Safonau proffesiynol ac ymrwymiadau
Mae’r safonau proffesiynol yn newid
Mae’r safonau proffesiynol yn newid.
Ymrwymiadau proffesiynol
Rôl addysg yng Nghymru
Mae addysg wrth wraidd ein huchelgais i Gymru. Mae’n allwedd i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell, ac adeiladu’r genedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol y gwyddom y gall Cymru fod. Mae cyfrifoldeb ar bawb yn ein system addysg i hyrwyddo a gweithio tuag at ragoriaeth ynddi. Mae ymarfer sy'n cefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y nod o fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030, a'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn effeithio'n gadarnhaol ar ddyfodol pob dysgwr, y genedl a'r byd ehangach.
Y Gymraeg
Mae sicrhau cefnogaeth effeithiol i Cymraeg 2050 drwy ymgorffori'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a diwylliant ysgolion yn sicrhau bod pob dysgwr a gweithiwr proffesiynol yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a medrus sy'n gwerthfawrogi ac yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.
Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel rhan o brofiad cwricwlwm eang
Cwricwlwm ysgol neu leoliad yw popeth y mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy'n bwysig, ond sut rydym yn ei addysgu ac, yn hollbwysig, pam ein bod yn ei addysgu. Mae pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wrth wraidd cwricwlwm eang a dwfn sy'n defnyddio dulliau dysgu dilys i gynnig byd o gyfleoedd i bob dysgwr.
Cymuned ac ymdrech ar y cyd
Mae llwyddiant addysg yng Nghymru yn dibynnu ar gydgyfrifoldeb ac ymdrech pawb dan sylw i ymgysylltu â chydweithwyr a'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r ysgol.
Uniondeb proffesiynol a chyfrifoldeb moesegol
Mae gweithwyr proffesiynol yn cynnal y safonau uchaf o uniondeb drwy weithredu er budd pennaf yr holl ddysgwyr, gan amddiffyn eu hawliau a diogelu eu llesiant. Maent yn herio arferion neu ymddygiadau a all gyfyngu ar gyfle unrhyw ddysgwr i lwyddo, hyd yn oed pan fydd hyn yn golygu bod angen bod yn ddewr neu gael sgyrsiau anodd.
Manteisio ar y safonau proffesiynol
Fel rhan o sgwrs barhaus a datblygiadol, nod y safonau proffesiynol yw datblygu pob unigolyn i fod y gorau y gall fod yn broffesiynol mewn system hunanwella i ysgolion sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu twf personol a datblygiad proffesiynol. Mae pawb sy'n ymwneud ag addysg yn cydnabod y cydbwysedd hanfodol rhwng proffesiynoldeb, llesiant a llwyth gwaith wrth osod gofynion ar gydweithwyr ac yn gosod disgwyliadau rhesymol ar gyfer eraill.
Safonau proffesiynol
Y safon ar gyfer addysgeg effeithiol
Mae gweithwyr proffesiynol yn derbyn atebolrwydd am eu datblygiad addysgegol eu hunain ac yn gweithio gydag eraill i fireinio dulliau addysgu a datblygu dysgu, gan sicrhau cynnydd pob dysgwr. Maent yn cymryd rhan mewn cylch parhaus o fyfyrio a gwella sy’n gwneud y canlynol:
- yn cefnogi disgwyliadau uchel i bob dysgwr
- yn hyrwyddo llesiant
- yn meithrin cariad at ddysgu am weddill eu hoes
Y safon ar gyfer cydweithio
Mae gweithwyr proffesiynol yn atgyfnerthu eu hymarfer drwy weithio'n agos gydag eraill yn eu hysgol eu hunain i gynyddu effeithiolrwydd drwy gyfrannu at hinsawdd o ymddiriedaeth, cydgefnogaeth a chydfeddwl. Maent yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ag ysgolion eraill a phartneriaid ehangach i wella effeithiolrwydd proffesiynol ac ehangu addysgeg ac ymarfer effeithiol gan gyfrannu at welliant system gyfan.
Y safon ar gyfer dysgu proffesiynol
Mae gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol parhaus, gan ddyfnhau eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau drwy fyfyrio ac ymholi. Maent yn creu cyfleoedd pwrpasol am sgyrsiau ac ymholiadau trylwyr â chydweithwyr er mwyn meithrin twf ar y cyd ar draws cymunedau dysgu yn yr ysgol a thu hwnt, gan arwain at welliannau parhaus mewn addysgeg a deilliannau dysgwyr.
Y safon ar gyfer arloesi
Mae gweithwyr proffesiynol yn cofleidio arloesi drwy weithio, mewn ffordd reoledig a mesuredig, i ddatblygu technegau a dulliau gwell i wella ymarfer addysgegol a chynnydd dysgwyr. Maent yn cyfrannu at hinsawdd gadarnhaol ar gyfer arloesi, gan werthuso arferion yn gywir fel bod:
- ymarfer arloesol yn gydlynol
- deilliannau'n cael eu lledaenu a'u cymhwyso'n effeithiol
Y safon ar gyfer arweinyddiaeth
Mae gweithwyr proffesiynol yn sicrhau bod addysgeg wrth wraidd eu rôl arwain ac yn cydbwyso llwyth gwaith cynaliadwy a llesiant â disgwyliadau proffesiynol. Maent yn cydnabod eu cyfrifoldeb i ddangos agwedd gadarnhaol at eraill wrth geisio sicrhau datblygiad a gwelliant cydlynol ac eglur. Maent yn arwain cydweithwyr a'r gymuned ehangach i gyflawni uchelgeisiau addysgol Cymru er budd pennaf pob dysgwr.
Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2026 barhau i ddefnyddio'r safonau proffesiynol a oedd yn gymwys pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu.
Disgrifyddion a chwestiynau
Addysgeg
-
Mae dysgwyr yn fwy brwdfrydig ac awyddus i lwyddo pan fydd athrawon yn defnyddio dulliau sy'n briodol o safbwynt datblygiadol ac addysgegol sy'n eu helpu i wireddu dibenion y cwricwlwm.
Pa mor dda rydych yn deall ac yn addasu'r dulliau a ddefnyddir i lywio profiadau dysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol?
Pa mor dda rydych yn creu cyfleoedd gwerth chweil i ystod amrywiol o ddysgwyr wneud y canlynol:
- dod o hyd i'w hatebion eu hunain?
- dod yn feddylwyr beirniadol hyderus?
- chwarae rôl weithredol wrth lywio eu profiadau dysgu eu hunain?
Mewn deialog broffesiynol, pa mor dda rydych yn arwain, yn modelu ac yn dathlu dulliau cynhwysol o ddysgu sy'n annog sgiliau sy'n rhan annatod o'r pedwar diben?
Pa mor dda rydych yn creu diwylliant ac amgylchedd lle mae'r staff yn cael eu hannog i fabwysiadu a chymhwyso dulliau addysgegol perthnasol a chynhwysol sy'n galluogi pob dysgwr i wireddu dibenion y cwricwlwm?
Pa mor dda rydych yn cefnogi ysgolion a chyrff llywodraethu i fabwysiadu dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chymhwyso addysgeg afaelgar sy'n sicrhau cynnydd gwirioneddol ar gyfer yr ystod amrywiol o ddysgwyr?
-
Mae dysgu'n effeithiol pan fydd athrawon yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu yng nghyd-destun profiadau ac anghenion penodol pob dysgwr.
Pa mor dda rydych yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu? Sut mae'r ddealltwriaeth hon yn eich helpu i gefnogi dysgu effeithiol?
Pa mor effeithiol rydych yn diweddaru eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddatblygiad plant a phobl ifanc a'r goblygiadau ar gyfer eich addysgeg a'ch ymarfer? Pa mor dda rydych yn integreiddio dealltwriaeth newydd yn eich addysgu er mwyn dileu rhwystrau a chynyddu cyfranogiad?
Pa mor dda rydych yn modelu, yn hwyluso ac yn hyrwyddo dealltwriaeth gadarn o ddatblygiad dysgwyr a'u hanghenion yn eich tîm?
I ba raddau rydych yn arwain y gwaith o sicrhau dealltwriaeth ddofn o ddatblygiad dysgwyr er mwyn sicrhau addysgu o ansawdd uchel a dysgu effeithiol i bob dysgwr, gan roi sylw penodol i ddysgwyr sy'n wynebu anawsterau?
Pa mor llwyddiannus rydych yn defnyddio ffynonellau dibynadwy i hwyluso deialog drylwyr a buddiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth am ddatblygiad dysgwyr, gan alluogi athrawon ac arweinwyr i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain? I ba raddau y gallwch ddangos yr effaith y mae hyn wedi ei chael o ran cynnwys dysgwyr a gwella deilliannau bwriadedig?
-
Mae addysgeg effeithiol yn seiliedig ar ddysgu sy'n briodol i ddatblygiad drwy gydol y continwwm dysgu 3 i 19 oed a thu hwnt.
Pa mor dda rydych yn deall y rhesymau dros ddulliau dysgu gwahanol wrth i ddysgwyr ddatblygu? Sut mae hyn yn eich helpu i gefnogi'r dysgu?
Pa mor dda rydych yn deall y dulliau dysgu y mae eich dysgwyr wedi eu profi’n flaenorol? Sut mae hyn wedi llywio eich penderfyniadau addysgegol a'ch gwaith cynllunio ar gyfer cynnydd?
Pa mor effeithiol rydych yn meithrin dealltwriaeth ac ymarfer cydlynol yn y continwwm 3 i 19 oed yn eich maes cyfrifoldeb?
Pa mor dda rydych yn gwneud y canlynol:
- arwain dull ysgol gyfan o ddatblygu ymarfer addysgegol ar draws y continwwm 3 i 19?
- sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i addasu'r addysgu wrth i ddysgwyr aeddfedu fel unigolion ag anghenion gwahanol?
Pa systemau sydd ar waith i allu cynnal deialog broffesiynol am gynnydd dysgwyr, ac i ba raddau y mae llywodraethwyr yn rhan o'r sgyrsiau hyn?
Pa mor dda rydych yn deall datblygiad plant a phobl ifanc? I ba raddau rydych yn defnyddio'r continwwm 3 i 19 oed i lywio eich gwaith? Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi deialog ar draws cyfnodau i ddatblygu dulliau addysgol sy'n briodol i aeddfedrwydd a datblygiad cyfannol pob dysgwr?
-
Mae deall datblygiad dysgwyr, a'r ffactorau sy'n effeithio ar gynnydd, yn galluogi arferion addysgu i gefnogi deilliannau dysgu bwriadedig yn well.
Pa mor dda rydych yn deall anghenion datblygiadol y dysgwyr unigol rydych yn gweithio gyda nhw a'r ffactorau eraill sy'n effeithio ar eu cynnydd? Pa mor dda rydych yn addasu eich dull er mwyn iddynt gyflawni?
Pa mor dda rydych yn dylunio ac yn addasu profiadau dysgu i fynd i'r afael ag anghenion datblygiadol penodol eich dysgwyr a sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd? Pa mor effeithiol rydych yn galluogi'r rhai sy'n eich cefnogi i ddeall anghenion dysgwyr unigol?
Pa mor dda rydych yn helpu athrawon i feithrin cyd-ddealltwriaeth o ddatblygiad a chynnydd dysgwyr, gan eu helpu i gydnabod anghenion penodol eu dysgwyr ac ymateb iddynt?
Pa mor effeithiol y mae eich gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu, a dyluniad y cwricwlwm sy'n deillio o hynny, yn gwneud y canlynol:
- cefnogi datblygiad a chynnydd pob dysgwr?
- herio athrawon i ymateb i anghenion dysgu penodol ac ychwanegol?
Pa mor dda rydych yn galluogi ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod eu dealltwriaeth a'u camau gweithredu mewn perthynas â datblygiad a chynnydd dysgwyr yn gyson â'r disgwyliadau yn y Cwricwlwm i Gymru?
-
Mae gwybodaeth gyd-destunol am bob dysgwr a'r gymuned ehangach yn galluogi'r ddarpariaeth i wneud y mwyaf o’r dysgu.
Pa mor dda rydych yn adnabod cymuned y dysgwyr a'r ffactorau sy'n effeithio ar fywydau'r dysgwyr? Sut rydych yn helpu eraill i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gefnogi dysgu effeithiol yn yr ysgol?
Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio eich gwybodaeth am eich dysgwyr, eich ysgol a'r gymuned ehangach a'ch dealltwriaeth ohonynt i ddylunio ac addasu eich cwricwlwm a'ch dulliau addysgegol ar gyfer dysgwyr unigol?
Pa mor dda rydych yn cefnogi eich tîm i ddefnyddio gwybodaeth gyd-destunol yn effeithiol i lywio eu dulliau o ran y cwricwlwm ac addysgeg, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pob dysgwr?
I ba raddau rydych yn sicrhau bod gan staff yr wybodaeth angenrheidiol am gyd-destun yr ysgol a'i holl ddysgwyr a'u bod yn cymhwyso'r wybodaeth honno i ddylunio dulliau effeithiol o ymdrin â'r cwricwlwm a dulliau addysgegol effeithiol sy'n gwella'r dysgu? Pa mor effeithiol y mae cymorth amlasiantaethol yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol?
Pa mor dda rydych yn cefnogi'r broses o rannu a defnyddio gwybodaeth gyd-destunol ar draws grwpiau gwahanol o ddysgwyr yn y system ysgolion, gan alluogi athrawon ac arweinwyr i ddylunio, addasu a gwella eu hymarfer o ran y cwricwlwm a'u hymarfer addysgegol er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion cyd-destunol? I ba raddau y caiff cymorth amlasiantaethol ei gydlynu i roi’r gefnogaeth orau i ysgolion?
-
Mae ymgorffori'r cwricwlwm mewn cyd-destunau dilys, pwrpasol yn hanfodol i sicrhau presenoldeb, cyfranogiad a chynnydd pob dysgwr.
Pa mor dda rydych yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt gymryd rhan mewn profiadau dysgu sy'n seiliedig ar gyd-destunau dilys? Pa mor dda rydych yn helpu i feithrin ymdeimlad dysgwyr o fwynhad a hyder wrth ddysgu?
Pa mor dda rydych yn dylunio ac yn cyflwyno profiadau mewn cyd-destunau dysgu dilys sy'n helpu i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol?
Pa mor effeithiol rydych yn dangos ac yn darparu cyd-destunau dysgu dilys ac yn mesur eu heffaith wrth gefnogi datblygiad cynyddol pob dysgwr?
Pa mor effeithiol rydych yn hyrwyddo ac yn ymgorffori cyd-destunau dysgu dilys i gefnogi datblygiad cynyddol pob dysgwr i ymgysylltu'n llawn â'r Cwricwlwm i Gymru?
Pa mor dda rydych yn annog ac yn cefnogi eraill i ymgorffori defnydd pwrpasol o gyd-destunau dysgu dilys mewn ysgolion i gefnogi presenoldeb, cyfranogiad a chynnydd dysgwyr?
-
Gall dulliau addysgegol sy'n integreiddio technoleg yn foesegol, yn effeithiol ac yn gynhwysol wneud y canlynol:
- personoli'r dysgu
- hyrwyddo cymhwysedd digidol
- gwella hygyrchedd
- paratoi dysgwyr ar gyfer byd cynyddol ddigidol
Pa mor dda rydych yn cefnogi'r ysgol i sicrhau bod adnoddau digidol:
- yn hygyrch ac yn gynhwysol?
- yn cael eu defnyddio'n foesegol, yn feirniadol ac yn gyfrifol?
Pa mor effeithiol rydych yn dangos defnydd moesegol, beirniadol a chyfrifol o dechnoleg i ddatblygu cymhwysedd digidol a chyfoethogi'r dysgu?
Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi eich tîm i feithrin yr hyder a'r sgiliau i ymgorffori'r defnydd o dechnoleg mewn ffordd ddilys a chynhwysol?
Pa mor dda rydych yn arwain dull strategol ysgol gyfan o werthuso a chynllunio ar gyfer defnyddio technoleg sydd:
- yn foesegol?
- yn canolbwyntio ar y dysgwr?
- yn cynllunio ar gyfer y dyfodol?
Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo tegwch o ran mynediad, ymgysylltiad a chyfranogiad wrth ddysgu?
-
Mae'r dysgu yn fwyaf effeithiol pan fydd arferion pob dydd yr ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr, fel:
- brwdfrydedd
- hyder
- cyfrifoldeb
Fel model rôl cadarnhaol, pa mor llwyddiannus rydych yn annog dysgwyr i feithrin ymdeimlad o berthyn a pharodrwydd i ddysgu?
Sut rydych yn annog dysgwyr i ddatblygu agweddau cadarnhaol, ymdeimlad o berthyn, a pharodrwydd i ddysgu, drwy feithrin cydberthnasau cryf a rheoli eich amgylchedd dysgu?
Pa mor dda rydych yn cefnogi cyd-ddisgwyliadau sy'n hyrwyddo diwylliant o barch, safonau uchel ac agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr?
Pa mor effeithiol y mae polisïau ysgolion yn annog dysgwyr i:
- arfer cyfrifoldeb (yn hytrach na chydymffurfio â rheolau)?
- cymryd rhan hyderus yn eu dysgu?
I ba raddau y mae eich disgwyliadau o ysgolion yn hyrwyddo diwylliannau sy'n gyson yn cefnogi’r canlynol:
- agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr?
- dysgu o ansawdd uchel?
Pa mor effeithiol rydych yn mynd i'r afael ag arferion sy'n atal neu’n gwadu uchelgeisiau'r ysgol ar gyfer ei dysgwyr?
-
Mewn ysgolion lle defnyddir asesu'n effeithiol, caiff anghenion dysgwyr eu hadnabod a'u diwallu er mwyn sicrhau cynnydd.
Pa mor dda rydych yn defnyddio eich gwybodaeth am ddysgwyr a'ch arsylwadau arnynt i:
- cefnogi asesu?
- helpu i addasu'r dysgu a'r addysgu?
Pa mor dda rydych yn deall ac yn defnyddio asesu i adnabod anghenion dysgwyr a deall cynnydd, gan gydnabod sut y gellir defnyddio arferion addysgu ymaddasol i alluogi'r rhai sy'n wynebu llawer mwy o anhawster wrth ddysgu?
Pa mor dda mae eich tîm yn defnyddio gwybodaeth o asesiadau, gan gynnwys arsylwadau, i ddadansoddi, gwerthuso a gwella effeithiolrwydd addysgegol?
Pa mor dda rydych yn mynegi dibenion ac effeithiolrwydd asesu i'r amrywiaeth o randdeiliaid ac asiantaethau dan sylw? Pa mor effeithiol rydych yn dadansoddi, yn gwerthuso ac yn cefnogi eich ysgol i ddefnyddio arferion sy'n gyson ag egwyddorion asesu i gyfoethogi'r dysgu a sicrhau cynnydd?
Pa mor dda rydych yn helpu ysgolion a chyrff llywodraethu i ddefnyddio arferion asesu i alluogi dysgu? Pa mor dda rydych yn herio arferion asesu aneffeithiol? Pa mor dda rydych yn hwyluso'r broses o rannu arferion asesu effeithiol rhwng ysgolion, gan gynnwys yn ystod cyfnodau pontio, er budd pob dysgwr? Pa mor dda rydych yn helpu ysgolion i adnabod a darparu ar gyfer dysgwyr:
- sy'n wynebu llawer mwy o anhawster wrth ddysgu?
- y mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt?
Cydweithio
-
Mae manteisio ar gyfleoedd i geisio a chynnig cyngor proffesiynol, gan gynnwys defnyddio mewnbwn amlasiantaethol, i gefnogi gwaith myfyrio, ymholi a datrysiadau ar y cyd:
- yn atgyfnerthu cydgyfrifoldeb
- yn gwella'r addysgu
- yn dod â budd i bawb
Pa mor effeithiol rydych wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol, gan gynnig eich gwybodaeth a cheisio cyngor gan eraill, i gefnogi'r dysgu yn y ffordd orau posibl?
Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol, gan gyfrannu cyngor a chymorth yn seiliedig ar eich profiadau eich hun, yn ogystal â cheisio dysgu a chael budd o gyngor gan eraill? Pa effaith y mae'r cydweithio hwn wedi ei chael arnoch chi, eich cydweithwyr, a'ch dysgwyr?
Pa mor dda rydych yn creu ac yn modelu cyfleoedd ar gyfer cyd-gymorth a chyngor pwrpasol o fewn eich tîm a thu hwnt? Sut mae hyn wedi cael effaith?
Pa mor effeithiol rydych yn hyrwyddo ac yn ymgorffori trefniadau cydweithio yn eich ysgol, mewn partneriaeth â'r llywodraethwyr a phartneriaid amlasiantaethol allanol, er mwyn gwella ymarfer proffesiynol? Pa enghreifftiau sydd gennych o effaith y cydweithio hwn ar ddeilliannau dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol?
Pa mor llwyddiannus rydych yn galluogi'r broses o gyfnewid cyngor a chymorth, o fewn ac ar draws eich cymuned eich hun o ysgolion, a thu hwnt? Pa mor effeithiol y mae asiantaethau allanol wedi cael eu cynnwys yn y broses hon? Pa dystiolaeth sydd gennych o effaith y cydweithio hwn ar y system?
-
Daw addysgu yn fwy effeithiol pan fydd gweithwyr proffesiynol yn myfyrio ar eu hymarfer addysgegol presennol eu hunain ac yn ei werthuso drwy sgyrsiau proffesiynol a arweinir.
Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol â chydweithwyr am wella addysgeg i ddysgwyr?
Pa mor effeithiol rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau bwriadol am addysgeg â chydweithwyr er mwyn datblygu ymarfer mwy effeithiol, effeithlon a phleserus i bob dysgwr?
I ba raddau rydych yn annog eich tîm i drafod a myfyrio ar ddulliau addysgegol, gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil dilys a dibynadwy i wella ymarfer?
Pa mor dda rydych yn arwain ac yn rheoli sgyrsiau proffesiynol am addysgeg i alluogi athrawon i gydweithio i ddatblygu a mireinio dulliau gweithredu er budd pob dysgwr?
Pa mor effeithiol rydych yn hwyluso sgyrsiau proffesiynol o fewn ac ar draws ysgolion am werthoedd, egwyddorion ac ymarfer addysgegol, i hyrwyddo cynhwysiant a sicrhau gwelliant i bob dysgwr?
-
Gellir sicrhau gwelliant ar y cyd pan gaiff adnoddau eu rhannu o fewn a rhwng ysgolion, asiantaethau a chymunedau. Drwy rannu gwybodaeth ac arferion gorau, gall ysgolion ddysgu o gryfderau ei gilydd a chreu datrysiadau costeffeithiol mwy effeithlon.
Pa mor dda rydych yn gweithio gydag eraill i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau?
I ba raddau rydych yn gweithio gydag eraill i ddatblygu adnoddau ac arferion gorau yn effeithiol ar y cyd?
Pa mor effeithlon rydych yn rheoli amser, adnoddau a lle fel bod eich tîm yn gallu gweithio'n effeithiol er budd pennaf dysgwyr?
I ba raddau rydych yn datblygu diwylliant agored a chydgefnogol o wella dysgwyr drwy rannu adnoddau ar gyfer gwaith ar y cyd? Pa mor dda rydych yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ag ysgolion eraill, asiantaethau a'r gymuned?
I ba raddau rydych yn adnabod ac yn hwyluso cydweithio effeithiol mewn perthynas â phenderfyniadau am adnoddau:
- er budd ysgolion?
- er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar ddysgwyr?
Dysgu proffesiynol
-
Mae dysgu proffesiynol yn effeithiol pan fydd newidiadau cadarnhaol mewn agweddau, ymddygiadau ac arferion proffesiynol yn arwain at wella ysgolion.
Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio eich profiadau dysgu proffesiynol i'ch galluogi i gefnogi dysgwyr?
I ba raddau y gallwch adnabod effaith eich dysgu proffesiynol arnoch chi eich hun fel athro neu athrawes ac ar gynnydd cyfannol dysgwyr?
I ba raddau rydych yn modelu, yn hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol pwrpasol sy'n cyfrannu at welliant parhaus ar draws blaenoriaethau'r ysgol?
I ba raddau rydych yn datblygu, yn modelu ac yn cynnal diwylliant lle mae dysgu proffesiynol wedi'i ymgorffori, a lle mae'r dysgu proffesiynol hwnnw'n gydweithredol ac yn seiliedig ar gynllunio i wella'r ysgol?
I ba raddau rydych yn cefnogi ysgolion yn unigol ac ar y cyd, ynghyd â chyrff llywodraethu, i ddatblygu, rhannu a defnyddio dysgu proffesiynol i ysgogi gwelliant?
-
Mae cymryd cyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol yn rhan ddisgwyliedig o dwf a datblygiad personol a phroffesiynol, wedi'i lywio’n gyfartal gan flaenoriaethau unigol, lleol a chenedlaethol.
Pa mor dda rydych yn defnyddio adborth ac yn myfyrio ar eich profiadau i adnabod meysydd i ddatblygu'n broffesiynol? Sut mae hyn o fudd i'r dysgwyr rydych yn eu cefnogi?
Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth i adnabod eich anghenion dysgu proffesiynol? Pa mor dda rydych yn sicrhau bod eich profiadau dysgu proffesiynol yn cael effaith gadarnhaol ar eich ymarfer ac yn gwella deilliannau dysgwyr?
I ba raddau rydych yn galluogi aelodau o'ch tîm i fyfyrio ar eu dysgu proffesiynol eu hunain a chymryd cyfrifoldeb amdano? Pa mor dda rydych yn eu cefnogi i adnabod a chydbwyso eu blaenoriaethau unigol a blaenoriaethau'r tîm ar gyfer dysgu? Pa mor dda rydych yn eu cefnogi i ddefnyddio'r profiadau hyn yn effeithiol ar draws y tîm?
I ba raddau rydych yn defnyddio canfyddiadau hunanwerthusiad ysgol gyfan i adnabod eich anghenion dysgu proffesiynol eich hun a’ch cydweithwyr, er mwyn cefnogi gwella’r ysgol?
Ym mha ffyrdd rydych yn cydlynu cyfleoedd dysgu proffesiynol yn effeithiol ar draws ysgolion er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eich dysgu proffesiynol eich hun a dysgu proffesiynol mewn lleoliadau eraill? Sut y gall hyn fod yn fwy effeithiol?
-
Bydd y gallu i gael mynediad a chymryd rhan mewn profiadau dysgu proffesiynol strwythuredig ac achlysurol, ffurfiol ac anffurfiol, o fudd i unigolion ac ysgolion. Dylai unigolion fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy'n gyson â dulliau gweithredu cenedlaethol.
Pa mor dda mae cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol yn galluogi newidiadau cadarnhaol i'r cymorth rydych yn ei gynnig i ddysgwyr?
I ba raddau rydych yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau dysgu proffesiynol ffurfiol ac anffurfiol sydd:
- yn herio eich credoau, eich meddylfryd a'ch arferion?
- yn cefnogi newidiadau cadarnhaol yn eich arferion addysgu?
Pa mor dda rydych yn sicrhau bod eich tîm yn cael mynediad teg at gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd:
- yn cyflawni blaenoriaethau'r ysgol a blaenoriaethau cenedlaethol?
- yn diwallu anghenion datblygu unigol?
I ba raddau rydych yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau dysgu proffesiynol sy'n herio eich meddylfryd fel arweinydd? Pa mor dda rydych yn dangos gwerth eich dysgu eich hun i'ch staff, llywodraethwyr a chydweithwyr?
I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol parhaus eich hun yn gwella eich gallu i gefnogi eich ysgolion ym mhob rhan o'r system?
-
Mae dysgu proffesiynol yn effeithiol pan fydd:
- yn ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
- yn cael ei ddefnyddio er budd pob dysgwr
Pa mor effeithiol rydych yn myfyrio ar eich dysgu proffesiynol ac yn ei ddefnyddio i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd?
Pa mor dda rydych yn sicrhau bod eich dysgu proffesiynol parhaus yn berthnasol ac yn cael ei gymhwyso mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion penodol ac unigol dysgwyr yn briodol?
Pa mor dda rydych yn cefnogi eich tîm i sicrhau bod dysgu proffesiynol yn effeithiol ac yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu? Sut rydych yn mesur ei effeithiolrwydd?
Pa mor dda rydych:
- yn hwyluso diwylliant o ddysgu ac ymholi proffesiynol?
- yn rhoi profiad perthnasol ac amserol i gydweithwyr?
I ba raddau rydych yn sicrhau bod y profiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol fel eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar bob dysgwr?
I ba raddau rydych yn cefnogi ysgolion yn strategol i adnabod a hwyluso cyfleoedd dysgu proffesiynol angenrheidiol a pherthnasol sy'n gyson ag arferion cydlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Sut rydych yn rhannu arferion da ar draws eich ysgolion a'ch lleoliadau er budd y system ehangach?
-
Bydd adnabod a chydlynu dysgu proffesiynol priodol o ansawdd uchel yn atgyfnerthu ac yn gwella'r addysgu a'r arweinyddiaeth.
I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol wedi eich helpu i gefnogi gweledigaeth yr ysgol?
I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol yn gwneud gwahaniaeth i chi, eich dysgwyr a'ch ysgol? Sut rydych yn defnyddio adborth gan eraill, gan gynnwys dysgwyr, i wella deilliannau i bawb?
I ba raddau rydych yn sicrhau eich bod chi a'ch tîm yn rhannu ac yn myfyrio ar ddysgu proffesiynol, ac yn cydweithio'n effeithiol er mwyn helpu i wella'r ysgol yn barhaus?
I ba raddau rydych yn sicrhau eich bod chi a'ch staff yn cael digon o le ac amser i gymryd rhan mewn, a rhannu, dysgu proffesiynol sy'n cael effaith gadarnhaol ar wella'r ysgol gyfan drwy wella effeithlonrwydd a mwynhad y staff?
Pa mor llwyddiannus rydych yn arwain neu'n cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol cyffredinol a phwrpasol ochr yn ochr ag arweinwyr a chyrff llywodraethu i sicrhau deilliannau dysgu gwell i chi eich hun a'r system?
Arloesi
-
Mae sefydlu a chymhwyso arferion arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn grymuso athrawon ac arweinwyr i archwilio, addasu a chyd-greu.
Pa mor dda rydych yn cefnogi arloesedd yn eich maes gwaith? Pa mor effeithiol rydych yn cyfrannu awgrymiadau i gyfoethogi'r dysgu?
Pa mor effeithiol rydych yn cynnwys dysgwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol wrth siapio, treialu a gwerthuso datblygiadau arloesol newydd er mwyn cyfoethogi'r dysgu?
Pa mor effeithiol rydych yn creu diwylliant o chwilfrydedd, ymholi a chymryd risgiau ymhlith eich staff ac yn grymuso cydweithwyr i ehangu ac ymgorffori arferion arloesol? Sut rydych yn sicrhau bod arferion arloesol yn parhau i fod yn foesegol, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr, ac nad ydynt yn ymatebol neu'n seiliedig ar dueddiadau?
Pa mor dda rydych yn ennyn ymddiriedaeth ac yn galluogi ymagwedd agored at arloesi ac ymholi proffesiynol sy'n foesegol, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr? Pa mor dda rydych yn cysylltu datblygiadau arloesol eich ysgol â diwygiadau, ymchwil a threfniadau cydweithio ar draws y system gyfan i sicrhau cysondeb a chynaliadwyedd?
Pa mor llwyddiannus rydych yn galluogi ysgolion i arloesi o fewn fframwaith o ymddiriedaeth, hyblygrwydd ac egwyddorion moesegol clir? Pa strategaethau rydych yn eu defnyddio i feithrin capasiti a defnyddio amser, adnoddau a rhwydweithiau i arloesi'n gynaliadwy ar draws cyd-destunau amrywiol ysgolion?
-
Mae chwilfrydedd ac ymholi proffesiynol yn arwain at ymarfer arloesol sy'n sicrhau gwelliant.
Pa mor dda rydych yn ceisio gwella ymarfer? Ym mha ffyrdd y mae hyn wedi gwella'r ffordd rydych yn cefnogi dysgwyr?
I ba raddau rydych yn arloesi er mwyn gwella eich ymarfer addysgu eich hun?
Pa mor dda rydych yn annog, yn modelu ac yn hwyluso dulliau arloesol ymhlith eich tîm? Sut rydych yn sicrhau bod hyn yn arwain at welliannau parhaus?
I ba raddau rydych yn annog, ac yn rhoi arweinyddiaeth strategol, ar gyfer y broses o roi systemau a gweithdrefnau arloesol ar waith yn eich ysgol? Sut mae hyn yn cael ei werthuso?
I ba raddau rydych yn hwyluso ac yn cefnogi'r broses o ddatblygu arferion arloesol mewn ysgolion? Sut rydych yn sicrhau bod yr arferion hyn yn ystyrlon ac yn cael eu rhannu'n briodol ar draws y system ehangach?
-
Mae diwylliant sy'n ymgorffori arferion arloesol, ochr yn ochr â gwaith gwerthuso a mireinio parhaus, yn arwain at wella'r dysgu a'r addysgu yn barhaus.
Pa mor dda rydych yn rhannu eich canfyddiadau o'r ffordd y mae arloesedd yn gwella'r dysgu?
Pa mor effeithiol y mae newidiadau i'ch ymarfer wedi bod, a sut rydych wedi gwerthuso eu heffaith ar eich dysgwyr?
Pa mor dda rydych yn gwerthuso pa welliannau arloesol y dylid eu mireinio a'u hehangu er budd cydweithwyr ac er mwyn gwella'r addysgu yn yr ysgol?
Pa mor llwyddiannus rydych yn sicrhau bod newidiadau arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu gyrru gan y cyd-destun, ac yn arwain at wella'r dysgu a'r addysgu yn barhaus?
Pa mor dda rydych yn sicrhau bod arferion arloesol yn cael eu gwerthuso a'u rhannu'n effeithiol ag ysgolion er mwyn rhannu canfyddiadau a gwybodaeth?
Arweinyddiaeth
-
Mae ysgolion effeithiol yn gweithio tuag at weledigaeth ar gyfer pob dysgwr, sy’n cael ei rhannu a’i deall yn glir, ac sy’n adlewyrchu disgwyliadau cenedlaethol wrth iddynt newid, ac yn adlewyrchu anghenion penodol eu cymunedau.
Pa mor dda rydych yn cyfrannu at weledigaeth a gwerthoedd eich ysgol i gefnogi dysgwyr?
I ba raddau rydych yn myfyrio ar y ffordd rydych yn arwain y dysgu a'r addysgu i hyrwyddo gweledigaeth a rennir gan yr ysgol yn eich ymarfer pob dydd?
Pa mor dda rydych yn gwerthuso effaith y dysgu a'r addysgu ac yn arwain sgyrsiau penodol â chydweithwyr er mwyn helpu i wireddu gweledigaeth a rennir gan yr ysgol?
Pa mor effeithiol rydych yn gwerthuso ac yn herio cynnydd, deilliannau a llesiant dysgwyr, yn unol â gweledigaeth yr ysgol a'i datblygiad fel sefydliad sy'n dysgu?
Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi ysgolion i ddatblygu'n sefydliadau sy'n dysgu’n effeithiol, ac sy'n addasu i newid ac yn alinio â'r agenda addysg yng Nghymru? I ba raddau rydych yn cyfrannu at y weledigaeth ar y cyd i sicrhau gwelliant lleol mewn ysgolion?
-
Mae ysgolion effeithiol yn creu amodau lle mae disgwyliadau proffesiynol, llwyth gwaith a llesiant yn cael eu hystyried gyda'i gilydd a'u cydbwyso'n briodol, gan alluogi'r staff i ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyflawni'r deilliannau gorau posibl i ddysgwyr. Rhoddir cyfleoedd i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol am lwyth gwaith, llesiant ac ymarfer cynaliadwy. Mae trefniadau gwella ysgolion, dysgu proffesiynol ac arferion gweithredol wedi'u dylunio i fod yn gymesur, yn gynaliadwy ac yn ymatebol i gapasiti staff, gan adlewyrchu cydnabyddiaeth realistig o'r gofynion a osodir ar gydweithwyr yn yr ysgol a thu hwnt.
Pa mor effeithiol rydych yn trefnu ac yn rheoli eich gwaith mewn partneriaeth â chydweithwyr i gyfrannu'n gadarnhaol at brofiadau dysgwyr gan gynnal eich llesiant eich hun ar yr un pryd? Pa mor dda rydych yn gallu cymryd rhan mewn deialog broffesiynol am flaenoriaethu tasgau a defnyddio eich amser yn effeithiol?
Pa mor hyderus ydych wrth geisio cymorth a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol pan fydd llwyth gwaith yn dechrau effeithio ar eich effeithiolrwydd neu'ch llesiant?
Pa mor dda mae eich dulliau cynllunio, asesu ac adborth yn eich galluogi i weithio'n effeithlon? Pa mor briodol rydych yn ceisio ac yn defnyddio cymorth gan gydweithwyr i wella eich ymarfer a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol?
Pa mor hyderus ydych wrth geisio cymorth a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol pan fydd llwyth gwaith yn dechrau effeithio ar eich effeithiolrwydd neu'ch llesiant?
Pa mor effeithiol rydych yn creu amodau sy'n galluogi cydweithwyr i weithio'n gynaliadwy gan ymateb i flaenoriaethau a gofynion sy'n dod i'r amlwg? Pa mor effeithiol rydych yn modelu arferion gwaith cynaliadwy, gan hyrwyddo deialog broffesiynol am lwyth gwaith, llesiant a blaenoriaethau ar gyfer datblygu?
Pa mor hyderus ydych wrth geisio cymorth a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol pan fydd llwyth gwaith yn dechrau effeithio ar eich effeithiolrwydd neu'ch llesiant?
Pa mor effeithiol rydych yn ystyried yr effaith ar lwyth gwaith a llesiant staff wrth gynllunio:
- blaenoriaethau gwella'r ysgol?
- dysgu proffesiynol?
- calendr yr ysgol?
Pa mor effeithiol rydych yn sicrhau bod strwythurau cymorth priodol ar gael pan fydd pryderon am lwyth gwaith neu lesiant yn codi? Pa mor rheolaidd rydych yn myfyrio ar y ffordd y mae eich arferion arwain yn dylanwadu ar lwyth gwaith a llesiant eraill, yn ogystal â'ch llwyth gwaith a'ch llesiant chi eich hun?
Pa mor hyderus ydych wrth geisio cymorth a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol pan fydd llwyth gwaith yn dechrau effeithio ar eich effeithiolrwydd neu'ch llesiant?
Pa mor effeithiol rydych:
- yn ystyried goblygiadau'r cyngor, yr arweiniad a'r gweithgareddau datblygu rydych yn eu cynnig i arweinwyr a staff ysgolion o ran llwyth gwaith?
- yn creu cyfleoedd i gymryd rhan mewn deialog am lwyth gwaith a llesiant ym mhob rhan o'r system?
Pa mor dda rydych yn rheoli eich llwyth gwaith eich hun ac yn dangos ymarfer proffesiynol cynaliadwy?
Pa mor hyderus ydych wrth geisio cymorth a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol pan fydd llwyth gwaith yn dechrau effeithio ar eich effeithiolrwydd neu'ch llesiant?
-
Mae meithrin partneriaethau cadarnhaol â theuluoedd, y gymuned ehangach a rhanddeiliaid yn cynyddu effeithiolrwydd y dysgu a'r addysgu.
Pa mor dda rydych yn cyfrannu at ymdrechion yr ysgol i feithrin cydberthnasau cadarnhaol â theuluoedd a'r gymuned ehangach?
Pa mor dda rydych yn gweithio gyda theuluoedd, asiantaethau a rhanddeiliaid i sicrhau parodrwydd i ddysgu a gwella'r dysgu?
Pa mor dda y mae eich tîm yn manteisio ar gyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r ysgol er budd y dysgwyr? Pa strategaethau rydych yn eu defnyddio i sicrhau bod yr ymgysylltu hwn yn gynhyrchiol ac yn barhaus?
Pa mor effeithiol rydych yn gwrando, yn cyfathrebu ac yn dangos gweledigaeth a rennir gan yr ysgol yn gadarnhaol yn y gymuned? I ba raddau y mae hyn yn cryfhau cydgyfrifoldeb am ysgolion a dysgu? Pa gamau rydych yn eu cymryd i wneud y canlynol:
- meithrin yr hyder sydd ei angen i sicrhau ymgysylltu effeithiol rhwng teuluoedd a'r ysgol?
- adnabod unrhyw rwystrau a allai fodoli a mynd i’r afael â nhw?
Sut rydych yn cefnogi ac yn galluogi ysgolion, asiantaethau a rhanddeiliaid i ddeall, blaenoriaethu a gweithredu ar bwysigrwydd ymgysylltu'n gadarnhaol â theuluoedd a'r gymuned fel ffordd o ysgogi gwelliant?
-
Mae ysgolion effeithiol yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr:
- yn cael y cyfle i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau
- yn cael y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen i oresgyn unrhyw rwystrau o ran eu presenoldeb, eu cyfranogiad a'u cyflawniad er mwyn gwireddu eu potensial
Pa mor dda rydych yn cyfrannu at amgylchedd dysgu teg a chynhwysol lle mae’r holl ddysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu gwireddu eu potensial?
Pa mor dda rydych yn deall bywydau a phrofiadau eich dysgwyr, ac yn ystyried eu profiadau ehangach wrth ddylunio profiadau dysgu a datblygu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys?
Pa mor effeithiol rydych yn arwain ac yn cefnogi eich tîm i wneud y canlynol:
- deall bywydau a phrofiadau dysgwyr?
- dylunio dysgu sy'n hyrwyddo addysg deg a chynhwysol?
Pa mor dda rydych yn galluogi dealltwriaeth o fywydau a phrofiadau dysgwyr wrth ddylunio'r cwricwlwm a datblygu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys, a'u bod yn llwyddo? I ba raddau rydych yn meithrin parch ac agwedd gadarnhaol ymhlith y staff, dysgwyr, a rhanddeiliaid ac yn herio stereoteipiau niweidiol neu gyfyngol?
Pa mor dda rydych yn cefnogi ac yn herio ysgolion a chyrff llywodraethu i feithrin parch rhwng ysgolion a'u cymunedau gan sicrhau profiad addysgol teg a chynhwysol i bawb?
-
Mae ysgolion sy'n gwrando ac yn ymateb i leisiau dysgwyr yn gweld cynnydd mewn lefelau presenoldeb, cyfranogiad a chyflawniad ac maent yn gallu diwallu anghenion a chyflawni'r pedwar diben yn fwy effeithiol.
Pa mor dda rydych yn defnyddio llais y dysgwr i feithrin cydberthnasau llawn ymddiriedaeth a chyflawni'r pedwar diben?
Pa mor llwyddiannus rydych yn ymgysylltu â dysgwyr i adnabod a gweithredu ar eu blaenoriaethau, eu llwyddiannau, eu pryderon a'u rhwystredigaethau?
I ba raddau rydych yn ymwybodol o safbwyntiau amrywiol dysgwyr am eu profiadau? I ba raddau rydych wedi cysylltu'r amrywiaeth hon â deilliannau? Pa mor effeithiol rydych yn gweithredu ar yr wybodaeth hon?
Pa mor effeithiol yw'r dulliau o gasglu safbwyntiau dysgwyr, ar y cyd ac yn unigol? I ba raddau y mae'r ysgol yn ymateb iddynt? Pa mor effeithiol mae'r ysgol yn cydnabod ac yn adlewyrchu rôl dysgwyr fel arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain?
I ba raddau rydych yn ymwybodol o safbwyntiau dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau? Pa mor dda rydych yn galluogi'r safbwyntiau hyn i gael eu defnyddio mewn ffordd gadarnhaol i sicrhau gwelliant?
-
Lle y caiff arferion hunanwerthuso a chynllunio gwelliant eu mireinio'n ofalus a'u defnyddio'n dda, mae'r ysgol yn gynyddol effeithiol.
Pa mor dda rydych yn myfyrio ar eich ymarfer a'i effaith, gan awgrymu gwelliannau pan fo angen?
Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn gwaith hunanwerthuso o ran eich addysgu eich hun yng nghyd-destun gweledigaeth yr ysgol? Pa mor dda y mae hyn yn llywio gwaith cynllunio gwelliant yr ysgol?
I ba raddau y mae hunanwerthuso wedi taflu goleuni ar waith eich tîm a'ch arweinyddiaeth, a pha newidiadau i arferion sydd wedi'u gwneud o ganlyniad i hynny?
Pa mor dda rydych yn gwerthuso gwaith eich ysgol eich hun? Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymholi a safbwyntiau allanol i wneud y canlynol:
- meithrin gwybodaeth?
- sefydlu cynlluniau effeithiol ar gyfer gwella?
Pa mor llwyddiannus rydych yn gwerthuso eich gwaith eich hun o ran galluogi'r ysgolion rydych yn eu cefnogi i wneud y canlynol:
- deall eu mannau cychwyn a sicrhau gwelliant yn eu herbyn?
- rhoi eu cynlluniau datblygu ar waith?
-
Bydd arweinyddiaeth sy'n sicrhau cydlyniant rhwng gweledigaeth, gwerthoedd ac ymarfer yn cael effaith fwy cadarnhaol ar ddysgu a llesiant.
I ba raddau y mae eich ymarfer yn gyson â gweledigaeth a gwerthoedd eich ysgol?
I ba raddau y mae eich ymarfer yn gyson â gweledigaeth a gwerthoedd addysg yng Nghymru?
Pa mor dda rydych yn sicrhau cydlyniant o ran disgwyliadau dysgu ar draws eich tîm? Pa mor dda rydych yn adnabod ac yn taclo unrhyw ddiffyg cydlyniant?
Pa mor effeithiol rydych yn arwain ac yn gyrru'r weledigaeth ar gyfer dysgu er mwyn sicrhau cydlyniant disgwyliadau a phrofiadau dysgu ym mhob rhan o gymuned yr ysgol?
Pa mor llwyddiannus rydych yn cefnogi ac yn herio eraill i ymgorffori a gyrru gweledigaeth gydlynol sy'n alinio ac yn symud gyda'r agenda addysg yng Nghymru?