

Ym mis Tachwedd 2018 fe wnaeth y Gweinidog Addysg ymrwymo Llywodraeth Cymru i:

  • ddatblygu dysgu proffesiynol gydol gyrfa sydd wedi'i wreiddio mewn ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chydweithio effeithiol
  • buddsoddi mewn ymchwil addysgol sy'n benodol i Gymru a sicrhau ei bod yn cael ei haddasu’n gamau gweithredu i wella ysgolion
  • cyd-lunio strategaeth ymchwil addysgol genedlaethol sy'n darparu fframwaith cydlynol a thryloyw ar gyfer ymchwil addysgol yng Nghymru

Amcanion

Amcanion y Strategaeth hon yw:

  • cefnogi datblygiad parhaus polisi seiliedig ar dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a'i roi ar waith drwy rannau eraill o'r system addysg yng Nghymru
  • datblygu ymhellach gapasiti a gweithgarwch ymchwil o ansawdd uchel o fewn ein sefydliadau addysg uwch er mwyn gallu diwallu anghenion system addysg Cymru
  • datblygu proffesiwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru lle mae arweinwyr, athrawon, staff cymorth, staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, AEM a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn defnyddio tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel ac yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiad proffesiynol

Blaenoriaethau

Blaenoriaethau'r Strategaeth hon, fel y nodwyd yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’ ac sy'n deillio o ddatblygiadau diweddar, fydd:

  • y cwricwlwm ysgol a'r trefniadau asesu newydd a'r addysgeg y bydd ei hangen i’w gwireddu
  • adferiad ein system addysg yn dilyn effaith pandemig COVID-19
  • arweinyddiaeth yn ein system a darpariaeth dysgu proffesiynol o ansawdd uchel
  • tegwch a chynhwysiant yn ein system ar gyfer disgyblion o bob cefndir a gallu
  • y Gymraeg ac addysg ddwyieithog

Gweithredu

Bydd y Strategaeth hon yn gwireddu'r nodau, yr amcanion a’r blaenoriaethau hyn drwy waith mewn tri maes rhyngddibynnol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu:

  • seilwaith cenedlaethol i gefnogi ymchwil ac ymholiad addysgol
  • capasiti a gweithgarwch ymchwil yng nghymuned ein sefydliadau addysg uwch
  • proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth