English

3. Egwyddorion cynnydd

Cwricwlwm

Mandadol

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd o fewn y Maes hwn, byddant yn gofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig. Byddant yn dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a gwneud penderfyniadau ynghylch dibynadwyedd a chyfleustod, ymysg pethau eraill. Byddant hefyd yn gallu gweithio'n fwy effeithiol gydag eraill, yn enwedig wrth gymryd rhan mewn gwaith cymdeithasol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol

Caiff cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Maes) ei ddangos wrth i ddysgwyr ymgysylltu â gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol cynyddol eang a dwfn. Mae dysgwyr yn datblygu’r gallu i drefnu a nodi cysylltiadau rhwng gwybodaeth osodiadol yn gynyddol, er mwyn nodi a datblygu cysyniadau ategol mwy pwerus, a gwneud penderfyniadau wedi’u hategu mewn cyd-destunau mwy cymhleth.

Mae dysgwyr yn cysylltu syniadau a gwybodaeth newydd â gwybodaeth sy’n deillio o ddysgu blaenorol yn yr ysgol a’r tu hwnt iddi, ac yn eu defnyddio i feithrin dealltwriaeth gynyddol glir a chydlynol o’r byd o’u cwmpas.

Dyfnhau’r ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y Meysydd

Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei ddangos yn ystod y cyfnodau cynnar wrth i ddysgwyr brofi dulliau holistaidd o archwilio’r byd o’u cwmpas, a chael eu cefnogi i feithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd. Bydd dysgwyr yn symud ymlaen i ymwybyddiaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar fywydau pobl eraill, yn eu cyd-destun cymdeithasol eu hunain, mewn mannau eraill yn y byd ac mewn gwahanol oesoedd. Wrth iddyn nhw symud drwy’r continwwm dysgu, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gynyddol o’r nodweddion sy’n diffinio’r disgyblaethau sylfaenol (gan gynnwys hanes; daearyddiaeth; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol) a’r ffordd y gellir dod â’r rhain at ei gilydd i ddarparu ffyrdd gwahanol o ystyried materion a mynd i’r afael â chwestiynau neu broblemau.

Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso

Wrth i ddysgwyr brofi, deall a chymhwyso cysyniadau cynyddol gymhleth, maent yn dangos cywirdeb a rhuglder cynyddol wrth ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau a nodwyd yn y disgrifiadau dysgu a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Wrth iddynt wneud cynnydd, bydd dysgwyr yn mireinio’r sgiliau disgyblaethol allweddol yn barhaus ac yn datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag ymholi, megis llunio cwestiynau a defnyddio tystiolaeth i lunio ac ategu ateb a chysylltu hynny gyda chynrychioli a dehongli canlyniadau ymholi. Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei ddangos drwy’r gallu i weithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei nodweddu hefyd gan ddefnydd mwy soffistigedig o’r sgiliau perthnasol a’r gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau cynyddol anghyfarwydd. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddan nhw’n gallu nodi cysylltiadau mewn cyfnodau a lleoedd a rhyngddyn nhw, gan adnabod yr hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol, newidiadau a pharhad, a defnyddio’r ddealltwriaeth o gysyniadau i nodi cysylltiadau rhwng dysgu newydd a dysgu blaenorol. Gyda dealltwriaeth well o’r byd, o bobl eraill a’u gwerthoedd, mewn gwahanol gyfnodau, lleoedd ac amgylchiadau, ac o’u hamgylchedd a’r ffordd y cafodd ei lunio, bydd dysgwyr yn dangos mwy o allu i ddylanwadu ar ddigwyddiadau drwy fod yn ddinasyddion gwybodus a chyfrifol.

  • Blaenorol

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

  • Nesaf

    Disgrifiadau dysgu