English

Y weledigaeth yw ysbrydoli ein pobl ifanc i fod yn gyfranwyr arloesol i'w cymunedau trwy gofleidio diwylliant a hanes ein cenedl, ein hangerdd am rygbi Cymru a’n creadigrwydd gan ddefnyddio Minecraft Education. Hwylusir hyn trwy gystadleuaeth Her Clwb y Dyfodol Undeb Rygbi Cymru. Cystadleuaeth a fydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr o Fôn i Fynwy ddylunio ac adeiladu eu clwb y dyfodol rhithiol eu hunain o fewn Minecraft Education. Yn ogystal, cystadleuaeth a fydd yn cyfoethogi'r broses o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru!

Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i agweddau gwahanol ar rygbi a bywyd y clwb rygbi trwy gyfrwng ail-gread Minecraft Education o Stadiwm Principality, Caerdydd. Bydd dysgwyr yn teithio drwy Stadiwm Principality rhithwir gan ddarganfod ardaloedd a mannau allweddol o fewn yr adeilad. Ar y daith, bydd dysgwyr yn dod ar draws cymeriadau NPC (cymeriadau nad ydynt yn chwaraewyr) a fydd yn datgelu gwybodaeth am yr ardal dan sylw. Ar y pwynt hwnnw wedyn, bydd dysgwyr ac athrawon yn cael y cyfle i gael gafael ar ragor o wybodaeth, gan gynnwys ffeithiau, ffigurau a deunyddiau gweledol fel lluniau a fideos y tu ôl i'r llenni gan Undeb Rygbi Cymru ar wahanol agweddau ar rygbi Cymru. Bydd yn caniatáu iddyn nhw archwilio byd rygbi o safbwyntiau gwahanol, gyda chyfle i gysylltu ag ystod o feysydd Dysgu a Phrofiad.

Mae’r wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu ar y daith o amgylch y stadiwm a'r tasgau dilynol a gyflwynir yn yr ystafell ddosbarth wedi eu cynllunio mewn ffordd a fydd yn herio syniadau'r disgyblion o beth allai 'Clwb y Dyfodol' ei gynnwys o safbwynt amrywiaeth a chynhwysiant, trefn hyfforddi timau, gofynion maeth chwaraewyr a hyd yn oed profiad y cefnogwyr.

Mae chwe cham i'r her gyffredinol:

  • Archwilio ac Ymchwilio (drwy fyd Minecraft Stadiwm Principality)
  • Ymchwil
  • Cynllunio
  • Adeiladu
  • Rhannu gwybodaeth
  • Creu arweiniad ar ffurf fideo o'r hyn a adeiladodd y dysgwyr

Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ystyried eu cymuned leol, ymchwilio ac archwilio'r anghenion yn eu hardaloedd lleol cyn dechrau datblygu cynllun ar gyfer 'clwb rygbi'r dyfodol’ ar gyfer eu bro. O'r cynllun, byddan nhw'n dechrau'r gwaith adeiladu yn Minecraft Education. Daw’r cyfan i ben gyda recordiad sgrin ac arweiniad wedi’i drosleisio o’u 'Clwb y Dyfodol’. Bydd yn gyfle i’r dysgwyr esbonio elfennau gwahanol o'u 'Clwb y Dyfodol' y tu hwnt i'r adeilad ffisegol ym myd Minecraft.

Drwy'r cam 'Archwilio ac Ymchwilio', mae opsiwn gan addysgwyr i drefnu bod eu dysgwyr yn canolbwyntio ar ystod eang o weithgareddau fel ymchwilio i faeth a bwyta'n iach o safbwynt chwaraewyr rygbi ac unigolion nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw chwaraeon. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddylunio bwydlen o brydau maethlon ac iach am ddiwrnod cyfan, gan ystyried yr achlysuron cymdeithasol gwahanol lle mae bywyd yn ganolog. Bydd y cyfan yn cysylltu â Meysydd Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles a'r Dyniaethau.

Mae meysydd cwricwlwm eraill yn cynnwys Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Bydd dysgwyr yn ystyried sut mae papurau newydd wedi cael dylanwad ar sicrhau bod rygbi yn rhan annatod o fywyd y genedl. Gallai dysgwyr roi cynnig ar ysgrifennu erthygl papur newydd neu hyd yn oed chwarae rôl mewn cyfweliad fideo.

Dylai addysgwyr ddehongli a chymhwyso'r defnydd o'r ystod eang o adnoddau ategol yn unol â'r grwpiau oedran perthnasol o ran hyd a lled y cymhwyso. Hefyd, anogir addysgwyr i fod yn arloesol wrth gymhwyso’r prosiect i'r Maes Dysgu a Phrofiad mwyaf perthnasol, er mwyn cynnig y profiad mwyaf gwerth chweil a difyr i'w dysgwyr eu hunain.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth: 22 Mawrth 2024, am 23:00

  • Mae strwythur y gystadleuaeth wedi'i ddylunio ar gyfer Cam(au) Cynnydd lefelau mynediad cysylltiedig a lefel mynediad ADY:

    • Cam Cynnydd 1 a 2
    • Cam Cynnydd 3
    • Cam Cynnydd 4 a 5
    • ADY

    Mae tair rhan i'r gystadleuaeth:

    1. Rownd leol (ysgolion unigol) – Dyddiad cau: Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
    2. Rownd gynderfynol ranbarthol – byddwn yn cyhoeddi 1 enillydd o bob ystod oedran ar gyfer pob consortiwm / rhanbarth erbyn dydd Gwener 17 Mai 2024
    3. Rownd derfynol genedlaethol – Dydd Iau 13 Mehefin 2024 Stadiwm Principality

    Rownd leol – Cam Un

    Dylai pob ysgol sy'n cofrestru gynnal eu cystadleuaeth eu hunain yn yr ysgol ar gyfer eu dysgwyr. Bydd tystysgrifau ar gael i ysgolion ddyfarnu i'w dysgwyr sy’n cymryd rhan.

    Mae tystysgrifau ar gael yn WRU Club of the Future Team/Resources Channel/Files/Additional Resources Appendix

    Bydd angen i bob ysgol feirniadu a dewis cais ar gyfer pob lefel mynediad sy’n berthnasol iddyn nhw (h.y. gallai ysgol gynradd gyflwyno dau gais - un ar gyfer Cam Cynnydd 1 a 2 ac un ar gyfer Cam Cynnydd 3. Gallai ysgol uwchradd gyflwyno un cais ar gyfer Cam Cynnydd 4 a 5. Gallai ysgol sy'n cwmpasu'r tair ystod oedran gyflwyno tri chais.)

    Gweler y Drefn Farcio yn WRU Club of the Future Team/Resources Channel/Files

    Anogir ceisiadau grwp o tua phedwar dysgwr. Fodd bynnag, mae croeso i hyd at ddeg dysgwr fesul cyflwyniad, ond dim mwy. Bydd cyflwyniadau unigol yn cael eu derbyn hefyd.

    Byddai'r ceisiadau hyn yn mynd i'r rownd ranbarthol.

    Rownd gynderfynol ranbarthol – Cam Dau

    Bydd y ceisiadau o'r rownd leol yn cael eu beirniadu gan Arweinwyr Digidol y Consortiwm Rhanbarthol a Hwb, a nhw fydd yn cynrychioli'r Rhanbarth ym mhob lefel mynediad yn y rownd derfynol genedlaethol.

    Bydd y dewis yn seiliedig ar ddull y Drefn Farcio. Bydd y cysylltiadau â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r Cwricwlwm i Gymru a nodwyd gan yr addysgwr yn y cyflwyniad hefyd yn cael eu hystyried.

    Y rownd derfynol genedlaethol – Cam Tri

    Bydd yr holl geisiadau Rhanbarthol buddugol yn cael eu gwahodd i dderbyniad arbennig yn Stadiwm Principality i dderbyn eu gwobrau Rhanbarthol.

    Bydd pob enillydd Rhanbarthol yn dangos eu cais yn y digwyddiad, lle bydd cynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru a Hwb yn dewis enillydd Cenedlaethol ar gyfer pob lefel mynediad. Bydd gwobrau cenedlaethol hefyd yn cael eu cyflwyno ar y diwrnod.

  • Cam un: Cofrestru ac ymuno â Thîm Clwb y Dyfodol URC

    Cofrestrwch i gael mynediad Microsoft Team ar gyfer cystadleuaeth Her Clwb y Dyfodol Undeb Rygbi Cymru.

    DS: Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb i gael eich ychwanegu at sesiwn Microsoft Team Her Clwb y Dyfodol Undeb Rygbi Cymru.

    Bydd yr holl negeseuon, cwestiynau athrawon ac unrhyw rannu adnoddau perthnasol yn digwydd drwy gymuned Teams

    Her Clwb y Dyfodol Undeb Rygbi Cymru.

    Ar ôl ymuno â Team Her Clwb y Dyfodol Undeb Rygbi Cymru, byddwch yn y General Channel.

    Bydd maes sgwrsio cyffredinol y General Channel yn cynnwys gwybodaeth sy'n eich cyfeirio at y sianeli perthnasol.

    DS: Mae cyhoeddiadau glas yn y Gymraeg. Mae cyhoeddiadau gwyrdd yn Saesneg.

    Mae'r Announcement Channel yno i hyrwyddo'r gystadleuaeth a rhoi diweddariadau i chi am weithgareddau a digwyddiadau ategol a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth.

    Cam dau: Defnyddio ac adolygu'r adnoddau i gefnogi'r gystadleuaeth

    Ewch i sianel Resources i weld cyfres o adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch dysgwyr wrth fynd ati i adeiladu eich 'Clwb y Dyfodol'.

    Cymerwch eich amser i adolygu'r holl adnoddau amrywiol sydd wedi'u datblygu i'ch helpu chi a'ch dysgwyr:

    • Trosolwg o'r gystadleuaeth

    Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o'r her i'r dysgwr a'r addysgwr fel ei gilydd. Yna, mae'n tynnu sylw at y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) y gellir eu harchwilio drwy sawl lens. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

    Mae cyfleoedd i gryfhau ac ymarfer ystod eang o sgiliau trawsgwricwlaidd. Ar ben hynny, bydd yn helpu dysgwyr i arddangos a datblygu eu gallu mewn: Creadigrwydd ac arloesi, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu.

    • 'Cynllun gwaith’ yr Her

    Mae’r cynllun gwaith yn amlinellu pob un o chwe chyfnod yr her ac yn diffinio'r Amcanion Dysgu ac elfennau’r gwersi. Golwg gyffredinol ar yr hyn fydd yn cael sylw yn chwe chyfnod yr her.

    • Cymorth gwersi manwl

    Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys cymorth gwersi manylach, gyda phob math o syniadau a gweithgareddau ar sut i'w defnyddio. Mae gan bob un hyblygrwydd sy'n caniatáu i addysgwyr ddehongli'r dogfennau cymorth a'u defnyddio yn unol â'r grwpiau oedran perthnasol o ran hyd a lled y cais. Hefyd, anogir addysgwyr i arloesi trwy gyflwyno'r prosiect i'r Maes Dysgu a Phrofiad mwyaf perthnasol er mwyn cynnig y profiad mwyaf gwerth chweil a deniadol i'w dysgwyr a'u hardal leol.

    • Cyflwyniadau gwers PowerPoint

    Lle bo hynny'n berthnasol, mae sioe sleidiau PowerPoint ar gael er mwyn helpu i gyflwyno camau neu gysyniadau penodol yr her – mae croeso i chi addasu yn unol â'ch gofynion.

    Mae'r PowerPoints hyn ar gael ar ffurf fideos hefyd, a gallech eu defnyddio fel cyflwyniad mewn senario Ystafell Ddosbarth Wrthdro.

    • Principality Stadium Starter World in Minecraft Education

    Dyma fan cychwyn yr her, ail-greu Stadiwm Principality yn Minecraft: Education Edition. Bydd dysgwyr yn mynd trwy fyd Minecraft Stadiwm Principality, gan gysylltu ag amryw o gymeriadau nad ydynt yn chwaraewyr (NPCs) i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o fyd rygbi.

    Bydd pob NPC yn cynrychioli chwaraewr rygbi Cymru a fydd yno i dywys y dysgwyr ac fel dolen gyswllt i wybodaeth am agweddau amrywiol ar fyd rygbi. Bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw archwilio rygbi drwy lensys amrywiol gyda chysylltiadau llawn â'r cwricwlwm.

    • Trefn farcio meini prawf

    Darparwyd trefn farcio meini prawf clir ar gyfer pob un o ystodau oedran y 'Camau Cynnydd'. Mae gan bob un ohonyn nhw ddisgrifiadau o’r canlynol: Cynnydd sy'n dod i'r amlwg, sy'n datblygu, ac uwch ar draws pedwar llinyn: Cyfathrebu, Creu cynnwys digidol, Deall a dehongli'r ardal leol, a chysylltiadau â Meysydd Dysgu a Phrofiad.

    Mae llu o fanteision i ddefnyddio trefn farcio (rubric), ac mae'n gallu helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys caniatáu i ddysgwyr weld y drefn farcio , neu ran ohoni, cyn dechrau ar y dasg. Fe fyddan nhw wedyn yn gwybod beth yw eu nod terfynol. Gall hefyd eich helpu fel addysgwr i hwyluso adborth ffurfiannol a rhoi cyfeiriad clir i'ch dysgwyr.

    • Tystysgrifau cymryd rhan i ddysgwyr

    Mae tystysgrif templed ar gael i chi ei rhoi i’ch dysgwyr am gymryd rhan yn Her Clwb y Dyfodol Undeb Rygbi Cymru.

    • Sianel Fideos Ategol

    Yn y Sianel hon mae recordiadau fideo ar wahân i gyd-fynd â phob Cam o'r gystadleuaeth o safbwynt cynradd ac uwchradd. Crëwyd gan athrawon ar gyfer athrawon!

    • Sianel Holi ac Ateb

    Unwaith y byddwch chi'n gweithio ar her, efallai y bydd gennych chi neu'r dysgwr gwestiynau. Mae sianel bwrpasol ar gyfer hyn.

    Cam tri: Cyflwyno cais terfynol eich ysgol ar gyfer pob lefel mynediad

    Ar ôl cynnal cystadleuaeth yn eich ysgol a dewis eich cais/ceisiadau buddugol, bydd angen llenwi ffurflen gais a rhannu dolen arweiniad ar ffurf fideo erbyn dydd Gwener 22 Mawrth 2024 i symud ymlaen i'r rownd Ranbarthol.

    Mae'r ffurflen gais yn y sianel Submissions.

    Bydd angen i chi lywio i'r tab 'Submission' ar ochr dde uchaf y sgrin. Bydd hyn yn agor ffurflen i chi ei llenwi. Bydd angen gwybodaeth fanwl gennych am eich cais:

    • Enwau'r dysgwyr a greodd yr adeilad etc (hyd at 10 dysgwr ym mhob grwp)
    • Dolen i ffolder ar-lein sy'n cynnwys arweiniad ar ffurf fideo ar gyfer y cais.
    • Dolen i ffolder ar-lein sy'n cynnwys ffeil y byd Minecraft
    • Mae dolen i ffolder ar-lein sy'n cynnwys unrhyw ffeiliau dogfennau cynllunio wedi'u cadw
    • Nodyn byr o'r ymchwil a wnaed i lywio’r adeilad Minecraft (naratif yr addysgwyr)
    • Y cysylltiadau â'r Meysydd Dysgu a Phrofiad sydd yn y cais (naratif yr addysgwyr)
    • Cwblhau sgôr yn erbyn y System Farcio Meini Prawf (naratif yr addysgwyr)

    DS Mae fersiwn Gymraeg a Saesneg o'r ffurflen ar gael. Defnyddiwch y gwymplen ar y dde i newid iaith.

    Bydd enwau'r enillwyr Rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi erbyn dydd Gwener 17 Mai 2024.

    Bydd pob cais buddugol Rhanbarthol yn cael gwahoddiad i dderbyniad arbennig ddydd Iau 13 Mehefin 2024 yn Stadiwm Principality i dderbyn eu gwobrau Rhanbarthol.

    Bydd pob enillydd Rhanbarthol yn dangos eu cais yn y digwyddiad, lle bydd cynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru a Hwb yn dewis enillydd Cenedlaethol ar gyfer pob categori. Bydd gwobrau cenedlaethol hefyd yn cael eu cyflwyno ar y diwrnod.

  • Defnyddiwch y rhestr dicio syml hon i'ch cadw ar y trywydd iawn gyda'ch Camau i Lwyddiant (pdf).

  • Meysydd Dysgu a Phrofiad

    Bydd y prosiect hwn yn cynnig sawl ffordd o ddatblygu cyfleoedd er mwyn cefnogi amrywiaeth eang o gysylltiadau'r cwricwlwm â Meysydd Dysgu a Phrofiad. Anogir agwedd gyfannol at ddysgu drwyddi draw ac isod mae yna rai cysylltiadau â'r cwricwlwm yn cael eu hawgrymu. Gyda'i gilydd, byddan nhw'n helpu i wireddu pedwar diben y cwricwlwm:

    Y Celfyddydau Mynegiannol:

    • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg

    Mae cyfleoedd i ddatblygu meysydd penodol i ddisgyblaethau, mae'r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i'r canlynol:

    • Celf - ffurfiau 2D a 3D, dylunio pensaernïol, dylunio rhyngweithiol, cyfryngau cymysg, fideo.
    • Ffilm a chyfryngau digidol – naratif, fideo, dylunio cynhyrchiad

    Iechyd a Lles:

    • Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes
    • Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill
    • Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles

    Y Dyniaethau:

    • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol
    • Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth, a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd
    • Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol
    • Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol

    Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu:

    • Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch
    • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu

    Mathemateg a Rhifedd:

    • Defnyddir y system Rhif i gynrychioli a chymharu'r cysylltiadau rhwng rhifau a niferoedd
    • Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy'n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol
    • Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus

    Gwyddoniaeth a Thechnoleg:

    • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau
    • Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas
    • Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol

    Sgiliau Trawsgwricwlaidd a Sgiliau Cyfannol

    Llythrennedd:

    • Gwrando - Gwrando am ystyr, Datblygu geirfa, Gwrando i ddeall, Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
    • Darllen – Deall, ymateb a dadansoddi
    • Siarad - Eglurder a geirfa, Siarad cydweithredol, Gofyn cwestiynau
    • Ysgrifennu – Geirfa, Sillafu, Gramadeg, Cynllunio, Cysyllteiriau a Chystrawen, Atalnodi Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destunau / Prawfddarllen, golygu a gwella

    Rhifedd:

    • Cyfrifiad
    • Mesur
    • Siâp a gofod
    • Safle
    • Ongl, Geometreg
    • Casglu data
    • Cynrychioli data
    • Dehongli data

    Cymhwysedd Digidol

    Mae cyfleoedd i ddatblygu elfennau gwahanol yn ffurfio'r llinynnau canlynol:

    • Rhyngweithio a Chydweithio
    • Cynhyrchu
    • Data a meddwl cyfrifiadurol

    Sgiliau hanfodol

    Bydd y prosiect hefyd yn galluogi dysgwyr i arddangos a thyfu eu gallu yn elfennau hanfodol canlynol datblygiad personol, a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr:

    • Creadigrwydd ac arloesedd
    • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
    • Effeithiolrwydd personol
    • Cynllunio a threfnu