English

Comisiynwyd yr adroddiadau canlynol yn dilyn lansio’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol ym mis Mehefin 2021. Maent yn adolygu tystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ynghylch nifer o nodau a nodwyd yn y Strategaeth ac mewn meysydd polisi cysylltiedig. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu proffesiwn addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth; datblygu capasiti a chyfanswm yr ymchwil addysgol yn y sector addysg uwch; effaith dysgu proffesiynol ar ymarferwyr, disgyblion a gwella ysgolion; a hunanwerthuso ar gyfer gwella ysgolion.